Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Galwadau.
News
Cite
Share
Galwadau. PENNORTH.—Mae'r eglwys hon wedi rhoddi galwad i'r Parch John Hughes, Adulam, Tredegar, a deallwn fod Mr Hughes wedi cydsynio a'r gwahoddiad. Bwr- iadai ddechreu ei weinidogaeth yno yn ystod yr haf pressnol. NEWBOROUOH.—Mae y Parch J. Williams, Borth, Porthmadog, wedi derbyn galwad daer ac unfryiol oddiwrth eglwysi Newborough a Dwyran, Mon. Da genym ddeall ei fod yntau wedi ateb yr alwad yn gadarnhaol. Bwriada ddechreu ar ei weinidogaeth yno yr ail Sabbotb yn mis Awst BRYNMENYN, MORGANWG.—DeaHwn fod Mr D. E. Williams, Pencader, diweddar fyfyriwr o Goleg Anni- bynol y Bala, wedi derbyn galwad unfrydol oddiwrth eglwys Annibynol Brynmenyn, i weinidogaethu iddynt. Mae Mr Williams yn adnabyddus fel pregethwr galluog a chymeradwy, fel nad oes eisieu i ni ei yanmol. Ni wyddis eto pa un a" na ei hateb neu beidio, am ei fod a'i olwg tua Yale College, America. Duw a rodded iddo lygaid i weled y peth gorcu.— B.
MADAGASCAR.
News
Cite
Share
MADAGASCAR. At Olygivyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Yn y TYST am heddyw, gwclaf fod W. H. Evans, Manchester," yu gwneyd sylw an- mhriodol o'r ychyciig eiriau a ymddangosodd yn y IIYSTam Gorpbenöf 6ed yn nglyn a Madagascar. Nid anwybyddu y 4ydd vr oeddwn, mwy na'r 5ed. Gwyddwn fod Mr Griffiths wedi gwneyd mwy na'i flaenor:aid, oblegid cafodd fyw yn hwy, ac i'w lafur ef, gyda bendith Duw, y mae i ni brioJoli y llwyddiant mawr fu ar y Genadaeth yn ynys Madagascar. Nid rhoddi hanes y cenadon oadd mewn golwg genvf, ond galw sylw Cymru at y ffaith fod Ffrainc yn meddwl goresgyn yr ynys. Canlyniad o hyny fydd sefydlu Pabyddiaeth yno. Nid oedd dim yn boliticaidd yn y cwestiwn genyf, ond moesoI-am gyff roi Cymru yr oeddwn i godi ei lief at Dduw, ar ran yr ynys, mewn gweddi daer am oruwchly wodraethu, nes peri i fyddin a llynges Ffrainc gael eu galw adref. R—m—i. D-—d O-N. O.Y.—Wedi ysgrifenn yr uchod, gwelais fod Cym- deithas Genadol Llundain wedi jralw sylw at y peth, ac yn apelio yn daer ar i bob Cristion godi ei lef at Dduw ar ran yr ynys ddiamddiffyn. Gobeithio na fydd Cymrn ar ol.-D. 0.
