Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y PARCH THOMAS BOWEN

News
Cite
Share

Y PARCH THOMAS BOWEN Credwn fod sefydliad y Gronfa Gynorthwyol Gan- olog yn gareg filltir bwysig yn hanes y Cyfundeb yn y De, a chan mai y Parch. Thomas Bowen, Caer- dydd, a etholwyd yn Nhroed y Rhiw, yn ysgrifenydd cyntaf y mudiad, nid amhriodol fydd ychydig eiriau o'i hanes. Gan nad faint o wahaniaeth barn all fod ar y cwestiwn o apwyntio ysgrifenydd ar hyn o bryd, nid oes amheuaeth yn meddwl neb a adwaen Mr. Bowen ei fod yn meddu cymhwysderau arbenig i'r swydd, ac y bydd iddo ei llenwi i foddlonrwydd eyffredinol. Brodor o Sir Forganwg ydyw'; wedi ei eni yn iilaneurwg, ond wedi ei fagu er yn bum' mlwydd oed yng Nghaerdydd. Pan symudodd y teulu yno. ymaelododd ym Mhembroke Terrace, de yn yr eglwys hono y dygwyd Mr. Bo wen i fyny. Felly, un o Want y Parch. J. Morgan Jones ydyw, a than ei aden ef yn yr eglwys uchod y cychwynodd bregethu. Bun ddefnyddiol iawn yn yr Ysgogl Sul, ac mewn cylchoedd ereill yn yr eglwys cyn iddo droi ei wyneb tua'r weinidogaeth, ac ymdaflodd i fywyd Cymreig Caerdydd gydag ynni ac ymroddiad. Etholwyd ef pan yn bur ieuanc, yn ysgrifenydd Undeb Ysgolion Sul Cymreig y dref, ac yn gyd-ysgrifenydd Cym- deithas y Cymrodorion. Penod ddyddorol yn ei hanes yw ei gysylltiad ag tindeb Ysgolion Sul Cymreig Caerdydd. Sefyd- Twyd yr Undeb dan arweiniad rhai o Gymry mwyaf 4iddgar y cyfnod. Y ddiweddar Dan Isaac Davies oedd ei gychwynydd, a Mr. Beriah Gwynfe Evans yr ysgrifenydd, gyda Mr. Bowen yn gynorthwy- ydd iddo. Ar ymadawiad Mr. Evans i'r Gogledd, etholwyd Mr. Bowen yn olynydd iddo. Llenwid y gadairar y pryd gan yr Athraw T. F. Roberts (yn awr y Prif-athraw Roberts, Aberystwyth). Yr adeg lion y symudwyd i. geisio gari Gymdeithas y Beiblau ddarparu Testament dwy-ieithog i Gymru. 0 Gaer- dydd y cychwynodd y mudiad, ac unodd y gwahanol enwadau a'r cymdeithasau Cymreig drwy'r Dywys- «gaeth yn y cais. Llwyddwyd, ar ol cryn ymdrin- iaeth, i sicrhau'r cais, a Mr. Bowen fu'n gweithredu fel ysgrifenydd drwy'r holl ymdrafodaeth. Tra yn gwasanaethu bywyd crefyddol a llenyddol y ddinas yn y cyfeiriadau uchod, yr oedd Mr. Bowen yn myned trwy gwrs arall o barotoad, a brofa yn ddiau o werth dirfawr iddo yn y gwaith sydd yn awr wedi ei ymddiried iddo. Ar ol cwrs o addysg yn un o ysgolion uwch-elfenol Caerdydd, yn yr hon .v daliai ysgoloriaeth, aeth i wasanaeth cwmni pwys- ig o chartered accountants and estate agents,' ac yno yr arhosodd hyd lies y cychwynodd ar waith y weinidogaeth. Bu yn brif book-keeper' y ffirm am amryw flynyddau,, ac y mae y, profiad a enillodd tra. yn y gwasanaeth hwn wedi bod o help dirfawr i Henaduriaeth Morganwg lawer gwaith. Tua'r adeg y dechreuodd bregethu ymunodd a Choleg y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac wedi cwrs Mwyddianus o addysg aeth i Drefecea, api dduwin- yddiaeth. Fel amryw ecaill o'n hefrvdwyr Cym- reig, penderfyiiodd ar ddiwedd ei yrfa golegawl, gymeryd gofal eglwys Saesneg, ac er amryw gym- hellion i droi yn ol i eglwysi Cymreig, gyda'r Saeson y mae wedi aros. Y mae, er hynny, wedi para i bregethu yn Gvmraeg yn fynych iawn, -ac yn siar- adwr llithrig a hyawdl yn y ddwy iaith. Ymsefyd- lodd yn Elizabeth St., Dowlais. yn 1895, ac yno y llafuriodd yn egniol a llwyddianus hyd 1912, pryd y symudodd i gymeryd gofal eglwys bwysig a Iluos- Hall, dan nawdd y Symudiad Ymosodol, ac yno y mae wedi gwasanaethu yn ddiwyd a chym- eJ;'ad wÿ Ylyd yn hyn. Yn ystod cyfnod ei weinidogaeth y mae wedi Ijwneyd gwasanaeth gwerthfawr o'r tu allan i gylch ei ofalaeth—i'r-Henaduriaeth, i Gyngor yr Eglwysi Rhyddion, ac i'r Cyfundeb yn gyffredinol. Bu yn p,grifenvd' d.Henaduraeth Morg anwg am dros ddeng mlynedd. Cynrychiola'r Henaduriaeth ar rai 0 Ijwyllgorau pwysicaf y Cyfundeb. ac y mae yn ys- grifenydd Trysorfa Fenthyciol y Deheudir er's rhai felynyddau bellach. Kid yn ami y ceir ei hafal ymhlith ein gweinidog- ion fel cyfrifydd. a threfnydd, a sicr iawn y profa ei fedr arben-g yn y cyfeiriadau vma o werth dirfawr iddo i gyflawni gwaith y swydd yr etholwyd ef iddi r gan y Gymdeithasfa, Y mae Mr. Bowen, i'w gy- feillion a'i gydnabod, yn bregethwr sylweddol a chymeradwy, yn gyfaill hynaws a. phur, ac yn batrwm o'r cofiadur medrus, a gallwn fod yn ber- ffaith hyderus ond i'r gronfa gael y gefnogaeth a haedda gan yr eglwysi y try yn llwyddiant mawr dan ei oial a'i arweiniad ef.

CAN' MLWYDDIANT ACHOS.

DIRWESTWYR DWYRAIN MEIRIQNYDD.

YN ALDERSHOT.

BR0NGIII-1-IS. "

Y FORTH.