Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Advertising
PWYSIG I HYSBYSEBWYR. Y CYLCHREDIAD MWYAJc YN NGHYMRU. LLWYDD PARHAOL "YR HERALD CYMRAEG," CYNNYDD, 260,000. TYSTYSGRIF NEWYDD. Hyfryd iawn gan Berchenog Yr Herald Cymraeg"—yr Hynaf, Mwyaf, Rhataf, a Vioraf or newydaiaduron Cymreig—ydyw galw sylw at Iwydd cynnyddol a. dihafal y yapyr tra phoblogaidd hwn. Am gwrs o llynyddan, nid ydys wedi arbed na thraul na thrafferth i wella Yr Herald Cymraeg." Helaethwyd ef amryw droion. Argtephir ef ar "well papyr; ac y mae ll noli beiriannau o'r mathau diweddar. *11 ydfynedol, yr ydys wedi trefnu i'r y —v neddion, y nofelau, a'r erihyglau-¡ fod o flwyddyn bwy gilydd yn fwy ffr< s ac au.rywiol; ac (elly yn fwy dyddorol i'r eylioedd'o bob gradd a dosparth. Deagys y Dystysgrif a welir isod nad ydyw'r cyhoedd wedi bod yn hwyrfrydig nac yn anwadal yn ei chefaogaeth i'r anturiaeth. Er's hir amser, y mae swyddogion cy. hoeddus a masnachwyr Cymru wedi gwerth fawrogi colofuau Yr Herald Cymraeg fe cvfryngau campus i Hysbysiadau. Eleni •saf "Yr Herald" yn uwell nag erioed yr raarn y wlad. Eto, wrth ystyried y cynnydd parhaol yn y cylchrediad, mae'r Ivrchen^f. yu hyderus ddisgwyl ychwanegiad dirfawi yn nifer yr Hysbysiadau yn y misoedd dy fodol. Er fod y cylchrediad yn ymeangu, ni wneii codiad yn y Prisiau am Hysbysiadau yn ystod y Jlwy ddyn hone Rhydd hyn fantais i'n hen gwsmeriaid ac ereill a ddymunent wneyd cytundebau 11:- benig am ofod, ac am fanau neillduol am hu a'user, i wneyd bargeinion manteisiol. Gwahoddir hwynt i ymokebu a'r swyddfa yn udiood. TYSTYSGRIF (CYFIEITHIAD). u 9 a. 11, Old Bank Buildings, Eastgate, Caerlleon, Medi 30ain, 1898. oS At Berchenog yr Herald Cymraeg,' Caer narfon. Anwyl Syr, Dymunaf sicrhau fod cylchrediad Herald Cymraeg' fel y dangosir gan lyfran "cyfrifon y cyhoeddwr am y llwyddyn dai wsddaf o'm harchwiliad (sef y flwyddyn yu diweddu Mehefin 30ain, 1898) o'i gymharu a'r flwyddyn yn terfynu Mehefin 30ain, 1889, yn dangos "CYNNYDD o 235,084 o gopiau yn y 52 wythnos, neu, ar gyfartal- "edd, gynnydd o 4:,588 o gopiau yr wythnos. Mae'r cylchrediad yn myned "AR GYNNYDD PARHAUS, &c y ma& r cynnydd hwn yn dra amlwg yr. yr amser presennol. "Mewn gwirionedd, pe gwneid cymhar- iaeth rhwng y chwarter diweddaf (yn di "weddu Medi 30ain, 1898) a'r chwarter cyferbyniol yn 1889 (yn diweddu Medi 30doiu, 1889) fe ddangosai GYNNYDD ar "GYFARTALEDD yn 01 y radd o "FWY NA 280,000 I" C gopiau y llwyddyn. Yr eiddoch yn ffyddlon, "E. NOEL HUMPHREYS, Cyfrifydd Trwyddedol. MPOMANT TO ADVERTISERS LARGEST CIRCULATION IN WALES. CONTINUED SUCCESS OF HERALD CYMRAEG." INCREASE 260,000 A NEW CERTIFICATE. The Proprietor of Yr Herald Cymraeg," <he Oldest, Largest, Cheapest, and Best of the Welsh Newspapers, has much pleasure In calling attention to the continuous and anparallded soocess of this old-establishec favourite. For a number of jeors, no effort or expense has been spared to Improve" Yr Herald Cymraeg." It has been several times en larged. The quality of the paper has been unproved, and the very best printing appli- ances have been secured. Concurrently, the news and literary columns have been reu dered more and more fresh, varied, an interesting to all classes of the public. As will be seen from the Certificate pub- lished below, the public has been neither slow nor fickle in responding to the enter orise of the conductors. Business men have long appreciated the merits of II Yr Herald Cymraeg" as » medium for Advertisements. At the present time, it stands higher in the estimation o' the Advertising World than ever. Bat i view of the continuously increasing circula tion of the paper, the Proprietor confidently anticipates a large increase of patronage ic the coming months. Notwithstanding the advancing oircala Ison, the Scale of Charges will not be raised faring the present year. Those who desit* oontracts for spaces and special positions to; periods should therefore apply afi onw i the Manager. CERTIFICATE. 9 and 11. Old Bank Buildings, Eastgate, Chester, September 30th, 1893 To the Proprietor of Yr Herald Cymraeg. M Carnarvon. Dear Sir. It I beg to oertify that the circulation of Yr Herald Cymraeg,' as shewn by tin publishing books for the last completer year of my audit (viz., year ended 30tt 11 June, )698), as compared with the yeai ended 30th June, 1889, shows an IJMUlvSlSE OF 235,084 copies in the 52 weeks, or an average increase of 4,538 copies per week "1 have regularly audited the books of 4*' Yr Herald Cymraeg' since the year 1893 The oiroulation has been A CONTINUOUSLY IMPROVING ONK and this improvement is very marked a" the present time. In fact, if the comparison were made for the last quarter (ending 30th September 11898) with the corresponding quarter or « 1889 (ending 30th September, 1889), i II would shew an AVERAGE INCREASE a the rate of "MORE THAN 260,000 copies per annum. "Yours faithfuUy, E. NOEL HUMPHREYS, w (lMirlcwwl looongtaxrf.
