Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Cyfarfodydd, &e. -----------.---
News
Cite
Share
Cyfarfodydd, &e. CONNAH'S QUAY.—Cynal odd yr eglwys Anni- bynol yn y He uchod ei ehyfarfod blynyddol nos Sad- wrn a thrwy y Sul, Gorphenaf 7fcd a'r 8fed. Y gwa- hoddedigion eleni oeddynt y Parchn J. Thomas, di- weddar o Lansilin a W. Humphreys, Penuel. Cafwyd cynulliadau da, a chasgliadau mwy nag arferoi, a diau yr hir gofir am y pregethau nerthol. B ALA.Perfformiad godidog o'r Prince of Wales Cantata,"—Nos Lun, y 16ag cyrfisol, cynaliwyd math o gyngerdd mawreddog yn Ysgoldy y Bwrdd yn y Bala, yn yr hwn y datganwyd yr hyn sydd yn gynwys- edig yn y Cantawd cyfciriedig gan gor, yn nghydag amryw foneddigion u. boneddigesau o Ffestiniog. Rhaid addef nad oedd y cyngerdd yr hyn oeddem wedi. oys- gwyl iddo fod, ond hwyrach fod ein dysgwyliad yn rhy uchel. Dylaswn gofio mai canvyr y gelfyddyd oedd- ent, ac nid proffeswyr. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr Hugh Evans, Ffestiniog. Llwyddiant ddilyno G6r Ffestiniog a'i gymdeithion. SOUTH BANK, YORKSHIRE. — Cynaliodd yr ejlwys Annibynol nchod ei chyfarfodydd blynyddol, Sabboih, Gorphenaf 15ed, pan y gweinyddwyd gan y Parchn L. Williams, y gweinidog, a P. P. James, Queen's-terrace, Midd Iesborou,,b. Cynaliwyd dau o'r cyfarfodydd yn Saesoneg, ac un yn Gymraeg. Cynal- iwyd y cyfarfodydd hefyd yn fath o gyfarfodydd agor- iadol y capel ar ol y cyfnewidiad mae yr eglwys wedi ei wneuthur ar y capel mewn Iliwio, paentio, aglanhau, a cbasglwyd yn y cyfarfodydd ddigon i dalu yr holl draul aeth yr eglwys iddo gyda'r capel, a thipyn dros ben. Hefyd casglodd un o'r chwiorydd ddigon o arian i gael dau Feibl hardd ar y pwlpud, un Cymraeg a'r llall yn Saesoneg, ar gyfer y cyfarfodydd. Sic baodd brawd o'r eglwys gopi cyflawn o lyfr hymnau hardd Stephen a Jones, at wasanaeth y pwlpud anrhegwyd yr eglwys hefyd a dau flwch casglu prydierth gan un o'r gwrandawyr. Nid yw yr eglwys hon ond ieuanc, ond y mae yn llawn gweithgarweh, bywyd, a chryf ei hyder am ddyfodol Ilwyddianns. BETHEL, CAERGWRLE, GER WREXHAM. -Dydd Linn, Gorpbenaf 16eg, cyfarfn athrawon ac ysgolheigion yr Ysgol Sabbothol yn ng-Iyn a'r achos uchod, yn rhifo oddentu 130 i gael ei gwledd flynyddol o de a bara britb. Daethpwyd yn nghyd at y capel erbyn 4 o'r gloch y prydnawn, ac yn fuan dechreuwyd ar y wledd a ddarparwyd iddynt gan bwyllgor cynwys- cdig o chwiorydd yr eglwys, dan lywyddiaeth Mrs Morgan Jones. Yr oedd yn gwasanaethu wrth y byrddau, Miss Humphrey, Miss Jones, Miss Robeits, Mrs R. Jones, Mrs J. Jones, Mrs M. Jones, Mrs Jenkins (Liverpool), yr hon a'i theulu sydd ar ymweliad a'r gymydogaeth. Wedi i bawb gael ei gwala, aeth pwyd i gae yn ymyl, yr hwn, trwy garedigrwydd Mrs Brathwaite, a