Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD MAWBTH.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD MAWBTH. Hysbysodd Arglwydd Avelan fod y Llyngesydd Syr James Drummond, wedi ei bencdi yn Usher of the Black Bod yn lie y diweddar Syr W. Kuollys. Yna cyfiwynwyd of i'r Arglwydd Gangbellydd. Dywedodd Arglwydd Derby ei fod wedi derbyn brysneges yn cadarnhau yr hyn oedd wedi ym- ddangos yn y Papyrnu yn nghylch Cetewayo. Darllenwyd yr ail waith The Manchester Ship Canal Bill. Hefyd, darllenwyd yr ail waith y Merchant Shipping Bill. Mewn atebiad i Ar- glwydd Salisbury, dywedodd Iarll Morely fod rhai o'r milwyr Prydeinig wedi marw o'r cholcra yn yr Aipht.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Cyflwynodd Mr Pugh gofebau oddiwrth blwyf- olion Bryngwyn, Troedyraur, Llandyssilio-gogo, a Talgareg, yn ffafr Mcsur Divvygiadol y Daliadau Amaethyddol. Hefyd cyflwynodd Mr Carbutt gofeb oddiwrth drigolion Pontymoel, Crumlin, a Cwmbran, yn ffafr can y tafarnau ar y Sal yn Mynwy. vVrth ateb Mr Peter Taylor, dywedodd Syr W. Harcoutt nad oedd efe yn gweled un rbeswm dros fyrhau tymhor y gosb basiwyd ar Foote a Ramsay am gvhoeddi liecyddiaeth gabl- eddus. Cafwyd yehydig siarad ar fater y Suez Canal, y riots yn Wexford, y Congo, dadforiad ychain, &c. Yna ymffurfiwyd yn Bvvyllgor ar Fesur y Daliadau Amaethyddol. Ar Adran 15, yr hon sydd yn darbodi, ar ol pasio y Mesur, na fydd yn gyfreithlon i un tirfeddianydd i atafaelu am ardreth fyddo yn ddyledus am fwy na blwyddyn cyn gwneyd yr -,tafael,ad, cynygiodd Mr Carpenter Gamier, fel ^gwelliant, nad oedd yr Adran i ddyfod mewn grym byd lis Ionawr, 1885. Tynwyd y cynygiad yn ol. Cynygiodd Mr Blennerhassett welliant i'r perwyl fod deddf atta- faeliad i gael ei llwyr ddilen. Rbanwyd y Ty. Dros y gwelliact, 53. Yn ei erbyn, 107. Cynyg- iodd Arglwydd Burghley welliant, fod deddf ataf- aeliad i gael ei hestyn dros ddwy flynedd. Rhan- wyd y Ty. Dros y gwelliant, 33 yn ei erbyn, 88. Yna cydunwyd ar yr Adran fel yr oedd. Yna pasiwyd Adran 16, yr hon sydd yn gwahardd atafaelu anifeiliaid, heb fod yn eiddo y deiliad, fyddo ar y tir er mwyn porthiant, neu er mwyn epilio. Ar Adran 17, yr hon sydd yn rhoddi hawl i'r Ynadon Heddwch i benderfynu dadleuon yn nghylch atafaelu yn anghyfreithlon, cynygiodd Mr Waugh welliant, i drosglwyddo yr hawl i'r County Court. Collwyd y gwelliant gan 28 yn erbyn 46. Yna pasiwyd yr Adran. Gadawyd allan Adran 19, yr hon oedd yn ymwneyd a'r treuliau. Cydunwyd ar Adranau 20, 21 a 22.
TY Y CYFFREDIN.-DYDD MERCHER.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN.-DYDD MERCHER. Wedi i Mr Gladstone wneyd yehydig sylwadau ar y cwrs fwriadai fabwysiadu i gario y gweith- rediadau yn mlaen, aethpwyd i Bwyllgor ar Fesur y Daliadau Amaethyddol (Ysgotland). Ar Adran 1., yr hon sydd yn rhoddi hawl i'r deiliad i ad-dal- iad cyffredinol am welliantau a nodir yn yr Ad- roddlen, cynygiodd Mr Barclay welliant i'r perwyl i fwrw ymaith rhan flaenaf yr Atodlen gyda golwg ar welliantau fyddo yn gofyn cydsyniad y tir- feddianydd. Gwrtbodwyd ef gan 102 yn c: byn 26. Cydunwyd ar yr Adran, felly Adran 2. Ar Adran 3, yr hon sydd yn gofyn cydsyniad y tir- feddianydd i welliantau i'r rhan flaenaf yr Atod- len, cynygiodd Mr Barclay welliant i'r perwyl, fod hawl gan y deiliad i ad-daliad am yr aneddau a gododd i labrwyr, heb gydsyniad y tirfeddian- ydd. Gwrthodwyd ef gan 154 yn erbyn 37. Cyd- unwyd ar Adran 4. Pasiodd hefyd Adran 5. Yna gohiriwyd.