ACHOS Y PARCH W. 0. JONES.
ACHOS Y PARCH W. 0. JONES. ATEBIAD I'R CYFARFOD MISOL. Mewn ateb i fynegiad y Cyfarfod Misol, deil y Parch W. O. Jones i adyweyd fod yr hyn a gyhoeddodd efe yn ei lythyrau blaenorol yn gywir, a errsanega" Sylwer eto ary Pe^au. a gydnabyddir gan y pwyllgor ei ionedd diamheuol. Addefir y petbau byn. ( ) Fod penderfyniad wedi ei dynu allan yn y pwyllgor nos Sadwrn, Mawrth 31am, a bod y pwyllgor yn lie rhoddi y penderfyniad ir eglwys, yn ol y cytnndeb, w^di gosod^ ar Dr Jones i ddyweyd ei gynnwys. (2) Addefir fod y pwyllgor wedi dechreu ar yr ail ymchwiliad gyda syniad anffafriol am danaf er nad oeddynt erioed wedi gwrando ar neb o'm tyation. (3) Treuliwyd gaoddynt saith wythnos o amser, ser o Mai 9fed hyd Mehefin 28ain,i wneyd ymchwil iadau dirgelaidd i'm hachos, i anfon dirprwywr yma ac acw i gasglu achwynion yn fy erbyn, ac i wrando ar In o dystion, a gwneyd hyn oil o'r tu cefn i mi, heb anfon gair ataf, ac heb fy ngwabodd unwaith i roddi fy mhresennoldeb. (4) Darllenwyd y tystiolaethau i mi am y tro cyntaf Mehefin 28ain, ac ar nos Sadwrn, Mehefin 30ain, dechreuodd y prawf a pharhaodd hyd nos Lun dilynol, Gorphenaf 2il. (5) Torwyd yr ymchwiliad i fyny oherwydd i'r pwyllgor wrthod fy nghaia am ysgrifenyèd llaw fer. (6) Darllenwyd tystiolaethau rhai o'r tystion am y tro cyntaf y noa Lun a enwyd, ychydig fynydau cyn tori yr ymchwiliad i fyny, ac ni chefais yr un fynyd o amser i ateb eu cybuddiadau. (7) Y mae yn meddiant y pwyllgor rai tystiolaethau na ddarllenwyd mohonynt erioed i mi. Y mae y ffeithiau uchod yn awr wedi eu haddef gan y pwyllgor ei hunan, a myntumiaf fod y pethau hyn, ar wahan i bob ystyriaeth anU, yn ddigon o 'gondemniad ar ei weithred- iadau, ac yn ddigon i daflu amheuaeth ar gy- wirdeb ei ddyfarniad. Ond y mae y pwyllgor yn parhau i dystio i gywirdeb y ddedfr) d ac l onestrwydd eu hamcanion. Fel y Parchedig John Hughes, M.A., teimlant hwythau eu bod yn fath o ferthyron dros wirionedd a chyfiawn- der. Parod ydynt, meddent, i fyned i garchar, neu hyd yn nod i'r ystanc, dros yr hyn awnaetb- ant. Nid yw yn debyg y gelwir arnynt i wneyd y naill na'r llall, ond gyda phob gonestrwydd dymunwn ofyn, pwy yw y merthyr yn yr achos poenus hwn ? Pwy sydd wedi ac yn dioddef, ai y barnwyr ai ynte y collfarnedig ? Os y gallent bwy ymdeccau fel merthyron, myfi yn fwy o lawer. Nid yw o un diben gwneyd haeriadau nag apeliadau o'r fatb, y ffordd, a'r unig ffordd, i dori y ddadl ydyw cyhoeddi y tystiolaethau. Ysgrifenais yn fy Llythyr 1., a diweddaf y llythyr hwn gyda'r un geiriau-" Ni bydd oun dyben, i rai nac i'r oil ohonynt, wrthdystio yn fy erbyn, na gwneyd datganiad o'u gonest- rwydd; ni thycia dim i'm distewi ond rhoddi i mi neu i'r cyhoedd gopi llawn o'r hyn yr wyf yn barod fwy nag unwaith wedi taer erfyn am dano." PWYLLGOR AMDDIFFYNOL. Dewiswyd Mr R. O. Williams, Botanic-road, yn gadeirydd; Mr R. W. ThomRs, Coltart-road, yn drysorydd; a Mr J. S. Wynne, Walton Park, yn ysgrifenydd. Mae Pwyllgor Amddiffynol wedi ei ffnrfio yn Lerpwl i gefnogi cais Mr Jones. Trefnir i gynnal cyfarfodydd, ac hefyd i gael barn yr holl aelodau o fewn cylch y Cyfar- fod Misol, yu y ffurf o ddeisebau. PENDERFYNIADAU EGLWYSIG. Yn Eglwys David-street pasiwyd y penderfyn- iad canlynol, gyda 240 dros a 55 yn erbyn:— "Fod eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn David-street, yn ngwyneb ystad gythryblus eglwysi y Cyfundeb oherwydd yr amgylchiadau difrifol yn nglyn a'r chwaer-eglwys yn Chat- ham-street, yn barnu mai angenrheidiol, er mwyn enw da y cyfundeb, a heddwch a thangnefedd yr eglwysi, ydyw i'r Cyfarfod Misol roddi i Mr W. O. Jones gopi llawn o'r cyhudd- iadau