Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

YMTLON Y FFORDD.

News
Cite
Share

YMTLON Y FFORDD. Nos Sadwrn, Avist 4ydcl. MAE yn y Diwygiwr am y mis hwn ysgrif arweiniol ar fater sydd wedi bod lawer gwaith ar fy meddwl, ac yr wyf fwy nag un- waith wedi ei awgrymu fel testy n eymhwys zn i gael papyr arno. Y PREGETHWK FEL GWEANDAWE. Nid felly yn hollol y mae efe yn ei eirio ond dyna yr ystyr. H Y pregethwr yn gwrando, a'r gwrandawr yn pregethu." Oswcl y mae yr ysgrifenydd yn galw ei hun. Nis gwn pwy ydyw, ac nid gwaeth genyf am wybod. Bydd yn dda genyf ddarllen ysgrif lieb wybod pwy yw yr awdwr oblegid y mae hyny yn help i'w darllen heb ragfarn na phartiaeth. Mae yn yr ysgrif yma lawer o sy I wadau rhagorol. Yn wir, y mae yr ysgrif drwyddi yn gref a gonest, ac eto yn hollol foneddigaidd. Haedda sylw arbenig preg- ethwyr, oblegid y mae gan rai ohonynt lawer eto i'w ddysgu fel gwrandawyr. Beth bynag a ddywedir am ragoriaethau yr hen bregethwyr, a'u cymeryd fel dosbarth, y mae y to presenol yn tra rhagori arnynt fel gwrandawyr. Yr oedd rhai o'r hen bregeth- wyr yn wrandawyr truenus, a rhai o'r rhai IHwyaf awyddus am hwyl eu bunain, ni roddent ddim help i neb arall i gael hwyl ac y mae ychydig nifer o rai cyffelyb iddynt eto yn aros. Gwelais fwy nag un oedfa yn cael ei handwyo trwy wrandawiad annheil- wng nifer o bregethwyr a gwelais cyn hyn bregetliwyr yn cario cynulleidfaoedd ar waethaf nifer o weinidogion a eisteddent o gylch y pwlpud. Mae rhai a wrandawant yn astud, ac a wenant yn gymeradwyol, ac a ysgydwant eu penau yn ddynodiadol, gyda rbyw fFafriaid sydd ganddynt hwy, er na byddo dim nodedig yn yr hyn a ddy wedant; ond edrychant yn ddigon digyffro, ac yn ami yn ddiflas, pan y traddodir pethau llawer gwell, ac mewn dull llawer mwy dyddorol gan creill na ddygwyddo fod yn eu ffafr hwy. Ni ddylai y pethau hyn fod felly. Dylai yr Efengyl gael ei gwrando er ei mwyn ei hun, ac nid yn ol ein teimlad at y pregethwyr, a dylai pregethwyr fod yn esiamplau fel gwrandawyr ac fel y dywedodd un, y dylai pregethwyr sal fod yn wrandawyr da, er fel rheol y pregethwyr salaf yw y gwrandawyr salaf. Byddai yn werth i bregethwyr ddar- llen yr ysgrif yma yn y Diwygiwr, er fod yn ddigon tebyg na bydd neb wedi ei darllen yn meddwl fod dim a fyno ag ef. Anhawdd iawn yw ein cael i weled ein hunain fel y mae pobl ereill yn ein gweled. Estynwyd i'm llaw yr wythnos hon gan y cyhoeddwr—Mr William Hughes, Dolgellau -y gyfrol gyntaf sydd wedi ei chyhoeddi o ESBONIAD YR YSGOL SABBOTHOL, o dan olygiaeth y Parch D. Oliver, Tre- ffynon, ac y mae y gyfrol hon ar Efengyl Marc gan Mr Oliver ei hun. Nid oes raid dyweyd dim wrth ddarllenwyr y TYST am Mr Oliver fel esboniwr, oblegid y maentbob wythnos er's blynyddau yn darllen ei esbon- iadau gwerthfawr ar y Wers a gwn ei bod yn cael ei gwerthfawrogi gan ganoedd yn fwy na dim a geir yu ei golofnau. Y TYST oedd y eyntaf yn N ghymru a ddechreuodd gyhoeddi y Wers, a Mr