Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…

News
Cite
Share

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL AM 1883. (Parhad o'r Bhifyn diweddaf.) D Y D D MEECHE K-Y TRYDYDD DIWEKOD. Cyfarfu y Cymrodorion yn y Town Hall am 9 o'r gloch, o dan lywyddiaeth Mr B. S. Marks, Caerdydd. Yn absenoldeb Mr Emlyn Evans, darllenwyd Papyr o'i eiddo gan MrT. M.Williams ar "Hanes Cerddoriaeth Gymreig." Yn absenol- deb Mr W. Cave Thomas, darllenwyd Papyr o'i eiddo gan Mr Cadwaladr Davies ar Y gwir Addysg Uwchraddol." Cafwyd Papyr arall gan Mr Milo Griffiths ar "Yr Eisteddfod yn ei chysylltiad a'r Gwyddorau." Dilynwyd darllen- iad y papyrau hyn gyda rhydd-ymddyddan. Am 11 o'r gloch, cymerwyd y gadair gan Arch- ddiacon Llandaf, llywydd y dydd, a galwodd ar Madame Edith Wynne i agor yr Eisteddfod gyda chau. Dangoswyd tipyn o anfoddlonrwydd gan y dorf pan wnaeth gyda chan Saesoneg ond ar ol encore, canodd Clychau Aberdyfi," a derbyniodd ganmoliaeth uchel. Dilynwyd hyn gydag araeth y Llywydd. Cymerodd yn destyn Yr Eistedd- fod," a rhanodd ef yn dri penawd-y gorphenol, y presenol, a'r dyfodol. Yr oedd ei sylwadau yn bwrpasol ac addysgiadol, ac yn cael eu traddodi gyda brwdfrydedd a than Cymreig. Yna aed yn mlaen i ddarllen beirniadaethau a dyfarnu y gwobrwyon. Clwydfardd a ddarllenodd y feirniadaeth ar "Wyth o Emynau Cymreig at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol." 21 wedi cyfansoddi. Gwobr, 5p 5s. Goreu, Garmon," yr hwn nid atebodd i'wenw. Anogodd y beirniad y pwyllgor i roddi gwobr i'r ail oreu, Llais Can a Moliant," sef Watcyn Wyn. Darllenodd y Llywydd ei feirniadaeth ar Hanes prif Eisteddfodau y ganrif bresenol." Gwobr, 21p. Dau gyfansoddiad dderbyniwyd, ond nid oedd yr un ohonynt yn teilyngu y wobr. Anogai y beirniad i'r pwyllgor roddi 7p i un, a 4p i'r llall. Nid oeddynt yn bresenol i ateb i'w ffugenwau. Miss Mary Morgan, Llantrisant, gafodd y brif wobr o 2p 2s, a Miss Elizabeth Roberts, Hirwaun, yr ail wobr o Ip Is, am ganu "Beauteous Cradle." 17 yn cystadlu. Nathan Dyfed a ddarllenodd y feirniadaeth ar y traethodau ar Lenyddiaeth gyfnodol Cymru y ganrif bresenol." 5wediysgrifenu. Gwobr, 21p, Rhanwyd y wobr rhwng Mr William Davies, Talybont, Aberteifi, a Mr Evan Lloyd Jones, Llanberis. Dafydd Morganwg oedd y goreu, allan o bedwar, a chafodd ei wobrwyo a 5p 5s, am ddarn o farddoniaeth ar Uchelgais," priodol i'w adrodd. Clwydfardd yn darllen ei feirniadaeth ar y 104 o englynion i Anadl." Gwobr, lp Is. Bernid Dyfnwald y goreu. Nid oedd yn bresenol i ateb i'w enw. Dyfed yn darllen ei feirniadaeth ar y Bedd- argraff goreu i'r diweddar fardd Islwyn. Gwobr, 2p 2s. Derbyniwyd 48 o gyfansoddiadau goreu, Mr Peter Rees, Caerdydd. Dyma y buddugol— Wyf Arwyddgolofn bedc1 Prif-fardd Gwalia,- Beirniad, mawr lenawr, ei le pwy lanwa ? Os hwn a gladdwyd, bydd oesau'n gwlcdda Ar raws ei awen, bri hon ni wywa, Islwyn dirion, fwyn fel llrwd o'r Wynfa Bu'i ddydd ar gref ydd, oedd gawr Jehofah Haned ef, mae'i enw da-awch tranc 'nawr, Yn mri ein gorawr mor wyn ag eira Macfarren a Barnby yn beirniadu