roddwyd at ein gwasanaeth am y pryd- nawn, lie y buont yn difyru eu gilydd a chwareuon diniwed, hyd nes y dechreuodd y gwlaw ddisgyn, pan yr aeth pob un i'w gartref wedi ei lwyr foddhau. Y mae yr achos yma mewn sefyllfa flodeuog ac addawol iawn, o dan weinidogaeth y Parch J. M. Jones Yr ydym yn teimlo ein hunain yn ddyledus i Mr a Mrs Michael am en gofal a'u llafur diflino yn ngiyn a'r achos yn y lie hwn, y maent bob amser yn siriol ac yn barod i wneyd yr hyn a aIlant.-Aelod. CLYDACH, DYFFRYN TAWY. — Dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, cynaliodd Eglwys Gynulleidfaol Hebron ei gwyl de blynyddol allan yn yr awyr agored. Rhoddodd Mr Davies, un o gwmpeini gwaith alcan Glanyrafon, yn ol ei garedigrwydd arferol, fentbyg cac cyfleus, yr hwn sydd yn ymyl station Clyoach, at en gwasanaeth. Bu yr bin yn lied fygythiot yn y boreu, ymgasglai cymylau duon yn y ffurfafen, clywid swn ambell i daran, a disgynai y gwlaw yn bistylloedd ar y ddaear, nes gyru pawb ag oedd yn teimlo rhyw gymaint o interest yn ngwaith y dydd i anobaith. Ond tua chanol dydd peidiodd y gwJaw, gwasgarodd y cymylau, cliriodd yr awyr, a daeth yn brydnawn braf, cystal ag a ellid ei ddymuno. Yfodd tua 1,000 o bobl de wrth y byrddau. Yr oedd esgynlawr eang wedi ei chodi ar ganol y cae, ac oddiarni chwareuodd y Clydach String Band a'r Hebron Drum and Fife Band, amryw ddarn- an pwrpasol iawn er mwyn difyru yr ymwelwyr weddill y dydd. Cyn iddi fyned yn rhy dywyll, ymwasgarodd pawb tua eu cartrefi, wedi mwynhan eu hunain tu hwnt i'w dysgwyliadau. Prydnawn Sadwrn diweddaf bu Cdr Hebron, yr hwn sydd o dan arweiniad Mr David Alexander, yn fuddugol ar y prif ddarri, sef ary" Don o flaen Gwyntoedd," mewn Eisteddfod gdrawl a gynal- jwyd yn Gland"r, ger Abertawy. Yr oedd danger arall yn cydymgais, sef C6r Bethel, Llansamlet, a Chor Soar, Abertawy, ond dyfarnodd y beirniad, sef Mr Rees Evans, Aberdar, y wobr o X12 i Gor Hebron, Clydach, a chadair hardd i'r arweinydd. TABERNACL, MA.ENCLOCHOG. — Cynafiwyd cyfarfodydd pregethu yn y lie uchod ar y Sabboth a nos Lun, Gorphenaf 22ain a'r 23ain, pryd y gweinydd- wyd gyda nerth a dylanwad mawr gan y Parchn 0. R. Owen, Glandwr; a J. Thomas, D.D., Liverpool. Yr oedd Mr Owen yn adnabyddus iawn yn yr ardal o'r blaen, fel un o'n cymydogion agosaf, ac er mor uchel y safai yn marn y wlad yn flaenorol, yr ydym yn sier y bydd raddau lawer yn uwch yn eu golwg ar ol ei wasan- aeth gwerthfawr yn y cyfarfodydd hyn. Er fod enw yr Hybarch Ddoctor yn anwyl a pharchus yn yr ardal, nid oedd ond ychydig o'r genedlaeth bresenol wedi c-iel y fraint o'i weled na'i glywed. Ond bydd adgofion hyfryd a dymunol yn yr ardal am yr ymweliad hwn o'i ciddo cyhyd ag yr erys y genedlaeth hon. Gorchwyl rby anhawdd yn