Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD MAWRTH.

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.-DYDD MERCIIER.

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD IAU.

TY Y CYFFREDIN.

TY YR ARGLWYDDI.-DYDD GWENER.

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.—DYDD SADWRN.

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD LLUN.

TY Y CYFFREDIN.

CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN.

Advertising

----------_.I' Cyfarfodydd,…

News
Cite
Share

I' Cyfarfodydd, &c. LLANDYSSUL.-Nos Fawrth, Awst 7fed, tiaddol- odd y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, ddarlith odidog yn nghapel yr Annibynwyr ar Opium, &c. Cymerwyd y gadair gan y Parch T. P. Phillips. CASTELLNEWYDD EMLYN. Talodd y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, ymweliad a'r He, ac yn Ebenezer nos Fercher, Awst Sfed, traddododd ddarlith nad anghofir yn fuau ar y fasnach mewn Opium. Cymerwyd y gadair gau Mr J. Evans, Eralyn Castle. ABERTEIFI.-Nos Iau, Awst 9fed, cafodd cynul!- eidfa barchus a lluosog yn Nghapel Mair y pleser o wrando y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, yn trin gyda deheurwydd y fasnach mewn Opium a orfodir ar China gan Loegr. Cymerwyd y gadair gan y Parch G. Hnghes. NURSTON. Nos Lun, Awst 13e?, traddododd y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, ddarlith ar Opium, yn nehapel yr Annibynwyr. Siaradodd y darlithydd yn Gymraeg a Saesoneg. Afraid dyweyd dim am y ddarlith na'r darlithydd, ond ei fod yn siarad mor llithrig a hyawdl yn y naill iaith fel yn y llall. Cymer- wyd y gadair gan Mr W. Jenkins, Rouse. Mynediad i mewn swllt yr un, yr elw at ddyled y capel. Cafwyd ilon'd y capel o gynulleidfa. TY'NYCOED.-Darlith. — Bu y Parch O. Jones, Pwllheli, ar ymweliad a'r gymydogaeth yma yn ddi- weddar, a thraddododd ei ddarlith ar ei ymweliad a gwlad Canaan, nos Iau, Gorphenaf 26ain, yn ysuoldy Abercrave. Cymerwyd y gadair gan Mr J. D. Evans, Ystalyfera. Cafwyd boddhad mawr yn mhob ystyr. BRYMBO.-Sabboth a LIun, Gorphenaf 29ain a'r 30ain, cynaliwyd cyfarfod blynyddol Brynseion, Brymbo. Cafwyd tair oedfa y Sabboth a thair ddydd LIun, pryd y pregethwyd gan y Parchedigion R. Thomas, Penrhiwceibr; R. Roberts, Rhos; a J. Thomas, D.D., Liverpool. Cafwyd cynulleidfaoedd mawrion, yn enwedig am 2 a 6 y ddau ddiwrnod. Heblaw y gweinidogion uchod, yr oedd hefyd yn bres- enol y Parchedigion J. H. Hughes (Ieuan o Leyn), J. M. Jones, Caergwrle; W. Hopkin Rees, Llechryd (gynt), a'r Parch J. Roberts, gweinidog y lie, yr hwn yr oedd yn dda gan bawb ei weled mor gryf.—Cyfaill. TABERNACL, ABERA.FON.—Sul a Llun, Gor- phenaf 29ain a'r 30ain, cynaliwyd cyfarfod blynyddol yr eglwys uchod. Yr efengylwyr eleni oeddent y Parchn O. Owen, Penybont ar-ogwy T. R. Williams, Dowlais a R. Rowlands, Aberaman pa rai a ddaeth- ant i'n plith a. "chyflawnder bendith Efengyl y tang- nefedd." Bu yr eg-lwys yr wythnos flaenorol yn un ag yn gytun ger bron Duw yn dymuno am iddo ddanfony Dyddanydd arall i'r wyl, a chredwn iddo ddyfod. Teimlem ei fod yn argyhoeddi'r byd o bechod, o gyf- iawnder ac o farn. Yr oedd yno odidowgrwydd gallu," yr hwn nis gallai fod o neb ond o Dduw, a siomir ni yn fawr os na welir ffrwythau addas i edifeirwch, yn cael eu dwyn mewn canlyniad. Cafwyd cynulliadau lluosog, a chasgliadau rhagorol. Gweithiodd yr eglwys y tro yma yn llawer gwell nag arferol. Cyn y bydd y llincll- au hyn o flaen y cyhoedd, dysgwylir y bydd ffrwyth arianol y cyfarfod yn £80. Ystyriwn hyn yn gampus mewn ardal sydd a'i phrif fasnach (alcan) yn liepian er's cymaint o amser. Mae yr eglwys wedi adnew- yddu ei hieuenctyd fel yr eryr," igydag adfe:iad ei pharchus weinidog o'i gystndd trwm. Bn yn ofni y byddai iddi ei golli yn ngwres y cariad cyntaf, ond trwy ddaioni'r Arglwydd y mae heddyw yn mwynhau cyflawn iechyd. Hyderwn fod iddo eto flynyddau lawer o nerth cortforol a meddyliol i'n bugeilio yn yr Arglwydd, ac arwain lluaws o gyfeiliorni eu ffyrdd at y gwir a'r bywiol Dduw.-Afan. YNYSGAU, MERTHYR. Cynaliwyd te-parti blynyddol yr Ysgol Sabbothol yn y lie uchod, dydd Llun, Awst 13eg, a chafwyd cyfarfod cystadleuol yn yr hwyr, pryd y gwobrwywyd y personau canlynol Traethawd, Bywyd Teilwng o'r Efengyl," David Richards. Adrodd Beth yw siomiant," Thos. Jones a John Thos. Edwards yn gyfartal. Adrodd Cariad Mam," Sarah Thomas. Darllen dernyn ar y pryd, Benjamin Davies. Sillebu, David Edwards, a rhodd- odd Abram Fardd bob i lyfr i'r ymgeiswyr ereill. Ysgrifenu y Salm gyntaf, Rosser Beynon Lewis. Ateb chwech o gwestiynau ar hanes Abraham, Benjamin Davies. Datganu y d6n "Hendre" {Ail lyfr), parti John Williams. Tenor, "Mi glywais yr adar yn canu" (Mordaith Byivyd), Joseph Charles Jones Bass, Teyrnasoedd y ddaear," Edward Beynon. Soprano, "Yr Eneth Ddall" (Dr Parry), Mary Ann Roberts. Alto Dacw Gymru yn y golwg (Ceinion y G&n), Henry Richards. I'r hwn dros 40 mlwydd oed a ganai yn oreu Pen Nebo (Ail Lyfr), Isaac Griffiths a John Williams yn gyfartal. Amy drawing goreu o Workman's Cottage, David Griffiths. Am y par o hosanau, Maggie Roberts. Y Beirniaid oeddynt: -Traethodall, Abraham Fardd. Adroddiadau, &e." Alaw Tydfil ac Abram Fardd. Canu, W. Hughes, Bryn Seion, Dowlais. Drawing a'r hosanau, Miss Jenkins, Abermorlais School, Merthyr. Llywyddwyd gan Evan Owen, arolygydd parchus yr Ysgol yn y lie.

Advertising