Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. Mae Coleg Deheuol y Brifysgol i Gymru, yr hwn a benodwyd i Gaerdydd, i gael ei agor, yn ol penderfyniad ac ystyriaeth y Cynghor, mis Hydref nesaf; ond hyd yma, nid oes ganddo na chartref arosol na llety am dymhor i droi iddo. Addawodd Corff- oraeth y dref, os lleolid y coleg yno, y rhoddent dir gwerth £10,000 i adeiladu colegdy arno, ac hyd nes y gorphenid hwnw y gosodent at wasanaeth y coleg ryw adeilad cyfleus arall, a'r adeilad hwnw oedd y Free Library, neu y rhanau ohono a berthynant i'r Arts and Science Classes. Yn y cyf- amser, gwahoddodd awdurdodau yr In- firmary Gynghor y coleg i edrych ar yr hen adeilad sydd yn ymyl gorsafoedd y Rhymney Railway a'r TafF Vale i gael gweled a wnai efe y tro yn golegdy parhaol, oblegid fod Infirmary arall a mwy cyfleus bron a bod yn orphenedig. Barnodd y Cynghor y gwnai yr hen Infirmary y tro gyda gwerth dwy neu dair mil o bunau o gyfnewidiadau, ac awgrymasant i'r GorfForaeth y dymunol- deb iddynt brynu hwnw fel cyflawniad o'u haddewid i roddi £10,000 tuag at gael tir i adeiladu colegdy arno. Ni chafodd yr awgrymiad ffafr yn ngolwg mwyafrif y Gorfforaetb, fel na chymerwyd mesurau i brynu yr hen Infirmary. I wneyd y drwg yn waetb, ar yr awr ddiweddaf megys, derbyniodd y Gorfforaeth air oddiwrth yr awdurdodau yn South Kensington y buasai gosod ystafelloedd yr Arts and Science Classes at wasanaeth y coleg, hyd yn nod am dymhor, yn ymyriad niweidiol a'r adranau hyny, yr hyn oedd eystal a dyweyd, Nid yw hyny i gael ei wneyd. Dydd Llun diweddaf, cymerwyd yr holl achos i ystyr- iaeth gan y Gorfforaeth ac wedi dadleu am oriau, pasiwyd y penderfyniad canlynol gan 19 yn erbyn 8:—" Fod v Gorfforaeth hon o'r farn nad yw yr hen Infirmary yn gymhwys at amcanion Coleg y Brifysgol i Ddebeudir Cymru a swydd Mynwy." Yna penodwyd pwyllgor i chwilio am le heb ystafellodd yr Arts and Science, os yn bosibl, fel y gallai y Cyngbor agor y coleg yn mis Hydref, yn ol yr hysbysiad. Pryd- nawn yr un dydd, cyfarfu y Cynghor i ystyried penderfyniad y Gorfforaeth, a phasiwyd penderfyniad i'r perwyl, gan fod yr amser mor fyr, eu bod yn dymuno ar y Gorfforaeth i fynegi ffrwyth eu hymchwiliad i'r Cynghor mor fuan ag y byddo modd, ac yn awgrymu y dydd Llun canlynol, pryd y byddai yn dda ganddynt gyfarfod a phwyll- gor y Gorfforaeth i ymdrin a'r mater; ac yn y fan yna y saif pethau yn awr. Mae Cynghor y coleg wedi cyhoeddi yr agorir y coleg yn gynar yn mis Hydref nesaf, ac yn dysgwyl wrth Gorfforaeth y dref, yn ol eu haddewid, i osod lie at eu gwasanaeth ac y maent hwythau mewn dyryswch am Ie, gan fod yr awdurdodau goruchel yn Kensington wedi eystal a gwahardd iddynt ddefnyddio ystafelloedd yr Arts and Science at hyny. Mae'n achos o ofid i gefnogwyr y mudiad yn y Deheubarth fod dim yn debyg i gysgod o anghydwelediad wedi cymeryd lie rhwng Cynghor y coleg a'r Gorfforaeth, a bod y rhwystr lleiaf wedi ei daflu ar ffordd agoriad y sefydliad y gwaeddwyd mor uchel am dano, ac y llafuriwyd mor galed i'w gael. Ond credwn fod digon o ddoethineb yn y Cynghor i beidio cymeryd tramgwydd, a digon o adnoddau gan y Gorfforaeth i gyfarfod yr anhawsderau er anrhydedd iddynt eu hunain, ac yn y diwedd lies parhaol y coleg.

Cynwysiad.

Advertising

TRAINS RHAD I GYFARFODYDD…

CYFARFODYDD YR UNDEB.

CYSTUDD DR REES, ABERTAWY.

Telerau y Tyst a'r Dydd.