Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Newyddion Cyffrcdinol.

Newycldion o Ogledd Cymru.

Adolygiad y Wasg.

News
Cite
Share

Adolygiad y Wasg. DYFKOEDD SILOAM: NEU, BYB-GOFIANT A MAKW- NAD Y PAItCH E. EIIBDYDD THOMAS, Siloam, Pontirgothi, Swydd Gaerfyrddin, gan John Myrddin Thomas, yr Wyddgrug. Mae y cofiant yn fyr, ac eto yn cynwys yr oil allesid ei ddyweyd am ddyn ieuanc o gymeriad dysglaer, addawol o ddefnyddioldeb yn nj;weinidogaeth y Gair, ond a dorwyd i lawr yn mlcdau ei ddyddiau. Peth pur anghyffredin yw i ddyn ieuanc gael ei urifdo yn weinidog i'r eglwys yn yr hon y derbyniwyd of, ac heb fod allan ohoni o adeg ei dderbyniad hyd adeg ei urddiad. Gosododd hen oglwys barchus Slonm an- rhydedd arni ei hun wrth anrhydeddu nn o'i meibion. Yn mhen ychydig fisoedd wedi dechreu ar ei weinidog- aetb, clafychodd, a chyn pen y flwyddyn yr oedd yn ei fedd. Ail adroddiad o'r cofiant yw y farwnad, a gwnelailes i ddynion ieuainc yr eglwysi ddarllen hanes bywyd y cymeriad prydterth hwn. Nid yw pris y cofiant a'r farwnad ond cbwecheiniog, ac y mae y llyfryn wedi ei droi allan yn ddestlus gan Mr J. Ll. Morris, Wyddgrug. YCHYDIG EIRIAU AT FAMAU PLANT. Argraffedig gan J. Williams a'i Fab, Llanelli. Pris Ceiniog. Cyfieithiad o'r Saesoneg yw y llyfryn bychan hwn, aear y cyfan y mae y cyfieithiad yn naturiol ac ystwyth. Mae yr awdures yn wraig i un o'r Aelodau Seneddol Cymreig, ac yn un sydd yn cymeryd dyddordeb mawr yn addysg a iawn ddvgiad i fyny yr oes sydd yn codi. Dengys y llyfiyn ei bod wedi yra- gydnabyddu a'r dosbarth gweithiol, a thra yn cydnabod yr anhawsderau sydd gan famau yn y dosbarth hwnw, oherwydd cyfyngder eu hamgylchiadau a bychandcr eu haneddau, i ddwyn plant o'r ddau rhyw i fyny yn weddus, rhydd gyfarwyddiadau syml a charcdig pa fodd i orchfygu y rhwystrau. Ceiniogwerth wertlifawr fyddai y llyfryn yn llaw pob mam sydd a nifer o blant bychain ar yr aelwyd. CiESAB AND GOD; OR, THE BISLE AND THE STATE FUND, by the Rev Edward Davies, Rhymney. Argraffw yd gan G. J. Jacobs, Minerva Printing Office, Rhymney. Pris Swllt. Mae teitl y llyfr dyddorol ac amsrrol hwn yn dynodi ei gynwysiad-" Eiddo Cesar i Cesar, ac eiddo Duw i Dduw." Y cwestiwn esyd yr awdwr o'i flaen i'w ateb ydyw hwn-" A ydyw yn iawn-a ydyw yn gyson a rhyddid cydwybod mewn crefydd—i orfodi unrhyw ddyn, trwy rym cyfraith wladol, i ddal i fyny (uphold) y gyfundrefn o ddarllen y Beibl ac addysg Feiblaidd mewn Ysgolion Byrddol ? Ei ateb pendant ydyw, Nac ydyw." A phrofi hyny ydyw baich 34 o erthyglau cynwysedig yn y llyfr. Mae hwn yn gwestiwn sydd wedi cynhyrfu y wlad er 1870, pan ddygwyd i fewn ac y pasiwyd Mesnr Addysg Mr Forster, yn cynwys Adran 25ain, yr hon sydd yn gosod y Byrddau Ysgol at eu rhyddid i ddwyn y Beibl i fewn i'r Ysgolion Byrddol neu beidio, fel yr ewyllysiont. Nid ydym wedi petruso o'r dechreu-ad i ddatgan ein barn yn glir ar y mater hwn, a hyny yw, ei bod yn d.osedd ar ryddid cydwybol, ac yn anghyson ag addysg yr Ysgrythyrau, i orfodi dyn trwy gyfraith i dalu ffyrling tuag at bwrcasu Beibl iddo ei hun na neb arall, neu tuag at ddysgu y Beibl i blant na phobl mewn oed. Yn hyn yr ydym yn cwbl gredu fel awdwr y llyfr hwn. Cymer yr awdwr olwg eang ar yr egwyddor wirfoddol mewn crefydd, ac olrheinia hi mewn dull cywrain a medrus yn hanes crefydd yn y Beibl o'r dechreuad hyd ddyddiau Crist a'r Apostolion. Nid ydym An gallu myned mor bell ag ef bob amser yn nghymhwysiad ei ddyfyniadau o'r Hen Destament, ond nis gallwn lai nag edmygu ei fedr a'r freshness byw sydd yn ei ddull o drafod y darnauhyny. I'r Anghyd- ffurfwyr hyny sydd hyd yma heb ddyfod i gyflawn oleuni ar y pwnc pwysig hwn, ac y mae llawer felly yn onest yn eu golygiadau a cbydwybodol yn eu gweith- rediadau, cymeradwywn y llyfr i'w sylw fel moddion efFeithiol i symud y ein oddiar lygad eu meddyliau. Darileiiasai y llyfr i ni yn fwy dymunol pe bna-ai yn fwy llednais ei ysbryd a llai flippant ei dafod pan yn cyfeirio nad ydynt yn gweled lygad yn llygad ag ef. er yn Anghydffurfwyr gonest a chydwybodol; ond hwyrach fod hyny yn codi oddiar ei sel dros yr egwyddor y dadleua drosti, a'i dymer bybyr, yn fwy nag i ddrwg-ysbryd ac am can i sarhau a dolurio teimladau yn ddiachos. Caiff y neb a ddarlleno y llyfr lawn dal am ei arian a'i lafur.

BETHESDA, TONGWYNLAIS.

Advertising