ddiau fydd iddynt aDghofio dylanwad ei bregethau grymus, yn neillduol ei brege:h ar y breuddwydion siomcdig. Yr oedd yr ymadrodd yn disgyn fel gwlithwiaw ar irwellt, ac fel cafodydd ar laswellt. Pan yn ei wrando teimlem awydd diolch i Dduw am ei gadw mor gryf a bywiog ei ysbryd am gyfnod mpr faith i sefyll drosto ar uchel fanau y macs, a boed ei fwa yn gryf eto am lawer o flynyddoedd. Rhoddodd cynulleidfa yr Hen Gapel ei gwasanaeth i fyny trwy y dydd, a daethant yn gryno i uno a phobl y Tabernacl ar ddydd eu huchelwyl, yr hyn a amlygai deimlad canmoladwy, ac ysbryd teilwng o Efengyl ei Fab cf. Cafwyd cynulleidfaoedd hynod o luosog, canu cryf a soniarus, ac arwyddion amlwg o bresenoldeb Preswylydd v berth. Bydded i'r Arglwydd fendithio yn helaeth yr had da a hauwyd gyda'r fath fedrus- rwydd, or adeiladaeth yr eglwysi, ac er dwyn llawer o'r newydd i adnabyddiaeth o'r gwirionedd. Siomir ni yn fawr os im welir arwyddion amlwg er daioni ar ol y cyfarfodydd hyfryd a bendigedig hyn.—Ardalwr. CAERPHIL T. — Gwyl flynycldol Ysgol Sabbothol Bethel.-Cynaliwyd yr wyl uchod dydd Mercher, Gor- phenaf 18fed. Gan' fod y dydd yn deg a dymunol, gorymdeithiodd yr Ysgol trwy ran o'r dref i fyny i Cefn On, ryw ddwy filltir a haner allan o'r lie y plant lleiaf yn cad ea cario mewn wagen fawr yn eael ei tbynu gan ddau getryl a gwas i'w gyru, a roddwyd gan yr hyr.aws a'r caredig Mr T. JeDkins, Gwcrndomen Farm. Yn mhen rhyw awr wedi cyrhaedd pen y myn- ydd, eisteddodd rhyw 400 i lawr yn rhesau treftms i fwynhau pryd gwerthfawr odea bara brith, &c., dar- paredig ar gyfer yr amsylchiad. Rhoddodd Mr Cogp.ins, grocer, foddlonrwydd mawr yn yr oil ddar- pariaeth. Daagosodd Mrs Williams, Ccfn On Farm, bob groesaw a pharch i'r Ysaol yn mhob modd yn y ty ac ar y green oddiallan. Wedi i bawb gael eu llwyr ddiwallu cynaliwyd cyfarfod adrodd a chanu ar y green hardd, cyfleus, dan lywyddiaeth y Parch D. IJichards, pryd yr awd drwy raglen byr o adroddiadau a chaoiad- au. Canwyd amryw ddarnau tlysion gan gor y plant, dan arweiniad Mr E. Bush. Canwyd hefyd amryw unawdan, ac un deuawd, gan aelodau c6r y plant, a chanwyd canig rhagorol Dr Parry 41 Codwn Hwyl," gan barti o fechgyn, dan arweiniad S. Williams. Ter- fynwyd y rhaglen trwy ganu hen don ar y geiriau- Marchog Iesu yn llwyddianns, Gwisg dy gleddyf ar dy glin Nis gall daear dy wrtbsefyll, Chwaith nag uffern fawr ei hun." Dygwyd yr holl drefniadau yn mlaen yn ddeheuig o'r dechreu i'r diwedd gan Mri S. E. Evans, Jonathan Lewis, E. Bush, a T. Lewis, i ba rai, yn nghyda'r holl foneddigesau fu yn gweini yn ffyddlon, hefyd Mrs Williams, Cefn On Farm, a Mr Jenkins, y talwyd y dio!chiadau gwrcsoeaf, ac i'r Brenin mawr am hin werthfawr, a'i ofal yn ei Haglunheth yn dyogelu pawb rhag unrhyw