TY YR ARGLWYDDI.-DYDD IATJ.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI.-DYDD IATJ. Mynegodd Iarll Derby iddo, o fewn awr yn ol, dderbyn telegram yn hysbysu fod Cetewayo wedi ei ladd. Crybwyllodd Arglwydd Lamiogton ei fod yn barnu mai gwell fuasai i'r Llywodraeth roddi benthyg yr wyth miliwn punau tuag at wneyd rheilffordd trwy ddyffryn yr Euphrates, yn lie at y Suez Canal. Ar ol yehydig siarad drop- iwyd y mater. Mynegodd Iarll Cork y bnasai dranoeth yn enwi Pwyllgor y Maucbester Ship Canal. Teimlai Iarll Redesdale ei bod yn àdy- ledswydd arno wrthwynebu oblegid diweddarvveh y tymhor.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Mewn atebiad i Arglwydd G. Hamilton, dywed- odd Mr Mundella nad oedd y vote y cyfeiriai ati Y11 dal perthynas a'r Colegau bwriadedig yn No a Gogledd Cymrn, ond i Goleg Aberystwyth, byd sefydliad y rhai hyny. Gau fod cynllun-lea Coleg Caerdydd o'u blaen ei fod yn gofyn am e2,000 am yr haner olaf o'r flwyddyn gyllidol, ond os buasai yn rhy ddiweddar y tymhor hwn, y gofynai am dani yn gynar y tymhor nesaf. Wrth ateb Viscount Folkestone, dywedodd Arglwydd Har- tington, fod 14 o'r milwyr Prydeinig wedi eu cymeryd yn glaf o'r cholera, a bod 11 ohonynt wedi marw. Ceisiodd Barwn de Worms dynu dadl ar gwestiwn y Suez Canal, ond gwrthodai Mr Gladstone dderbyn yr abwyà, Mewn atebiad i Syr S. Northcote, dvwe lodd Mr Gladstone nad oedd efe yn gweled un gobaith i basio Mesurau y Clefydan Heintus, y Criminal Law, a'r Addysg Uwchraddol yn N gbymm; y bnasai yn rhoddi dydd Llua nesaf at gwestiwn y Suez Canal. Go- fynodd Mr Henry Richard a wnai y Prif Wesu- idog ddwy a i mew n Mesur Addysg yn Nghymray tymhor nesaf ar y fath amser all, v goliid yn rhes- ymol ddysgwyl iddo gael ebddadleti a'i basio yn gyfraith. Atebodd Mr Gladstone mai hyny oedd bwriad y L^wodraeth.
TY YR ARGLWYDD!.—DYDD GWENEE.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDD!.—DYDD GWENEE. Mewn atebiad i Iarll do la War; dywedodd Ar- glwydd Carrington, fod Lloegr wedi rhoddi fyny quarantine er's blynyddoedd fel amddiiTvmad rhag cholera, ac fel g-.vicdydd Ewropeaidd ereill ein bod ya awr yn defuyddio arolygaeth feddygol. Hefyd, fod 36 o'r milwyr Prydeinig wedi marw o'r cholera yn yr Aipht. Ceisiodd Arglwydd Water- ford am adroddiad oddiwrth y Pwyllgor a benod- wyd i wneyd ymchwiliad i weithiad Deddf y Tir ya yr Iwcrddon. Ar hyn. cafwyd dadl faith a brwd.
!TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Mewn atebiad i Mr O'Donnell, dywedodd Mr J. K. Cross i 1,161 farw o'r cholera yi wythnos gyn- taf yn Mohefia yn nosbarth Bombay. Mewn atebiad i Mr J. Cowen, dywedodd Mr Trevelyan, fod 10.500 o Wyddelod wedi eu cynorthwyo i ym- fudo i America, o'r rhai yr ootid "aith tenlu yn cynwys 27 o bersonau wedi en hanfon yn ol, ond fod llawer mwy na hyny wedi eu hanfon yn ol i wledydd ereill. Fod J3100,000 wedi eu gwario i gynorthwyo yr ymfudwyr. Cafwyd dadl ar y mater o osod rhan o draul rhyfel yr Aipht ar ludia. Cynygiodd Mr Onslow, nad oedd byny i 11 fod. Rbanwyd y Ty. Dros y cynygiad, 55 yn erbyn, 210. Ar Adroddiad Mesur y Daliadau Amaethyddol (Lloegr), ychwanegwyd Adran o eiddo Mr Dodson, yn gosod terfynau neillduol i'r gwelliantau y buasui ad-daliad am danynt. Yna aed i Bwyllgor ar y Mesur cyffelyb i Ysgotland, ond ni wnaed fawr cynydd am fod cynifer o'r Aelodau Ysgotaidd yn absenol.
