Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Hide Articles List
14 articles on this Page
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD MAWRTH.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD MAWRTH. Darllenwyd yr ail waith Fesur Daliadau Amaethyddol (Lloegr) a gohiriwyd y Ty am 9.25.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Gofynodd Mr H. Richard i'r Ysgrifenydd Car- trefol a oedd yn bwriadu dwyn Mesur yn y Senedd- dymhor nesaf er gwella y deddfau sydd yn awr mewn grym, a rhyddhau yr anhawsderau a deimlir gan awdurdodau lleol wrth barotoi claddfeydd newyddion. Atebodd Syr W. Harcourt ei fod yn gobeithio yn gryf y gwneir rhywbeth yn y Senedd- dymhor nesaf er setlo cwestiwn y teimla pob un ei fod mewn stad anfoddhaol. Byddai iddo ystyried y mater yn fanwl, ac edrych pa mor bell y gallai y Llywodraeth gynorthwyo er d'od i ddealldwriaeth ar y pwnc. Rhoddodd Mr Richard hefyd rybudd o gwestiwn oedd yn fwriadu ofyn i'r Is-ysgrifen- ydd Tramor yn nglyn a masnach yr opium rhwng China a'r wlad hon. Eglurodd Mr Gladstone natur y gwaith oedd yn myned yn mlaen yn yr Aipht or ad-drefnu pethau, a chafwyd ymgom lied faith ar y cynygiad i ail ddarllen Mesur er lleihau y Ddyled Wladol.
TY Y CYFFREDIN.-DYDD MERCIIER.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN.-DYDD MERCIIER. Cymerodd y Llefarydd ei sedd am 12.20. Cyf- lwynwyd copi o'r scheme i sefydlu Coleg Prifysgol i Ddeheudir Cymru a sir Fynwy yn Ngbaerdydd o Swyddogaeth Addysg trwy awdurdod, a gorchym- ynwyd iddo aros ar y bwrdd. Aed yn mlaen a Mesur Arferion Llygredig mewn Etholiadau hyd yr wythfed adran, pryd y gohiriwyd y gweithred- iadau ereill ar yr adroddiad hyd ddydd Iau.
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD IAU.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD IAU. Darllenwyd yr ail waith Fesur y Breintebau a Mesur Daliadau Amaethyddol yn Ysgotland. Pasiwyd y cyntaf heb un ddadl, a dadleuwyd yr ail mewn dull eyfeillgar a chymedrol.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Mewn atebiad i Mr Stanley Leighton, dywedodd Mr Mundella fod lleihad graddol wedi bod yn nifer plant tlodion y deyrnas hon-eu bod yn 393,000 yn 1871, ond nad oeddynt ond 270,000 yn 1882. Yr oedd yn wir fod nifer plant tlodion gwallgof wedi cynyddu yn ystod yr un amser o 962 i 1,332, ond nad oedd a fyno hyny a threfn- iant addysg—mai anghymedroldeb oedd yr achos o hyny. Dywedodd Mr Gladstone, mewn atebiad i Syr J. Lubbock, y bwriedid cymeryd i fyny Mesur Methdaliad boren Sadwrn ac wrth ateb Syr W. Barttelot, dywedodd y boneddwr anrhydeddus ei fod yn credu oddiwrth y gohebiaethau a dderbyn- iwyd yn ddiweddar o Madagascar y gellir cyfarfod yn foddhaus a'r amgylchiad a gymerodd le yn Tamatave gan ysbryd cyfeillgar y ddwy wlad. Dywedodd Mr Ashley mewn atebiad i gwestiwn gan Mr Yorke, fod hysbysiad wedi cyrhaedd y prydnawn hwnw cddiwrth Syr Henry Bulwer, yn dyweyd fod tystion credadwy yn datgan eu bod wedi gweled Cetewayo yn fyw. Yn mhwyllgor cyflenwad protestiodd Mr J. Morley yn gryf yn erbyn mcddianiad hir-barhaol o'r Aipht, yr hyn oedd yn creu teimlad o anymddiriedaeth yn mysg Galluoedd mawrion Ewrop. Eglurodd Mr Gladstone nad oedd yn mwriad y Llywodraeth i alw ein milwyr o'r Aipht nes cwblhau y trefniadau angenrheidiol er sicrhau ar seiliau cedyrn hedd- weh i'r wlad hono.