niwed. Siaradwyd yn fyr ar hyn gan y C;>deirydd, yn nghyda Mr H. Anthony. Yna cafwyd yr amiygia t yn y dull arforol gan yr holl dorf o fodd- lonrwydd llwyr i'r holl weithrediadau. Cadd y plant a'r ieuenctyd hefyd fyned drwy gwrs o ymarferion ad- loniadol ar y gwastadeddau llyfnion ar y mynydd pryd. ferth am y gyfran o amser oedd ganddynt yn weddill. Yr oedd y golygfeydd o bob tu i'r mynydd y tlysaf a welsom erioed. Gan fod yr awyr yn glir yr oeddem yn gallu gweled Banau Brycheiniog i'r tu Gogleddol, ac yn gallu gweled Caerdydd a'r Bristol Channel, a Gwlad yr Haf i'r tu dehenol i'r mynydd a chan fod yr haul yn rnachlud heb gwmwl, ychwanegai hyn yn fawr at brydferthweh yr olygfa, fel yr oeddem mewn hwyl i ganu gyda'r Salmydd, ''Arglwydd ein lot-ni, mor ar- dderchog yw dy enw ar yr holl ddacar.-Gohebydd. TREIIAFOD. — Yn nghapel yr Annibynwyr, nos Fawrtb, Gorpbenaf 24ain, traddododd y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, ddarlith nas gall y rhai a'i clywodd ei hanghofio yn fuan ar y fasnach ofnadwy y mae Llywodraeth Lloegr yn ei chario yn mlaen mewn modd gorfodol yn China mewn Opium. Cymerwyd y gadair gan y Parch J. Williams. Pasiwyd peisderfyn- iad ar y diwedd yn condemnio y fasoach. MORIA, RHYMNI. — Nos Fercher, Gorphenaf 25ain, ymwelodd y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, a'r lie hwn, a tbraddododd ddarlith synfawr ei fieithiau ar y fasnach orfodol mown opium a gerir yn mlaen gan Lywodraeth Lloegr yn China, di wy yr hon y mae miliynau yn cael eu lladd bob blwyddyn. Llenwid y gadair gan Mr J. Williams, Mechanic. Pasiwyd pan- derfyuiad cryf ar y diwedd yn erbyn ymddygiad an- nghyfiawn a chreulawn Lloegr- BETHANIA, TREORCI.-Traddodwyd darlith yn V capel nchod nos Lun, Gorphenaf 23tin, gan y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, ar "Lloegr, China, ac Opium." Cafwyd gwledd yn wir. Cynvgiwyd gan y Parch J. S. Edwards, ac ciliwyd gan Mr D. Fisher Jones, a piiasiwyd yn unfrydol benderfyniad yn con- demnio y fasnach, i'w anfon i'r Llywodraeth. Pasiwyd hefyd bleidlais o ddiolchgarweh gwresog i Mr Jones. am ei ddarlith. Yn sicr, ni welsom gynulleidfa wedi ei gweithio gan ddarlith i uwch teimlad erioed. — 0
Advertising
Advertising
Cite
Share
BUCHUPAIBA."—Gwellhad newydd a chyflym o holl anhwylderau y lleisw a'r arenau. 43. Gofynwch am dano i'r Druggists. Prif Swyddfa—Llundain, No. 1, King Edward-street. MOC-MAXN LEVER TRUSS is the most cffective invention for the treatment (If Hernia. The use of a steel spring, so hurtful in its effect, is avoided, a'isoft bandage being worn round the b°(ly, while the requisite resisting power is sup- plied by the BIoe-Main Pad and l'ateni ^.ever, fitting with so much ease and closeness that it cannot be detected. Hend tor descriptive circular, with'testimonial's and prices, to J. White and Co. (Limited) 228, Piccadilly, Loudon. Do not biiv of Chemists, who ofen sell an IMITATION of our Moc-JVlain. J. White and Co., have not any Agents.