YR YSGOL SABBOTHOL.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
YR YSGOL SABBOTHOL. Y WEES IUIYNGVVLADVýIUAETHOL. {International Lesson.) GAN Y PAECH. D. OLIVER, TREFFYNON. AWST 5ed.—Dinasoedd noddfa.—Jos. xx. 1-9. Y TFSTYN EURAIDD-—" Duw sydd noddfa a nerth i mi, cymhorth hawdd ei gael mewn cyfytigder."—Salm xlvi. 1. RHAGARWEINIOL. I ragflaenn llofrnddiaeth, ac i ddyogelu y neb a laddai ei gymydcg mewn amryfusedd, rhag cynddaredd ei erlyniwr trefnodd Duw chwcch o ddinasoedd noddfa yn Israel-tair o du y dwyrsin i'r Iorddonen, a thair o dn y gorllowin. Yn Gen. ix 5, 6, cawn fod Duw yn trefnu fod i ddyn-laddiad gael ei gosbi a marwolaetb. Yr oedd gweiuyddu y gosb hono yn perthyn i frawd neu i berthynas agosaf yr un a lofruddid. Dangosai y cyfryw un awydd penderfynol iawn yn wastad i ddial gwaed ei berthynas. Trefnodd Moses chwech o ddinas- oedd, i'r rhai yr oedd y llofrudd i ffoi am ei einioes am nodded rhag Hid dialydd y gwaed. Safai y dinasoedd hyny fel y canlyn :—Cades yn Galilea, Sichem yn myn- ydd Ephraim, a Hebron yn Judah—yr oedd y rhai hyn tu yma i'r Iorddonen; Beser yn llwyth Reuben, Ramoth yn llwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasseh—yr oedd y tair hyn y tu hwnt i'r Iorddonen. Eiddo y LefiaiJ oeddynt oil. Yr oedd gofal mawr hefyd i ddarparu ffyrdd uniawn ac eglur i'r dinasoedd, fel y gailasai y ffoadur gael pob chwareu teg i gyrhaedd y ddinas. Cyfraith y nodded hwn oedd hon:—Pan laddai dyn un arall, efe a hrysurai am ei einioes i'r ddinas noddfa ncslf ato. Derbynid ef iddi, a chedwid ef rha? II id y d i alyd i gwaed.' Yna rhoddai y dialydd gwaed ei gwyn ger bron henuriaid ei ddinas; ac os caent h-vy fod y llofrudd wedi lladd ei gymydog yn fwriadol, ac oddiar falais, yna anfonent i'r ddinas noddfa i geisio y llofrudd oddi yno, a rhoddid ef yn llaw dialydd gwaed fel y byddai farw. Ond os ymddangosai i'r henuriaid hyny, i ba rai y perthynai barnu yn yr achns, fod y weithred waedlyd wedi ei chyflawni yn anfwriadol, neu ynte mewn hunan-ddiffyf-iad, yna gadewid y lleiddiad yn y ddinas nod !fa. Yr oedd yntau i ofalu peidio ei gadael hyd farwolaeth yr archoffeiriad; ond y pryd hwnw gallai ddychwelyd i'w dy ac at yr eiddo, am fod hawl y dialydd gwaed i ddial yn darfod gyda bywyd yr archoffeiriad. Os crwydrai y llofrudd allan o derfynau y ddinas cyn marwolaeth yr archoffeiriad, a chael o'r dialydd gwaed ef o'r tuallan i'r terfynau Lyny, yna eallai y dialydd gwaed ddial arno a'i ladd yn gy freith- lawn." ESBONIADOL. Adnod 1.—" A llefarodd yr Arglwydd wrth Josua, gan ddywedyd." Y mae yn debygol fod yr Arglwydd wedi llefaru wrth Josua trwy yr archoffeiriad. Wedi rhanu y tir i'r gwahanol Iwythau, y mae yr Arglwydd yu gorchymyn i Josua gario allan orchymyn Moses mewn perthynas i'r dinasoedd noddfa. Adnod 2.—" Llefara wrth feibion Israel, gan ddy- wedyd, Mceswch i chwi ddinasoedd noddfa, am y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses." Y mae yn amlwg fod Josua yn gwybod am ysgrifeniadau Moses. Ceir cyfeiriadau at y dinasoedd hyn oan Moses yn Ex. xxi. 13 Num. xxxv. 9; Deut. xix. 2. Adnod 3.