Oliver o'r dechreuad sydd wedi cyilawni hyn o orchwyl, a chlyw- ais rai sydd yn darllen amryw o esboniadau Seisonig ar y Wers bob wythnos yn dyweyd, fod eiddo Mr Oliver i fyny a'r goreu ohon- ynt. Mae ganddo fedr neillduol at byn, heblaw ei fod wedi ei wneyd yu destyn ei efrydiaeth arbenig. Hwyrfrydig iawn ydyw y rhan fwyaf yn Nghymru eto i fabwysiadu y Wers, a hwyrfrydig fyddant hyd nes y daw llawer mwy o barotoi ar gyfer y dosbarth cyn myned iddo nag y sydd. Treulir amser I hir i siarad ac ymddadleu gyda phethau ar- wynebol, oblegid nad yw y dosbarth wedi darllen a chwilio yn flaenorol i'r ad ran sydd i fod dan sylw, a myned i mown i'w hysbryd. Gwna ambell ddosbarth fost nad ydynt byth yn myned trwy fwy nag un adnod ond nid yw hyny, fel rheol, yn ddim ond prawf fod llawer o amser gwerthfawr yn cael ei dreulio yn ofer. Da gonyf ddeall fod y Wers yn enill ffafr yn raddol, yn enwedig yn mysg y bobl ieuainc, a'r rhai sydd yn cymeryd tipyn o drafferth i ddeall yr hyn a ddarllenir. Mae Esboniad Mr Oliver ar Efengyl Marc wedi ci gyhoeddi yn gyfrol dlws, pris haner coron a bwriada y cyhoeddwr os ceir y derbyniad a ddylid i'r gyfrol hon, i gyhoeddi .cyfrolau cyffelyb ar yr oil o'r Testament Newydd. Bydd y cwbl yn cael eu dwyn yn mlaen yn ol yr un cynllun, o dan olygiaeth Mr Oliver, ond, fel y deallaf, gyda chy- northwy amryw weinidogion galluog a dysg- edig sydd wedi addaw cymeryd llyfrau neillduol. Mae y gyfrol yma yn dechreu gyda thraethawd byr, ond tra chynwysfawr, ar neillduolion yr Efengyl yn ol Marc. Nis gwn beth yn ychwaneg a allasai ddyweyd, 1 Z:3 pe wedi ei chwyddo yn dri cbymaint. Yna y mae yr Efengyl wedi ei rhanu yn rhyw 48 o Wersi, pob gwers yn gyflawn ynddi ei hun. Dynodir pob gwers a'i thestyn, a blaenorir hi gan ragarweiniad eglurhaol, yr hyn sydd bob amser i'r pwynt. Yna esbonier yr adnodau bob yn un ac un, yn y modd mwv- af syml a dealladwy. Dilynir yr eglurhad gan wersi naturiol a chymhwysiadol; ac ar derfyn pob gwers y mae rhestr o ofyniadau, y rbai y gall yr athraw eu rhoddi i'w ddos- barth; a cheir yn yr esboniad a roddwyd yn flaenorol, ond ei ddarllen yn ofalus, atebiad i'r holl ofyniadau. Nid wyf yn meddwl y cynygiwyd erioed well esboniad at wasan- aeth yr Ysgol Sahbothol, oblegid cyinerir pob help oddiwrth bethau gorou yr esbon- wyr diweddaraf. Os bydd y eyfrolau dilynol i fyny a'r esboniad yma ar Marc, bydd y gwaith pan y cwblheir ef yn drysor an- mhrisiadwy i'n cenedl; ac os na roddir der- by niad helaeth iddo, profir fod dirywiad mawr yn awydd yr oes am wybolaeth Ys- grythyrol a chrefyddol. Mae mwy nag un wedi anfon ataf, ar ol I yr ymddyddan a fu mewn rhai cynianfaoedd yr haf hwn, aiii GYFEILLACHAU CBE B'YDDOL i ymholi pa fodd i'w gwneyd yn fwy effeithiol. Mae y gyfeillach, neu y seiat, fel ei gelwir, wedi dyfod yn sefydliad cyffredinol yn mysg pob cnwad yn Nghymru. Er mai un o sefydliadau Methodistiaeth ydyw, wedi ei chychwyn yn wres teimladau crefyddol y ddeunawfod