a'r tystiolaethau ar ba rai y seiliodd y pwyllgor eu dyfarniad, a hefyd drefnu fod ymchwiliad agored a llawn yn cael ei wneyd yn ddioed i'r holl achos ar yr ammod ei fod ef yn ymrwymo i beidio erlyn unrhyw un a gym erodd ran yn yr ymchwiliad." Pasiwyd penderfyniad i'r un perwyl gan eglwys Bwlchderwydd, Clynnog, i'w anfon i Gyfarfod Misol LJeyn ac Eifionydd. BARN MR E. R. DAVIES, PWLLHELI. Mewn llythyr i'r "Cymro" ar "Drefn Eglwysig y Methodistiaid," olrheinia Clerc Trefol Pwllheli banes y Rbeolau Disgyblaethol. Ychwanega gyda golwg ar achoa Mr W. O. Jones: Nid oes yn ycyfansoddiad, naill ai yny rheolau uchod na'r rhanau ereill o'r rheolau dysgblaethol," un gair yn cyfreithloni llywodr- aeth eglwysi y Cyfundeb gan gyfarfod brodyr— yn y rhai y trafodir yn fynych gwestiynau o ddysgybliaeth a phethau ereill tra phwysig, nac ychwaith un gair yn awdurdodi dirprwyo hawl- iau "eglwys," Cymdeithas Fisol," neu Gym- deithas Chwarterol," i unrhyw bwyllgor. Yn absennoldeb awdurdod bendant i'r perwyl yma, mewn cyfansoddiad, nid oes gan bwyllgor un- rhyw hawl i weithredu—dros nac ar ran y Corph eu hunan. Ei unig hawliau ydynt i wneyd ymchwiliad a chyflwyno adroddiad cyf- lawn. Yn achos Mr W. O. Jones nid hyn a wnaed. Gweithredodd y pwyllgor fel pe buasai yn meddu hawliau terfynol (plenary powers). Nid cyflwyno adroddiad yn cynnwys manylion o'r ymchwiliad a wnaed, er gailuogi y Cyfarfod Misol i ffurfio barn ar deilyngdod yr aohos, yn ol y tystiolaethau, ond eyf-wyno adroddiad yn unig, yn argymell y Cyfarfod Misol i ddiarddel Mr W. O. Jones, oherwydd eu bod hwy fel pwyllgor wedi ei gael yn euog o ymddygiad an- nheilwng o weinidog yr efengyl. Y mae yn eithaf amlwg nad oes unrhyw awdurdod yn nghyfansoddiad y Cyfundeb Methodistaidd yn gwarantu nac yn cyfreithloni yr ymddygiad hwn, na'r owrs a fabwysiadwyd, ac yn sicr nid oes unrhyw lys arall—gwladol na cbrefyddol fuasai yn ei ganiatau. Fe addefa pawb fod penderfyniad y Sassiwn neu y Gymdeithasfa Chwarterol yn anhebgorol cyn y gellir diarddel gweinidog. Y mae pleid- lais rhif luosocaf y Corph yn angenrheidiol cyn y gellir gweinyddu dysgyblaeth o gwbl, ac ni raid ymofyn a yw n fuddiol—ar wahan i bob ystyriaeth o gyfiawnder a thegwch, i osod y cyfrifoldeb ofnadwy ar ysgwyddau aelodau y Gymdeithasfa o ddiarddel unrhyw weinidog heb wybodaeth ddigonol o'r cyhuddiadau a'r tystiol- aethau i'w gailuogi i ffurfio barn drostynt eu hunain. Fe gytuna pawb ei fod yn gam dirfawr a'r troseddwr i'w ddysgyblu-llawer llai ei ddi- arddel, heb wneyd yn hysbys iddo ef a'i farnwyr fanylion y cyhuddiad neu y cyhuddiadau, ond er mwyn anrhydedd y barnwyr, a chanlyniadau cyfrifoldeb moesol dynion am eu gweithredodd, nid oes lie i amheuaeth na ddylai pob un o'r barnwyr wybod digon am y tystiolaethau i'w galluogi i ffurfio barn annibynol a diduedd. Onide pa beth yw amcan cadarnhad penderfyn- iad Cyfarfod Misol gan y Gymdeithasfa o gwbl ? Nid yw yn deg nac yn gyfiawn son am anrhyd- edd a chywirdeb aelodau unrhyw bwyllgor fel rheswm digonol dros weithredu ar eu hadrodd- iad. Y mae yn gam a'r dynion eu hunain am fod'ymddygiad felly yn banner priodoli iddynt anffaeledigrwydd gallu a gwybodaeth yr hyn na fuasent byth yn honi. Pe gweithredid ar eg- wyddorion felly, buasai pob math o Lys Apel yn afreidiol ac ofer. Ond y mae ffaeledig- rwydd ac anallu dynion i wneyd cynawnder per- ffaith a'u cyd-ddynion wedi blino y byd yn mhob oes. Yn achos Mr W. O. Jones fe'i diarddelwyd ef heb unrhyw ddatganiad yn y Gymdeithasfa o gyhuddiad yn ei erbyn na throsedd o'i eiddo; ni ynganwyd un gair o berthynas i natur un- rhyw dystiolaeth, ac fe'i rhoddwyd yn syml ar bwys cenadwri Cyfarfod Misol Lerpwl. Y