Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. DUTIES will be resumed on MONDAY, JULY 30th, 1883. For Terms, &c., apply to the Head Master, R. G. LEVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff. TTNIVERSITY COLLEGE OF SOUTH WALES AND MONMOUTHSHIRE. The COUNCIL invites STUDENTS to COMPETE for the following SCHOLARSHIPS in ARTS and SCIENCE 1 of X10 per annum 2 of X25 „ 8 of X-20 „ 33 Exhibitions The Exhibitions will clear those who win them of Matriculation and all Class Fees. All the Scholarships and Exhibitions will be tenable for three years. Examinations for these Scholarships will be held on or about the 12th September at Cardiff, Swansea, Newport, Carmarthen, Haverfordwest, Merthyr, Brecon, Presteigne, Lampeter, Aberystwyth, &c. All Scholarships and Exhibitions are open to both sexes. For further particulars apply to the Registrar, Town-hall, Cardiff. UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG. OYNELIR Cyfarfodydd Blynyddol nesaf yr Undeb yn Ffestiniog, ar ddyddiau Mawrth, Mercher, a Iau, Awst 21ain, 22ain, a'r 23ain, 1883. TREFN Y CYFARFODYDD. Cyferfydd Pwyllgor yr Undeb dydd Mawrth, am 3 o'r gloch, yn nghapel Brynbowydd, o dan lywyddiaeth y Parch D. Jones, B.A., Abertawy. Nos Fawrth, yn nghapel Jerusalem, traddodir preg- ethau yr Undeb gan y Parchn R. Rowlands, Treflys, ac E. A. Jones, Castellnewydd-Emlyn. Dydd Mercher, am 7 o'r gloch y boreu, cynelir Cyfeillach yn nghapel Salem, Rhiw, o dan lywyddiaeth y Parch J. Davies, Taihirion, pryd y darllenir Papyr gan y Parch E. Owen, Clydach, ar Y pwys o fynychu moddion crefyddol boreu'r Sabboth." An- erchir y Cyfarfod gan y Parch J. Silin Jones, Llan- idloes Mr H. Thomas, Llanelli, ac ereill. Am 9.30, yn nghapel Jerusalem, traddodir Anerchiad y Cadeirydd, y Parch W. Edwards, Aberdar; ac ar ei ol darllenir Papyr gan y Parch T. Roberts, Wyddgrug, ar lawn fagwraeth crefyddwyr Ieuainc yr Eglwysi." Cynygir Penderfyniad arno gan E. H, James, Ysw, Y.H., Pontygafel, ac eilir ef gan y Parch W. Vulcan Davies, Moelfro. Am 2 o'r gloch, yn nghapel Brynbowydd, darllenir Papyr gan y Parch L. Jones, Tynycoed, ar Y Beibl ac addysg orfodol yn ngoleuni Ymneillduaeth." Cynygir Penderfyniad arno gan R. Martin, Ysw, Abertawy, ac eilir ef gan y Parch J. Charles, Croesoswallt. Am 6.30, cynelir Cyfarfod Cyhoeddus yn yr Assembly Rooms, dan lywyddiaeth Mr W. J. Parry, Maes- ygroes, pryd y traddodir areithiau gan y Parch J. P. William., Llanelli, ar Gartref y Gweithiwr." Y Parch W. Gibbon, Llanymddyfri, ar Y ddyled- swydd o fyw yn weddus i'r sefyllfa." Y Parch D. Silyn Evans, ar Eirwiredd." A'r Parch D. Roberts, Wrexham, ar Beryglon yr Ieuenctyd oddiwrth Bleserdeithian." Dydd Iau, am 7 y boren, cynelir Cynadledd yn nghapel Jerusalem, o dan lywyddiaeth y Parch D. Jones, B.A., Cadeirydd y Pwyllgor. Yr nn adeg pregethir yn nghapel Brynbowydd, a thrachefn am 10, 2, a 6 o'r gloch. L. WILLIAMS,") R. THOMAS, >YSGN. J. B. PAKRY, ) DYDDIA D URYRA NNIB YNWYR A. M; 1884. DAN OLYGIAETH Y PARCHN B. WILLIAMS, CANAAN, AC R. W. GRIFFITH, BETHEL. Pris Is. 6c., gyda rhwymiad hardd a llogellau; a 6c. mewn llian. BYDD, megys arfer, yn cynwys yr holl gyfnewidiadau enwadol, ac ni arbedir traul na thrafferth i'w wneyd yn gywir a chyflawn. Cofier ein rheolau sylfaenol—1. Ni roddir enwau gweinidogion nae eglwysi neivydd i fewn heb gymeradwyaeth Ysgrifenydd y Cyfundeb y perthyna y cyfryw iddo. 2. Ni roddir enwau pregetliwyr cynorthwyol newydd i fewn heb gymeradwyaeth gweinidog yr eglwys mae yn aelod ohoni; ac os na fydd gweinidog yno, bydd yn ofynol cael eymeradwyaeth diaconiaid yr eglwys. Wrth y rheolau hyn yr ydym wedi gweithredu o'r dechreuad, ac wedi dwys ystyriaeth, yr ydym wedi penderfynu glynu wrthynt. Anfoner pob gwybodaeth i Rev B. Williams, Kilvey-terrace, Swansea, erbyn Medi 27ain, 1883; a phob;:arehebion i Mr William Hughes, Printer, Dolgelly.
YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
YR WYTHNOS. Mae Coleg Deheuol y Brifysgol i Gymru, yr hwn a benodwyd i Gaerdydd, i gael ei agor, yn ol penderfyniad ac ystyriaeth y Cynghor, mis Hydref nesaf; ond hyd yma, nid oes ganddo na chartref arosol na llety am dymhor i droi iddo. Addawodd Corff- oraeth y dref, os lleolid y coleg yno, y rhoddent dir gwerth £10,000 i adeiladu colegdy arno, ac hyd nes y gorphenid hwnw y gosodent at wasanaeth y coleg ryw adeilad cyfleus arall, a'r adeilad hwnw oedd y Free Library, neu y rhanau ohono a berthynant i'r Arts and Science Classes. Yn y cyf- amser, gwahoddodd awdurdodau yr In- firmary Gynghor y coleg i edrych ar yr hen adeilad sydd yn ymyl gorsafoedd y Rhymney Railway a'r TafF Vale i gael gweled a wnai efe y tro yn golegdy parhaol, oblegid fod Infirmary arall a mwy cyfleus bron a bod yn orphenedig. Barnodd y Cynghor y gwnai yr hen Infirmary y tro gyda gwerth dwy neu dair mil o bunau o gyfnewidiadau, ac awgrymasant i'r GorfForaeth y dymunol- deb iddynt brynu hwnw fel cyflawniad o'u haddewid i roddi £10,000 tuag at gael tir i adeiladu colegdy arno. Ni chafodd yr awgrymiad ffafr yn ngolwg mwyafrif y Gorfforaetb, fel na chymerwyd mesurau i brynu yr hen Infirmary. I wneyd y drwg yn waetb, ar yr awr ddiweddaf megys, derbyniodd y Gorfforaeth air oddiwrth yr awdurdodau yn South Kensington y buasai gosod ystafelloedd yr Arts and Science Classes at wasanaeth y coleg, hyd yn nod am dymhor, yn ymyriad niweidiol a'r adranau hyny, yr hyn oedd eystal a dyweyd, Nid yw hyny i gael ei wneyd. Dydd Llun diweddaf, cymerwyd yr holl achos i ystyr- iaeth gan y Gorfforaeth ac wedi dadleu am oriau, pasiwyd y penderfyniad canlynol gan 19 yn erbyn 8:—" Fod v Gorfforaeth hon o'r farn nad yw yr hen Infirmary yn gymhwys at amcanion Coleg y Brifysgol i Ddebeudir Cymru a swydd Mynwy." Yna penodwyd pwyllgor i chwilio am le heb ystafellodd yr Arts and Science, os yn bosibl, fel y gallai y Cyngbor agor y coleg yn mis Hydref, yn ol yr hysbysiad. Pryd- nawn yr un dydd, cyfarfu y Cynghor i ystyried penderfyniad y Gorfforaeth, a phasiwyd penderfyniad i'r perwyl, gan fod yr amser mor fyr, eu bod yn dymuno ar y Gorfforaeth i fynegi ffrwyth eu hymchwiliad i'r Cynghor mor fuan ag y byddo modd, ac yn awgrymu y dydd Llun canlynol, pryd y byddai yn dda ganddynt gyfarfod a phwyll- gor y Gorfforaeth i ymdrin a'r mater; ac yn y fan yna y saif pethau yn awr. Mae Cynghor y coleg wedi cyhoeddi yr agorir y coleg yn gynar yn mis Hydref nesaf, ac yn dysgwyl wrth Gorfforaeth y dref, yn ol eu haddewid, i osod lie at eu gwasanaeth ac y maent hwythau mewn dyryswch am Ie, gan fod yr awdurdodau goruchel yn Kensington wedi eystal a gwahardd iddynt ddefnyddio ystafelloedd yr Arts and Science at hyny. Mae'n achos o ofid i gefnogwyr y mudiad yn y Deheubarth fod dim yn debyg i gysgod o anghydwelediad wedi cymeryd lie rhwng Cynghor y coleg a'r Gorfforaeth, a bod y rhwystr lleiaf wedi ei daflu ar ffordd agoriad y sefydliad y gwaeddwyd mor uchel am dano, ac y llafuriwyd mor galed i'w gael. Ond credwn fod digon o ddoethineb yn y Cynghor i beidio cymeryd tramgwydd, a digon o adnoddau gan y Gorfforaeth i gyfarfod yr anhawsderau er anrhydedd iddynt eu hunain, ac yn y diwedd lies parhaol y coleg.
