Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

ICORONIAD IHiO J- XX Jla-Ew.

VICTORIA A SIOR III.¡

SYMUDIADAU LLONGAU.

OLD FALSE TEETH BOUGHT.

ARIANDY GOGLEDD A DEHEUDIR…

News
Cite
Share

ARIANDY GOGLEDD A DEHEUDIR CYMRU. Ddydd Mawrth, Ionawr 22ain, cynnaliwyd cyfarfod blynyddol (y pumed a thriugain) Cyf- randdalwyr yr Ariandy hwn yn y Law Associa- tion Rooms, Lerpwl, o dan lywyddiaeth Mr Thomas Brocklebank, U.H., cadeirydd yr arian- dy. Cynnygiodd y Cadeirydd fabwysiadu yr ad- roddiad oedd eisoes wedi ei ddosparthu yn mhlith y cyfranddalwyr. Wrth edrych dros eiriau olaf ei anerchiad wrth gynnyg yr adroddiad a'r fan- tolen am 1899, gwelai iddo ddyweyd y pryd hwnw eu bod yn credu v byddai y tymhor oedd o'u blaen yn un llwyddiannus ac enillgar. Credai fod ei brophwydoliaeth wedi ei chyflawni yn y fantolen bresennol (clywch, clywch). Cawsant flwyddyn nodedig o foddhaol; 'roedd y ffigyrau bron yn siarad drostynt eu hunain, oblegid yr oedd enillion yr ariandy yn dal cymhariaeth hynod ffafriol a'r rhai yn ystod y blynyddoedd dtweddal, ac yr oedd y llwyddiant fu ar eu hym- drechion wedi eu galluogi i ddefnyddio adnoddau yr aaiandv fel ag i gadw y sefyllfa o gadernid oedd bob amser yn nod o'u blaen. Gwelid hyn oddiwrth y ffigyrau a ganlyn —I gyfarfod a'u holl gyfrifoldeb i'r cyhoedd, sef 9,932,291p, 'roedd ganddynt mewn arian parod, ac wedi eu rhoddi allan ar ddvogelion y Llywodraeth, rbanau mewn rheilffyrdd o'r dosparth blaenaf, ac ar filiau, 6,143,293p, cvfartal a 62 y cant o'u liymrwymiadau (clywch, clywch). Gwelid fod pob cyfanswm—ar y ddwy ochr i'r cyfrif—gydag un eithriad, yn dangos cynnydd, a'r arian a rodd- wyd ar log yn fwy na'r llynedd o banner miliwn neu ychwaneg. Bu'r ffaith hon yn fanteisiol i'r ariandy oherwydd y bu'r gwahaniaeth rhwng y llog a delid y llynedd a'r hyn a gynnyrchai yr arian a roddwyd allan yn fwy ffafriol iddynt nag yn 1899. Yn ngwyneb y gostyngiad yn ngwerth marchnadol yr holl ddyogelion goreu, barnodd y cyfarwyddwyr yn ddoeth ostwng y swm ar eu llyfrau fel gwerth dyogelion y Llywodraeth i 90 y cant, allan o enillion y flwyddyn sydd newydd derfvnu; ac os na chwympai yr Ymherodraeth Brydeinig, ni byddai angen gwneyd dim darpar- iaeth yn y cyfeiriad yna eto. Fel y parhai'r ariandy i gynnyddu, 'roedd rliaid lluosogi nifer I-- y eu canghenau, a'u lielaethu. Felly adeiladwyd swyddfeydd newyddion, yn He yr hen, yn Nghaergybi a. Phwllheli. Disgwylid y byddai eu hadeilad newydd yn y Rhyl yn barod yn ystod yr haf dyfodol; ac er y gwneid pobpeth heb unrhyw wastraff. eto rhaid i'r adeiladau fod yn sylweddol a hardd a chan gadw hyn mewn golwg, teimlai y cyfarwyddwyr mai iawn par- hau i ddefnyddio cyfran o'r elw yn flynyddol i ostwng y swm oedd ar eu llyfrau fel gwerth y cyfryw feddiannau. 