mae y cwestiwn hwn yn bwysicachnagyrymddengys ar y wyneb. Oherwydd pe cyflwynid adrodd- iad gan bwyllgor y Cyfarfod Misol i'r Cyfarfod Misol ei hunan o'r tystiolaethau cyn penderfyxiu o'r Cyfarfod Misol ar y mater, buasai Mr W. O. ) Jones y pryd hwnw, fel aelod o'r Cyfarfod Misol, yn meddu yr un hawl ag unrhyw aelod arall i gael manylion o'r adroddiad, ac i'r graddau hyny buasai ei gwyn bresennol yn ddirym. Heblaw byny, buasai yr angenrheidrwydd am adroddiad cyflawn o'r natur yma oddiwrth y pwyllgor i'r Cyfarfod Misol yn gosod cyfrifoldeb ar y pwyllgor i gael nodiad cyflawn o'r tystiol- aethau, nid er mwyn y cyhuddedig, ond er mwyn y pwyllgor ei hunan, ac y mae yn an- mhosibl synied am y posibilrwydd i weithredu cyfiawnder perffaith ag unrhyw achos heb gof- nodion cjlfawn o bob ymchwiliad yn nglyn ag Y CAIS AM GOPI O'R TYSTIOLAETHAU. Anfonodd Mr E. D. Symond, cyfreithiwr Cyfarfod Misol Lerpwl, lythyr at gyfreithwyr y Parch W. O. Jones, dyddiedig yr 16eg cyfisol, o berthynaa i'r cais am gopi o'r tystiolaethau. Noda fod rheolau y cyfundeb yn gofyn i'r Sassiwn gadarnhau penderfyniad yn diarddel gweinidog. Cadarnhawyd penderfyniad Cyfar- fod Misol Lerpwl gan y Sassiwn yn Awst diweddaf, heb i Mr Jones, p'run bynag ai drwy amryfusedd ai peidio, apelio. Felly, can belled ag y mae a wnelo'r Oyfarfod Misol ag ef, mae'r mater wedi ei gau. Gall y Sassiwn, sut bynag, yn ddiau lacio ei rheolau, ac nid amheua Mr Symond na wnai hyny pe dangosid rheswm digonol, ond perthyn y gallu i'r Sassiwn ac nid Ii i'r Cyfarfod Misol. Gofyna a yw cyfreithwyr Mr Jones neu Mr Jones ei hun yn meddwl fod gan Gyfarfod Misol Lerpwl awdurdod i gytuno I a thelerau parth y dull o ddwyn ymchwil yn mlaen, nodiadau o'r dystiolaeth, rhoi cenad i bersooau fod yn bresennol yn yr ymchwil, natur y dystiolaeth i'w gwrando, ac apel at y Gym- deithasfa Chwarterol ? A dybid y buasai un- rhyw gyfundeb o'r fath yn rhwymo'r Gym- deithasfa Chwarterol? Drachefn, pan ddat- genid syndod fod unrhyw gorph o ddynion yn dal mar gyndyn i wrthod cytuno a'r telerau hyn," a anghofid mai ar y lOfed cyfisol y °yn" nyciwyd hwy gvntaf, ac nad cd y "corh 0 ddynion" eto wedi cyfarfod i'w hystyried. Gwrthodwyd rhoi ymrwymiad ar ran Mr Jones y byddai iddo apelio, fel ammod i flaenon caniatau ei gais. Felly, gan nad oedd y Cyfar- fod Misol yn gwbl glir oddiwrth amheuaeth parth ei awdurdod, penderfynwyd y rhaid gwneyd yr apel at v Gymdeithasfa Chwarterol. Ni fwriadai'r Cyfarfod Misol drwy'r penderfyn- iad hwnw ddatgan nad oedd ganddo awdurdod o'r fath, er y gallai'r penderfyniad yn y cyfieith- iad, gyfleu'r syniad hwnw. Ystyria Mr Symond fod'y Cyfarfod Misol yn y penderfyBiad wedi gweithredu yn hollol gyson a'r arfer yn llysoedd y gyfraith parthed cael copiau o nodion y barnwr at bwrpss apel neu brawf newydd. A phe teimlasai'r Cyfurfod Misol yn rhydd i arfer unrhyw awdurdod a ddichon berthyn iddo mewn cysylitiad a'r cais, diau y buasai'n ofynol ganddo yn mlaenaf gael sicrwydd fod apel wedi ei dwyn neu yr ymgymerid i'w dwyn; ac yn ail, fod i Mr Jones ymgymeryd i beidio gwneyd sylwadau na'i chyhoeddi yn y wasg cyn yr apel. Sylwir fod cyfreithwyr Mr Jones yn eu llythyr dyddiedig y lOfed cyfisol yn datgan y farn fod y Cyfarfod Misol wrth ddiarddel Mr Jones" yn gweithredu yn uniongyrchol yn erbyn cyfan- soddiad y cyfundeb, a bod yr hyn a wnaed felly heb fod yn safadwy ac heb effaith." Os oedd y farn hon yn dda ei sail, gellid yn hawdd ei phrofi mewn llys cyfreithiol. Gwahoddesid Mr Jones eisoes i ddwyn unrhyw weithrediadau a fynai yn erbyn y Cyfarfod Misol, ac os oedd yn amheu cyfreitblondeb yr hyn a wnaed, gwa- hodda Mr Symond ef i dderbyn y gwahoddiad hwnw.