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Geneciigaethau, Priodasau, &Co DAMUR. SYIiW.-—Ein telerau am gyhoeddi ISarddoniaeth yn gysylltiedig a hanes Genedigaeth, Priodas, neu Farwolaeth yw tair ceiniog y Hindi. PRIODASAU. THOMAS—LEWIS.—Gorphenaf 25ain, yn nghapel y Bpdyddwyr Pisga'r Pyle, gan y Parch E. Davies, Abercynffig, Mr John Thomas, Tondu, ii Miss Mary Lewis, Crown Inn, Abercycffig. Gwenan y nefoedd fyddo ar yr undeb. THOMAS—OWEN.—Gorphenaf 28ain, yn y Tabernacl, Liverpool, gan y Parch J. Thomas, D.D., Mr David Thomas, a Miss Elizabeth Owen—y ddau o Bootle. MARWOLAETHAU. JONES.-Mehefin 26ain, Edgar Jones, yn G mlwydd oed, yn sydyn, wedi cystudd blin amflddau ddiwrnod yn unig. Plentvn ydocdd i Mr a Mrs John Jones, Rassa, y rhai a deimlant yn hiraethus iawn oherwydd ei golli. Hefyd, yn agos yr un amser, Mary Jones, yn 7 mis oed. Geneth fach Mr a Mrs John Jones eto, end nid yr un teulu—y maent hwy hefyd yn byw yn Rassa, Cendl. Yr oedd y ddau blentyn hyn yn cael eu claddu yr un adeg a'r un diwrnod yn myn- went Carmel,y dydd Sadwrn canlynol, sef y 30aino'r un mis. Teimlai yr ardal yn gyffredino! yn herwydd tywydd garw y ddau deulu galarus hyn. Gweinydd- wyd yn eu hangladd, yr hon oedd yn lluosog iawn, gan y Parch W. Griffiths. Bydded yr Arglwydd yn dyner o'r ddau deulu, ac yn arbenig felly am y ddwy fam yn eu trallod trwm. JONEs.-Gorphooaf laf, William Jones, yn 48 mrwydd oed, yn Williams' Row, Cend!.1 Gadawodd ef wraig a saith o blant i alaru ar ei ol. Bu yn aelod ffyddlon yn Carmel, Cendl, am flynyddoedd. Cafodd ddam- wain yn y gwaith yn fuan wedi priodi (tua ngain mlynedd yn ol), ac analluogodd y ddamwain hono ef i fesur mawr i allu teimlo yn gryf, ond gweithioddyn ddiwyd er hyny, trwy wendid, ar hyd y blynyddoedd yn ol ei allu; ac er iddo wybod beth oedd tlodi a chyfyngder, eto y mae genym le cryf i gredu ei fod yn ddyn duwiol ac ymroddgar i'r Arglwydd Iesa Grist a'i achos. Delai i'r capel yn ffyddlon tra y gallodd, ac yr oedd yn hoffi ymddyddan am AirDuw, a gwaith yr Arglwydd yn benaf peth, felly y cawse^i ni ef. Claddwyd ef yn mynwent Carmel, CenJ?: gweinyddwyd ar yr achlysur gau ei weinidog. WATKINS. — Gorphenaf 4ydd, Jane Watkins, Yard Row, Cendl. Gweddw ydoadd hi i John Watkins, yr hwn a'i blaenodd i fyd arall ryw bodair blynedd. Y mae iddynt deulu lIuosog-dan o'r meibion, sef Roderick a Thomas, yn aelodau ffyddlon yn Carmel. Dynes gall, wybodus, a pbarod ydoedd Mrs Watkins. Hoffid hi ya fawr gan bawb a'i hadwaenai, a theimlir fod bwlch mawr wedi ei wneyd