Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

DAN LIFY LAFA.

Y SENEDD.

News
Cite
Share

Y SENEDD. RIIEILFFORDD PORTHMADOG A BEDD- GELERT. DYDD LLUN, yn Nhy'r Arglwyddi, darllen- wyd Mesur Ffordd Haiarn Porthmadog a Bedd- gelert y drydedd waith. BETIO. DYDD LLUN, yn Nhy'r Arglwyddi, cynnyg- iodd Esgob Henffordd benderfyniad er penodi pwyllgor chwilio i gynnydd betio cyhoeddus, ac edrych a ellid gwneyd cyfraith i leihau'r drwg. Cefnogwyd y penderfyniad gan Iarll Aber- deen, Archesgob Caergaint, ac esgob newydd Llundain, yr hwn a sylwodd ei fod wedi bod yn byw am lawer o flynyddau mewn cymydogaeth lie yr oedd llawer o weithwyr yn trigiannu, a'i fod wedi cael pronad personol o'r drygau. Dyweddodd Arglwydd Salisbury ei fod yn cyd-deimlo ag amcanion y siaradwyr blaenorol, ac yn cydnabod pwysigrwydd y cwestiwn, ond nid oedd yn meddwl fod yn bosibl ymwneyd a'r mater trwy ddeddfwriaeth, gydag] Sunrhyw obaith am lwyddiant. Busnes enfawr fyddai myned yn erbyn teimladau a dymuniadau corph mawr y bobl. Nis gallai y Llywodraeth ym- gymeryd ag unrhyw gyfrifoldeb yn nglyn a'r ymchwil, nac ymrwymo y byddai iddynt roddi ary deddflyfrau y cyfryw ddeddfanj'a allai y pwyllgor eu cymhell. am Cytunwyd ar y penderfyniad heb ymranu.' GALW AM GYNNILO. DYDD LLUN, yn Nhy'r Cyffredin, cynnyg- iodd Syr H. Fowler, yr hwn a dderbyniwyd gyda chymeradwyaeth gan yr Wrthblaid, benderfyn- ia.d yn dyweyd fod y Ty, tra yn barod i wneyd darpariaeth digonol ar gyfer anghenion Milwrol a Llyngesol yr Ymherodraeth, o'r farn fod cyn- nygion cylliaol y Llywodraeth yn rhai y teimlid gwrthwynebiad iddynt mewn perthynas a threth- lad a dyled, a'u bod yn debyg o effeithio yn niweidiol ar ddiwydiannau a masnach, ac nad I oeddynt yn dangos y cynnildeb yr oedd y cyn- nydd enfawr yn y treuliau yn galw am dano. Aeth Syr H. Fowler yn mlaen i alw sylw at y cynnydd yn nhreuliau y wlad, yr hwn, dan y I Llywodraeth hon, oedd wedi codi 0 105 i 120 o I filiynau. Beirniadodd gynnygion y Llywodr- aeth er cyfarfod a'r treuliau, a chondemniodd y I dreth ar lo fel un oedd yn cynnwys pob drwg a allai fod yn nglyn a tholl. Dadleuai fod y treul- iau yn codi yn ol graddfa ddiangenrham a pher- yglus, ac annogai gynnildeb yn mhob adran o eiddo y Llywodraeth. Dywedodd Syr M. Hicka:Beach fod yn eithaf I eglnr, oddiwrth eiriad y penderfyniad, a'i araeth, fod Syr H. Fowler yn cytuno a'r hyn oedd yn brif nodwedd y Gyllideb—treuliau y rhyfel. Yna aeth yn mlaen i amddiffyn y tollau newydd. Cydnabu nas gallai y wlad barhau i godi y treuliau fel yr oedd wedi gwneyd am y chwe' blynedd diweddaf heb osod ein cynllun arianol yn y perygl mwyaf, ond nid oedd yn gweled y gellid dadrys y ewestiwn ar llinellau araeth Syr H. Fowler. Dygwyd y ddadl yn mlaen gan Mr Haldane, Syr E. Vincent, Mr Labouchere, Mr T. G. Ashton ac ereill. Dywedodd Mr J. Redmond y byddai i'r aelod- au Gwyddelig ddangos eu gwrthwynebiad