Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

IAT EIN GOHEBWYR,

MAES Y GWAED.

PERSONAU A PHETHAU.

Bwrdd Undeb Conwy.

Gynghor Blaenai. Ffestiniog.

Eisteddfod Coleg Bangor. !

Ynadlys Bangor,

Llys Sirol Bangor.

Llys Sirol Pwllheli.

Ynadlys Bettwsycoed,

Ynadlys Bwrdeisiol Caernarfon.

News
Cite
Share

Ynadlys Bwrdeisiol Caernarfon. DYDD LLUN.—Gerbron W. J. Williams* Ysw. maer), Dr Parry, ac Edward Hughes" Ysw. ° FFRAE RHWNG GWRAGEDDCyhudtf- wyd Lizzie Owen, Assheton-terrace, gan Saraht Dyke, o ymosod arni.—Ymddangosai Mr J. T. Roberts dros yr erlynes. a Mr T. W- Henwood! dros v diffynydd.—Tystiodd yr erlynes ddarfod' i Lizzie Owen gario stiaeon celwyddog am daui, a phan aeth i siarad a hi a.eth pethau o ddrwg i waeth. Dywedodd Sarah Dyke lywbeth yn nghylch Lizzie Owen hefyd, a.'r canlyniad fur iddi ei tharaw, a chymerodd ymladdfa le rhyngddynt. Tynwyd gwallt yr erlynes, ac wrth i'r ddiffynyddes geisio ei tharaw y tro nesaf, aeth ei dwrn yn erbyn y wal, a briwio ei bys. Rhwygwyd ei dillad hefyd gan y ddiffyn- yddes.—Gwysiwyd Sarah Dyke hefyd gan y ddi- ffynyddes, yr hon a ddywedodd fod Mrs Dyke wedi bod yn ei phoeni am beth amser. gan ledaenu straeon celwyddog yn ei chylch. Cyfar- fuasant v noson dan sylw, a, honai Lizzie Owen mai Mr-i Dyke oedd y cyntaf i ymosod, ddarfod iddi ei tharaw yn ei gwyneb. Y na cvmerodd" afael yn ei bys a thorodd ef. Nid tar aw ei dwrn vn erbyn y wal a ddarfu, ond Mrs Dyke a dorodd ei bys. Dirwywyd Lizzie Owen i 2s 6c costau, a thaflwyd yr aehos arall ailan. OHIAU HWYR.—Cyhuddwyd N. Samuel, Stryt Fawr, o gadw ei siop yn agored am ugain- mynyd wedi un ar ddeg yn yr hwyr. Tystioddf yr heddgptrlwad ddarfod iddo weled dvnion yn y siop; ac yr oeddynt yn cael wvstrys.-—Dywedodd v diffynydd mai cadw yn agored a wnaeth er- rhoddi meddygimaeth i bobl. Nid refreshments ond meddyginiaeth oedd wystrys.—Galwyd Mr Daniel Keily i dystio ei fod ef yn y siop am ddeng mynyd wedi un ar ddeg, ac ni welodd efe y ■" un heddgeidwad yno.—Taflwyd yr achos allan ar daliad y costau. RHWYSTRO.—Am adael wagen allan yn Segontium-road South, cyhuddwyd Griffith Jones o osod rhwystr ar y ffordd fawr.—Dywed- odd v diffynydd ddarfod: iddo gyrhaedd y dref yn hwvr v noson hono, ac nis gallent ddad- iwvtho. Yr oedd yno ddigon o Ie i gerbydau basio.—Taflwyd yr achos allan ar daliad y costau. IAITH AFJJAN.—Dirwywyd John Williams, Well-street, i 2s 6c a'r costau am ddefnyddio iaith anweddus. MEDDWDOD.—Am fod yn feddw yn y cei, ddydd Sul, dirwywyd Henry Jones, Snowdon- street, Portdinorwic, i 2s 6c a r costau.

Ynadlys y Valley.

Ysgol Ganolradd Caergybi.