Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

Yr AImaenwyr yn Parotoi i…

News
Cite
Share

Yr AImaenwyr yn Parotoi i wneyd Rhuthr CWYMP LEMBERG Llwyddiant y Cyd-Fyddinoedd yn y Dardanelles TREM AR Y SEFYLLFA Yr wythnos ddiweddaf llwvddodd y Ffrancod yn eu hymladdfeydd yn erbyn yr Almaen- tsfir ger Souchez ac ar uchelderau y Meuse. Tanbelenwyd y ffosvdd Ffrengig yn ffyrnig gan yr Almaeniaid a chladdwyd dau gwmni Ffrengig mewn ffosydd. Yn Lorraine llwyddodd y Ffrancod i enill rhagor o dir. Yn Alsace llwyddasant i enill pentref Metz ar ol ymladd caled. Dydd Mercher enillodd y Ffrancod dir yn y Vosges. Tanbelenwyd ar Dunkirk gan yr Almaeniaid a lladdwyd rhai o drigolion y dref. UN YMGAIS ETO? Adroddir fod yr Almaeniaid yn crynhoi nifer- oedd aruthrol o filwyr a gynau yn Ffraingc er gwneuthur ymdrech ffyrnig i dori trwy rengau y gelynion. Nid yw yr uchod yn swyddogol, ond nid oes amheuaeth nad yw v gelynion yn parotoi at ymdrech fawr yn Ffraingc. Diau fod Mr Lloyd George yn credu fod y gelynion am wneuthur ymdrech fawr i dori trwodd yn Ffraingc gan iddo bwyso, yn ei araeth wrth gyfiwyno Mesur Defnyddiau Rhyfel yn y Senedd at y pwysigrwydd o gael digonedd o ffrwydbelenau, etc., a hyny heb goll amser. Ar ol hyny sylwodd Mr Runciman ein bod yn hollol barod i unrhyw ymosodiad wneir arnom yn Ffraingc. Ataliwyd ymgyrch fuddugoliaethus y Ffrang- cod yn Arras gan dywydd mawr. Dywed yr adroddiad swyddogol Ffrengig dydd Sadwrn:- "Yr oedd nos Wener yn un dawel. I'r gog- ledd o Arras nid oes dim i'w adrodd, gyda'r eithriad o ychydig o ysgarmesoedd cyd- rhwng y ddwy fyddin. Bu ymladd. ar y brif-ffordd o Bethune i Arras. Atelir ein hymdaitn gan gyflwr anffafriol y ffyrdd mewn canlyniad i'r vstormydd diweddar. Yng nghymydogaeth Champagne ac Argon- ne bu ymladd gyda'r 'mines,' a drodd yn ffafriol i ni." Y mae y Rwsiaid yn dal eu tir ar yr Afon Dniester, er fod yr Awstriaid wedi cymeryd Chorodow, yr hon sydd dref 35 milldir i'r de-cfdwyrain o Lemberg. Gyrwyd yr Awstriaid yn ol o ddau lecyn ar yr afon Dniester; ond ceisiant adfeddianu v tir a gollasant. Ceisia y gelynion ymdaith i'r de-ddwvrain o I Lemberg. Gorchfygwvd y gelynion i'r de o Pilica yng nghanolbarth Poland. Bu ymladd hefyd i'r gogledd o'r Vistula. CWYMP LEMBERG. Syrthiodd tref Lemberg i ddwylaw yr Aws- triaid ar ol ymladd caled. Ni chafodd y gelynion, fodd bynag, fawr o drysor yn y dref. Bodolai llawenydd mawr yn Vienna oher- wydd y fuddugoliaeth hon, a gwnaed yr Archdduc Frederic yn faeslywydd er coffa am yr amgylchiad. Nid oes gan newyddiaduron Rwsia unrhyw amheuaeth na fydd i'w byddinoedd orch- fygu yn y pen draw. Y maent wedi sefydlu eu hunain ar le cadarn yn Galicia. Parha yr Eidaliaid i fuddugoliaethu. Yn Monfalcome cymerasant dair o ryfel-long- a;.1 oeddynt n yn barod, oddiar yr Aws- triaid. Hefyd 24 o longau hwylio, 30 o gychod motor, pump o longau awyr, a nifer o torpedoes a mwnau. etc. Yr oedd v tywydd anffafriol gaed ddechreu yr wythnos ddiweddaf yn milwrio yn erbyn llwyddiant yr Eidaliaid. Fodd bynag, cadarnhant em safleoedd yng nghymydog- aeth Monte Nero. Ceisia yr Awstriaid v.n- osod yn Plava, ond gyrwyd hwy yn ol gyda cholledion enfawr. Cafodd catrodau o'r Awstriaid eu gorrhfv^u yn llwyr hjfyd gan filwyr Eidalaidd yr Alpau. Yn ystod v brwydro yn Freikofel gadawodd yr Awstriaid 200 o gvrff ar faes y gad. YN Y DARDANELLES. Dal i lwyddo y mae y Cyd-Fyddinoedd yn y Dardanelles. Dydd LIun tanbelenwyd y Kerever Dere gan y Ffrangcod. Bu yr ymosodiad yn llwydd- ianus ag eithrio mewn un Hecyn. lie y gojj- fodwyd v Ffrangcod i gilio yn ol. Yn ddiweddarach ail-gvmerwyd y lie dan svlw. Collodd y Tyrciaid nifer aruthrol o filwyr. Adroddir fod un gatrawd wedi ei dinystrio yn llwyr. Ymosodwyd ar y Tyrciaid ar noson y 19eg o Fehefin gan v Prvdeinwyr, a chollodd y Tyrciaid eto ni-ref fawr o wyr. Dywedir fod colledion y Tyrciaid er pan ddchreuwyd y brwydro yn 'Gallipoli yn 143,000 o wyr.

-------SAFLE MR. RAMSAY MACDONALD…

CAREDIGRWYDD SYR JOHN FRENCH

GWERTHU RHOSYNOD .

HYN A'R LLALL AM Y RHYFEL…

----' TYNU DARLUNIAU YNG NGOGLEDD…

PA LE YR OEDD TREFI - GOGLEDD…

TREFNU ei ANGLADD EI HUN .-ft

Dewis Mr. Caradoc Rees

[No title]

"""j Mr Caradoc Rees ym Methesda

Ein Hetholiad Bach Ni

! RHYBUDDION YN SAESNEG

Y DARDANELLES.

[ MARCHNADOEDD*

YNADLYS PORTHMADOG -0

CYWIRIAD -0

IANGEN YN Y SIR .0..-

COFIO AM Y MILWYR .

A DDAW BWLGARIA ALLAN

Family Notices