Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Cyfarfodydd, &c.

News
Cite
Share

Cyfarfodydd, &c. CILGWYN.—Nos Sadwrn a dydd Sul, Gorphenaf 28ain a'r 29 lin, cynaliodd yr eglwys uchod ei gwyl flynyddol- Gwasan'aethwyd gan y Parchn Mr Jones, Tabor Mr Williams, Waunfawr; a J. Bcynon Davies, Talysarn. DRWSYCOED. — Ail-agorwyd capel Drwsycoed dydd Sul, Gorphenaf 29iin, ar ol ei adgyweirio a'i baentio. Y mae gan bobl Drwsycocd "galon i weithio," ac y maent yn credu y dylai y DUA> dynodd gynllun y Demi gael ei addoii mewn teml hardd- Gweinyddwyd gan J. Beynon Davies, Talysarn. Y mae y ddwy eg- Jwys yma mewn undeb a'u gilydd, a da genym allu dyweyd fod golwg lewyrchus ar achos y Gwaredwr yn y ddau le- Yr Arglwydd fyddo yn ogoniant yn eu c-inol, ac yn fur o dan o'n hamgylch.—Ymwclydcl. PEMB RE. Cynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn Carmel nos Sadwrn, Gorphenaf 28iin. Wedi cael an. erchiarl gan y cadeirydd awd trwy y rhaglen, mewn canu, areithio, traethodi, a barddoni. Clorianwyd y cerddorion gan Mr Henry Griffiths, Aberdar, a'r traeth- odwyr, &c., aan y Parch D. Evans, Burry Port. Caf- wyd cyfarfod dyddorol ac adeiladol iawn.-Gohebycld. YNYSOWEN.—Cynaliodd yr eglwys Ant ibynol yn y lie uchod « chyfarfodydd blynyddol dydd Sul a Llun, Gorphenaf 29ain a 30ain. Pregethwyd y Sabboth gan y Parchn J. Thomas, Soar, Merthyr; D. Onllwyn Brace, Ystalyfera a Hywel Cynon, Aberaman. Nos Lnn pregethvvyd gan y Parchn G. Williams, Libanus, a — Williams, Salem, Merthyr. Cafwyd cyfarfodydd a hir gofir, a chasgliadan da y cenadau ar eu huchel fanau, a chalon gan y bobl i roddi — Gomcr. BETHEL, MYNYDDISLWYN-Cynaliwyd cyf- arfod blynyddol yn y lie uchod dydd Llun, Gorphenaf 30ain. Yn y boren dechreuocld y Parch D. Williams, Brynmawr, a phregethodd y Parchn J. Thomas, Mer- thyr, a D Silyn Evans, Aberdar. Yn y prydnawn dechreuodd J. C. Williams, Risca, a phresethwyd gan y Parchn J. Thomas yn Saesoneg, a Mr Evans yn Gymraes. Yn yr hwyr dechreuwyd gan y Parch T. J Hughes, Maesycwmwr, a phregethodd y Parch D. LI. Williams, Machen, yn Saesoneg, a Mr Evans a Mr Tho- mas yn Gymraeg, a diweddwyd trwy weddi gan y Parch T. D. Evans, Victoria. Cafwyd cyfarfodydd gwir dda, yr hin mwyaf dymunol, cynulleidfaoedd lluosog, a'r Nefoedd yn gwenu trwy nerthu y gweision i gy- hoeddi cenadwri yr Efengyl gydag arddeliad neillduol nes peri llawer calon i lawenychu a bendithio Duw, Hyderwn y ceir gweled cynhauaf toreithiog yn fuan oddiwrth yr had da a gwerthfawr a hauwyd yma.-T. ap Gwilym- BETHANIA, CWMOGWY.-Dydd Llun wythnos i'r diweddaf cynaliwyd gwyl de perthynol i'r eglwys uchod. Eisteddodd dros bedwar cant i fwynbau eu hunain. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd ardderchog gan gor Carmel, Maesteg, y rhai a roddasant eu gwas- anaeth yn rhad, ond yn unig darparu dau gerbyd i hebrwng rhai o'r merchyd a'r plant. Cafwyd capelaid llawn o bobl i wrando ar ddatganiad darnau fel y medr cor Carmel wneyd, o dan arweiniad eu blaenor galluog, Mr Philip Morgan, i'r hwn y mae clod yn ddyledus am ddylanwadu ar ei gor i wneyd gwasanaeth mor werth- fawr i gynorthwyo eglwys fechan yn eu hymdrech o dan faich o ddyled. Ni raid dyweyd fod yr eglwys yn ddiolchgar, na chwaith fod y cyngherdd wedi rhoi boddlonrwydd cyffredinol- JRhwng y cyfan gwnaed swm go lew o arian. Da genym allu dyweyd fod yr achos goreu yn myned yn'mlaen ar gynydd. Y Sab- both diweddaf ychwanegwyd un-ar-ddeg at yr eglwys —wyth o'r newydd, dau trwy lythyrau, ac adferyd un. —Cyfaill. CARMEL, CENDL.—Gorphenaf 29ain, cynaliwyd yn y lie hwn gyfarfod adroddiadol dyddorol a llwydd- ianus perthynol i'r Ysgol Sabbothol. Yn y boreu am J 9.30 bu cyfarfod gweddi ar ran ynys Madagascar, yn y pryder a'r perygl y teflir y wlad hono iddo y dyddiau preseno). Am 10.30 dechreuwyd y cyfarfod adrodd- iadol trwy i G. Evans adrocld Salm xiii. Gweddiodd John Morris, myfyriwr rhoddwyd anerchiad gan W. Griffiths, gweinidoor yr eglwys, ar natur ac amcan y cyfarfod. Wedi ton gan y cor, adroddwyd 'Where is rest' gan S. G. James What is death gan Sarah A. Jones 'iGeogre and his guinea' gan W. J. Davies ton gau v plant, Jewels,' o Moody and Sankey ad- roddiad Be polite' gan M. A. Mason; ton 'Whiter than snow' gan y cor; adrodd 'Enwau y Deuddeg Apostol' gan M. A. Griffiths; Yr Ysgol Sul' gan R. Davies Little by littte gan W. T. Jones Anerch- iad casglu gan C. A. Davies a'r d6n Pull for the shore gan y cor. Am 2 y prydnawn-adrodd Salm i. gan D. J. Evans; gweddïwyd gan Mr W.Daniel Jones; t6n gan y cor adrodd 'Consecration' gan W.T. Jones; Always speak the truth gan W. J. Rees Child's thank-offering to God gan Edith Griffiths; solo gan Mr R. Watkins adrodd The best nse of a penny' gan S. A. Edmunds The ear of corn gan R. Davies, E. Davies, D- J. Evans, a G. Evans; pryddest ar Gal- faria' gan VV. Harris, W. Griffiths, H. Parry chorus Oar faith our hope gan y cor-yn y ( on hon cafwyd anorchiad pwrpasol yn anog pawb i ymdrechu gyda'r Ysgol Sul gan David Davies, Ysw., Adelaide, Awstralia. Llawenydd m'awr oedd gan yr holl gynulleidfa gael y pleser o weled Mr a Mrs Davies, a'u teulu parchus oil. Efe yw y boneddwr caredig y soniodd y Parch W. Nicholson am dano yn ei ysgrifau dyddorol o Awstralia. Cendl ydyw hen artref Mr a Mrs Davies, ac effeithiol iawn y cyleiriodd at y teimladau cysegredig gyda pha rai y daethai yn ddiweddar i olwg yr hen ardal, ao yn arbenig cape! Carmel, a'r fynwent lie y gorphwys llwch anwyliaid a pherthynasau agos iddo ef a'i briod. Peth bendigedig yw fod dyn y byddo Rhagluniaeth yn ei ddyrchafu a'i lwyddo mor uodedig ag y gwnaeth i'r boneddwr hwn, iddo yntan ddal yn ei ffyddlondeb a'i gel grefyddol, ac yn d'od yn ol a'i grefydd yn addurn penaf ei fywyd. Rhoddodd anerchiad gallneg a thodd- edig Mr Davies wi't s a bywyd i'r cyfarfod. Yna can- odd Mrs