TY YR ARGLWYDDI.-DYDD GWENER.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI.-DYDD GWENER. Hysbysodd larll Granville i Ardalydd Salisbury nas gallai roddi hysbysrwydd o fanylion y goheb- itiethau a dderbyniwyd o Madagascar yn awr. Nid oedd Llywodraeth Ffrainc wedi derbyn y gohebiaethau ar y mater hyd yn hyn. Credai efe y gellid terfynu y mater yn foddhaol a therfynol. Aeth y Ty wedi hyny yn bwyllgor ar Fesur Dal- iadau Amaethyddol (Lloegr).
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Gofynodd Mr H. Richard i'r Is-ysgrifenydd Tramor a allai efe roddi hysbysrwydd i'r Ty o berthynas i'r negeseuaethau a China yn nghylch Opium, y rhai a gerid^yn mlaen er y fiwyddyn 1876. Dywedodd Arglwydd E. Fitzmaurice mewn atebiad mai yr unig hysbysrwydd oedd ganddo i'w roddi i'w gyfaill anrhydeddus ar y mater oedd, fod y negeseuaethau yn myned yn mlaen, fel yr hysbysodd y Ty Ebrill 3ydd. Yr oedd cynygiad wedi ei wneyd gan Lywodraeth China, ac yr oedd Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi dangos ei pharod- rwydd i'w dderbyn ar delerau neillduol. Gwnacd cynydd boddhaol gyda Mesur Llygredigaethau mewn Etholiadau yn yr eisteddiad boreuol, a bnasid wedi gallu gwneyd mwy oni bai am y rhwystr a daflwyd ar ei ffordd gan Mr Warton.
TY Y CYFFREDIN.—DYDD SADWRN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN.—DYDD SADWRN. Dadleuwyd gan Syr Hardinge Giffard ac ereill, dros adileu y rheolau newyddion i Uchel-lys Barn, a basiwyd y fiwyddyn hon, ond methasant yn eu hamcan, gan nad oedd un prawf wedi cael ei wneyd yn erbyn y rheolau newyddion, fel y sylwai Mr Morgan Lloyd. Pan ddaeth Mesur Methdal- iad ger bron, penderfynwyd, ar gais Mr Gladstone, fod y cais i'r Mesur gael ei estyn i'r Iwerddon i'w daflu hyd y Senedd-dymhor nesaf.
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD LLUN.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD LLUN. Wrth ymdrin a Mesur Daliadau Amaetbyddol Ysgotland, pasiwyd y gwelliant, ar gynygiad Due Argyll, a phrctestiad yn erbyn hyny gan Ar- glwydd Carlingfcrd, i'r perwyl nad oedd y oym- hwysderau cynenid a berthynai i dir i gael ei gyfrif yn mysg y gwelliantau gan y tenant. Dar- llenwyd Mesur Llygredigaethau mewn Etholiadau y waith gyntaf.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Rhoddodd Mr Dillwyn rybudd o'i fwriad i gynyg yn gynar yn y Senedd-dymhor nesaf, fod yr Eglwys yn Nghymru i gael ei dadgysylltu oddiwrth y Llywodraeth. Mewn atebiad i Mr McArthor, dywedodd Arglwydd Fitzmaurice, nad oedd y Lljrwodraeth wedi derbyn eto oddiwrth yr awdurdodau Ffrengig hysbysrwydd yn nghylch y cyhuddiadau yn erbyn Mr Shaw, ond fod rheswm ganddynt i gredu ei fod yn cael ei gyhuddo gan y Llyngesydd Ffrengig o'r hyn a ystyriai ef yn drosedd difrifol. Yr oedd Llywodraeth Ei Mawr- hydi mewn gohebiaeth a Llywodraeth Ffrainc ar y mater.
CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN.