i'r cwestiynau mawr oedd yn gorwedd wrth wraidd y Gyllideb, ond nad oeddynt yn foddlawn i bleidleisio droe y gwelliant a ystyrient yn rhy lasdwraidd. Wedi i Mr Bryce siarad gohiriwyd y ddadl. DYDD MAWRTH, yn Nhy'r Cyffredin, aed yn mlaen hefo'r ddadl, Priodolai Syr R. T. Reid gynnydd ein treuliau i'r yspryd ymosadol a chwerylgar oedd yn y wlad. Dadleuai Mr Hanbury fod y trenliau cynnydd- ol ar y Llynges a'r Fyddin yn angenrheidiol er I amddiffyn y tiriogsethau PryeSeinig. Annogai Mr Chaplin Ganghellydd y Trysorlys i ail ystyried yr effaith a gawsai y doll ar lo ar y ) mathau gwaelaf 0 10. Dywedodd Syr Henry Campbell-Bannerman na byddai yn beth arferol na chyfleus i ddadleu pwnc y rhyfel ar y gwelliant presennol, ond y dylid cael cyfleusdra i hyny yn fuan, gan fod dymuniad cyffredinol yn mroc am heddweh ar delerau haelfrydig ac anrhydeddus, yn gystal a rhai fyddai yn derfynol a boddhaol. Yna aeth yn mlaen i sylwi ar y cynnydd cyflym yn y treuliau Milwrol, a beiai y Llywodraeth am eu gweinyddiad di-ofal. Dywedodd Mr Balfonr fod y Llywodraeth Ryddfrydig, pan aeth allan 0 swydd, wedi gadael pump neu ohwech o gwestiynau pwysigrhyngom ni a'r Galluoedd milwrol mawr heb eu pender. Synu, ac y gallasai pob un ohonynt, pe cawsent eu camdrin, achosi rhyfel. Yn ngoleuni di- gwyddiadau diweddar, ac yn ngwyneb y tynu mawr ar y Fyddin yn y rhyfel diweddar, yr oedd yn ystyried mai ynfydrwydd oedd gadael i'r Fyddin syrthio yn ol i'r cyflwr yr oedd yn. ddo pan aeth y Llywodraeth Ryddfrydig allane swydd. Ymranodd y Ty. Dros welliant Syr H. Fowler, 123; yn erbyn, 300; mwyairif yn erbyn, 177. Ni chymerodd y Gwyddelod, ac amryw Ryfid- frydwyr, Mr Lloyd-George a Mr Bryn Roberts yn eu plith, ran yn yr ynafaniad. Ar gynnygiad Mr John Morley gohiriwyd y ddadl ar y prif gwestiwn hyd ddyfld Jan. DYDD IAU, yn Nhy'r Cyffredin, yn ystod y drafodaeth ar y Mesur Arianol, traddodes Mr John Morley araeth odidog. Dywedodd y teimloi fod y Gyllideb roddwyd yn y eyflwr yr oedd y rhyfel yncmo yn bsenDol yn beth new. ydd yn hanes y wlad. Dyma'r bennod gyntaf o gynllun yr oeddym wedi dechreu arno. Nid oedd ond dwy ffordd o beri cynnildeb, un ai, trwy ei ddilyn 0 flwyddyn i flwyddyn, neu ynte gael yn Ganghellydd y Trysorlys ddyn a fuasai yn mynu ei ffordd ei hun mewn mater 0 draul. Ond nid oedd efe yn gweled yn nhymer bresennol pobl y wlad hon, 0 ba la y deuai dechreuad cynnildeb yn y Ty. Tywalltwyd gwaed, gwnaed miloedd 0 fetched yn weddwon a miloedd 0 ml blant yn amddifaid, a thaflwyd miliynau o arian iT gagendor i borthi ffolineb aruthr. Yr oeddym wedi hau hadau gelyniaeth rhwng dwy gened!, a byddai dial yn sicr o ddod mewn mil- oedd o wahsnol ffyrdd. Yr ydych yn fy nghy- huddo i o fod yn freuddwydiwr," ebai Mr Mor- ley, yn nghanol dystawrwydd fel y bedd, eithr ar awdurdod pwy yr ydych yngwneuthur hyny ? Ar awdurdod y dynion a ddywedai na byddai ryfel, wed'yn na pharhai y