COLEG DEHEUDIR CYMRU.
News
Cite
Share
COLEG DEHEUDIR CYMRU. YH YSGOLORIAETHAU. Mae Cynghor y Coleg wedi anfon hy&bysiadau am wyth o brolfeswyr, tri o ddarlithwyr, a dau ar- ddangoswr. Yn brosenol ni ddywedir dim yn yr hysbysiadau am gadeiriau peirianyddiaeth a mwn- yddiaeth, ond yr ydys yn gobeithio y llenwir bwy erbyn yr IIydref nesaf, pan y dechreua gwaith gwirionyddol y Coleg. Felly gwelir y bydd y staff addysgol yn cynwys pymtheg o ddynion galluog, eu bath ni welwyd ya Nghyrpru er pan ddinystr- wyd Colegau Llanilltyd Fawr a Bangor-is-coed. Ond er mwyn gwneyd y Coleg yn llwyddiant rhaid cael nifer dda o fyfyrwyr yn ogystal ag athrawon galluog, ac y mae y Cyngbor yn awr yn cynliunio mesurau i sicrhau y dyben hwn. Bwriedir cynyg, fel y gwelir oddiwrth hysbys- iad mewn colofn arall, ddwy ysgoloriaeth (Mo yr un), y rhai a elwir "Ysgoloriaethau Ware;" a gobeithir yn gadarn y bydd i foneddigion erenl ddilyn esiampl glodwiw Mr Ware. Hysbysa y Cynghor yn mhellach am 33 o "Ysgoloriaethau Sylfaenol," hyny ydyw, ysgoloriaethau a ryddha y rhai a'u daliant oddiwrth dal derbyniad i mewn i'r Coleg, a holl daliadau y dosbarthiadau, oddigerth costan y fferyllfa. Bydd y rhai hyn ac ysgolor- iaethau ereill yn agored i'r ddau ryw, os o dan 16 mlwydd oed, yr hwn yw yr oed isaf y derbynir myfyrwyr i'r Coleg. Bydd i'r cyhoedd sylwi y bydd y Coleg yn agored i fetched yn ogystal a dynion ieuainc, yr h wn weddnodiad yn ddiau a uchel wertbfawrogir. Er mwyn aibed costau i ymgeiswyr, bydd i fesurau gael eu mabwysiadu i gynal arholiadau ar neu oddentu Medi 12fed, mewn gwahanol ganol- fanau yn Neheudir Cymru a sir Fynwy, megys Caerdydd, Abertawy, Casoewydd, Merthyr, Aber- honddu, Llanandras, Caerfyrddin, Hwlffordd, Llanbedr, ac Aberystwyth. Gwelir trwy byny fod y Cynghor yn arddangos pryder canmoladwy i sicrhau cydweithrediad calonog yr holl ranbarthau i ba rai y mae y Coleg wedi ei fwriadu. Nid yw safon yr arholiadau wedi ei benderfynu yn derfynol eto; ond gellir dyweyd yr arholir myfyrwyr fydd yn meddwl myned trwy gwrs y celfyddydan mewn Groeg, Lladin, a Saesoneg, a'r myfyrwyr fyddant yn bwriadu myned trwy gwrs y gwyddorau mewn Lladin, Germanaeg, neuFfranc- aeg, a Saesoneg. Cyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan. Pa fodd bynag, er mwyn ysgoi camgymer- iad, gellir dyweyd fod y Cynghor am gadw iddo ei hunan yr hawl i atal ysgoloriaethau os metha y myfyrwyr ddyfod i fyny a'r safon ofynedig, yr hon na osodir yn uchel yn bresenol, gan ei bod yn angenrheidiol i'r Coleg, os am fod yn llwyddiant mfwn ystyr rifyddol, i addasu ei hunan at gyflwr addysgol preseuol y wlad. Gellir ychwanegu nad yw yr ysgolheigion sylfaenol i fod mewn unrbyw achos yn fwy nag un rhan o dair o gyfanrif y myfyrwyr derbyniedig; hyny ydyw, os bydd i 100 o fyfyrwyr fyned i mewn yr Hydref nesaf, bydd i'r Cynghor ddyfarnu 33 o ysgoloriaethau ond os nad 61 ond 50 i mewn, ni bydd i'r Cynghor ddy- farnu ond 15. Bydd i ysgoloriaethau ereill, yn gwahaniaetbu o.. £ 25 i .£50, fel y gobeithir, gael eu hysbysu mewn yehydig wythnosau. Achlesir gobaith cryf y bydd i ymdrechion ymegnïol y Cynghor gael eu cyfarfod gan atebiad calonog yn mysg meibion a merched ieuainc Cymru.
