Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

. MARWOLAETH DOCTOR MOFFAT.

News
Cite
Share

MARWOLAETH DOCTOR MOFFAT. Ac y mae ROBERT MOFFAT wedi rnarw Dyna yr enw syml wrth ba un yr adnabydd- di ef gynt, a dyna yr enw fydd byth yn gysegredig yn Affrica. Saif ei enw ar restr flaenaf apostolion cenadol y ganrif, ac ni chaniatawyd i'r un ohonynt i fyw i'r oedran teg a welodd ef. Yr oedd yn anterth ei ddydd cyn geni y genedlaeth bresenol, a'r cof cyntaf sydd gan y rhai sydd bellach yn hynafgwyr yn mysg gwyr, ydyw gwrando ar eu rhieni a'u hathrawon yn son am ei ber- yglon a'i anturiaethau yn Affrica. Yr oedd wedi cyrhaedd enwogrwydd mawr cyn i'r anturiaethus Dr LIVINGSTONE gychwyn allan ac efe a fu yn parotoi y ffordd iddo i wneyd y gwaith mawr a wnaeth. Cyfoed iddo ef oedd JOHN WILLIAMS, apostol Ynys- oedd Mor y De, er fod hwnw bellach er's 44 o flynyddoedd wedi syrthio yn ferthyr yn Erromanga, lie hefyd y dechreuodd ROBERT MOFFAT ei lafur. Cyrhaeddodd o gryfder 8 mlynedd uwchlaw yr 80, ac aeth ei lwybr rhagddo fel y goleuni, oleuach, oleuach, hyd haner dydd. Cychwynodd yn fachgen yn unig o Inverkeithing, ychydig islaw hen ddinas Dunfermline, a gwynebodd ar un o wledydd tywyllaf a mwyaf eilunaddolgar y byd; ac wedi 67 mlynedd o lafur dihafal, tynodd ei draed i'r gwely i farw yn Brighton am haner awr wedi saith nos Iau, Awst 9ed, yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau. Nis gallwn yma gynyg gwneyd dim yn debyg i roddi hanes ei fywyd llafurfawr. Cymerai gyfrolau 1 wneyd hyny. Ond dicbon y bydd y byr grybwyllion a ganlyn yn ddyddorol gan ein darllenwyr. Ganwyd ef fel yr awgrymason yn Inverkeithing, yn swydd Fife, yn y flwyddyn 1795. Cafodd ychydig ysgol yn ei blwyf gehedigol, ac yn ieuanc gogwyddwyd ei feddwl at waith y weinidogaeth. Yr oedd teimlad cenadol cryf yn Scotland ar y pryd, yr hwn i fesur mawr a gynyrchwyd gan areithyddiaeth hyawdl Dr CHALMERS, ac ysbrydiaeth y teimlad hwnw roddodd i'r Genadaeth rai o'i dyhion enwocaf, yn mysg y rhai y gellir crybwyll enwau yr Hybarch Dr JOHN WILSON, yn Bombay, a Dr ALEXANDER DUFF, yr hwn trwy ei ysgolion a'i golegau a wnaeth gymaint dros Calcutta. Enynodd y tan hefyd yn ROBERT MOFFAT, a chynyg- iodd ei hun i Gymdeithas Genadol Llundain yn 1816, a derbyniwyd ei wasanaeth, ac an- fonwyd ef allan i Erromanga yn wr ieuanc 21 mlwydd oed. Symudwyd ef cyn hir i Ramaqua, ac oddiyno i Bechuana, yn Ne- heudir Affrica, lie y treuliodd y gweddill o'i fywyd cenadol, ac y cyflwynodd ei hun yn llwyr i'w waith. Mae hanes ei waith yma, fel yr adroddir ef yn syml mewn llyfr a gyhoeddwyd ganddo ef ei hun yn 1842, yn un o'r penodau rhyfeddaf yn hanes y Genad- aeth ond bu yn llafurio yno wedi hyny am 30 mlynedd, a gwelodd bethau anhygoel. Mae hanes dychweliad y penaeth Affrican- aidd