y contraltos yn canu 0 Lord, thou hast searched me out." Gwobrau, 2p 2s a lp Is; goreu, Miss H. M. Jones, Abertawy, a'r ail, Miss Annie Jones, Burry Port. Rhoddodd Mr Barnby wobr i'r drydedd, Miss Ida Brown, Abertawy. Canmolid y gystadleuaeth yn fawr. Barnby eto yn dyweyd ei farn ar gystadleuaeth yr unawd tenor, The enemy said." Gwobrau, 2p 2s a lp Is. 30 yn cystadlu; goreu, Mr W. Thomas (Eos Wenallt), Castellnedd; ail, Mr W. Powell, Tredegar. Rhoddodd y beirniad ganmol- iaeth uchel i'r gystadleuaeth. Beirniadaeth Pencerdd Gwalia ar y gystadleu- aeth delynol-chwareu Autumn." Gwobrau, 5p 5s a 2p 2s. Saith yn cystadlu. Dywedai y beirniad mai dyma y gystadleuaeth oreu ar y delyn a wrandawodd erioed. Goreu, Master Fred Barker, 12 oed, Caerphili; ail, Miss Lane, 13 oed, Worcester; a rhoddodd y beirniad drydydd wobr o 2p 2s i Miss Lloyd, merch Dr Lloyd, Cross Inn. Lliaos Ehondda a Blodwen Myrddin a gafodd y wobr flaenaf o 2p 2s, a. Misses Rose Davies, Merthyr, a Maggie Davies, Dowlais, yr ail wobr o lp Is, am ganu y ddeuawd, The Homestead." ^Dywedai Emlyn Evans iddo dderbyn 188 o donau cynulleidfaol, ond nad oedd yr un ohonynt yn werth y wobr o 5p 5s er hyny, rhanai y wobr rhwng y ddau oreu, Mr Robert Jones a rhywun arall. .Nid oedd neb yn deilwng o'r wobr am gyfan- soddi dcuawd i'r delyn a'r berdoneg. Rhanwyd y wobr flaenaf o 2p 2s am ganu yr unawd bass, Is not his word like a fire," rhwng Mri John Lewis, Dowlais, a P. Smith, Putney; a Mr John Devonald, Aberdar, yr ail wobr. Dywedai Bennett mai gwael oedd y gystadleu- aeth ar y triawd, "The hour of vengeance comes." Gwobrau, 3p 3s a 31s 6c. Goreu, Mr W. Thomas, Treorci, a'i barti; ail, Parti o'r Porth. TESTYN Y GADAIR. Dyma ddydd mawr y cadeirio, a galwyd ar Dyfed, bardd cadeiriol Eisteddfod Merthyr, yn mlaen i ddarllen y feirniadaeth ar destyn y gadair. Wrth gychwyn, dywedai ei fod ef a'i gydfeirniaid -Llawdden a Tafolog-wedi ysgrifenu eu beirn- iadaethau yn hollol annibynol y naill ar y llall, a'u bod yn hollol unfarn eu barn. Tri cyfansodd- iad a ddaeth i law, ac nid oedd yr un ohonynt yn deilwng o'r wobr. Credent er y dechreu mai camsyniad oedd gosod y "Llong" yn destyn Awdl Gadeiriol, ac yr oedd nifer feclian y cyfan- soddiadau a anfonwyd i mewn, a'r quality, yn profi fod eu barn yn agos i'w lie. Dygodd hyn weithrediadau cystadleuaeth y trydydd dydd i derfyniad. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyngerdd, pryd y cymerwyd rhan ynddo gan Madame Edith Wynne, Miss Annie Marriott, Miss Annie Williams, Mri Barton McGuckin, Lucas Williams, Ap Herbert, Pencerdd Gwalia, Dr a Mrs Frost, &c. Cafwyd diwrnod diflas iawn-yr oedd yn gwlawio yn drwm trwy'r dydd, a darfu hyny effeithio yn fawr er cadw pobl gartref. Er hyny, bernir fod tua 6,000 yn bresenol. DYDD IAU-Y PEDWERYDD DYDD. Cyfarfu y Cymrodorion am 9 o'r gloch, fel arfer, yn y Town Hall. Cymerwyd y gadair heddyw gan Dr Richardson, a rhoddodd anerchiad dyddorol ar Y gwyddorau mewn bywyd ym- arferol." Canlynwyd ef gyda darlleniad Papyr gan Mr T. Marchant Williams o waith Dr F. T. Roberts ar "Hygiene," yr hwn a daflai allan awgrymiadau rhagorol pa fodd i gadw, meithrin, a mwynhau iecbyd. Agorwyd yr Orsedd am 10 o'r gloch, ac ar ol myned trwy wasanaeth yr urddiadau, gwnaed yn hysbys mai yn LIVERPOOL y cynelid Eisteddfod Genedlaethol 1884, Heddyw yw dydd mawr Aceldama y corau, y brif gystadleuaeth, ac yr oedd dyddordeb ychwanegol eleni, gan fod Cor Penrhyn, Gogledd Cymru, dan arweiniad y cerddor clasurol Dr Rogers, Bangor, wedi hysbysu eu bwriad i gymeryd rhan yn y gystadleuaeth. Yr oedd y pavilion yn llawnach heddyw o rai miloedd na'r un diwrnod blaenorol. Llywydd y dydd oedd Deon Vaughan, a chafwyd ganddo anerchiad hirfaith ar 11 Yr Eisteddfod ac Addysg." Canlynwyd ef gan Mr Lucas Williams yn canu Can yr Eisteddfod. Yna dechreuwyd ymbarotoi gogyfer a'r gystadl- euaeth gorawl. Cystadleuodd y corau yn y drefn a ganlyn:—1. Cor Undebol Llanelli, o dan ar- weiniad Mr R. C. Jenkins, a Mr Arthur Swindell yn chwareu y berdoneg; 2. Cor Undebol Penrhyn, o dan arweiniad Dr Roland Rogers, Bangor, a Mr Pritchard yn chwareu y berdoneg, a Miss Williams yr harmonium 3. Rhondda Choral Union, o dan arweiniad Mr M. O. Jones, a Miss Meta Scott, Merthyr, yn chwareu y berdoneg; 4. Dowlais Harmonic Society, o dan arweiniad Mr Dan Davies, a Mr Yideon Harding, Caerfyrddin, yn chwareu y berdoneg 5. Rhondda Philharmonic Society, o dan arweiniad Mr D. T. Prosser (Eos Cynlais), a Miss Meta Scott yn chwareu y berdoneg; 6. Pembroke Dock Choral Union, o dan arweiniad Mr W. Thomas, a Mrs Kebel yn chwareu y berdoneg. Y darnau a genid oeddynt y cydganau, Wretched Lovers (Handel), "Lord of the golden day" (Sullivan), ac anthem, "Oyfoded Duw" (D. Jenkins). Y wobr flaenaf, lOOp, a :bathodyn aur i'r arweinydd yr ail, 30p, a bathodyn arian i'r arweinydd. Yr oedd pob cor i gynwys ddim llai na 150 na thros 200 mewn nifer; pob cor yn canu y tri darn yn olynol. Dechreuodd y gystadleuaeth am ddeg mynyd wedi deuddeg, ac yr oedd yn bedwar o'r gloch ar y cor olaf yn terfynu. Yr oedd y boneddigion caulynol yn eistedd ar y fainc farnul—Syr G. A. Macfarren, Llundain; Mri "oseph Hamby, Eton College E. H. Tarpin a Joseph Bennett, Llundain D. Jenkins, Mus. Bac., Aberystwyth D. Emlyn Evans, Hereford; Brinley Richards, a John Thomas (Pencerdd Gwalia), Llundain. Ar ol i'r cor olaf ganu, hysbysodd Glanffrwd-ar- weinydd y dydd—y rhoddasid y feirniadaeth yn y gyngerdd y noson bono. Derbyniwyd yr hysbys- iad gyda bonllef daranol, "Nage, yn awr, yn awr, a pharhauiflocddio "Yn awr" wnaeth y miloedd, nes i'r arweiisydcl eu hysbysu y rhodd- asid y feirniadaeth yn mhen ychydig fynydau. Yn y cyfamser, daeth Madame Wynne yn mlaen i garni Hen wlad fy nhadau," a'r dorf yn ymuno yn y gydgan, a chafwyd dadganiad ardderchog-. Cafodd y dorf hwyl gyda'r gydgan, fel y canasant ef drosodd a throsodd nes i'r beirniaid ym4dangos ar y llwyfan i roddi y feirniadaeth. Ar ol cael dystawrwydd, daeth Syr George Macfarren, Mri Brinley Richards, John Thomas, ac Emlyn Evans yn mlaen i ffrynt yr esgynlawr i ddatgan y feirniadaeth. Dywedai Macfarren iddynt fwriadu ysgrifenu