yn ei marwolaetb. Collodd y teulu fam ofalus a darbodus, yr hyn a deimlant yn chwerw a dwfn. Claddwyd hi y dydd Linn canlynol yn mynwent Eglwys Llaneigan, ger Aberhonddu, lie yr oedd ei phriod wedi ei gladdu, ac o ba ardal yr oedd efe yn enedigol. Mrs Watkins oedd enedigol o Machynlleth, Maldwyn. Yr oedd iddi frawd, yr hwn a fu yn weinidog parchus yn Manchester neu'r cyfEniau. Diamheuol genym y bydd Tad yr amddifaid yn barod i arwain y teulu amddifad hwn. MoItRIs.-Gorphenaf 7fed, Mr Evan Morris, Cendl, yn 27 mlwydd oed, ar ol ond ychydig amser o gystudd, gan adael gweddw, un plentyn, a lluaws o berthyn- asau ar ol. Bu yn aelod ffyddlawn am flynyddoedd yn Carmel, Cendl. Yr oedd gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Canodd lawer iawn yn nghysegr Duw, ond erbyn heddyw mflc'n cann mewn melusach tdn yn nghor mawr y nef. Y dydd Mawrth canlynol, cafodd angladd anrhydeddus. Yr oedd presenoldeb y dyrfa fawr yn tystio fod un a gerid yn fawr wedi syrthio. Blodeuodd ei fywyd hyd ei fedd mewn rhinweddau nefol; ci barch hefyd a gynyddodd nes myned i'r wlad oedd wrth ei fodd. Gwasanaeth- wyd gan v Parchn W. Griffiths, ei weinidog, mewn modd toddedig a phwrpasol.-Ioan. MORRIS.—Gorphenaf 7fed, yn Rassa, Cendl, Mr Evan Morris, yn 27 mlwydd oed. Y mae iddo weddw ieuanc, wedi bod yn briod am 3 blynedd ac ychydig trosodd, yn unig, a geneth fach, wedi eu gadael ar gychwyn ffordd bywyd eu hunain. Pan yn edrych am dano yeh) dig cyn ei farw, gormod i'n teimlad oe id gwrando ei briod yn ei hotn a'i phryder difesur yn dyweyd 0, Mr Griffiths, Pa beth a wnaf, os cat fy ngadael fel hyn, a cholli cartref mor anwyl." Y mae yn d.da genyf fod Rhagluniaeth eisoes wedi dangos tiriondeb a gofal neillduol am ein chwaer ieuanc. Ond yn wir yr oedd ei theimlad eyffrous yr adeg hono, yn peri i'n calon ninau i deimlo yn fawr drost:. Bn Evan Morris yn aelod ffyddlon a gweith- gar yn Carmel am dros chwoch mlynedd. Yr oedd efe yn un o dyrfa o ieuenctyd y cafodd yr ysgrifen- ydd yr anrhydedd o'u derbyn yn ystod ein blwyddyn gyntaf yn y lie. Yr oedd yn un o ffyddloniaid y cyfarfod gweddi, y tyfeillach, a'r Ysgol Sabbotho'. Brawd ydoedd i Mr John Morris, yr hwn sydd wedi dechreu pregethu. Yr oedd teimlad chwith agatarus iawn o'i golli, ond yn sicr elw iddo ef oedd marw, canys byw iddo ef oedd Crist. Claddwyd ei wedd- illion marwol wrth Carmel prydnawn dydd Mawrth, y lOfed o'r un mis. Pregethwyd i dyrfa fawr, un o'r mwyaf a welsom ar y fath achlysur, gan ei weinidog. Y mae brcnin braw wedi bod yn lledaenu ei deyrnas yn fawr yn yr ardal hon yn ddiweddar. Ein gweddi yw. fod hyn yn rhybudd i'r byw i ystyried eu diwedd. -IF. G. CWING.— Boreu dydd Mawrth, Gorphenaf 17eg, yn 77 mlwydd oed, hunodd yr lieu Giistion pur a gloew) a'r