News
Cite
Share
CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN. YMADAWIAD MINTAI 0 GENADON I CHINA. Mae y gymdeithas uchod yn anfon allan bedwar cenadwr y mis nesaf i China, sef y Parchn Dr Mackenzie, J. Gilmour, M.A., G. H. Bonfield, a'n cydwladwr y Parch W. Hopkin Rees, o Gwmafon, Morganwg. Mae Dr Mackenzie yn myned i Sientsin, Mr Bonfield i Amoy, a Mri Gilmour a Rees i brifddinas yr ymherodraeth Chineaidd—Peking. Y mae Mri Gilmour a Mackenzie wedi bod allan o'r blaen, ac yn awr yn dychwelyd i'w hen feusydd; ond recruits yw y ddau frawd arall. Dydd Llun, Gorphenaf 23ain, yr oedd eu eyfarfod ymadawol yn y Ty Cenadol, yn Llundain. Yr oedd yr adeilad eang yn orlawn o bobl a gymerent ddyddordeb mawr yn yr achos godidog hwn. Dengys enwau y rbai oedd yn bresenol fod dynion o safleoedd anrhydeddus iawn yn bleidiol i'r achos hwn. Yn mysg y rhai oedd yn bresenol oeddynt yr Arglwyddes Reed a'i merch; Mrs Bloomfield; Mrs G. John, China; Parchn Doctoriaid Bevan, Hitchen, Kennedy, a Mawbey, Hankow, China W. Justin Evans, J. Gilfillan, S. Hebditch, W. Roberts, B.A J. Guinness Rogers, B.A., W. Tyler; Mri J. Viney, Y.H., J. White- house a E. H. Jones (Ysgrifenyddion), Henry Wright, Y.H., S. R. Scott, Y.H., F. White, Y.H., A. Hubbard, Y.H., H. Mason, A.S., H. Lee, A.S., A. Spicer, Y.H., Syr Risdon Bennett, M.D., Mri O. White, Y.H., C. G. Mundie, F.R.G.S., W. Lockhart, L.R.C.S., A. Marshall, G. H. Wren, &c. Dynsi ychydig o'r cwmni anrhydeddus. Am 6 o'r gloch, dechreuwyd trwy ganu emyn Cenadol, a'r Parch T. Brockway, o Madagascar, yn chwareu ar yr organ. Cymerwyd y gadair gan Mr A. Hubbard, Y.H., Cadeirydd y Bwrdd am y flwyddyn; a gwedd'iwyd yn doddedig a dylanwadol gan ein cydwladwr, y Parch W. Justin Evans (brawd Herber), Dalston, Llundain. Yna cafwyd araeth for a chall gan y Cadeirydd, ac areithiau byrion gan y pedwar Cenadwr oedd yn ymadael. Yna traddodwyd yr anerchiad ymadawol iddynt gan y Parch J. G. Rogers, B.A. Yr oedd yr anerchiad hwn yn odidog iawn. Nid oes dim gwael yn dyfod oddiwrtho ef un amser, ond yn yr anerchiad hwn yr oedd braidd wedi rhagori arno ei hunan. Ar ol hyn, cyflwynwyd y brodyr i ofal ac amddiffyn y Nef mewn gweddi efleithiol gan y Parch W. Spensley. Ar ol i'r Parch E. H. Jones wedd'io yn mhellach,terfynwyd y cyfarfod, a phawb yn dymuno yn dda ac yn ysgwyd llaw ar brodyr. Bydded i Dduw eu hamddiffyn a' a llwyddo yn eu meusydd, fel y byddont yn offerynol i ddwyn llawer o eaeidiau i ofal y Ceidwad. Yr ydym yn deall fod Dr Mackenzie wedi cychwyn eisoes. Bydd y tri ereill yn cychwyn ar yr 20fed o Awst yn yr un agerlong. B. R.
Advertising
Advertising
Cite
Share
SING WELL SPEAK WELL — Doughty s Voice Lozenge has been gratefully appreciated by thousand's of clerical, musical, and other eelubrities for nearly 40 years. It imparts to the voice clearness of sound and brilliancy of tone, JENNY LrsD.—" I have much pleasure in confirming, as far as my cxpcricnec extends, the testimony already so general in favour of the Lozenges prepared by you (Miles Doughty). Gd,ls,2s!!d, 5s, and lis—post free, 7d, Is 2d, &c Ask your Chemist for them.— F.N EAVliKKY audSONF, 1, King Edward- street, Loudon, E.C. lislabiyied A.D,1746.
