Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

------CWM li-HONDBA.

FFYNON TAF.

LLANSAWEL.

[No title]

ABERTEIFI.

EISTEDDFOD CEINEWYDD.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

EISTEDDFOD CEINEWYDD. BEIRNIADAETH TANYMAEIAN AR Y CYFANSODDIADAU BARDDONOL. I. PBYDDEST Y MOKWE."—8. Derbyniwyd wyth i'r gystadleuaeth. 1. Mate-ATne hwn yn amddifad o feswr ac acen, er nad yw yn dlawd iawn o ryw fath o feddwl a theirolad. 2. Old Salt.—Rhyw Jolly Jack Tar yw yr awdwr yma. Decbreua yn weddol gyda syniadau a geir yn Salm evii. 23-32, eithr aiff ar ol hyny yn fjymysglyd hynod o ran ei faterion, ac yn rhy wcrinol ei silleb- iaeth, a'i iaith, a'i ysbryd. Dywed bjth a hefyd, ond heb addurn bardd yr,, agos ato. 3. Panllus.-llhy amddifad o gynllun, ac felly yn gytnysglyd, gan droi yn ormodol yn yr unfan, ac hwyrach yn manyln gormod ar y llong, a rhy fach ar y morwr a phan yn darlunio hwnw, gwna gyda Jliw. iau rhy gryfion ac nid yw yr arddull bob amser yn ddigon Cymroig i sicrhau y nerth a'r perseinedd a ddymunir yn y llinellau. 4. Ceredig-—^eir gan hwn rai pethau rhagorol, ond rhyw hit and miss" braidd ydynt, a rhai prydiau yn rby debyg i hogyn ysgol yn geography, &c. Hwyr- ach fod gormod o bethau amgychiadol, er yn dda a phrydfe th, yn cymylu i raddau y prif wrthddrych. Nid cyfaDSoddiad holiol anhymig yw eiddo Ccredir.. 5. Neifionydd.—Pryddest faith, a chryn lawer o bethau ynddi, ond eu bod yn gymysglyd, ac i raddau yn gyffredin. Hwyrach yr a yn ormodol ar ol yr adar ganlyna y morwr—y darogan a'r ofergoeledd gysylltir a'r cyfryw. Peniilion da, ar y cyfan, a geir ganddo o'r tudal. 15fed hyd 19jg, ond eu bod yn lied laletlaidd. Terfyna hefyd yn ddigon cymeiadwy. Er ei fod yn newid ei fesurau, mae eithaf euphony ganddo. Rhyddieithol yw ei arddull, a rhy fach o grebwyll a barddoniaeth. 6. Nantis.—Cychwyna yn dda, pan y darlunia draf- nidaeth yn priodi gwledydd â'u gilydd. Dywed fod IIawcr mwy o'r du [jag sydd o'r gwyn" yn hanes y morwr. Tybed P Desgrifia ystorm yn lied fyw a barddonol—" yn ceisio blotio pictiwrs wnaeth a phwyntil gobaith," o'i deu la hoif yn y dyfodol. Mae ei gyfeiriad at daith y Cristion fol mordaith yn eithaf, a lied farddonol, efallai, ond mae y dariun yn rhy hen ffasiwn ac a nor phenol- 7. Givyliedydd y Qraig.—Mao yr ymadawiad a chartref yn dda, os nad yn rhy ffuantus—ei hclynt yn y fordaith fel gwaa a morwyn yn lied naturiol-ci ym- weliad a chartref cyn cyehwyn yr ail dro ar long fwy ac i fordaith belJach-y cariad yn chwifio y cadach gwyn" yn dlws a thra barddonol. Darfydda braidd yn swta-gwell hyny na nyddu wedi darfod o'r eci- afodd. 8. Ymgeisydd.—Cychwyna yn dda a thra pwrpasol, yna dyry ddarnodiad o grebwyll y morwr yn lied farddonol, ond nid digon perseiniol mown blanh verse. Mae ei ddarJun o'r mor, ac yn enwedig o'r Uanc yn myfyrio ar ymyl y llestr, yn dda iawn, ac yu fyw o farddouiaeili—sstur yn datgaddio ei chyirinion iddo— y dymestl ofnadwy-a hunanfeddiant y morwr yn fwy arddnnol na'r 'storm ei hun "-y repairio, &c., a'r maddeu i'r gwyJlt elfenau—mae y eyfan yn rhag- orol. Y cyfarfyddiad hapus a'i wraig ar ot glanio- Rhy gryf yw ef i wylo; rhy wan yw hithau i beidio." Mae y bryddest yrod yn sier yn fwy dillyn drwyddi- yn llawnach o farddoniaeth ac o naturioldeb, ac heb ddim yn gyffredin ynddi. Er fod rhai o'r pryddestau ereill yn dda, a rhai llinellau rhagorol ynddynt, eithr mae mwy o freshness a meistrolaeth awenydd yn eiddo Ymg'eisydd. [Bow priodol "Ymgeisydd" ydyw Mr John Morgan Howell, Aberaeron-] III. PENILLION Y PYsaoTWR."—7. 