Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

. MARWOLAETH DOCTOR MOFFAT.

DADGYSYLLTIADIGYMRU A MR HENRY…

News
Cite
Share

DADGYSYLLTIADIGYMRU A MR HENRY RICHARD. Y MAE ein cydwladwr enwog Mr HENRY RICHARD, fel y gwelir, wedi rhoddi rhybudd yn Nhý y Cyffredin y bydd iddoymgymeryd yn eisteddiad nesaf y Senedd a dwyn yn mlaen benderfyniad o anghymeradwyaeth o sefydliadau Eglwysig yn eu perthynas a Lloegr. Bydd felly dri o benderfyniadau ar y cwestiwn yma yn dwyn perthynas a gwa- hanol ranau y deyrnas. Mr DICK PEDDIE dros Ysgotland, Mr DILLWYN dros Gymru, a Mr RICHARD dros Loegr. Gwthiwyd hyn o orchwyl arno heb iddo mewn un modd ei chwenychu. Mae teimlad cryf yn mysg lluaws mawr yn Lloegr y dylid dwyn y mater yma i'r wyneb, ac nad oedd dim yn cael ei enill i'r blaid Ryddfrydol wrth ei gadw o'r golwg; ac er nad yw Lloegr mor addfed ^i Ddadgysylltiad ag ydyw I Ysgotlaud a Chymru, eto credant mai trwy ddwyn y peth yn mlaen flwyddyn ar ol blwyddyn yr addfedir hwy. 0 dan ddylan- wad y syniad yna, y mae Cynadledd Dair- blynyddol ddiweddaf Cymdeithas Rhydd- had Crefydd wedi pa,sio penderfyniad brwd- frydig dros ddwyn y cwestiwn yma ger bron y Senedd yn ei berthynas a Lloegr, ac wedi gwasgu ar Mr RICHARD ei gymeryd mewn llaw. Nid oedd neb mor gymhwys i'r gorchwyl. Efe ydyw olynydd uniongyrchol y diweddar EDWARD MIALL yn y Senedd ac yn y wlad ac nid oes neb yr edrychir i fyny ato, ac y gwrandewir arno gyda y fath ystyriaeth astud a pharchus ag efe. Yu wir, gall Cymdeithas Rhyddhad Crefydd deimlo yn ddedwydd yn y ffaith hapus a ffortunus fod yr aelod anrhydeddus dros Ferthyr wedi ymgymeryd a dwyn y cwest- iwn yma ger bron y Ty ar ran Lloegr. Ond rywfodd yr ydym yn teimlo fod enw, a safle, a dylanwad Mr RICHARD yn ei gysylltiad a'r cwestiwn yma, yn gystal a'i berthynas a Chymru, yn gwneyd fod yn rhaid ei gael ef i gysylltiad uniongyrchol a'r symudiad am Ddadgysylltiad i Gymru, os mynir ei gario drwodd yn llwyddianus. Y mae RECTOR MERTHYR wedi ysgrifenu llythyr cryf ar gwestiwn y Dadgysylltiad at Mr C. R. JONES, Llanfyllin, yr hwn a gyhoeddasom yr wythnos ddiweddaf; a deallwn fod y llythyr hwnw wedi creu cryn gynhwrf yn mhlith offeiriaid y sefydliad yn Ngogledd Cymru. Dyma y pwnc yn awr y siaredir am dano yn mhob man y dydd, ac y breuddwydir am dano y nos. Mae ofn ac arswyd wedi syrthio arnynt, oblegid y mae gobaith eu helw mewn perygl. Y mae yn llythyr y RECTOR, pa fodd bynag, un cyfeiriad yr ydym am alw sylw ato ag sydd yn anghywir a chamarweiniol. ZD Dywed fod Mr RICHARD yn beio Mr DILLWYN am roddi rbybudd o'i benderfyn- iad ar y cwestiwn yma o flaen y Ty dros Gymru-mai penderfyniad ansier ydyw, ac y dylesid ei ohirio. Yn awr, yr unig beth a wnaed gan Mr RICHARD ydoedd cynghori ei gydwladwyr yn Nghymru i symud yn y mater yma cyn y byddai iddo gael ei ddwyn o flaen y Senedd—y dylesid gwyntyllu y mater yn Nghymru yn gyntaf, a phasio pen- derfyniadau yn ei ffafr yn mhob cyfundeb crefyddol trwy yr holl Dywysogaeth. Ac felly, trwy fod y cwestiwn yn cael ei ddadleu o'r tu allan, a brwdfrydedd y genedl Gymreig wedi ei godi yn ei ffafr, y buasai dwylaw Mr DILLWYN yn cael eu cryfhau, a'r cwestiwn yn derbyn llawer mwy o ystyriaeth oblegid hyn. Yn sicr y mae hyn yn dangos craffder a medrusrwydd mawr, ac yn hytrach na chondemnio Mr RICHARD am alw ar ei gydgenedl i gynorthwyo Mr DILLWYN, dylem deimlo yn ddiolchgar iddo am ei graffder yn cynghori ei gydwladwyr i ddwyn pob dylanwad oddiallan i orphwys ar y cwestiwn hwn, fel pan ddeuai y cwest- iwn ger bron y Ty y buasai yn derbyn llawer mwy o ystyriaeth a phwysigrwydd. Nid gwaith yw hwn i'w wneyd ar antur, ac mewn nwyd, ond gydag ystyriaeth bwyllog, a phenderfyniad di-ildio, unwaith y dechreuir y gwaith, nad oes llaesu dwylaw na bwrw arfau i fod nes y byddo wedi ei gwblhau. Gan mai cynygiad sydd gan Mr DILLWYN ar y mater, ac nid mesur, nis gallasai, yn ol defod y TSr, fod enw neb wrtho ond efe ei hun ond pa bryd bynag y daw yr adeg i ddwyn yn mlaen fesur arno, gwyddom y bydd Mr RICHARD, a llawer o aelodau Cymreig ereill, yn barod i roddi eu henwau ar ei gefn ond nis gall ein cyn- rychiolwyr yn y Senedd wneyd ond ychydig, heb i'r wlad ddal eu breichiau a chredwn fod y wlad yn addfed, ond i'r mater gael ei ddwyn o'n blaen yn ddoeth a phriodol.