ANGHYDFOD YN YR AMERICA.
ANGHYDFOD YN YR AMERICA. Dywedir fod awdurdodau gwladol Vene- zuela wedi cymeryd meddiant o agerlongau, a hyny yn erbyn gorchyroynion yr Unol Daleithau. Ofnir y bydd i hyn arwain i dywallt gwaed, os nad i ryfel. Y mae rhyfel- long wedi ei hanfon i'r lie, gyda gorchymyn i lanio mor-filwyr, os gweiir fod hyn yn angen- rheidiol.
DR LEYDS ETO'N SIARAD.I
DR LEYDS ETO'N SIARAD. Cafodd gohebydd y Daily Telegraph ym- gom yn Brussels a Dr Leyds a Mr Fisher. Dywedai Dr Leyds: "Yn hwyr neu hwyrach, bydd Lloegr mewn rhyfel a gallu neu alluoedd tramor, a'r adeg hono cymer chwyldroad mewnol a gynnorthwya. ymosodiad allanol. Cyhyd ag y gadewir gwragedd i ddwyn plant a'u magu, cyhyd a hyny y bydd yr elfen Isellmyn- aidd, os edrychir arnynt fel cenedl orchfygiedig, yn berygl arosol i'r Ymherodraeth Brydeinig. Os, modd bynag, y rhydd Lloegr delerau der- byniol, byddai yn setlo y mater am byth ac yn enill iddi ei hun gydweithredwyr yn ychwan. egol."
PWYSIG I AMAETHWYR IEIRION,…
PWYSIG I AMAETHWYR IEIRION, I Mewn cyd-bwyllger o Gynghorau Sirol Tre- faldwyn, Amwythig, Fflint, Dinbych, a Meirion, yn yr Amwythig, yr 8fed cyfisol, gwrandawyd cais o Gynghor Meirion am eu rhyddhau o'r or- fodaeth i molchi defaid cyn eu symud i sir arall. Rboddwyd gwrandawiad siriol i'r ddirprwyaeth (y Mri J. Williams, Gwernhefin E. Watkins, Rhiwlas; E. Jarrett, Plasynfaerdref; Gomer Roberts, Llanelidan; a'r Prif-gwnstabl Best), ond oherwydd fod 53 o achosion o'r Clafr wedi digwydd yn ystod y tymhor diweddaf, nis gallai y cyd-bwyllgor ganiatau y cais. Addawsant roddi ystyriaeth pellach i'r mater yn y cyfarfod nesaf.
I———— I MR COURTNEY A'R RHYFEL.
———— MR COURTNEY A'R RHYFEL. sal —— 1Ii.V caw Y mae Mr Leonard Courtney wedi ysgrxfenu i'r Times" lythyr ar gwestiwn Deheubarth Affrica. Awgryma y posibilrwydd o derfynu y rhyfel drwy ranu y trefedigaethau sydd gysyllt- iedig a'r cynnwrf presennol yn fan dalaetbau, yr oil yn rhydd i ddewis eu ffurf eu hunain o hunanlywodraeth. Byddai presennoldeb y milwyr Prydeinig fyddai raid aros yn Neheu- barth Affrica yn ddigon o sicrwydd yn erbyn unrhyw gumddefnydd a ellid wneyd o'r gallu hunanlywodraethol fel nas gellid gwanbau hawl- iau cyfartal y Prydeiniwr a'r Boer. Gobeithir yn gyffredinol y byddai y talaethau Boeraidd cyn bo hir yn meddu yr un hunan-lywodraeth a Canada, a dadleua Mr Courtney nad oes dim i'w golli drwy roddi prawf ar hyn ar unwaith, o dan ammodau ac a'i gwnai yn anhawdd i'r un ochr ei gamddefnyddio.
?V FFWLBRI FOWLER,
?V FFWLBRI FOWLER, Dywedodd Syr Henry Fowler, A.S., wrth siarad mewn ciniaw nos Lun, yn Willenhall, fod y sefyllfa dramor ar hyn o bryd yn ddifrifol iawn. Mewn perthynas i'r rhyfel daliai yr un farn ag a ddaliai flwyddyn yn ol, ac yr oedd ganddo yn awr gryfach tystiolaeth i'w gefnogi. Yr oedtl pwyllgor heddwch y bwrdeiswyr yn Nhrefedigaeth Orange River wedi dangos y gwir pan y dywedent eu bod wedi ymladd i gael Deheubarth Affrica o dan un faner. Yr oedd Lloegr wedi bod yn gwneyd yr un peth, ond yn unig yn ei hachos hi mai y faner oedd yr Union Jack." Credai fod yr ymdrechfayn un nas gellid eibosgoi—naallai unrhyw ddiplomateg ei rhwystro. Cyfa.laf Seisnig, gwaed Seisnig, ac ymenydd Seisnig oedd wedi gwneyd Deheubarth Affrica yr hyn ydoedd, ac nis gallem adael i'r ymherodraeth gael ei dwyn oddiarnom. Di- (weddodd Syr Henry drwy gyfeirio at safle Lloegr ar ddechreu y 19eg ganrif, dangosai y cynnydd a wnaed er hyny.