rhyfel namyn rhyw ddeng niwrnod, ac na chostiai ond ychydig fil- oedd. Pwy yw'r breuddwydiwr?" Cafodd araeth orchestol Mr Morley effaith ryfeddol ar y Ty. Ni chlywid neb yn gwrthwynebu, serch ei fod ef yn dyweyd pethan cryfion a heilltion, ac yr oedd pawb megys yn dal eu hanadl i wrando ar un o ddynion gonestaf y byd yn traethu ei farn ar'ddybryd gamwri ei wlad ei hun. Siaradodd amryw ereill yn ddilynol, ac yn y diwedd pasiwyd yr air ddarlleniad gyda 236 0 bleidleisiau yn erbyn 132, a gohiriwyd y Ty oddeutu banner awr wedi deuddeg. MASNACH ONEST. DYDD MAWRTH, yn Nhy'r Arglwyddi, cyflwynodd yr Arglwydd Ganghellydd fesur byr a fwriedid i gymeryd lie yr un a luniwyd gan y diweddar Arglwydd Brif Farnwr i attal com- missiwn anghyfreithlawn mewn masnach. Eglurodd na byddai unrhyw siawns i basio mesur helaeth yn ystod y tymhor hwn. Darllenwyd y mesur y waith gyntaf. LLW'R BRENHIN. DYDD MAWRTH, yn Nhy'r Arglwyddi, cynnygiodd Arglwydd Salisbury fod pwyllgor i'w benodi i ystyried y datganiad gofynol oddi- wrth y Teyrn ar ei esgyniad, trwy Fesur Hawl. iau, ac i adrodd a ellid cyfnewid yr iaith mewn modd manteisiol heb leihau ei effeithiolrwydd tuagat gadw yr olyniaeth Brotestanaidd. Amlygodd Arglwydd Spencer ei foddhad fod Arglwydd Salisbury yn symud gyda'r mater hwn. Cytunwyd ar y penderfyniad. DEISEBAU. DYDD MAWRTH, yn Nhy'r Cyffredin, cy- flwynodd Mr Lloyd-George ddeiseb oddiwrth Synod Wesleyaidd Gogledd Cymru yn mhlaid y mesur er gwahardd gwerthu diodydd meddwol i blant dan 16 oed. CHINA. DYDD MAWRTH, yn Nhy'r Cyffredin, dy- wedodd Arglwydd Cranborne, mewn ateb i Mr Walon, fod y Llywodraeth yn dymuuo, mor bell ag yr oedd yn bosibl, gymedroli y gofynion yn erbyn China, ac i ochel niwed i fanteision mas- nachol y wlad hon. Ar 01 ymdrin a'r ewestiwn I o gospedigaeth ar swyddogion Chineaidd blaen- llaw, dywedodd Arglwydd Cranborne fod eisoes dros 30001' o gorphluoedd Prydeinig 0 dan j orchymyn i adael China, ac yr ychwanegid at y nifer hwn gan gorph lluosocach cyn pen llawer o fisoedd, fe obeithiai. Wi-n DYSigU'R WYDDELAEG. ARAETH GAN MR WILLIAM JONES. NOS FAWRTH, yn Nhy'r Cyffredin, galw- odd Mr Doogan sylw at y cwestiwn o ddysgu yr iaith Wyddelig yn ysgolion y Werddon, a chyn- nygiodd benderfyniad yn dyweyd fod yn han- fodol dwyn y cynllun dwyieithog i mewn i'r ysgolion. Cefnogodd Mr Thomas O'Donnell y pender- fyniad. Dywedodd Mr William Jones fod y Gymraeg wedi ei chydnabod, nid yn unig fel moddion o ddiwylliant, ond fel moddion o addysg. Bu ei llwyddiant,mor hynod fel y darfu i'r prif arolyg- wr, oedd yn Sais, ac felly heb feddu syniad Cymreig o gwbl, ddyweyd yn ei adroddiad mai un canlyniad lyw cynnydd tarawiadol mewn rhagoriaeth yn mhob rhan, ac mewn Saesneg yn arbenig (clywch). Da genyf weled fod yr athrawon ymarferol yn ceisio cydnabod fod gwybodaeth o'r Gymraeg yn help mawr i fyfyr- iwr Cymreig i ddysgu ieithoedd ereill. Nid y wybodaeth