Price, Post Office, solo, a'r cor yn uno yn y chorus, adrodd'Beth ddaeth o'r Amen' gan M. A. John Jesus died for me gan S. A. Jones; Sister's last words gan M. A. Griffiths Truth gan M. A. Davies; acweditonganycor diweddwyd cyfarfod y prydnawn trwy weddi gan Mr D. Davies. Ac 6, dech- reuwyd trwy adroddiad Salm xxiii. gan R. Davies, a Salm exxxiv. gan Willie Jones. Wedi canu emyn gweddiodd Mr J. M. Phillips; adrodd 'The child's desire gan Jennet Williams; Teitlau Dwyfol Crist' gan J. A. Jones Y Gyfeillach gan Mri J. Jones, S. Dovenalt, G. Phillips, W. Harris, J. Roes, J Jones, T. E Davies, D. Morris, a W. Rogers; wedi hyny adrodd- iadau gan M. A. John, Elvira Jones, S. James, Ann Davies a'i chwiorydd, a E. Davies; can gan Mr G. Phillips, ac anerchiadau pwrpasol gan J. Morris, W. D. Jones, a Mr Davies eto. Gwnaed casgliad da tuag at dreuliau yr Ysgol Sabbothol yn mhob cyfarfod. Aed o gylch y capel i dderbyn y rhoddion gan amryw o'r bon- eddigesau ieuainc, ac edmygwn yn fawr eu parodrwydd i wneyd hyny, ac yr ydym yn sicr iddynt hwy wneyd y casgliad mor llwyddianus i fesur helaeth. Cafwyd cyf- arfodydd da ar hyd y dydd, Llywyddwyd gan y gwein- idog, a bernir fod yr oil wedi terfynu yn hyfryd a dy- munol. Mae yma dyrfa fawr o ieuenctyd, ac yn ym- ddangos yn teimio bias mewn gweithio gyda'r Ysgol Su'. Carem yn fawr eu gweled yn aelodau cyflawn o Eglwys Dduw yn fuan. Yr ydym wedi colli llawer yn ddiweddar trwy angeu—un brawd y teimlid yn chwith iawn ar ei ol, a gwelid ei le vn wag yn y cyfarfod bwn, sef ein hanwyl frawd Evan Morris, yr hwn a symndwyd o'n mysg trwy angeu pur sydyn. Wrth derfynu dy- munwn ymweliad grymus gan Ysbryd yr Arglwydd i lanw y bylchau a wneir fel hyn yn ein mysg. Yn wir, efe sydd yn rhoi i arolygwyr ac athrawon ein H ysgo I y llwyddiant neillduol a welwyd yn ffrwytho mor bryd- ferth yn y cyfarfodydd hyn. Deued yn nes eto. SCIWEN.—Yn nghapel v Tabernacl, nos I;iu, Awst 2il, traddododd y Parch D. Jones, B.A, Abertawy, ddarlith ar Opium, &c., nad anghofir yn fuan gan y rhai a'i chlywsant. Cymerwyd y eadair gan S. T. Evans, eyfreithiwr. Pasiwyd penderfyniad anghymeradwyol o'r drafnidaeth, ar yr hwn y siaradodd Mr Morgan, y gweinidog newydd, Mr J. Evans, ac ereill. ELIM, MYNYDD CYNFFIG.-Ba y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, yn traddodi ei ddarlith ragorol ar fasnach yr opium. Wedi gwrando y ddarlith yr oedd y lie yn teimlo y dylasai pethau y ddarlith gael eu gwneyd yn hysbys drwy'r wlad yn gyffredinol, ac fod pethau ereill yn e:n gwlad ag y dylai rhywun fel Mr Jones eu cymeryd i fyny i ddysgu y wlad ynddynt. Mawrth a Mercher, Gorphenaf Slain ac Awst laf, oedd y dyddiau y cynaliodd yr eglwys hon ei chyfarfod- ydd blynyddol, pryd y pregethwyd gan y Parchn D. Jones, B.A., Abertawv; J. Thomas, Merthyr; a Trevor Jones, Pant-teg. Cafwyd cyfarfodydd neillduol o dda.

Galwad.

Family Notices

CENADAETH TANGANYIKA.