Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

25 articles on this Page

FFESTINIOG A'R CYLCH.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

FFESTINIOG A'R CYLCH. ACHOS W. 0 JONES.—Ceir cartwn doniol yn dal perthyiias ag achos y Parch W. U. Jones a'r Hen Gorph, yn "Mhapur Pawb," PREGETiiU.—Yn mhlith yr amrywiol en- •wadau bu yn y cylch gryn lawer o bregethu ail wvthnos y flwyddyn ar ganrif newydd. MliSS EVANS, Y GENADES.—Bu hi yn anerch. Cymdeithas Ymdrech Grefyddol yn Llan- frothen, ei chartref, yn bur effeithiol. CYFARFOD DIRWESTOL.-—Cynnaliwyd: yr uchod nos Sadwrn, yn Jerusalem. Cymerwyd rhan vruldo gan aelodau Oapel Hyfrydfa. CAU Y DDARLLEN FA.—Ofnir os na cheir mwy o gefnogaeth yn Mhenmachno i'r Ddarilenfa Gyhoeddus y bydd raid ei chau. NEWID.—Y mae Mr R. J. Davies (Bar- lwydon) wedi ei ddewis yn un o arholwyr Ysgolion M.O. y Blaenau yn lie Mr E. Griffith, Gli'-nvpwll. DikWEST YN NOLWYDDELEN.—Yn nghyfarfod dirwestol y merched, y tro diweddaf, cvmerwyd rhan gan Misses Gwen Jones, Hannah Gntiiths, Grace Jones, &c. AT Y RHYFEL.—Y cyfanswm gasglwya Yina at drysorfa.'r rhyfel oedd 211p. Y mae lOOp o'r swm uchod wedi ei dalu i wragedd y rhai aeth oddiyma i faes y rhyfel. GWLEDD.—Rhoes Mir a Mrs G. H. Ellis wledd o de a bara. brith i blant ysgolion y Llan mewn rha.n er dathlu agoriad yr Ysgol Sirol a.'r Ysgol Uwchraddol yn y Blaenau. Y CHWIORYDD I ARHOLI.—Y mae cyfar- fod ysgolion M.C. Blaenau wedi penodi Miss Edwards, y Tabernacl, a Miss Edwards, Bethel, Tanygrisiau, i arholi yr ysgolion. RHODD.—Deallwn mai Mr Bellis, cyn- liunvdd, Bangor, roddodd yn anrheg yr agcrriad aur'i Syr George Kekewich ddydd agoriad yr Ysgol Uwchraddol i'r Merched yn y Blaenau. DARLLENYDDIAETEj.—Yn absemioldeb y Parch Thomas Davies, Taisarnau, caed anerchiad ar y teetyn uchod yn Nghymdeithas Siloh nos Lun, Mr R. Roberts, Plas Meini, yn y gadair. MEDDYGOL.—Y mae Mr J. Roberts, a fu yn gwasanaethu gyda'r meddygon Roberts a Jones, a chyn hyny gyda'r diweddar Dr Roberts, Porthmadog, Wecli pasi ei arholiad rhagar- weiniol yn Glasgow. ER COF AM EU HATHRAW.—Bu y di- weddar Mr David Davies, Manod-road, yn athraw yr un dosparth yn Ysgol Bethesda am 31 mlynedd. Ar ei fedd rhoddodd y dosparth flodeudorch harda. PEIDIO CWBLHAU. — Pan etholwyd Cynghor Plwyf Penmachno gwnai yr aelodau addewidion teg y ceid yn fuan lampau a. goleuo. "Y mae y gauaf hwn yn prysur fyn'd heibio, a > dim cwblhau yr addewidion. j SYMUD YN OL.—Y mae Mr John Jones, gynt o Westy y Commercial, Blaenau, wedi symud vn ol i'r hen ardal eto i fyw i Bennar View. Yn Nhriccieth yr ydoedd, wedi symud er mwyn iechyd ei ddiweddar wraig.. CADEIRYDD Y CYNGHOR DINESIG.— j Darfu i Mr W. Owen, cadeirydd y cynghor dinesig, ddydd agoraid yr ysgolion, wahodd holl aelodau y cynghor a'r swyddogion i fwynhau y bvrbrvd yn Ngwestv v Frenhines. Y PARCH SETH 'JONES.