o'r Gymraeg, ond yr anwybodaeth ohoni, sydd yn pron yn rhwystr i fyfyrwyr Cymreig (cymeradwyaeth mawr). Pe buasai yr aelod anrhydedekus ar yr ochr arall yn gwybod mai yr iaith Geltaidd oedd y cyfrwng I goreu i sicrhau gwybodaeth o'r ieithoedd Lladinig, buasai yn dysgu y Wyddelaeg i'w I blentyn (clywch, clywch). Eglurid hyn yn yr ysgolion elfenol a chanol yn Nghymru, lie y ceid fod yr ysgolheigion yn dyggn y Ffrancaeg ac I ieithoedd ereill tebyg trwy y Gymraeg yn llawer gwell na thrwy y Saesneg. Yn sicr, yr oedd y cyfryw iaith yn foddion effeithiol o ddiwylliad; ac yn sicr, gellid dysgu y plant Gwyddelig hyn yr un modd trwy gyfrwng iaith oedd eisoes yn hysbys iddynt fel iaith eu mam. Nid oedd y penderfyniad yn amcanu diddymu y Saesneg (clywch, clywch). Yr hyn oedd ei eisieu ydoedd cyrhaedd meddwl y plentyn at amcanion addysg. Gwyddent hwy yn Nghymru, er eu cywilydd a'u gofid, y gwaherddid dysgu y Gym- raeg hanner can' mlynedd yn ol; ond, yn fifodus, yr oedd hyn oil wedi newid, a gallai yr athraw yn awr dynu allan a dysgu meddwl yr ysgolor I trwy iaith oedd yn wybyddus iddo. Profodd I astudio y Gymraeg yn eu hysgolion yn help effeithiol i ddysgu y Saesneg. Dyna yn hollol yr hyn oedd yr aelodau anrhydeddus o'r Werddoa yn ei hawlio i'r iaith Wyddelig (cy- meradwyaeth). Yr oedd yn gweled rhai aelodau anrhydeddus yn bresennol a wyddent am Ryd- ychain. Nid oedd rhai ysgolorion Cymreig wedi gwneyd eu marc yn Rhydychain yn ystod y chwe' blynedd diweddaf, am eu bod yn gwybod y Saesneg, ond am en bod yn gwybod pobpeth oedd yn dwyn cysylltiad a llenyddiaeth a diwyll- iad en gwlad frodorol (cymeradwyaeth). Nid oedd y rhai a gefnogent y penderfyniad hwn yn dymuno troi y genedl Wyddelig yn genedl Saes- neg, yr oedd ganddynt eisiea addysgu y dy- I chymyg yn gystal a'r deall, addysgu y deall heb esgeuluso addysgu y cydymdeimlad. Gobeith- iai y rhoddai y prif ysgrifenydd sylw effeithiol i'r cwestiwn. Yn ystod ei araeth, rhoes Mr Jones gyfieithiad o un o'r straeon Gwyddelig am yr hen arwr Finn fel engraipht o dlysineb a lledneisrwydd y ddychymyg Geltaidd. Er fod hyny'n beth beiddgar i'w wneyd mewn cynnull- iad a dybia'i hun mor "ymarferol" a Thy'r Cyffredin, fe fu gwiw gan y rhai oedd yno wrando'n foddhaus ar Mr Jones, a rhoisant iddo gymeradwyaeth hefyd. I Wrth ateb, dywedoddmr Wyndham nad oedd ganddo ef un gwrthwynebiad i'r cynnygiad. Yr I oedd aspri am ddysgu r Wyddelaeg yn y Werddon yn awr, a chamgymeriad a fuasai peidio manteisio arno. DADSEFYDLIAD YN NGBYMRU. NOS FAWRTH, yn Nhy'r Cyffredin, rhyw ychydig fynydau cyn hanner nos, galwodd M* Osmond Williams sylw mewn ychydig eriau at yr Eglwys Sefydledig yn Nghymru, a chynnyg- iodd, yn gymaint a bod Eglwys Loegr yn Nghymru wedi methu cario allan ei hamean proffesedig fel moddion i gefnogi manteision crefyddol y Cymry, ac nad cedd yn gweinidog- aethu ond i leiafrif bychan o'r bobl, fod ei phar- had