—"Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd neu mewn anwybod, a byddant i chwi yn noddfa rhag dialydd y gwaed." Nid oedd y dinas- oedd hyn wedi eu bwriadu i fod yn amddiffyn i lofrudd bwriadol, ond rhoddent cyfleusdra i bawb a gyhuddid o lofruddiaeth i gael a'nddiSyn ei hun. Nid oedd hyd yn nod yr allor yn amddiffyn i lofrudd g, irfoddol (gwel Ex. xxi. 14). Yn Num. xxxv. 16-18 a Deut. x x. 5, ceir eglurhad sr yr hyn a olygid wrth yr ymadtoddion, mewn amryfusedd a mewn anwybod, dialydd y gwaed —un yn dial neu yn cosbi. Pan leddid un, dan yr Hen Oruchwyliaeth, dyledswydd ei berthynas agosaf oedd ad-dalu i'w lofrudd drwy fynu gwaed am waed. O gan- lyniad, gelwid y cyfryw un dialydd y gWaed. Adnod 4. A phan Iro efe i un o'r dinasoedd hyny, a sefyll wrth ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achus- ioniloyclywo henuriaid y ddinas hono, cymerant cf atynt i'r ddinas, a rhoddant le iddo, fel y trigo gyda hwynt," A phan ffo.—Yr oedd pob mantais yn caclei roddi i'r ffoadur. Yr oedd y flyrdd i'w cadw mown cywair da, a lie byddai amrjw ffyrdd yn cy/arfod yr oedd mynegbyst, ar y thai yr oedd y gair Noddfa" yn'&i'graffe'iig. Yr oedd gofal helyd ar fod pontydd ar bob afon. Nid oedd dim i'w oddef a fuasai yn rhwystr. bob afon. Nid oedd dim i'w oddef a fuasai yn rhwystr. Wedi eyrhaedd at y ddinas, yr oedd i sefyll wrth ddrws porth y ddinas. Wrth ddrws porth y ddinas yr oedd pob mater cyfreitblon i'w drin (Ruth iv. 1; 2 Sam. xv. 2). Wedi sefyll wrth borth y ddinas yr oedd i fynegi ei achos. Os gallasai argylioeddi yr henuriaid fod ei achos yn galw am eu hamddirtyniad, yr oedd i gael ei dderbyn i'r ddinas. Nid yn unig yr oedd y ddinas yn gysegredig, ond hefyd 2000 gufyddau o amgvlch y ddinas. Unwaith y cyihaeddasai y ffoadur o fewn y cylch hwn yr oedd yn ddyogel. Adnod 5. Ac os dialydd y gwaed a eilid ar ei ol ef, na roddant y lleiddiad yn ei law of, canys mewn an- wybod y tarawodd efe ei gymydog, ac nid oedd gas gatiddo ef o'r blaen." Yma dangosir pa todd yr oedd henuriaid y ddinas i ymddwyn os deuai dialydd y gwaed i hawlio bywyd y ffoadur. Ac os, neu pan. Adnod G.—"Ac efe a drig yn y ddinas hono nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa i farn, ac nes marw yr arch- offeiriad fyddo yn y dyddiau hyny Yna dyclnveled y llofrudd, a deued i'w ddinas ac i'w dy ei hun, sef y ddinas yr hon y ffoisai efe ohoni." Yr oedd yr YIll- thwiliacl gan yr-henudaid with bortli y ddinas yn uuig yn rhagbarotoawl. Yr oedd yr achos i'w ddwyn i farn o flaen y gynulleidfa, sef cynulleidfa y ddinas o'r hon y ffoisai- Yr oedd i gael prawf teg o flaen y gynull- eidfa; os ceid ef yn ddieuog yno, yr oedd i gael ei ddychwelyd i'r ddinas noddfa, ac i aros yno hyd farwol- aeth yr archoffeiriad end os yn euog, yr oe id i gael ei roddi i'r dialydd. Nid oedd v dinasoedd noddfa wedi eu bwriadu i lofruddion gwirfoddol, yn cymeryd ymaith y bywyd oddiar gasineb, ond i'r rhai oedd wedi lladd mewn amryfusedd neu anwybod. Adnod 7.—" Am hyny y cysegrasant Cedes yn Galilee, yn mynyd I Naphtali, a Sichem yn mynydd Kphraim, a Chaer-Arba (hon yw Hebron) yn mynydd Judah." Wrth eu cyseuru yr oedd yr Arglwydd am i'r bobl edrych arnynt gyda difrifwth a pharch. PerthynentoII i'r Lefiaid, ac fe ly yr oedd yr holl ffoedigion yn cael mwynhau manteision crefyddol. Yr oedd yr achos hefyd yn sicr o gael ci drin gan y rhai oedd fwyaf hyddysg yn y gyfraith, ae, felly, yn fwyaf cymhwys i roddi barn. Yr oedd y dinasoedd hyn wedi on cyfleu yn y lleoedd mwyaf manteisiol i rai o bob cwr o'r wlad —Ct des yn y gogledd, Sichem yn y canol, a Hebron yn y dehau i Ganaan- Adnod 8.