Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

I Newyddion Cyffredinol. -----

News
Cite
Share

Newyddion Cyffredinol. Bu farw o'r cholera yn yr Aipht 645 mewn 24 awr ddiwedd yr wythnos ddiweddaf. Mae y cyffro yn y wlad yn anesgrifiadwy. Cafodd dyn yn Abertawy yr wythnos ddiweddaf dalu .£50 am ddefnyddio rbyddid ei dat'od i alw ei gyd-ddyn yn Ileidr ac enwau cas ere ill. Cafodd "captain" o Fyddin Iacbawd wriaeth yn Abertawy ei ddirwyo yr wythnos ddiweddaf o 5s. a'r costau am achosi anghyfleusdra i fasnach ar un o'r hcolydd. Mae mudiad ar droed i wneyd ytnchwiliad i'r posiblrwydd o wneyd rheilffordd o dan wely yr Humber, fel ag i leihau y pellder rhwng Hull a'r De. Yn Wolverhampton, dydd Iau diweddaf, tra- ddodwyd 14 o ddynion i sefyll eu prawf am gy- meryd rhan yn y riots diweddar mewn cysyllt.iad a strike y gweithwyr tan. Mae Esgob Peterborough yn fwy rbydd oddi- wrth boen nag y bu, ac yn mhob ystyr yn well nag y mae wedi bod er dechreuad ei gystudd, fel y mae gobaith cryf am ei lwyr adferiad. Yn rhedegfeydd Leicester, y dydd arall, aeth infer o gipsies, yn wyr a gwragedd, i ymddifyru trwy guro boneddwr. Y maent yn awr yn cael bamdden i edifarbau yn ngharchar. Dywedir fod 4000 wedi marw mewn wythOos o'r cholera yn yr Aipht. Gwelsom y cyfrifiad yn cael ei wneyd yn 6000 ond anmhosiblyw cael gwybod- aeth sicr yn ngbanol y fath afreoleiddiwch. Ffrwydrodd berwedydd steam tug ar y Regent Canal y dydd o'r blaen, pan chwythwyd y Ilestr yn dipion, ac y suddodd yn y man. Nid oedd neb ar y bwrdd ond y peirianydd, yr hwn a gollodd ei fywyd. Peth dyeithr yw eira yn Gorphenaf. Ar y 15fed o'r mis diweddaf, yr oedd yr hin auafol fel wedi dychwelyd i ganolbarth y Cyfandir, a disgynai yr eira fel yn Rhagfyr nes yr oedd Corinthian Alps yn wynion. Yn Eglwys y Plwyf, Gelligaer, dydd Mercher diweddaf, bedyddiodd y Parch J. Lewis Meredith ddwy wraig trwy drochiad, a dau blentyn trwy daenelliad. Yr oedd tyrfa luosog yn nghyd yn gweled y newydd-beth hwn. Y dydd arall cyrhaeddodd y newydd i ddinas St, Petersburgh fod y cholera wedi gwneyd ei ym- ddaugosiad yn Roster, porthladd ar làn y mor Azof, a bod amryw wedi meirw ohono. Creodd y newydd ddycbryn drwy y lie. Fel yr oedd dyn a dynes yn cael eu gyru mewn cab yn ymyl dociau North Shields, y dydd arall, cafodd y ceffyl ofn, a baciodd yn ei ol, fel y syrth- y cab a'r cwbl i'r doc. Boddodd y ceffyl a'r ddynes, ond diangodd y dyn a'r gyriedydd. Yn Dublin, dydd Gwener diweddaf, mewn fit o dymher ddrwg, gwnaeth gwraig ymosodiad lIof- ruddiog ar ei dau blentyn. Pan dybiodd ei bod wedi eu gorphen, ceisiodd osod terfyn ar ei hein- ioes ei hun. Mae y tri yn gorwedd mewn cyflwr peryglus iawn. Mae Llywodraeth Ffrainc wedi votio 50,000 fr. i dalu treuliau cenadaeth i tinned i'r Aipht i wneyd ymchwiliad i darddiad a natur y cholera sydd yn ffynu yn y wlad. Nid gwybod pa fodd y torodd allan sydd eisieu yn awr, ond sut i gael gwared ohono. Cyhoeddwyd supplementary estimate boreu dydd Gwener diweddaf o < £ 300,000, o'r hyn y mae eisieu £200,000, i ddwyn y treuliau ychwanegol mewn cysylltiad a'r telegrams chwecheiniog .£45.000 tuag at brynu yr Ashburn M.S.S.; a < £ 1,500 tuag at wobrwyo y personau trwy y rhai y daliwyd acy condemniwyd y dynamiters. Mae darpariadau helaeth yn cael eu gwneyd y dyddiau hyn ar gyfer priodas Arglwydd Windsor a'r Anrhydeddus Miss Paget, yr hon sydd i gy- meryd lie yn Llundain ar yr lleg o Awst. Mae tenantiaid ei arglwyddiaeth yn Neheudir Cymru yn ymuno i danysgrifio er pwrcasn diamond neck- lace and bracelet i Miss Paget, ac Anerchiad i Ar- glwydd Windsor. Fel yr oedd nifer o bleser-deithwyr o Baltimore yn sefyll ar y pier yn afon y Patapsco yn dysgwyl y llong i'w cludo adref, dacth y llong i fyny gan daraw y pier, fel y syrthiodd a'r rhai a safant arno. Boddodd rhwng 60 a 70 o ddynion, gan fwyaf yn wragedd a phlant. Lladdwyd hefyd 8 o ddynion drwy i ffwrnes flast syrthio arnynt yn Geddes, New York. Yr ydys wedi cael allan fod T. D. Pierce, diw- eddar town, clerk Bootle, Liverpool, wedi ysbeilio, yn enw y Cynghor Trefol, ddim llai na .823,000. Diangodd Pierce pan ddeallodd fod drwgdybiaeth wedi disgyn arno, ac nid oes hanes am dano byd yn hyn. Bernir na fydd y Cynghor yn gyfrifol, fel y disgyna yn drwm ar y rhai a roddaaant ariau iddo yu euw y Cynghor.

--Newyddion o Ogledd Cymru.…

Llawer Mewn Yehydig. --.-.-.------