1. Iona.-Sillebu yn wael, a'i syniadau yn rhy gyffredin a gwerinol. 2. Peirianivr. — Ceir darlun ganddo o fachau pysgota-enwau llnaws o afonydd—cernod i bysgot- 'wyr pleserau," a bod rhyddid wedi ei roi gan Dduw i 'bawb trwy y bydoedd i bysgota. Nad yw y pysgod ou hunain heb eu trallodion. Crist fel pysgotwr. Pobpeth fel yna ar draws eu gilydd ganddo. 3. Tremiedydd Llwyd.-Denfyn hwn bwt o lythyr at ei feirniad i ddatgan ei obaith mai cyfiawnder gymer le yn y feirniadaeth," ac y bydd yntau "yn dawel a gostyngedig." Wel, da iawn. Hwyrach mai y peth goreu fyddai iddo ef ei hun gymeryd y gorehwyl o'i beirniadu. 4. Glany Mor■—Eithaf penillion, am a wn i, ond lied amddifad o nodwoddion y pysgotwr ydynt; ond, chwareu teg iddo, diwedda yn hynod o dduwiol. 5. Plimsole.-Rhai penillion da, ac ereill a gormod o gyffredinedd ynddynt. Dylent fod yn fwy nodwedd- iadol i enill. 6. Hioda yn y bud.—Mesur a corfan gymysgedig. Peniilion lied dda ar y cyfan, ond mae rhyw anys- twythder yn eu nodweddn. 7. Simon P-Pedr, mae'n debyg. Os mai e, da genyf fod yr hen bysgotwr a'r apostol yn hoffi ym- geisio a phrydyddu dipyn, ac nad aeth ei boll gyfan- soddiadau ar ddifancoll. Nid bapns y frawddeg dwrio lawr," yn llinell gyntaf y penill blaenaf. Ond mae y rhelyw yn dda a naturiol, a lied lawn o arabedd. Dyma y penillion mwyaf destlus a llawnaf o fywyd, ar y cyfan, felly i Simon P- y dyfarnwyf y llawryf. III. ENGLTNION I'E. "GWLAW."—13. Yu yr ail ddosbarth mae eiddo Dryslwyn, Jack of all Trade (2), Didymus, ac Un yn Cripian. Yn y dosbarth cyntaf mae y rhai canlynol :— Job.-Cywir, ond gair cyrch yr englyn cyntaf. Umbrella.—Y drydedd linell o'r englyn cyntaf yn feius. Walter, Francis Moore, a Gwlithyn ydynt yn lied gyfartal o ran teilyngod. Mae rhai o'r llinellau yn lie 1 anystwyth a chyffredin. Iforiacl a Noe ragorant yehydig o ran perseinedd a naturioldeb. B. sydd yn meddu ar fwyaf o bertrwydd a meddwl, yn ogystal a chryn lawer o freshness cynghanedd ac awen, felly efe a farnwyf yn oreu. IV. YSGADENYN."—8. Toddeidiau gwael ar y cyfan, ac ychydig o deilyng- dod barddonol sydd ynddynt. Maent yn weddol ddi- fai, ac eithrio Huda yn y bud a Fframiwr Englynion. Dywed yr olaf- Hwn gyda wynwyn,—a'i iawn goginio, Wna ginio beirniad f'ai iddo'n foethyu." Piscator a Salmon sydd hynod ddyrysfawr en geiriau, ond ychydig o feddwl geir ynddynt. Hen Alltud o Llandudocb, Homo Wyn, Pysgotwr mewn pais cwta, a Cigydd, yw y goreuon o'r rhai gwaelaf, ac os gwobrwyir, rhaner y wobr rhwng y ddau olaf. V. RICHARD III."—10. Nid oes un o'r ymgeiswyr wedi gwneyd gorchest anghyffredin. 1. Irishman.—Yn wallus iawn ac anystwyth. 2. Vernon, 3, Richmond.Nid yw y ddau yma yn fwy na'r llall wedi ceisio ar un math o fesur, ae yn Iled wallus mewn cyfieithu y meddyliau, fel y geiriau. 4. Youngster, X., Un hoff o Shakspeare.—Dyma dri ychydig yn well na'r tri arall, ond ceir ganddynt rai ymadroddion anhymig a brawddegau na chyfleant syn. iadau vr awdwr- 7. Dulce of Buckingham. — Cynwysa hwn amryw o wallau y lleill, ond credwyf y rhagora ychydig arnynt. 8 Cymro.—Mae hwn yn ymgeisio at fesur, ond yn lied glogyrnaidd ei acen, a thra anystwyth ei gyfieith. iad. 9. IcMs.—Mae gan hwn fesur, ac fol cyfieithiad mae yn fwy naturiol a chywir, ond priod-ddull y Gymraeg, fel yr oil ohonynt, yn ddiffygiol braidd ganddo. 10. Jack of Norfolk.—Mae ganddo ef fesur ac odl, ac yn ddarllenadwy, or nad yw yn gyfieithiad verbatim, ond rhagora yn y gallu a'r medr i drosglwyddo meddwl yr awdwr i'r Gymraeg, felly Jack bia y llawryf. TANYMARIAN,

Advertising