----------_.I' Cyfarfodydd,…
News
Cite
Share
I' Cyfarfodydd, &c. LLANDYSSUL.-Nos Fawrth, Awst 7fed, tiaddol- odd y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, ddarlith odidog yn nghapel yr Annibynwyr ar Opium, &c. Cymerwyd y gadair gan y Parch T. P. Phillips. CASTELLNEWYDD EMLYN. Talodd y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, ymweliad a'r He, ac yn Ebenezer nos Fercher, Awst Sfed, traddododd ddarlith nad anghofir yn fuau ar y fasnach mewn Opium. Cymerwyd y gadair gau Mr J. Evans, Eralyn Castle. ABERTEIFI.-Nos Iau, Awst 9fed, cafodd cynul!- eidfa barchus a lluosog yn Nghapel Mair y pleser o wrando y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, yn trin gyda deheurwydd y fasnach mewn Opium a orfodir ar China gan Loegr. Cymerwyd y gadair gan y Parch G. Hnghes. NURSTON. Nos Lun, Awst 13e?, traddododd y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, ddarlith ar Opium, yn nehapel yr Annibynwyr. Siaradodd y darlithydd yn Gymraeg a Saesoneg. Afraid dyweyd dim am y ddarlith na'r darlithydd, ond ei fod yn siarad mor llithrig a hyawdl yn y naill iaith fel yn y llall. Cymer- wyd y gadair gan Mr W. Jenkins, Rouse. Mynediad i mewn swllt yr un, yr elw at ddyled y capel. Cafwyd ilon'd y capel o gynulleidfa. TY'NYCOED.-Darlith. — Bu y Parch O. Jones, Pwllheli, ar ymweliad a'r gymydogaeth yma yn ddi- weddar, a thraddododd ei ddarlith ar ei ymweliad a gwlad Canaan, nos Iau, Gorphenaf 26ain, yn ysuoldy Abercrave. Cymerwyd y gadair gan Mr J. D. Evans, Ystalyfera. Cafwyd boddhad mawr yn mhob ystyr. BRYMBO.-Sabboth a LIun, Gorphenaf 29ain a'r 30ain, cynaliwyd cyfarfod blynyddol Brynseion, Brymbo. Cafwyd tair oedfa y Sabboth a thair ddydd LIun, pryd y pregethwyd gan y Parchedigion R. Thomas, Penrhiwceibr; R. Roberts, Rhos; a J. Thomas, D.D., Liverpool. Cafwyd cynulleidfaoedd mawrion, yn enwedig am 2 a 6 y ddau ddiwrnod. Heblaw y gweinidogion uchod, yr oedd hefyd yn bres- enol y Parchedigion J. H. Hughes (Ieuan o Leyn), J. M. Jones, Caergwrle; W. Hopkin Rees, Llechryd (gynt), a'r Parch J. Roberts, gweinidog y lie, yr hwn yr oedd yn dda gan bawb ei weled mor gryf.—Cyfaill. TABERNACL, ABERA.FON.—Sul a Llun, Gor- phenaf 29ain a'r 30ain, cynaliwyd cyfarfod blynyddol yr eglwys uchod. Yr efengylwyr eleni oeddent y Parchn O. Owen, Penybont ar-ogwy T. R. Williams, Dowlais a R. Rowlands, Aberaman pa rai a ddaeth- ant i'n plith a. "chyflawnder bendith Efengyl y tang- nefedd." Bu yr eg-lwys yr wythnos flaenorol yn un ag yn gytun ger bron Duw yn dymuno am iddo ddanfony Dyddanydd arall i'r wyl, a chredwn iddo ddyfod. Teimlem ei fod yn argyhoeddi'r byd o bechod, o gyf- iawnder ac o farn. Yr oedd yno odidowgrwydd gallu," yr hwn nis gallai fod o neb ond o Dduw, a siomir ni yn fawr os na welir