—Y mae efe eto wedi gadael yr hen ardal i fyn'd yn ol i Awstralia. Ffarweliwyd ag ef yn Seion, pryd y caed anerchiadau 2 and do ef a'r swyddogion, v Parch Moses Roberts, Dr Evans, a'r Mri fauch Jones a Richard Williams. CYMDEITHAS Y RHIW.—Nos Lun, pan y llywyddai Mr J. J. Williams, caed papyr ar "Ann Griffiths," gan Miss Ann Roberts, Rhiw House; "Mam Ieuan Gwynedd," gan Miss Winnie Roberts, Bryndinas; a "Nanws Cae Du," gan Miss Blodwen Jones. Dwyryd-terrace. Y DIWEDDAR MR R. V. WILLIAMS.— Bu Mr R. Vaughan Williams farw wedi cystudd trwm am dymhor byr. Ionawr 14eg, yn 64 mlwydd oed. Treuliodd doraeth ei oes yn ei hen gartref (Penmachno). America., a. Ffes- tiniog. Yr oedd yn wr ffyddlawn iawn yn ei holl gylchoedd. LLOSGI'R CORPH.—Aed a chorph Miss, Sowerby, 67 mlwydd oed, Tv'n v Mynydd, Dol- wvddelen, nos Lun, i Eglwys St. Elizabeth, a [ tlirachefn i swydd Henffordd. Treuliodd oes helaeth vn Nolwvddelen, ac yr oedd yn Gym- reiges er yn Saesnes o waedoliaeth. Llosg- wvd y corph yn Woking. "NEILLDUOL.—Dydd Mawrth a dydd Mercher, cynnelid llysoedd neillduol gerbron Dr Evans a. D. G. Williams, Ysw.—Y dydd cyntaf cyhuddid Gernard Grinley o fod yn feddw ac afreolus. Yr ail ddydd rhoed cyhuddiad cy- ffelyb yn erbvn James Barrow, cylchwerthwr: Dirwywyd y naill a'r Hall yn ysga.fn, gyda. chosatau. O'R BETTWS."—Yr oedd Mr Thomas Davies, yr Orsaf, a gladdwyd yr wythnos ddi- weddaf, yn 80 oed namyn un flwyddyn. Bu farw yn Neganwy, a.c ar lan ei fedd dywedwyd gair yn effeithiol gan Mr John Evans, cyn- orsai-feistr yno ac yn Mlaenau Ffestiniog, a chan y ficer a'r curad.—Llawen gan luaws yma. weled." darlun pur dda. o Miss Roberts, y genades, mewn cylchgrawn Americanaidd, yn nghyda i llcfcllSS CYMDEITHAS Y GWYR IEUAINC. — Yn nghvfarfod; y gymdeithas uchod. nos Sadwrn, dam lywydd-iaeth Mr R- T. Jones, Tan raLt, cat- wyd dlarlith gan y Parch D. Richards, B.A., Tyd'dvngwyn. Teetyn y ddariith ydoedd, "Grisiau mewn anrhydedd dyrchafiad." Siaradwyd yn. rahellach ar ,y teistyn igan y Parch T. Llechid Jones. Mri D. D. Roberts, Dorvrl- street; Phillip Evans, Park-square; a T. R. Da- vies. PenybTrn-t-errace. TLWS ADRIAN.—Ni chollodd Thomas J. Roberts, Pantllwvd. ac E. Jones, Moranedd, yr un tro y bu Ysgol y Bwrdd, y Lla-n, yn agored yn ystod y flwyddyn, a chvflwynodd y prif- athraw dlws arian i'r naill a'r Hall. Derbyniodd nifer da o rai ereill lyfrau, kc., am bresennoldeb da, Y mae vn mwriad Dr Griffith Roberts, yn unol a'i haelioni arferol at yr ysgol hon am roddi yn ystod y flwyddyn wobr am ragon mewn cangen neillduol o wvbodaeth. UNDEB YSGOLION Y WESLEY AID. Cynnaliwvd eu cyfarfod diweddaf yn Nghapel Gorphwysfa, v Blaenau. pan y llywyddai Mr Richard Jones. Llwyngell. Cymerwyd rhan gan Mrs J. E. Jones. Misses M. E. Jones, Bessie Roberts, a Catherine J. Williams ;y Mn. J. G. Jones, Hugh Gabriel Williams, W. M. Roberts, Richard Roberts, ac Edward Jones, Y nifer yn yr Undeb yw 576. Athraw on a swyddogion. 