—"Ac o'r tuhwnt i'r Iorddonen, o du y dwyrain i Jericho, y rhoddasaut Bes:-r (yn yr anialwch ar y gwastadedd) o Iwyth Reuben, a Ramoth yn Gilead 0 lwyth Gad, a Golan yn Basflo o lwyth Manasseh." Yr oedd y dinasoedd y tuhwnt i'r Iorddonen wedi eu trefnu gyferbyn a'r dinasoedd yn Nghariaan- Neilldu- wyd y dinasoedd hyn gan Moses ei hun (gwel Deut. iv. 41-43. Adnod 9 —" Y rhai hyn oedd ddiuasoedd gosodedis; i holl feibion Israel, ac i'r dyeithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt, fel y ffoai pawb iddynt ar a laddai neb wewn amryfusedd; ac na byddai marw trwy law dial- ydd y gwae i, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa." Yr oedd y dyeithr a ymdeithiai yn eu mysg i sefyll ar yr un tir a holl feibion Israel mewn perthynas i ddarbodion y dinasoedd noddfa. Yn hyn yr oeddent yn gysgod o ddarpariadaa yr Efengyl, y rhai sydd wedi eu bwriadu i bawb yn ddiwahaniat th. GWEESI. Yn y trefnia.t hwn yr oedd yr Irglwydd yn dysgu Israel mor gysegredig ydoedd bywyd. Y m 'e bywyd i'w barchu ac i'w ystyried yn gysegredig. Y mae yr Efengyl wedi gosod mawredd ar fywyd trwy egluro ei werth. Gellir edrych ary dinasoedJ noddfa yn gysgocl o Grist lesu fel Noddfa pechadur. Yr oeddent o osodiad Dwyfol; yn amIwg ac yn gyfleus, yn rhydd i bawb yn ddyogelwch bollol rhag dialydd. Felly y mae Crist yn Waredwr o osodiad Dwyfol—yn hawdd ei gael; yn gwahodd pawb ato; yn sicrhau dyogelwch tragywyddol i'r rhai sydd yn dyfod ato. Nid oedd noddfa arall ond yn y dinasoedd hyn. Nid oes enw arail trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig ond enw Iesu- Other refuse have I none Hangs my helpless soul on Thee." Ni raid byth adael y noddfa hon. Ceir aros ynddi am dragywyddoldeb, mewn perffaith ddyogelwch rhag pob gelyn. Gellir canu yn hyderus, Safe in the arms of Jesus." GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Beth oedd amcan sefydliad y dinasoedd noddfa P 2. Pa sa,wl un ooddent ? Rhoddwch eu heuwau, a nodwch eu safleoedd- 3. Egiurwch y gyfraith perthynol iddynt, ac ar ba delerau yr oedd y ffoadur yn eael ei dderbyn iddynt. 4. p" Y oedd dialydd y gwaed ? 5. Pe hawlid y floadur gan ddialydd y gwaed wedi cyrhaedd y ddinas, pa fodd yr oedd yr henuriaid i ym- ddwyn ? 6. I ofal pwy yr ymddiricdwyd y dinasoedd hyn ? Paham ? 7. Hyd pi bryd yr oedd i aros yn y ddinas F 8. A oeddent yn rhoddi nawdd i rywrai creill heblaw i'r Israeliaid?
Advertising
Advertising
Cite
Share
Jlysbysiarlan. DALlEJt ,sn,W.];ydù yn hyfrydwch all y Cylioeddwr osod i mown yn rliad llysbysiadau am Gyfarlodydd Orduinio a Selydlti, (Jyi'arfodydd Chwartorol, a Cliymanlaocdd Biro). Am bob math arall o Ilysbysiadau Knwadol, codir ycliydig dal am dauynt. T H ESSENTIALS LETTS'S DIARIES. Kndlcss Varieties. Prices 6d. to 14a. LETTS'S HOUSEHOLD MAGAZINE. AmnKill!<, Instructive, TTsofnl, and Artistic. For Youn^ and Old. Male or Fomale, Week-day or Sunday. The Hest Magazine fortho Family. Monthly, 7d. LETTS'S COMPLETE POPULAR ATLAS. Absolutely Unrivalled, say a the entire Press. Prices from 112s. Partiduara of Bookstalls; or Lixxs, LIMITED, Londou Bridge. Dosbarth Isaf Caerfyrddin. CYNELtli Cyfarfod ('hwartcrol y dosbarth hwn yn Sardis, tr ddyddiau Mawrth a JMorohor, Awst I teg a'r IMed, pryd y dysffWylir y Parell E. ISvans, Pcnybont, i bregothn iir" i'fyddiondeb yn y Moddion Cyhocddns," n'r Parch 1). C. Jones, Caerfyrddin, ar Ailddyt'oiliad Criat." Cyuadlodd y dydd cyntaf am 2 o'r gloch. Bydd ccrbydau yn cyfarfod y tren 1140 yn Cidweli. (;WallOrldir y frawâoliaeth yti. ¡ryucs ha, trodvr, do'wch ar hyn q rybadd. W. C. Jl:NKI:i;" (iwtiuido^.
