Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

23 articles on this Page

Llys Methdaliadol Porthmadog.

News
Cite
Share

Llys Methdaliadol Porthmadog. DDYDD GWENER.—Gerbron y Cofrestr Jones. ACHOS 0 GRICCIETH.—Daeth John Davies, Rhianfa, Criccietii, yn mhuen i'w holi ar gyhoedd. Yr oedd ei ddyledion yn -14p, a'r eiddo mewn llaw yn werth 9p. Priodolai y methdalwr, dros yr hwn Yr ymddangosai Mr Parry, cyfreithiwr, Criccieth, ei fethiant i goll- edion dderbvniodd yn nglyn a chodi cwmni golchfa, ac hefyd y llety a gadwai yn Nghric- cieth. Ymddangosai Mr W. George, Porth- madog, dros v gofynwyr. Mewn atebiad i'r Derbynydd Swyddogol (Mr Llewellyn Hugh Jones), dywedodd y methdalwr iddo golli 180p yn nglyn a'r steam laundry. Yr oedd mewn anhawsderau er's peth amser a bu gorfod iddo I fenthyca arian oddiar Mr Kellow, Porthmadog, i'r hwn y rhoddodd bill of sale ar ddodrefn neillduol. Holwyd y methdalwr yn fanwl yn nglyn a'r amgylchiadau o dan y rhai v rhodd- wyd y bill of sale.—Gohiriwyd yr arholiad er gwneyd ymchwi Itdau pellach. j ACHOS 0 BWLLHELI.-Daeth Thomas John Williams, chwegnwyddwr a pherchenog terbydau, Bodaweti Temperance Hall, PwJI- heli, yn mlaen i gael ei arholi. Ymddangosai Mr A. Ivor Parry, Pwllheli, drosto. a'r Mri Arthen Owen, Robvns Owen. a E. R. Davies, dr»s y gofynwyr. Yr oedd v <lf ledion vn 2933p i ofynwvr heb eu sicrhau ll^p. bwrid y dygai'r eiddo 2*208p i fewn. Dywedodd y methdalwr nad oedd yn ystyried ei hun wedi tori, ond ei fod wedi ei yru gan waith ei ofynwyr yn gwasgu arno i ofyn am nodded y llys. Mewn atebiad i'r Derbynydd Swyddogol, dywedodd iddo ddechreu busnes oddeutu ugain mlynedd yn ol gyda 280p o gyfalaf. Yn 1897 ystyriai nas gallai gyfarfod ei ofynion. ond wedi hyny cynnyddodd ei fusnes ac enillodd ei dir. Ei brif ofvnwyr oedd ei ddau frawd; ac ni ddaethai i'r llys onibai am a wnaethent hwy. Rhoddodd bill of sale i un o'i frodyr, ond yn erbyn ei ewyllys. Yna dechreu- odd ei ofynwyr masnachol bwyso arm, a thaloddi symiau sylweddol mewn costau cyfrerthiel. Yr oedd wedi yswirio ei fywyd am 500p a 200p, ond cedwid yr yswirebau fel gwystl yn y bane. Yr oedd swm mawr o arian yn ddyledus iddo oddiar y Pwllheli Tourist Agency.—Gohiriwyd yr II arholiad.

Llys Sirol Bangor.

Llys Sirol Llanelwy,I

Ynadlys Llandudno.

Penrhynside, am feddwdod.…

IIYnadlys Sirol Caernarfon,

IIFFESTINIOG A'R CYLCH

DOLGELLAU.

HELYNT Y PENRHYN,

DIWEDDARAF. ---_---

Ainibynwyr Lleyn ac Eiflonydd.

Bwrdd Undeb Conwy, |

Bwrdd Undeb Dolgellau.

..Cymanfaoedd Dyffryn Conwy.

Cynghor Gwledig Llanrwst

iPwyllgor" Heddlu Sir" Fflint.I

Ynadlys Bwrdeisiol Caernarfon.

-----------.-.---------------'------GLADDEDIGAETH…

ACHOS Y PARCH W, 0. JONES.

ARDDANGOSFA GEFFYLAU Y SULGWYN…

... BODDI El HUN YN FFESTINIOG.

[No title]

Advertising