Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

------CWM li-HONDBA.

FFYNON TAF.

LLANSAWEL.

[No title]

ABERTEIFI.

News
Cite
Share

ABERTEIFI. Y ddwy efengyles Misses Davies a Phillips.-Fe gawsom y fraint ddydd Sul, Gorphenaf 29ain, o glywed y ddwy chwaer yma. Cynaliwyd y cyfar- fodydd yn y Tabernacl, capel y Methodistiaid, am ddau o'r gloch yn y prydnawn, a chwech yn yr hwyr. (JawsDm bregethau rhagorol iawn, a chynulleidfaoedd lluosog, canoedd y tuallan yn methu myned i mewn. Ar ddiwedd y dydd daeth dau-ar-bymtheg yn mlaen i ddangos en bod .hwy am daflu eu coelbren i fysg pobl yr Arglwydd. Agoriad Coffee Tavern,—Un o brif angenrheid- iau Aberteifi ydoedd Coffee Tavern. Syndod yw meddwl fod y dref hon wedi bod eyhyd cyn cael y eyfryw sefydliad. Buwyd yn siarad am hir amser er ei gael, end yr oedd rhwystrau yn cyf- odi o bob tu; er hyny, yn nghanol nos anobaith, fe dorodd gwawr trwy i'r boneddwr caredig Mr George Miles i addaw codi adeilad er ei gadw, ac erbyn hyn y mae wedi cyflawni ei addewid. Mae'r adeilad prydferth a chyfleus wedi ei orphen. Nos Wener, Awst 3ydd, eawsom y fraint o weled y Victoria Coffee Tavern yn cael ei agor. Y mae mewn man cyfleus yn Heol y Priory, ger llaw y farchnad. Fy nymuniad i ydyw iddo droi allan yn grand success, Nid oedd gynt yr un man gan ieuenctyd y dref i fyn'd i dreulio eu horiau ham- ddenol ond y dafarn, ac y mae y duw Bacchus wedi trefnu yn helaeth ar eu cyfer. Cywilydd meddwl fod tref fach Aberteifi a'i phedair mil o drigolion yn cynal dros ddeugain o dafarndai. Tat'arn gogyfer a phob cant o'r trigolion Tref sydd bron i gyd yn proffesu crefydd gyda rhyw enwad neu gilydd! Mae bron yn anghredadwy. Fy nghyd-drigolion, ai tybed y caiff y blotyn du yma fod arnom P A ydym ni yn myned i barhau i gynal y fath fasnach yn mlaen. Wel pa beth a ellir wneyd er diddymu y fasnach feddwol ? Llawer yn mhob rhyw fodd-drwy benderfynu ymwrthod a'r tafarndai a phleidio y Coffee Tavern hyd eithaf eich gallu. Y mae pwyllgor y sefydliad hwn yn haeddu pob cefnogaeth. Llwyddiant mawr fyddo ar ei ymdrechion, ydyw dymuniad S. D.

EISTEDDFOD CEINEWYDD.

Advertising