LLOFRUDDIAETH MEWN TREN,1
LLOFRUDDIAETH MEWN TREN, Dydd lan, cyflawnwyd Uofruddiaeth erchyll mewn cerbyd ar Reilffordd y South-Western rhwng Southampton a Llundain. Yr oedd tri o bersonau yn y cerbyd—dau ddyn a dynes. Yn 01 stori y ddynes gofynodd un o'r dynion i'r llall, Mr W. Pearson, ffermwr, o Winchester, am arian. Ar ei waith yn gwrthod, tynodd y llall lawddryll allan a saefcljodd Pearson, ac yna saethodd y ddynes, gan ei tharaw yn ei gen. Prof odd arch oil Pearson yn farwol, a dygodd ei ymosodydd ei arian a'i oriawr a'r gadwen. Pan oedd y tren yn arafu yn Ngorsaf Vauxhall, reid- iodd y llofrudd allan, a cheisiodd ddianc. Cod- odd y ddynes waedd am help, a dilynwyd ef. Cyn hir llwyddwyd i'w ddal mewn gwaith nwy oedd gerllaw yr orsaf, a chyhuddwyd ef o gyf- lawni y Ilofruddiaeth. Symudwyd y ddynes i'r yspytty Dygwyd y cyhuddedig gerbron yr yn u c j; ddydd Gwener, yn Westminster. Ei enw yw George H. Parker. Mewn llythyr at ei dad dywed ei fod wedi cyflawni y Uofruddiaeth tra yn wallgof.
R08EBERY AC ADDYSG A RHYFEL.
R08EBERY AC ADDYSG A RHYFEL. Wrth siarad yn nghinio blynyddol Cynghor Masnachol Wolverhampton, ddydd Mercher, dywedodd Arglwydd Rosebery ei fod yn edrych ar arfogaeth filwrol ddrudfawr a chostus Ewrop fel peth oedd yn gadarnhad yn erbyn rhyfel yn hytrach nag yn ddarpariaeth at amcan rhyfel- gar. Y peth a ofnai fwyaf ydoedd rhyfel mas- nach, yr hon yn ddiau oedd arnom. Addawai y ganrif newydd ddod ag un o'r ymrysonau llymaf rhwng gwledydd mewn masnach, a phen edrychid ar baratoad America a Germani, gwelid ei bod yn bryd i ni baratoi at yr hyn oedd o'n blaen. Cyfeiriodd at bwysigrwydd addysg, yn arbenig mewn perthynas i'r rhai hyny a wthient ein masnach i wledydd tramor, awgrymai fod ein haddysg yn rhy ynysaidd. Hyderai am ganlyniadau da foddiwrth brifysgolion fel ag a sefydlwyd yn ddiweddar yn Birmingham. Wnfch derfynu, cyfeiriodd at wladweiniaeth genedl- aethol Prydain, a dywedodd fod y rhyfel yn Neheubarth Affrica, oedd wedi costio cymaint mewn gwaed, dagrau, ac arian, yn colli ei phrif amcan os esgeulusid y cyfleusdra a'r cyffroad a wnaed yn eu mysg i roddi eu hamgylchiadau gweinyddiadol ar safle gwell. Byddai i genedl a ofnai hunan-ymchwiliad o'r fath ag a hawlid yn awr syrthio i lawr mewn ystyr foesol.
i ADDYSG YN FFESTINIOG,
ADDYSG YN FFESTINIOG, AGOR YSGOLiON NEWYDDION. AREITHIAU DYDDOROL. CYNNYDD ADDYSG YN Y LLE. Yn ystod y ganrif sydd newydd derfynu nid oes odid blwyf yn Ngogledd Cymru wedi cyn- nyddu mwy os cymaint yn ol nifer y trigolion, a'r eiddo Ffestiniog yn gysylltiol ag addysg, ac ar adeg mor neillduol a'r un bresennol—agoriad yr ysgol sirol newydd ac eiddo uwchraddol y genethod. Dyddorol gan ein darllenwyr yn ddiau fydd cael rhai manylion. Cytunir gan haneswyr y plwyf fod yn anhawdd iawn cael allan i sicrwydd pryd y cychwynwyd ysgol ddyddiol yma gyntaf. Nid oedd yn y plwyf yn nechreu y ganrif ac yn ddiweddarach, ond pur ychydig a fedrai siarad Saesneg, ac yn arbenig ysgrifenu llythyr yn yr iaith bono. Mae y rhanbarth erbyn hyn i fasur mawr yn ddwy- ieith, ac mai'r Cymraeg, wrth gwrs, yw'r iaith arferir yn feunyddiol gan y trigolion. Y mae sicrwydd fod un o'r enw Evan Rolant yn cadw ysgol yn hen eglwys y plwyf rhwng 1780 a 1790. Tua'r un amser, bu John Ellis o Abermaw, un o athrawon teithiol Mr Charles o'r Bala, am ryw gymaint o amser yma yn gystal ag mewn rhanau ereill o'r sir, tan arolygiaeth y dangar- wr o'r Bala, yn cynnal ysgolion. Y symudiad plwyfol y cyfeirir ato gyntaf yw yr un a wnaed at godi ysgol yn eglwys y plwyf yn y flwyddyn 1808. Codid treth o ddwy geiniog y bunt at hyn. Ceir hynes ysgol yn y Cefnfaes, y Blaenau, yn 1810, a Lewis Vaughan, o deulu Tanymanod, yn talu 1p 10s i'r un gwr am gadw hono, ac yn y Llan, yn 1814, yr oedd ysgol fechan yn y Capel Gwyn, ac yn mhlith ei hathrawon bu y diweddar Barch