Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

A GEIR GOR-I FODAETH? %

MEDDYGINIAETH I GWN <♦

YNADLYS PWLLHELI .

CRYDCVMALAU TYWYDD OER —y———

YMDDISWYDDIAD Mr. CHURCHILL

[No title]

[No title]

DEWKDER BACHGEN 0 BWLLHELI…

News
Cite
Share

DEWKDER BACHGEN 0 BWLLHELI Achub Dwylaw L:ong Yr wythnos ddiweddaf cyflwynodd y "Liver- pool Shipwreck and Humane Society eu bath- odyn i Mr John W. Jones, mab hynaf Mr a Mrs David Lloyd Jones, High Street, Pwll- heli (oriadurwr). Mae Mr. Jones yn gwasan- aethu fel peirianydd ar yr agerlong Saint Leonards, perthynol i'r Cwmni Rankin, Cal- niour and Co., Lerpwl. Mae yn argraphedig ar y bathodlyn, "To J. W. Jones, s.s. St Leonards, for gallant service, August 13, 1915." Mewn llythyr a anfonodd adref des- grilia. Mr. Jones y modd y bu iddo gymeryd rhan mewn achub bywydau criw Llong hwyl- iau fechan perthynol i Ffrainc. Dyma fel y dywed: "Cawsom brofiad newydd hollol wrth MR J. W. JONES. I groesi y tro hwn. Pan oeddym tua chanol y Werydd, oddeutu haner nos, Awst 12ed, gwel- som oleuadau yn galw am gymorth ar long fach oedd mewn cyfyngder. Yr oedd yn dy- wyll iawn, ac yn bwrw yn drwm. Daeth y Capten i alw arnaf o'm gwely er cael golwg ami. Tua 12-30 daethom yn ddigon agos i wneyd "arwyddion iddynt. Yr oeddym mor agos fel y bu iddynt waeddi yn ol fod arnynt eisiau gadael y Hong am ei bod yn suddo. Bu i ni ollwng eweh i lawr, a chan fy mod i yn rhydd o'r wyliadwriaeth ar y pryd, cynygiais gymeryd rhwyf yn y cwch. Yr oedd y mate yn gofalu am y eweh. Yr oedd y mor yn donog iawn, ond yr oedd y gwlaw yn lliniaru peth ar ei gynddaredd. Daethom i ymyl y llong yn hwylus. Pwysai y Capten am i'r mate fyned ar ei, bwrdd er gweled ei fod yn gwneyd pob peth angenrheidiol er dinystrio y llong cyn ei gadael. Gofynodd y mate i mi fyned gydag ef i'r llong, ac aethom ein dau i'r saloon. Buom ar ei bwrdd am tua 10 munud a chyn ei gadael gwe'.som fod y Hong wedi ei, rhoddi ar dan, ac yn prysur suddo. Cynwysai y criw saith o ddynion. Yr oedd yn debyg o ran maint i un o longau Porth- madog. Perthynai i Ffrainc, a deuai y criw o Bordeaux. Ac yn hynod iawn yr oeddym ninau wedi cychwyn o Bordeaux. Dvwedai y Capten eu bod wedi cael profiad enbyd. Buont yn pympio dwfr o'r llestr yn ddibaid am 15 diwrnod ac ni welsant yr un long ar y wellgi fawr yn ystod yr holl amser. Cafodd St Leonards, fodd bynag, y fraint o ddwyn y criw i ddiogelwch." 1,<W.i'i,

[No title]

HANES N TORCALONUS .

SUDDO LLESTR-YSBYTOL

MILWR 0 MYNYTHO. YN ENILL…

[No title]

MILWR TWYLLODRUS -'-.

Advertising

- ARDDANGOSFA LLANDUDNO .

[No title]

[No title]