Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

ABERTEIFI.

News
Cite
Share

ABERTEIFI. Capel Mair. — Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod cenadol dydd Sul, Mehefin 24ain a'r nos Lun canlynol. Y gwahoddedigion eleni oeddynt y Parchn M. Jenkins, Pentre, a Tawelfryn Thomas, Groeswen. Cafwyd pregethau doniol a grymus, cynulleidfaoedd lluosog, a chasgliadau da tuag at y Genadaeth. Y dclwy ÈJjengyles.- Y mae y ddwy chwaer yma, Miss Phillips a Miss Davies, yn cymeryd cylcb- daith drwy sir Aberteifi, hen sir y diwygiadau. Y maent erbyn hyn bron gorphen eu cylohdaith bregethwrol, ac y maent wedi cynal cyfarfodydd yn mhob tref a phentref braidd o fewn y sir. Yn Llechryd nos Sul, Gorphenaf 15ed, yr oedd y dyrfa gymaint nes gorfu iddynt dd'od allan o'r capel a phregethu yn yr awyr agored. Yr oedd yno wrandawyr o bob parth, hyd yn nod o ben uchaf y sir. Yr oedd rhai, fel Zaccheus gynt, wedi dringo fyny i'r coed er mwyn cael gwell mantais i glywed y ddwy chwaer. Fe bregethodd Miss Phillips oddiwrth y geiriau yma:—" Canys felly y daw dydd yr Arglwydd, megys lleidr yn y nos." Yr oedd y difrifoldeb mwyaf yn meddianu yr holl gynulleidfa. Yna fe bregethodd Miss Davies oddiar y geiriau, "Gwaed ei Fab ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod." Cafwyd preg- ethau nerthol a dylanwadol iawn. Mae yn ddi- amheu fod Duw yn bendithio llafur y ddwy chwaer. Mor hyfryd oedd yr olygfa ar ddiwedd yr oedfa, gweled 18 o ymofynwyr pryderus am y ffordd tua Seion. Y Duw ag sydd wedi llwyddo llafur y ddwy chwaer yn y gorphenol fyddo eto yn parhau yr un yn y dyfodol. S. D.

AMMANFORD (CROSS INN).

ABERGWAUN.

CAERPHILI.

CYFARFOD YMADAWOL A CHYF-LWYNIAD…

Advertising