Cynwysiad.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Cynwysiad. Hysbysiadau 1,2 Ymylon y Ffordd 3 Cyfarfodydd Chwarterol 4 Y Senedd Ymherodrol 5 Cwm Rhondda-Llansawel-Aberteifi 6 Newyddion Cyffrodinol, &c 7 Yr Wythnos-Marwolaetb Dr Moffat 8 Dadgysylltiad i Gymru a Mr Henry Richard 9 Yr Eisteddfod Genedlaethol am 1883 10 Barddoniaeth-Genedigaethau, &c. 11 Y Wers Rhyngwladwriaethol 12 Hysbysiadau 13, 14, 15, 16
Advertising
Advertising
Cite
Share
GREAT WESTERN RAILWAY. ON SATURDAY, AUGUST 18th, Excursion Trains will run as under — To LONDON (Interna- tional Fisheries Exhibition) for 2 days, leaving MERTHYR at 11.0 p.m., Hirwann 11.25, Aberdare 11.35, Mountain Ash 11 45, Quaker's Yard 11.55, Llan- caiach 12.5 a.m., Crumlin 12.25, Pontypool 12.40, Pont- ypool Road 12.50, Abergavenny, 1.10, Pontrilas 1.35. HEREFORD 2.10, and Ledbury at 2.40 a.m., to return August 20th at 11 5 p.m. To Shrewsbury, Oswestry, Llangollen, Wrexham, Chester, Bala, Dolgelley, Birkenhead, Liverpool, Man- chester, Warrington, Rhyl and Abergele, allowing 8 days, leaving Newport at 2.0, Caerleon 2.10, Pontne- wydd 225, Aberdare 1247, Mountain Ash 12.56, Merthyr 12 40, Quaker's Yard 15, Dowlais 12.35, Pontypool Town 1.51, and Pontypool Road at 2 45 p.m. For fares and return limes, see Special Bills. J. GRIERSON, General Manager.
TRAINS RHAD I GYFARFODYDD…
News
Cite
Share
TRAINS RHAD I GYFARFODYDD YR UNDEB. Da genym ddeall fod y London and North Western Railway Company wedi addaw bookio personau i Gyfarfodydd yr Undeb o'u gwahanol orsafoedd am brisoedd gost- yngol. Ceir pob many lion drwy holi yn eu stations. Gofaled pawb ofyn am docynau y L. & N. W., ac nid y G. W. R. Mae'r olaf wedi gwrtbod gwneyd dim gostyngiad. Mae Cwmni y Ffestiniog & Portmadoc Railway wedi addaw rhedeg Trains ar ddyddiau yr Undeb yn ol a blaen am bris- oedd sengl. Gwnaed pob ymdrech i gael gan y G. W. R. i wneyd trefniadau rhad, ond gwrthodasant.
CYFARFODYDD YR UNDEB.
News
Cite
Share
CYFARFODYDD YR UNDEB. AT EIN DOSBARTHWYR. Bydd y ddau Rifyn nesaf o'r TYST A'R DYDD yn cynwys hanes cyflawn o Gyfarfodydd yr Undeb a gynelir eleni yn Ffestiniog, yn dechreu nos Fawrth nesaf, ac i barhau hyd nos Iau. Dymunir ar ein Dosbarthwyr fyddo yn dymuno cael nifer ychwanegol am y ddwy wythnos nesaf anfon gair i'r Swyddfa erbyn boreu dydd Mawrtb.
CYSTUDD DR REES, ABERTAWY.
News
Cite
Share
CYSTUDD DR REES, ABERTAWY. Bydd yn ddrwg gan ein darllenwyr ddeall fod yr Hybarch Dr Eees wedi bod yn wael iawn er's naw neu ddeg diwrnod, ac yn parhau felly. Fodd bynag, da genym hysbysu fod gan ei feddygon well gobaith am ei adferiad yn awr (prydnawn dydd Mawrth) nag o'r dechreuad, ond nid ydynt heb ofni y gwaethaf.
Telerau y Tyst a'r Dydd.
News
Cite
Share
Telerau y Tyst a'r Dydd. Anfonir ef trwy y Post am Chwarler yn ol y telerau canlynol:—1 (os telir yn mlaen) am 2s; 2 am 3s 4c; 3 am 4s. Gc. Os na thelir yn mlaen, 1 am 2s. 3c.; 2 am 3s. 9c.; a 3 am 4s lie.