Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

25 articles on this Page

Bwrdd Pysgota De Sir Gaemarfon.

News
Cite
Share

Bwrdd Pysgota De Sir Gaemarfon. Cynnaliwyd cyfarfod chwarterol y bwrdd uchod yn y George Hotel, Criccieth, dydd Gwener, Syr H. J. C, Ellis Nanney, Bar., yn y gad air. Yr oedd y Mri W. R. O. Jones, E. P. Williams, W. Watkin (Criccieth), David Jones (Porthmadog), clerc y bwrdd, hefyd yno. GOhlEBIAETH.—Darllenwyd llythyr oddi- wrth Mr Lewis Owen, watchmaker, Penygroea, yn ymofyn am lyfrau trwyddedau brithylliaid i'w gwerthu.—Er ei fod allan o'r dosparth, pen- derfynwyd anfon llyfrau i Mr Owen, ar y telerau arferol, gan fod cwynion fod genweirwyr yn gorfod myned i Bantglas i gael trwydded bysgot.a yn y rhanau uchaf o afon Dwyfach TRWYDDEDAU RHWYDO.—Darllenwyd ceisiadau am drwydded i rwydo eogiaid oddi- wrth amryw, a dywedodd y Clerc ei fod wedi anfon y trwyddedan gyda'r manylion angen- rheidiol. 0 AELODAU Y BWRDD AM 1991.-Dar- llenwyd llythyr oddiwrth y Cynghor Sirol yn hysbvsn fod yr oil o'r hen aelodau wedi eu dewis am 1901. BWRDD M ASNACH.—Ysgrif ena y Bwrdd nchod am fanylion yn nglyn ar cyfrif o bysgod dwfr hallt a dwfr croyw a ddaliwyd yn yatod y flwydyn ddiweddaf, i'r hyn yr atebwyd gan y olerc. MESUR Y CAMBRIAN. Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Masnach yn galw sylw y bwrdd at y mesur nchod, ac yn gofyn a oedd gan y bwrdd hwn unrhyw sylw i'w wneyd ar y mesur, hsfyd yn gofyn am eglurhad yn nglyn a'r dorau oedd dros yr afon yn ymyl gorsaf Pwllheli.—Hysbysodd y clerc ei fod wedi ateb nad oedd gan y bwrdd unrhyw wrthwynebiad i'r mesur os na roddid rhywbeth i fyny fyddai yn rhwystr i'r pyagod fyned i fyny yr afon, ac hefyd ynrhoddi yr eglurhad gofynol yn nglyn a'r doran. TANYSGRIFIADAU.—Darllenwyd llythyr- au oddiwrth amryw foneddigion yn amgau eu tanyagrifiadau am y flwyddyn. ADRODDIAD YR AROLYGYDD.-Cyf- lwynodd Mr William Jones, y prif arolygydd, ei adroddiad. Dywedodd fod yr afonydd ar hyn o bryd yn isel iawn, ond y cafwyd pysgota da yn nechreu y tymhor, ac yr oedd yr oil o'r genweir- w.yr yn tystio fod y pysg mewn cyflwr rhagorol, yn fwy o ran maint a rhif nag oeddynt ychydig flynyddau yn ol. Daeth o hyd i amryw o leoedd wedi eu trefnu i osod cawelli i ddal eogiaid, a distrywiodd yr oil.

Bwrdd Undeb Bangor.

Bwrdd Undeb Caergybi.

Advertising

Bwrdd Undeb Ffestiniog.

Cynghor Dosparth Dwyran.

Cynghor Gwledig Aberystwyth.

Cynghor Gwledig Gwrecsam.

Llys Sirol Gwrecsam.

I Llys Sirol T reffynnon.

Methodistiaid Gorllewin Meirionydd.

Ynadlys Bangor.

Ynadlys Rhyl,

Ysgolion Sirol Maldwyn.

BALA.

IFFLINT.

GROESLON.I

LLAN GOLLBN.

ILLANRUG.

[No title]

Advertising

Bwrdd Undeb Machynlleth. !

Cyfarfod Misol Arfon,

Cymdeithas Ryddfrydol Dwyrain…

Ysgolion Sul M.O. Caernarfon.