Thomas Hughes, Machynlleth. Bu ysgol yn ysgubor Tanymanod, a hen wr un-llygeidiog o'r enw Ellis Thomas yn addysgu y plant. Ynddiwedd- arach, pan agorwyd capel Bethania, bu yno ysgol, ac O. Jones yn dysgu Saesoneg i'r plant. Yn hen gapel Bethesda hefyd bu ysgol, ac Evan Richard o Gonwy yn athraw ynddi. Yn Myn- achlog y Rhiw ac yn ysgoldy bach y Dinas, bu ysgolion, ac yn y ddiweddaf bu Mr Daniel Evans, tad y Mri W. Evans a John Evans, gynt o swyddfa'r Herald," a Mr D. Phillips, brawd y diweddar Barch J. Phillips, Bangor, yn athrawon. Yn mhlith yr ysgolheigion yma bu y Parch Hugh Jones, Lerpwl, yn awr. Yn Nghanygrisiau bu ysgolion yn hen gapelau yr Annibynwyr a'r M.C., ac amryw athrawon i lawr hyd at ddyddiau y Parch Elias Jones, Tre- newydd, a Samuel Owen, yn eu mysg. Rhodd- wyd yn y plwyf yn gynar sylw i'r Gyfundrefn Genedlaethol a'r Gyfundrefn Frytanaidd o addysg. Noddid y gyntaf gan hen deulu Tany- bwlch a'r Eglwyswyr, a'r olaf gan yr Ymneill- duwyr. Un o athrawon cyntaf Ysgol Genedl- aethol Pen-yr-allt-goch yn y Llan oedd yr enwog Mr J. W. Thomas (Afonwyson). Am lawer blwyddyn bu Mr O. D. Aubrey yn athraw ami. Gwnaeth Mrs Oakeley wasanaeth mawr i achos addysg yn y Blaenau tua 60 mlynedd yn ol, trwy adeiladu ysgol a thy yn Llwyngele, ac wrth gwrs yn ol cynllun y rhai cenedlaethol. Tri o athrawon gwych y cofiwn am danynt ynddi yw y diweddar Barchn James Jones, Dyserth; Ellis Roberts (Elis Wyn); Robert Richards, Rhostryfan; a Mr R. Roberts, yn awr o Oakeley Quarry. Cododd yr Ymneillduwyr Ysgolion Brytanaidd yn y Llan a'r Blaenau. Yn athrawon y gyntaf bu y Parchn R. Lewis, Caernarfon; R. Parry, Ffestiniog W. J. Nickolson (tad y Parch W. J. Nickolson, Porth- mathog); Rees Evans, Llanwrtyd; y Mri J. Thomas, B.A., Bangor; a W. Davies. Yn athrawon yn y Blaenau ac yn hen ysgol y Garegddu, lie yr oedd ysgol uwchraddol y genethod, bu y Mri Daniel Evans, W. Ellis, J. Thomas, B.A., John Hughes, Bethania; Parch J. 0, Jones, a John Cadwaladr. Yn neu oddeutu 1866, gwnaed hen dy peiriant Pant-yr- ynn yn Ysgol Frytanaidd, yr hon, yn gystal a'r ddwy Ysgol Genedlaethol a'r ddwy Frytanaidd, a gyfienwai angen y plwyf nes y daeth cyfun- drefn ysgolion y byrddau i fod. Sefydlwyd y Bwrdd Ysgol y 23ain o Fawrth, 1876, a gwnaed hyny trwy gytundeb amrywiol bleidiau er ysgoi costau etholiadol. Y personau ddewiswyd oedd y Mri David Williams, Glasdo (cadeirydd); E. P. Jones (is-gadeirydd); a'r diweddar W. Row- I lands, Fotty a Bowydd; Daniel Williams, Cam- brian Cottage; a Dr Williams; a'r diweddar Mr G. S. Jones, fel" ysgrifenydd; y trysorydd oedd y diweddar MrjW. G. Casson. Yn yr ail ethol- iad, yn mhen tair blynedd, yr unig gyfnewidiad a fu oedd fod y diweddar Mr D. LI. Lloyd, Plas Meini, a'r Parch S. Owen gymeryd lie Mr E. P. Jones a Dr Williams. Y trydydd bwrdd lleol oedd y Mri D. LI. Lloyd, E. P. Jones, Andreas Roberts, R. Roberts, Gloddfa Ganol (yn awr yr Oakeleys), a W. Rowlands; a Mr John Cadwaladr yn gweithredu fel ysgrifenydd. Y mae'yn deg sylwi fod y cadeirydd presennol, Mr E. P. Jones, wedi bod am amser maith yn llafurus, ac y mae ereill, yn arbenig Dr Evans, y Mri H. Roberts, y Parch J. Rhydwen Parry, wedi bod am amser maith yn aelodau ffyddlawn. Mwy diweddar ydynt y Parchn D. Richards, M.A., R. J. Williams, Dr Jones, a Mr C. Ro- berts, ond gweithwyr rhagorol. Gwr a wnaeth lawer iawn yw y Parch T. J. Wheldon, B.A., yn I awr o Fangor, a hollol weddus oedd ei wahodd ef i Ffestiniog ddydd dathliad ac agoriad y ddwy ysgol newydd. Bu Mr O. Jones, Erw Fair, a I Mr John Parry Jones ac ereill am gyfnodau da yn mysg y caredigion, ac y mae y ddau uchod etto yn mhlith Llywodraethwyr yr ysgol sirol. Amcan mawr y bwrdd er ei ffurfiad oedd cael holl blant y plwyf tan addysg. Cyfrifwyd a chaed fod ei nifer yn 1859 yn fuan wedi pasio Deddf Addysg 1870, ond nid oedd Ie yn yr