ffrwythau addas i edifeirwch, yn cael eu dwyn mewn canlyniad. Cafwyd cynulliadau lluosog, a chasgliadau rhagorol. Gweithiodd yr eglwys y tro yma yn llawer gwell nag arferol. Cyn y bydd y llincll- au hyn o flaen y cyhoedd, dysgwylir y bydd ffrwyth arianol y cyfarfod yn £80. Ystyriwn hyn yn gampus mewn ardal sydd a'i phrif fasnach (alcan) yn liepian er's cymaint o amser. Mae yr eglwys wedi adnew- yddu ei hieuenctyd fel yr eryr," igydag adfe:iad ei pharchus weinidog o'i gystndd trwm. Bn yn ofni y byddai iddi ei golli yn ngwres y cariad cyntaf, ond trwy ddaioni'r Arglwydd y mae heddyw yn mwynhau cyflawn iechyd. Hyderwn fod iddo eto flynyddau lawer o nerth cortforol a meddyliol i'n bugeilio yn yr Arglwydd, ac arwain lluaws o gyfeiliorni eu ffyrdd at y gwir a'r bywiol Dduw.-Afan. YNYSGAU, MERTHYR. Cynaliwyd te-parti blynyddol yr Ysgol Sabbothol yn y lie uchod, dydd Llun, Awst 13eg, a chafwyd cyfarfod cystadleuol yn yr hwyr, pryd y gwobrwywyd y personau canlynol Traethawd, Bywyd Teilwng o'r Efengyl," David Richards. Adrodd Beth yw siomiant," Thos. Jones a John Thos. Edwards yn gyfartal. Adrodd Cariad Mam," Sarah Thomas. Darllen dernyn ar y pryd, Benjamin Davies. Sillebu, David Edwards, a rhodd- odd Abram Fardd bob i lyfr i'r ymgeiswyr ereill. Ysgrifenu y Salm gyntaf, Rosser Beynon Lewis. Ateb chwech o gwestiynau ar hanes Abraham, Benjamin Davies. Datganu y d6n "Hendre" {Ail lyfr), parti John Williams. Tenor, "Mi glywais yr adar yn canu" (Mordaith Byivyd), Joseph Charles Jones Bass, Teyrnasoedd y ddaear," Edward Beynon. Soprano, "Yr Eneth Ddall" (Dr Parry), Mary Ann Roberts. Alto Dacw Gymru yn y golwg (Ceinion y G&n), Henry Richards. I'r hwn dros 40 mlwydd oed a ganai yn oreu Pen Nebo (Ail Lyfr), Isaac Griffiths a John Williams yn gyfartal. Amy drawing goreu o Workman's Cottage, David Griffiths. Am y par o hosanau, Maggie Roberts. Y Beirniaid oeddynt: -Traethodall, Abraham Fardd. Adroddiadau, &e." Alaw Tydfil ac Abram Fardd. Canu, W. Hughes, Bryn Seion, Dowlais. Drawing a'r hosanau, Miss Jenkins, Abermorlais School, Merthyr. Llywyddwyd gan Evan Owen, arolygydd parchus yr Ysgol yn y lie.
Advertising
Advertising
Cite
Share
CANWCH YN DDA SlAEADWCH YN DDA!- Mae Doughty's Voice Lozenge wedi cael ei werthfawrogi yn fawr gall glerigwyr, cantorion, ae enwogion ereill am yn agos i 40ain mlynedd. Rliydd glirdcr a gloewder i'r llais JENNY LIND.—" Y mae yn bleser mawrgenyf, mor bell ag v ma?! ty mhrotiad yn myned, i gadarnliau y dystiolacth sydd mor gyifrcdmolyu Hair y Lozenges a barotoir genyoh elrwi" (Miles Doughty). fe, 13, 2s Ge. 53. a lis-yn rhydd trwy y llythynly, 7e, Is 2c, &c. Gvfynweh rcli Cyfteryddain danynt—^EAVDiil; Y a'i l-'JiJUIOX 1, UKing Edward-street, Llundain, E.G. Scfydhvyd yn v fiwyddyn 1746. J