beirniadaeth fanwl erbyn cyfarfod y noson hono, ond gan fod y dorf yn bawlio eu barn ar unwaith, nis gailasect ond yn unig ncdi y goreu. Dyfarnent y wobr flaenaf i Gor Penrhyn, o dan arweiniad Dr Rogers; a'r ail wobr i Gor Llanelli, o dau arweiniad Mr R. C. Jenkins. Dywedai yn mhcllach eu bod oil fel beirniaid yn bollol unfarn ar roddi y wobr flaenaf i Gor Penrhyn, ond fod yn eu plitli dipyn o wahanol farnau gyda gplwg ar ba ger oedd yr ail, ond yr oedd y mwyafrif o blaid Llanelli. Gyda golwg ar y corau anfuddugol, yr oeddent o'r farn fel beirniaid iddynt wrth geisio gwthio y lleisiau i wneyd too, en gwthio allan o don, heblaw gwneyd y lleisiau yn fwy cwrs. Nid oedd fawr hwyl bellach i wrando ar ddim arall ar ol clywed tysgod y corau. Yn nghanol tipyn o anhrefn o hyny i ddiwedd y cyfarfod, gwnaed yn hysbys pwy oedd y buddugwyr ar amryw o dstyiiati ereill. Master Ft"0d Barker, Misses Lane, a Lloyd, oeddynt oreu o 14 ar y delyn—yr un personau a enillasant ddoe. Dywedai Clwydfardd fod 13 wedi cyfansoddi Tuchangerdd—gwobr. 2p 2s-ond nad oedd yr un ohonynt yn gwybod beth oedd tuchangerdd felly, nid oedd neb ohonynt yn deilwng o'r wobr. Yr oedd gwobro 50p wedi ei cbynyg am gantawd ar y "Crusader," geiriau buddugol Mr D. R. Williams (Index). Derbyniwyd 17 o gyfansodd- iadau, a dim un ohonynt yn deilwng o'r wobr nac o Eisteddfod Genedlaethol. Mae amryw o destynau ereill, pa rai nad oedd y beirniaid wedi cael amser i'w darllen. Ym- ddengys y beirniadaethau yn y newyddiaduron mor fuan ag y byddo modd. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyngerdd, yn mha un y bwriadwyd i'r holl gorau fu yn cystadlu yn ystod yr Eistedd 'od i gydganu y darnau cystadleuol; ond yn berwydd aflerwch y sawl oedd i ofalu am yr eisteddleoedd, a diffyg agor y drysau yn brydlon, aeth y gynulleidfa anferth yn hollol aflywodraethns—cymerwyd meddiant gan y dorf o'r lleoedd a fwriadwyd i'r corau, ac yr oedd y lie yn rby lawn i'w symud pan ddaeth yn amser dechreu, a'r canlyniad fu i'r corau fethu cael lie i ganu o gwbl. Y gerddorfa, o dan ax'weiniad Mr Turpin, a gymerodd y rhan drymaf o'r gwaith. Cymerwyd rhan gan Madame Edith Wynne, Miss Annie Williams, Mri Ap Herbert, Lucas Williams, B. McGuckin, Pencerdd Gwalia, E. H. Turpin (ar yr organ), Dr Frost, &c. Dyna grynodeb byr o Eisteddfod 1883. Yr oedd y gwoithrcQIiadau o'r dechreu i'r diwedd yn fwy tebyg i wledd gerddorol nac i Eisteddfod. Gobeithio yr adferir yr Eisteddfod Genedlaethol yn ol i'w llinell briodol y flwyddyn nesaf yn Liverpool. Arweiniwyd hi eloni yn ddigon pell o'i lie. Nid da lie gellir gwell." Cyhoeddir yn y South Wales Daily Neivs am ddydd G wener y dafien ganlynoi fel nifer y person- au oedd yn bresenol y tri diwrnod cyntaf :— DYDD LLUN. Dosbarth blaenaf, 5s. 1,066 Ail ddosbarth, 2s. 6c. 3,093 Trydydd dosbiirtli, la. 2,753 Cyfanswm 6,927 DYDD MAWKTII. Dosbarth blaenaf, 5s. 1,980 Ai! ddosbarth, 2s. 6c. 5,918 Trydydd dosbarth, Is. 2,511 Cyfanswm 10,309 DYDD MEUCHEU. Doslvirlh blaenaf, 5s. 1,229 Ail ddosbarth, 2s. Go. 2,596 Trydydd dosbartli, 1" 2,338 Cyfacswm 6,163