0 ganlyniad, eleni defnydd- iwyd 5798p o'r enillion i'r perwyl hwn, ac yn nghorph yr wyth mlynedd diweddaf defnydd- iwyd y cyfanswm o 38,000p yn yr un dull. Hefyd rhoed o'r neilldu 2000p tuagat y gronfa er sicr- hau blwydd-dal i'r swyddogion ar ddiwedd tym- hor eu gwasanaeth. Gwnai hyn, yn nghyda'r darpariaethau enilJ. a grybwyllwyd, gyfanswm o 18,000p, a gymervvyd o'r enillion am y flwyddyn, o'i gymharu a 9000p y flwyddyn gynt; ond gad- awyd yn weddill ddigon i'w galluogi i dalu ych- ydig yn rhagor i'r cyfranddalwyr nac o'r blaen, ac i gario drosodd i'r cyfrif nesaf swm cyffelyb i'r flwyddyn o'r blaen: (cymeradwyaeth). Carai grybwyll, os na wnai hyny i Mr Rowland Hughes wrido, nad oecld cyfanswm y colledion yn y brif swyddfa am y flwyddyn ond 161p, a dim mwy na 2568p yn yr oil o'r naw canghen a thriugain. Dywedai hyn lawer am y gofal a gymerid gan y swyddogion, ac am eu hadnabydd- iaeth gywir o'u cwsmeriaid, a'r telerau da rhyngddvnt (cymeradwyaeth). Talwyd 1400p mwy o dreth i'r Llywodxaeth ar eu henillion eleni na'r Ilynedd, ac yn awr yr oedd y dreth hon a delid ychydig dros ddeunaw ceiniog am bob un o gyfranau yr ariandy. Agorwyd canghen yn Llandrindod, ac is-ganghenau yn Nghoedpoeth, a Rhosllanerchrugog, ac eleni trefnwyd i agor un yn Craven Arms, er cyfleusdra i'w cwsmeriaid "fynychai y ffeiriau pwysig yno. Prynwyd ad- eiladau- yn Smithdown-road, Lerpwl, ac yn yr Amwythig, lie yn fuan yr agorid canghenau, y flaemaf i'w hadnabod fel canghen Sefton Park. Buont yn ffodus yn yr Amwythig i sicrhau ad- eilad yn y safle fwyaf manteisi«l, ac yn hawdd ei gyfaddasu at eu hamcanion ar draul gym- harol fechan; ac felly roedd y cyfarwyddwyr o'r diwedd bron a sylweddoli eu hen ddymuniad am gael canghen yn yr Amwythig, a ystyrid gan '14 -v lawer fel prifddinas Gogledd Cymru (cymeradwy- aeth). Yn unol a'r telerau cysylltiedig a chronfa y flwydd-dal ymneillduodd pedwar o oruchwyl- wyr eu canghenau yn nghorph y flwyddyn, ar ol gwasanaeth maith ac anrhydeddus. Llanwyd eu lleoedd gan ddynion ieuengach, yr oedd gan y cyfarwyddwyr yr ymddiried llwyraf ynddynt. 'R?Ðdd ganddynt yn aAvr gynifer a; 437 o swydd- ogion, yr oil yn selog yn ngwasanaeth yr arian- dy, ac yn awyddus i hyrwyddo ei feddiannau. Gyda golwg ar y dyfodol, gwell peidio dyweyd dim, am fod y byd mewn cyflwr hynod o aflon- ydd. Bu'r llynedd, mewn yrlyr fasnachol, yn l un eithria,dol o an wasted. Yr oedd eyfanswm I masnach, a gyrhaeddodd y pwynt uwchaf yn I ystod misoedd olaf v ganrif, yn annghyffredin o fawr, ond cwtogwyd yr enillion mewn llawer o gyfeiriadau gan gystadleuaeth o Germani a'r America, a chan bris uchel y glo. Dangosai ad- roddiadau y Bwrdd Masnach fod y wlad yn myned yn mlaen mewn llwyddiant, ac 'roedd y cynnydd enfawr yn y drafnidiaeth mewn nwydd- au rhwng y wlad hon a gwledydfL ereill yn ddigon au rhwng y wlad hon a gwledydfL ereill yn ddigon i brofi mai pan fyddai masnach fywiocaf y byddai enillion yr ariandy helaethaf. O'r ochr arall, pan fyddai masnach yn isel, nid oedd dim i'w ddisgwyl ond llog isel a llai o elw i'r cyfran- ddalwyr. 