ganrif, eto y mae pob enwad agos wedi ei mabwysiadu mewn rhyw ffurf ami, er mai y "ewrdd eglwys a'r "cwrcld parotoad ydyw prif gynull- iadau eglwysig amryw o'r hen eglwysi Ymneillduol hyd y dydd hwn. Un o'r pethau y mae pob gweinidog y bum yn siarad ag ef ar y mater yn ei deimlo yn anhawdd ydyw, pa fodd i ddwyn y cyfeill- achau hyn yn mlaen yn ddyddorol ac yn adeiladol. Nid yw ond ofer ceisio eu cynal yn gyfarfodydd i ddyweyd profiad pan na byddo profiad i'w ddyweyd. Rhaid eu cyfaddasu i'r amgylchiadau, ac nid yw o un dyben ceisio eu parhau fel y gwnai ein tadau i roddi bywyd ynddynt. Fel hyn yr ysgrif- ena un eyfaill ataf, yr hwn sydd yn cymeryd cryn ddyddordeb yn y mater-" Nis gwn beth yw eich societies chwi yna, ond fy idea i am society ydyw, y dylai fod yn un adclysgol, Nid oes genym ond yr Ysgol Sul i ddysgu egwyddorion, a thipyn ar ol ydyw hono i gyrhaedd ei hamcan. Dylai y seiat fod yn fwy fel class yn yr ysgol, a phwnc wedi ei roddi iddi yn flaenorol, naill ai adnod neu athrawiaeth. Yn sicr i chwi, y mae ein heglwysi yn lied bell yn ol mewn deall egwyddorion crefydd. Mae y pregethu sensational sydd yn ein plith wedi andwyo yr eglwysi Cymreig i sylweddau crefydd. y 0 Nid oes dim a wna y tro os na bydd digon o sensationalism ynddo, nac un brogeth hob hyny yn werth dim gan lawer. Dylai y seiat gael ei gwneyd yn gyfarfod i wreiddio" y bobl, yn enwedig y bobl ieuainc yn yr eglwysi, yn athrawiaethau crefydd. Yr wyf yn meddwl nad wyf yn ivrong pan ddywedat nad yw ein pobl ieuainc yn llafurio i ddeall egwyddorion yr Efengyl, ac yr wyf yn amheu a oes gan lawer o'n gweinidogion fawr syniad pa fodd i wneyd seiat yn fuddiol, ac ar yr un pryd yn ddyddorol. Rhoddwch air ar hyn yn yr Ymylon yr wythnos nesaf." Yr wyf yn cydolygu å'r ysgrifenydd uchod y dylai y society fod yn addysgol, ond nid hyny yn unig; a byddai yn ddrwg iawn genyf golli ohoni yr elfen brofiadol a roddodd arbenigrvvydd ami. Dylai fod amrywiaeth mawr ynddi. Ni ddylai dwy society fod yr un fath, ac ni ddylai un fod yn hollol yr un fath o'r dechreu i'r diwedd. Gadawer i bob un i ddyweyd yr hyn sydd ar ei feddwl yn ei ffordd ei hun yn unig gwneler pobpeth er acleiladaeth." Adnod, penill, sylw o'r bregeth, profiad, fely byddo, gan un. Tafler mater i'r bwrdd, weiithiau heb rybudd, a phryd arall yn ol rhybudcl blaenorol; a gofyner ewestiynau arno, yn unig gofaler fod y cwestiyiiau i dynu allan, ac nid i faglu. Gocbeler meitbder. Areith- iau hirion sydd yn lladd societies. Cadwer bywiogrwydd, fel na byddo haner mynyd yn cael ei golli; ac os na bydd neb yn dyweyd heb ei alw, galwer rhywun ar unwaith. Os bydd pethau yn flatio, caner penill byr, weitbiau o'u heistedd, pryd arall coder. Mae unffurfiaeth yn nycbu pobpeth. Rhaid i'r gweinidog, neu pwy bynag fyddo yn arwain, fod yn fywyd i gyd, a thaflu yclivdig eiriau pan welo angen, felna chaffo v gyfeillach farweiddio. Y mae cyfeillach, o'i chynal yn briodol, yn un o'r cynulliadau