Y DIWEDDAR MRS. SARAH OLIVER,…
News
Cite
Share
I amddifad, oedd i'w gadael ar ei hoi. Ond er yr hoffder oedd rhyngddynt, ymadael fu raid am ychydig bach, a chan bwyso ar anghyfnewidioldeb yr Iesu, bu farw Mrs Oliver, fel y bu byw, mewn tangnefedJ liedd- ychol." DYDD EI CHLADDEDIGAETH. Daeth tyrfa yn nghyd o bobl barchusaf y pentref a'r ardal o gylch i Mount Pleasant i gludo yr hyn oedd farwol ohoni i dy ei hir gartref- Darllenwyd agweddi- wyd yn y ty cyn cychwyn gan ei gweinioiog, yna ym- ffurfiwyd yn orymdaith i gapel y Methodistiaid Calfin- aidd, lie y bu yr ymadawedig yn aelod mor ffyddlon am 45 mlynedd. Ficer y plwyf a gweinidogion ereill amryw yn mlaen. Wedi cyrhaedd y capel, dechreu- wyd y gwasanaeth drwy ganu pedwar penill o'r emyn mclus hwnw gan Ieuan Glan Geirionydd sydd yn dechreu— "Mae 'ngbyfoillion adre'n myned 0 fy mlaen o un i un," &c. 0 fy mlaen o un i un," &c. Methodd rhai a divveddu yr emyn heb wyJo yn bidl. Darllenwyd rhanau priodol o'r Tsgrythyrau- Aiiorch- wyd y dorf gan yr ysgrifenydd a chan y Parchn D. P. Jones (B.), a John Thomas, B.D. (A.), yn dra phriodol. Terfynwyd trwy weddi gan yr o!af; ac wedi canu y penill Bydd myrdd o ryfeddodau Ar doriad boreu wawr," &c., aed i gladdfa y teulu yn mynwent Eglwys y plwyf, ac yno y claddasom ni Sarah Oliver, mewn gwir ddyogel obaith o adgyfodiad i fuchedd dragywyddol." Y GYFEILLACH GREPYDDOL DRANOETH. Anfynych, Mri Go]., y bydd eich eohebwyr yn myned a'ch darllenwyr yn mhellach na dydd claddu en cyfeill- ion ond goddefwch i mi am unwaith fyned hyd dran- oeth, i gyfeillach y brodyr a'r chwiorydd crefyddol yr anwyl ymadawedig, i wrando pa beth sydd ganddynt liwy i ddyweyd am dani, oblegid llawn ydyw pawb o'r adgofion nelusaf Ni chladdwyd neb o fewn cof i mi a chnn lleied o'r ond diflas yn perthyn iddi a Mrs Oliver. Yr oedi Naaman y Syriac) yn wr cadarn, nerthol, mawr, ac an- rhydeddus, ond yr oedd efe yn wahanglwyfus. Felly llawer ar ei ol. Yr oedd Mrs Oliver heb yr ond yna." -Blaenor.. "Yr oeddwn i yn well yn wastad o gymdeithas Mrs Oliver. Chtvaer. "Ac i minau yr oedd yn foddion gras."—Chivaer avail. Ond rhaid ymatal. Nawdd y Nef fydd i'w phlant a'i hwyrion oil, a chofied yn neillduol am ei hunig ferch dyner ac amddifad- Disgyned arni hi fantell ei mam, ac ar ferched ieuainc, gwragedd a maman, ein heglwysi yn gyffredinol. W. L.