fel Eglwys Sefydledigyn y Dywyaogaeth yn afreoleidd-dra ac yn anghyfiawnder na ddylid ei oddef yn hwy. J t, Cefnogodd Mr William Jones y penderfyniad. Cododd Mr Banbury i siarad, a daliodd ati I hyd banner nos, pryd yr oedd raid gohirio, ac felly y rhoes rwystr ar ffordd y penderfyniad. TAI GWEITHWYR YN Y WERDDON. DYDD MERCHER, yn Nhy'r Cyffredin, buwyd yn ymdrin ar y mesur i wella Deddfau y Llafurwyr (y Werddon). Ei amcan, meddir, ydyw bwyluso a rha.dloni y modd o dan y deddfau presennol i ddarparu gwell aneddan i lafurwyr amaethyddol mewn rhanau gwledig o'r Werddon. Cynnygiwyd ei ail-ddarlleniad gan Mr J. P. Farrell, a chefnogwyd et gan Mr T. W. Russell, Mr T. M. Healy, hapten Donelan, ac ereill. Ar ran y Llywodraeth cododd Mr Atkinson i wrth- wynebu y mesur. Ar ymraniad, gwrthodwyd ef gan 223 0 bleidleisiau yn erbyn 137. GWYLIAU'R SULGWYN. I DYDD IAU, yn Nhy'r Cyffredin, cynnygiodd I Mr Balfour fod y Ty i'w ohirio hyd ddydd Ian, Mehefin 6ed. Yn ystod yr ymdrafodaeth a ddi- lynodd, hysbyswyd fod tri o fesurau i'w trafod I wythnos i ddydd Mercher, a ohynnygiwyd gwelliant i'r Ty ail ymgasglu y diwrnod hwnw. Gwrthodwyd y gwelliant gan 196 0 bleidleisiau yn erbyn 106. Bu trafod amrywiol ar y prif gwestiwn. Cy- feiriodd Mr Brodrick, wrth alteb cwestiynau neillduol yn nglyn a'r Swyddfa Rhyfel, at ddy- muniad Syr H. (Jatnpbell-Bannerman am hys- bysrwydd yn nglyn a'r sefyllfa yn Neheudir Affrica. Dywedodd, gan y disgwylid i Syr A. Milner gyrhaedd y wlad hon bob dydd, vn naturiol dymunai y Llywodraeth gael ymddy- ddan personol alu prif awyddog einyidol er cael hysbysrwydd na ellid ei gael gyda'r tele- graph cyn gwneyd unrhyw adroddiad. Gan belled ac yr oedd a fyno y Swyddfa Ryfel a'r peth, profai gohebiaethan dderbynid oddiwrth Arglwydd Kitchener fod pobpeth yn myned yn mlaen yn foddhaol. Gofynai i'r Ty gredu, er nad oedd yr adroddiadau am y rhyfel ond prin, fod y gweithrediadau wedi cyrhaedd y fath safle fel nas gallai'r hyspysrwydd fod yn Hawn, ac nad oedd gan y Llywodraeth unrhyw ddymun- iad i gelu dim. Terfynwyd y drafodaeth a chytunwyd ar y gohiriad. AUR YN NGHYMRU. DYDD IAU, yn Nhy'r Cyffredin, gofynodd Mr Moss i Ganghellydd y Trysorlys o allai hys- bysu faint oedd swm y doll gyntaf ofynwyd gan y Llywodraeth oddiar Mr Pritchard Morgan pan agorwyd Gjvaith Aur Gwynfynydd, ger Dolgellau, gyntaf, a phs. faint oedd cyfanswm y tollau yr adeg hono. Canghellydd y Trysorlys: Y doll gyntaf god- wyd ar y gwaith aur crybwylledig ydoedd un ran o 30, neu 3 1-3 y cant. Yn ddilynol llei- hawyd hi i 1-50, neu 2 y cant. Cyfanswm y tollau dalwyd i'r Llywodraeth gan y gwaith er pan agorwyd ef ydoedd 2242p. 16s. 3d. Gofynodd Mr Moss i Ganghellvdd y Trysorlys a allai hysbysu y cyfanswm dalwyd i'r Llywodr- raeth am daliadau, cytundebau, a phrydlesoedd gweithydd aur yn Ngogledd Cymru ar wahan i Waith Aur Gwynfynydd, a pba faint oedd y swm 0 aur gafwyd