wedi ei adrodd lawer gwaith o bwlpud- au, ac oddiar esgynloriau, yn ystod yrbaner can' mlynedd diweddaf; ond nid yw hono ond un o lawer o'r fath ffeithiau. Dyrch- afodd yr iaith a leferid gan y Bechuan- iaid i fod yn iaith ysgrifenedig, a chyfieith- odd y Testament Newydd iddi, a llyfr y Salmau ar ol hyny. Bendithiwyd ef a gwraig o gyffelyb ysbryd iddo ei hun, yr hon a fu o help mawr iddo yn ei waith. Yn mhell cyn bod son am Genadaeth Zenana, bu hi fel angel trugaredd i lawer o'i rhyw, y rhai yn nghyd a'i phlant a waredwyd gan- ddi o law y dinystrydd. Yr oedd ei merch yn ddelw ohoni, yr hon a ddaeth wedi hyny yn wraig i Dr LIVINGSTONE, a merch arall iddi o gyffelyb feddwl a ddaeth yn wraig i'n cydwladwr HOGER PRICE. Y gofadail oreu a ellir byth godi i Dr MOFFAT a geir yn ngwlad Bechuana. Yn lie y barbareidd- iwch a'r creulonderau a lanwai y wlad cyn ei fynediad iddi, gwelir yno bentrefi gweith- gar, diwydrwydd heddychol, cartrefi tawel, cysylltiadau teuluol hapus, aberthau dynol wedi eu dileu, a'r bobl yn eistedd wrth draed yr Iesu, yn eu dillad a'u hiawn bwyll. Ar ol 54 mlynedd o lafur diorphwys, dych- welodd i Loegr yn 1870, ond nid i fod yn segur, ond yr oedd ei galon yn ei waith. Ymwelai a'r wlad, ac i bob lie yr iii enynai ysbryd cenadol, ac ni wnaeth neb fwy nag a wnaeth efe, nid yn unig i wneyd llafur cen. adol yn boblogaidd, ond hefyd yn barchus gan bob dosbarth yn y wladwriaeth. Gwrandewid arno ef gan ddynion na wran- dawent ar neb arall; a chyfeiriai at ffeith- iau o nerth yr Efengyl, y rhai nis gallai y rhai mwyaf anghrediniol eu gwrthddywedyd. Nid oedd gan Deon STANLEY neb o gyffelyb feddwl iddo, ac ar ddydd neillduol yn 1876 gwahoddodd ef i bregethu yn hen fynachlog Westminster ac mewn cyfeiriad ato, dy- wedodd, Dyn-nid mawr mewn ymadrodd, ond mewn gwaith—anrhydeddus, nid mewn swydd, ond gan flynyddoedd — perthynas agos i'r hwn a orweddai wrth ei draed, ac a fu yn gydgyfranog ag ef yn nychweliad Affrica. Wedi ei eni a'i fagu mewn cymun- deb crefyddol gwahanol i'r eiddom ni, ac heb gyfranogi o fanteision uchaf eisteddle- oedd dysgeidiaeth a diwylliant, eto a ddy- godd y dystiolaeth gryfaf i led ac uchder y gwaith mawr cenadol." Ychydig ddynion o gyffelyb ysbryd a Dr MOFFAT a roddwyd i'r Eglwys, ac o'r ychydig a roddwyd, ni chafodd yr un ohon- ynt oes mor hir i lafurio ag a gafodd efe. Gwywodd nerth rhai ohonynt pan yn dechreu ymagor. Machludodd haul ereill a hi eto yn ddydd. Syrthiodd rhai ohonynt yn ebyrth i gynddaredd dynion gwaedlyd. Ond estynwyd dyddiau ROBERT MOFFAT yn mhell y tuhwnt i nifer y blynyddoedd a ganiateir i feibion dynion. Cafodd fyw i weled ffrwyth toreithiog ar y niaes a hauwyd ganddo, a daeth o'r diwedd mewn henaint i'r bedd, fel y cyfyd ysgafn o yd yn ei amser."

DADGYSYLLTIADIGYMRU A MR HENRY…