96; gyda 248 yn y Gobeithluoedd. CYNGHERDD GWYR BETHESDA.—Cyn- naliwyd cyngherdd er budd gwyr Bethesda, yn yr Assembly-rooms, nos Sadwrn, dan lywyddiaeth Mr J Parry Jones. Llys Llewelyn. Cymerwyd rhan ynidldo gan Mr Hugh Roberts, Blaenau Ffestiniog; Parti Bethesda, ac hefyd unawd- ■vtvt o blitn, y parti. Ychydig o gynnuliiad gaf- Tv vd. oherwydd na wyddai ooid ychydig am dano, gan na hvsbysebwydl mohono. Boreu y cyng- htrdd v darfu iddiynt benderfynu dyfod. Hefyd, yr oedd V tywydd yn anffafriol. CYNGHERDD. — Cyrmaliwyd cyrnarheraa: elusenol yn yt Assembly-rooms nos Iau, er budd Lewis, Plas Cad- eiriwvd gan Dr R. D. Evans, Llys Meddyg, ac arweini^rd gan Biyfdir. Cymerwya rhan gan Megan liechid, Rhondda; Mr John D-arnels, a Mr R Thomas Adroddwyd gan Miss Cathe- rine E. Parry. Rhiwbryfdir. Yn ystod y cyf- orfod, cymerødd cv^ta'ileuaeth ar yr her unawd- an "Lead Kindly "Light," a "O Ft Hen Gym- raeo- Allan o saith o gvstadleuwyr, rhanwyd v wobr rhwng Mr Hugh Roberts, Blaenau Ffes- tiniog a. Mr David Price, Penmachno Y PARCH SETH JONES YN NGHAER- DYDD.—Nawn ddydd Mawrth, yn nghapel y Bedyddwyr, yn Nghaerdydd, panj llywyddaiy Cvnghorydd E. Thomas, U.H. (Cochfarf), cyt- Iwynwvd i'r Parch Seth Jones anerchiad mewn album'hardd. fel arwydd o barch a chydnab- vddiaeth i lafur Mr Jones i enwad y Bedydd- wvr vn v De, &c. Yr oedd wedi ei arwyddo gam. Mr b, Lewis (cadeirydd), Thomas Harries (trysorydd), a Mr Jones fel ysgrifenydd.- Diolchodd y Parch Seth Jones yn gynhes am y teimlad da ato. Ond nis gallai lai na dychwel at y,bob1 yn Awstralia, a garai mor fawr a bwriadai gychwyn tranoeth (ddydd Mercber) ao o Lundain ddydd Sadwrn. Y mae 16 o flvnyddau er pan yr vmfudodd i ddechreu i Awstralia., ond ar ol gadael Mon a Ffestiniog, vn y Gogledd, lie y treuliodd faboed ac leuenc- tyd, bu am ddeng mlynedd yn weinidog yn Mlaenwaun, sir Benfro, fel yr oedd iddo gvlch eanc o gyfeillion yn v De. Mewn ymweliad o eiddo gohebydd a.g ef, rhydd Mr Jones fanylion dyddorol am safle a dylanwad y Cymry vn Newcastle. Awstralia. ffyddlondeb i'w gwlad 3:11 hiaith, ac yn arbenig yr Eisteddfod. 0 FINLAND.—Hysbysir am, farwolaeth Mrs Jaderholm. Abo, Finland, mam Mrs Duncan, y cofir amdani yn rrglyn a helynt yn Nolwvdd- elen dro yn ol. Fis Awst ^diweddaf, cyfarfu Mrs Jaderholm a damwain trwy syrthio ac anafu ei phen. effeithiau yr hvn a arweiniodd o'r diwedd i fath o enyni-id ar yr ymenydrl. a bu farw v 26min o Dachwedd. yn ei chartref yn Abo, yn 65 mlwydd oed. Teimlai Mrs Jader- holm yn gynhes iawn at y Cymry. conys yr oedd ynddi wa^ed' Cymreig. Ei henw morwynig oedd' Frances Owen—a'i thaid oedd o'r enw Owen, o gyffiniau yT Amwythig, yr hwn, pan yn fachgen ieuanc, a aeth) i Birmingham, a. cafoddwaith mewn jfowndri yno. Gweithiodd ei ffordd trwy ddadblygu y dalent reddfol oedd ynddo at