CAERLLEON A'R CYFFINIAU.
News
Cite
Share
CAERLLEON A'R CYFFINIAU. Dywedir fod yr Hybarch W. Rees, D.D. (Ilir- aethog), wedi amlygu ei barodrwydd i dderbyn rneeLaL gyntaf Cymdeithas y Cymrodorion. Agorwyd adeilad eang yn y ddiaas hon dydd Mawrtb, Gorphonaf 24ain, at waeanaeth temlau yr Odyddion. Boddodd dyn ieuanc o'r enw Swain dydd Ian diweddaf trwy gwympo i'r afon Ddyfrdwy. Cymerodd damwain ddifrifol le yn ngorsaf Bromboro trwy i foneddiges syrthio o dan ger- bydres y reilHordd pan yn disgyn cyn i'r trea aros, a phrofodd hyn yn farwol iddi. Yn mhrawdlys yr haf, a gynaliwyd yma yr wyth. nos ddiweddaf, o flaen Barnwr Field, dygwyd cynghaws am athrod gan y Parch T, Price, ficer
GEMAU O'R ORACL.
News
Cite
Share
neillduol i Israel-yn gwneyd iddynt ac yn ymddwyn tuag atynt mewn modd nad yw yn gwneyd nac yn ymddwyn tuag at neb arall. A safai at yr egwyddor hon, ac ni fynai gilio, er methu cysoni gwaith Ehagluniaetli yn cyfoslli- ogi gelynion, a gadael cyfeillion yn dlodion ac angenus. Edrychai ar Israel yn cael inwy na'u haeddiant, heblaw eu bod yn bobl gyfamodol, yr hyn sydd yn fil mwy gwor thfawr na bod yn bobl gyfoethog. Ac am iddo gredufod, Duw yn gwneuthur yn iawn, er id-do ef fethu gweled liyny ar y frvd. H Prin na lithrodd fy nhraed; prin na thripiodd fy ngherddediad." Busi o fewn dim i gael codwm, ond sefyll ar fy nhraed wneuthum, oherwydd i mi ymddiriec1 yn Nmv, a myned i fan cymhwys i gael goleuni ar y mater— cysegr Duw." Penderfynodd fyned i'r fan y cae lawn olwg ar werth dwylaw glan, a diwedd dwylaw albn, ac mai aid ofer fyddai glanbau calon a golchi dwylaw. "Aethum i gysegr Duw, yno y deallais." Safodd neb crioed heb lithro a thripio os na fedrai ymddiried yn ISTuw ei fod yn gwneyd yn iawn a'r cyfiawn ac a'r dryg- ionus, A golcuni'r cysegr yn unig a ddengys hyny. Ymosododd y demtasiwn ar Job (xxiv. 1-23) pan welai yr annuwiol yn tlo(-Il'r cldpear, ac yn llyncu eysuron v saint o bob anedd-dy a gwinllan, a'r egwyddor y safai vvrtlu oedd, presenoldeb a hollwybodaeth Daw. "Y mae oi lygaid ef ar eu fFyrdd hwynt, ac ni chuddiwyd yr amseroedcl oddiwrth yr Holialluog, fel na welai (gam) y rhai sydd yn ei adnabod cf." Cyfiawnder Duw oedd. egwyddor Jer. xii. 1, ac wrtlii y safai pan faeddid of gan y gwyr traed a'r gwyr meirch." Cyfiawn wyt, Ar- glwydd. pan ddadleuwyf a thi am dy farnedig- aethau ? Paham y llwydda'r anwir, ac y ff'yna'r anffyddloniaid oil ? Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elii edrych ar anwiredd? Paliani yr edrychi ar j'r anffydd- loniaid, ac y tewi pan lynco'r anwir un cynawn- ach nag ef oi hun F" Ond daioni a thrugnrcdd oedd egwyddor Dafydd, an wrthi y safai yn ddisigl, er methu cysoni llwyddiant y rliai annuwiol â'u cjnncriad, trallodion y saint a'u duwioldeb. Yn ddiau, da yw Duw i Israel, rhy d la i wneyd cam ag Israel lan ei ddwylaw a phur ei galori, gan nad sut y mae ef yn gallu bod mor dda i'r rhai ynfyd a'r annuwiol." Y mae rhywbeth i fod ar ol hyn, a'r Duw da i Israel fydd i settlor affairs.