yn N gogledd Cymru. Atebodd Canghellydd y Trysorlys mai y swm dalwyd i'r Goron yn y flwyddyn yn diweddu Mawrth 31 diweddaf ydoedd 141p. 9s. 6c. Swm yr aur g&fwyd ydoedd 11,609 wns. ARIAN I'R BRENIN. DDYDD GWENER, yn Nhy'r Cyffredin, pasiwyd y mesur i roddi arian at gynhaliaeth y Teulu Brenhinol gyda 149 o bleidleisiau yn erbyn 38. Y NODDEDI jION YN AFFRICA. DDYDD GWENER, yn Nhy'r Cyffredin, bu amcangyfrifon y Fyddin o dan ystyriaeth Pwyllgor y Cyflenwad. Ar un o'r gofynion galwodd Mr Lloyd-George sylw at gyflwr gwersylloedd y noddedigion yn Neheudir Affrica. Yr oeddis wedi derbyn adroddiadau daflai anglod ar rywun. Gofynodd gwestiwn yn ddi- weddar i'r Ysgrifenydd Rhyfel, ac mewn atebiad derbyniodd rhyw ffigyrau yn nglyn a'r nodded- igion hyn, ond yr hyn hoffai ef wybod oedd a oedd y ffigyrau yn golygu o ddechreu Chwefror ai ynte diwedd Chwefror. Hysbyswyd fod y marwolaethau o Chwefror yn 41 o ddynion, 80 o ferched, a 261 o blant. Os golygai yr Ysgrifen- ydd Rhyfel ddweyd fod y ffigyrau roddwyd yn dechreu ddiwedd Chwefror ac yn myned yn mlaen hyd Fai, yr oedd cyfartaledd y marwol- aethau yn mhlith y plant yn 150 y fil. Yr oedd hyn yn ddychrynllyd i feddwl am dano, a rhaid ei fod yn ddyledus i'r cysgod gwael a gaffent y-n y gwersyll. Nid oedd ef am ddyweyd mai y Llywodraeth yn gyfangwbl oedd yn gyfrifol am hyn, ond dylid gwneyd rhywbeth i amddiffyn y bobl hyn. Yr hyn ddymunai wybod oedd pa beth a wnai yr Ysgrifenydd Rhyfel i atal y fath farwoliethau yn mhlith y plant. Yr oedd gan y Ty hawl i wybod ychwaneg am y mater. Dywedai y boneddwr anrhydeddus mai nifer y marwolaethau ydoedd 251, ond ni roddai ddyddiad. Mr Brodrick: Hysbysais mai y laf o Chwefror a olygid, neu o'r hyn lleiaf y rhan gynharaf o Chwefror. Dywedodd Mr George fod marwolaethau plant felly o ddechreu Chwefror hyd Mawrth 21ain yn 251, neu 250 y fil o'r plant oedd yn y gwersyll. Yr oedd hynyna yn gofyn am ychwaneg o eglur- had, a theimlai y dylai y boneddwr anrhydeddus deimlo yn rhwymedig iddo am roddi cyfle iddo i glirio y mater. Mewn trefn i alw sylw at y mater cynnygiai leihau lOOp ar y swm arianol. Dywedodd Mr Bryn Roberts fod Is-ellmyniaid yn Cape Town yn foddlawn i gymeryd y mwyaf- rif o'r gwragedd a'r plant i'w cartrefi. Go- 1 beithiai y byddai i'r Ysgrifenydd Rhyfel roddi sicrwydd y byddai i'r arian roddid i'r bobl hyn gan eu cyfeillion yn Lloegr a Holland gael eu hanfon iddj)>fc, Condemniai ddinystrio cnydau a llosgi tai, a dywedai na fu dim tebyg i hyny mewn unrhyw ryfel er's dros ddeugain mlyn- edd. Dylid canistau i gyfeillion y bobl druain hyn i ymweled a hwynt, fel y gellid gwybod y gwir. Yr oedd yr hyn a wnai y Llywodraeth yn farbaraidd ac yn groes i draddodiadau y Fyddin Brydeinig. Trechwyd y gwelliant trwy 123 yn erbyn 46. Bu symiau ereill dan sylw, a gohiriwyd y Ty ar haner nos.

Advertising

CAISERIAETH A GHENEDLIGRWYDD.

AM GYMRY AR WASGAR

[No title]