beir- iannwaith, yn gymaint felly fel mai efe a. ddewiswyd i gymeryd goJal rhyw archeb yn y cyfeiriad peiriannol a ddaeith oddiwrth Ymher- awdwr Rwsia, i'w chwiblhau yn nhueddau St. Petersburg. Daeth yn wr defnyddiol yn y parthau hyn. Mr Owen oedd y cyntaf erioed i roddi agerlong waith yn Ngulfor y Baltic. Ymsefydlodd yn Finland, a phriododd Saesnes o swydd Efrog, ac o'r cyff hwn yr hanodd Frances lOwen, a anwyd yn Stockholm, Ebrill 17eg, 1835, ac a d'daeth yn briod i Mr Jaderholm, masnach- ydd yn Abo. Deallir fod Mrs Duncan wedi gwella yn hynod o dda, a'i bod hi bachgen, a anwyd iddi Tachwedd, 1891, yn Mlaenau Ffes- tiniog, cyn ei dychweliad adref, yn mwynhan eui cynnefin ieohyd. Y mae Mr Jaderholm, ei thad, mewni oedran teg, ao yn wael er's blynyddau. DARLITHIAU.—Yn yr Assembly-rooms, nos terser, traddodwydi y ddsirlith gyntaf o'r gyfres. Oherwydd bod amgylchiadau anorfod yn lluddias y cadteirydd' penodedig. Mr R. Roberts, Dolawel, rbag bod yn bresennol, cymerwyd ei le gan y Parch D. Richards, M.A., Ficerdy. Ar ol ych- jdig o sylwadau ga# y Cadeirydd, ar amcan v darlithoedd, galwodd ar Dr Andrew Wilson yn mlaen i draddodi ei ddariith ar "Coral, Coral-makers, and Coral Reifs." Eo-lurai ei sylwadau trwy gyfrwng hudlusern. Ar y di- weddl, eglurai maamcan y darlithoedd oedd creu mwy o awydd yn; y dosparth ieuengaf at efrydiaeth. Annojgjaa hwy i gymryd" rhyw ganghen o efrydiaeth i fyny yn nglvn ag addysg gelfyddydcl. Hefyd, armogai hwy i fynvchu yr ysgiolion, nos, er manteisio ar v* dosparthiadau yn nglyn a chelf a gwyddor. Dywedai y byddai yn rhaid i'r wlad yma gymeryd hyn mewn llaw er mantais i'w masnach, neu fe fyddai yr Americtii a Germany rrn myned a hi oddiarnom1. Yn ystod y, cyfarfod, cyflwynwyd tystysgrifau yn nglvn ag arhioliadau y oelf a gwyddor i'r personau can.ynol gian Dr Andrew Wilson, Mri Daniel G. Jones. John Hughes, Hugh Ellis Hughes. 0. D. Jones, William Williams. Ben. T. Jones, Lewis Thomas, a Miss Maggie Williams. Diolchwyd i Dr Andrew Wilson ar gynnygiad Mr Bowton, Cartre, a chefnogiad Mr W. W. Jones, Bryn Awe! Hefyd, awgrymai ar i'r pwvllgor drefnu ar gyfer y rhai na allent fanteisio ar r darlith- cedd, oherwydd eu bod yn Saesneg. Diolchwyd i'r cadeirydd. ar gynnvgkd| y darlithydd, a chefnogiad Mr R. 0. Davies. cyfreithiwr, ys- grifenvdd y mudiad. Dywedai y gwnjai y p-.vyllgor ei goreu ar awgrym Mr W, W. Jones, Cafwyd darlith wir dda, a chyniiulliadi hynod o luosog.

PORTHMADOG.

! PWLLHELI.

.HHYL. :

.TOWYN.I

TREMADOG.

WYDDGRUG. I

Y BEL DROED. j

jO'R WLADFA GVMREIS.

MARWOLAETH Y PARCH D, M.I…

[No title]

AFIECHYD Y FRENHINES.

.' RHYFEL Y TRANSVAAL.I

HELYNT CHINA.I

TRWBL YN .VENEZUELA.I

! CLADDEOIGAETH ESGOB LLUNDAIN

,GOHIRIO LLAWENHAU.I

[No title]

jCYFARFOD MISOL ARFON.

DRYLLIAD LLONG 0 GAERNARFON,

HELYNT Y PENRHYN.

[No title]

Family Notices

Advertising

SYMUDJADAU LLONGAU.