'Roedd y rhyfel yn Neheubarth Affrica, ymlusgai yn mlaen mor araf, yn fanteis- iol iawn i berchenogion llongau, ond cadwodd farchnad llafur yn llwm, a thra y pery yrJlelynt gellid disgwyl hefyd y byddai prinder aur yn y wlad. Ar hyn o bryd nid oedd unrhyw argoelion gostyngiad mewn llogau arian. Cefi^ogodd Mr Beausire y penderfyniad. Dywedodd yr Henadur Edward Paull ei fod yn dymuno gwneyd ychydig o sylwadau llon- gyfarc,Nia,d)ol (clywch, clywch). Wrth edrych a.r yr adroddiad boddhaol iawn oedd yn eu dwv- law, ac ar ol gwrandaw ar anerchitd -,cadeirydd, teimlai ef fod Ariandy Gogledd 31 Deheudir Cymru yr un mor ddyogel rhag suddo a'r Ymherodraeth Brydeinig (clywch. clywch, a chwerthin). Yr oedd y swm a welodd y cyfarwyddwyr yn angen- rheidiol i'w osod o'r n-eiwdu tuagat golledion yn nodedig o fvcium (cymeradwyaeth). yr hyn oedd i'w briodoli i arolvgiaeth ragorol T ariandy, a clivAvirdeb a gonestrwydd masnachwyr Lernwl a Gogledd Cymru (cymeradwyaeth). Rhoddwyd y cynnygiad i'r cyfarfod, a phas- iwyd ef yn unfrydol. Cynnygiodd Mr G. C. Dobell fod Mr Robert Clover Beazley. a Thomas Brocklebank, i'w hail-ethol yngyfarwyddwyr yr ariandy. Eiliwyd gan Mr R. W. Jones, a chariwyd yn unfrvdol. Cynnygiodd yr Henadur Edward Paull. "Fod diolchgarwch y cyfranddalwyr i'w gyflwyno i gyfarwyddwyr yr ariandy am eu gwasanaeth gwerthfawr, a bod: 7 swm of 4000p i'w roddi fel cydnabyddiaeth iddynt am eleni." Cefnogodd Mr W. C. Aikman, a pha«iwy<f> iwy a chydnabu'r cadeirydd. Cynnygiodd Mr Edward Rae fod Mii Har- mood Banner a'i Fab i'w haal-ethol yn archwil- wyr yr a.riandy. Cynnygiai fodi eu cydinabydd- iaeth i'w godi o 300 i 400 gini. Eiliwyd gan y Llyngesydd Jones-Parry, a mabwysiadwyd y cynnygiad. Cynnygiodd Mr H. Bulkeley Price, U.H., I ddiolch i oruohwylwvr a. swyddogion ereill yi ariandy. Nid fel mater o ffurf v gwnai y cyn- nygiad, oblegid fe welai v cyfranddalwyr fod yr elw boddhaol a qderbynient ar eu heiddo yn di- bynu i raddau helaeth ar wasanaeth rhagoro1. goruchwylwyr a swyddogion ereill rvrariandy Eiliwyd gan Mr John Dempster, a mabwysiad- wyd y penderfyniad. Diolchodd Mr T. Rowland Hughes, v gomch- wyliwr Cyffredinol, wrth gydnabod or ti ran ei hun a'r swyddogion ereill, i Mr Bulkeley [.'rice I am yr hyn a ddywed^vd1 ganddo, ac hefyd i'r cyfra.nddalwyr am y dull oaredig yn mha un y derbyniasant. y penderfyiiad. Terfynwyd y cyfarfod drwy ddiolch i'r cad- eirydd am lywyddu, ar gynnygiad Mr Joseph Wilson, a chefnogiad y Cynghorydd John Mor- ris.

Advertising

Y PRIF FARCHNADOEDD.

MARCHNADOEDD CYMREIG.

Advertising