ysgol- ion Brytanaidd ac enwadol ond i 969, yn gadael gweddill o 890 heb Ie. Yn ystod y naw mlynedd dilynol, adeiladwyd o ysgolion newyddion fel y canlyn:—Ffestiniog (y Llan), i gynnwys 278 o blant, traul 1333p; Manod, i gyanwys 493 o blant, tranl 1665p; Fourcrosses, i gynnwys 496 o blant, traul 1818p; Tanygrisiau (Bechgyn), i gynnwys 150 o blant, traul 1289p; Glanpywll, i gynnwys 500 o blant, 4700p; cyfanrif, 2298, cyfanswm y draul 12,423p. Yr oedd yr uchod ar y pryd (1879) yn golygu Ue i rai rhwng 4 a 13 oed o nifer 2166, ueu y cyfartaledd priodol a lied gynnwys ar gyfer 13,000 o boblogaeth. Yr hyn oddeutu ydyw y cyfryw yn bresennol. Heblaw hyn oil daeth y Bwrdd Ysgol a'r ardalwyr allan yn gefnogwyr aeddgar i'r Ysgolion Uwchraddol ar gyfer y ddau ryw, ac nid yw dyfodiad gyfun- drefn yr Ysgolion Sirol wedi eu tarfu ond yn hytrach ei heffeithioli. Nid oes unrhyw ardal neu blwyf yn meddu cyfundrefn mor gyflawn a gorphenedig. YR YSGOLION NEWYDDION. Dydd Mawrth a benodwyd i agor yn ffurfiol i agor Ysgol Elfenol Uwchraddol y Merched a'r Ysgol Ganolradd. Adeiladwyd hwynt mewn safleoedd cyfleus yn y Blaenau, a chostiodd y gyntaf 4000p a'r olaf 8000p. Wrth gwrs, telir traul Ysgol y Merched gan y Bwrdd, ond cyf- ranodd trigolion Ffestiniog ran helaeth iawn o'r arian angenrheidiol i adeiladu y llall. Cafwyd diwrnod braf, a gwenai yr haul o wybren glir uwchben gyda gwres a wnai i ddyn dybio mai y gwanwyn oedd, ac nad yn Ffestiniog yr oeddys, ac o ganlyniad daeth lluoedd o bobl yn nghyd. Yn mhlith y gwahoddedigion yr oedd Syr George Kekewich, Ysgrifenydd Bwrdd Addyag; y Prifathraw T. F. Roberts, Aberystwyth; Mr A. Osmond Williams, A.S., a llu o gyfeillion addysg. Rhuai cyflegrau o benau y bryniau yn ystod y dydd, a chwyfanau banerau ar yr heol- ydd. Am yr ysgolion digon yw dyweyd eu bod wedi eu hadeiladu yn wych, ac wedi eu dodrefnn yn y modd sydd wedi gwneyd cyfeillion addysg Ffestiniog yn adnabyddus drwy Gymru. Y CINIAW. Am un o'r gloch, yn y Queen's Hotel, eistedd- wyd wrth ddarpariadau drefnwyd gan Mr J. Roberts, y rheolwr, a llanwyd y gadair gan Mr A. Osmond Williams, A.S., a'r is-gadair gan Mr R. O. Jones, Brynofferen. Wedi y ciniaw, cyn- nygiwyd amryw o lwnc-destynau. Y llywydd a gynnygiodd "Y Frenhines a'r Teulu Brenhinol" mewn araeth wresog a. theilwng o'r amgylchiad. Darllenodd Mr R. O. Davies (clerc) amryw lythyrau, a dderbyniodd oddiwrth foneddigion ceddynt a'u calon yn euro yn gynhes gan gariad at addysg yn ardal Ffestiniog, yn datgan eu teimladau da a'u gofid o fethu bod yn bresennol. Yn eu plith yr oedd llythyrau oddiwrth Mrs T. E. Ellis a Mr Herbert Roberts, A.S. Cynnygiodd y Llywydd y Uwnc-destyn, "Y Gwahoddedigion" gangysylltu yn benaf ag ef enw Syr George Kekewich, ysgrifenydd parhaol Bwrdd Addysg. Hwn, meddai, oedd y tro cyn- taf i swyddog nchel o'r un fath ymweled a Chymru. Yr oedd y dyddordeb a gymerai Syr George yn addysg Cymru, ac yn neillduol yn addysg Ffestiniog, yn wybyddua. Mewn atebiad, dywedodd yr Ymwelydd urdd- l asol ei fod yn hapus iawn o allu bod yn eu plith yn Blaenau Ffestiniog. Yr oedd wedi gofyn i un am y lie, a dywedodd hwnw wrtho ei fod yn bendraw y byd, ond cafodd allan wedi dod yma nad oedd hyny yn gywir. Un arall a ddywed- odd wrtho ei fod yn lie os ns. byddai yn eira yno y byddai yn sicr o fod yn gwlawio, ac y dylai fyned a dillad cynhes gydag ef a waterproofs; ond profodd prophwydoliaeth hwnw hefyd yn I I gyfeiliornus gan fod y nefoedd ei bun yn gwenu ar weithrediadau y dydd. Gwyddai ef ei hun am y lie ar gyfrif ei safle i*chel mewn addysg. I Yr oedd Swyddfa Addysg yn un bwysig, ac yr oedd yno dros fil yn gweithio ynddi, a'r gwaith felly yn fawr iawn. Gwaith fel heddgeidwaid oedd gan y Swyddfa Addyag, ac nid un fel y meddyliai llawer o orwedd mewn gwely o rosyn- au haf a gauaf. Yr oedd miloedd o feirniaid anffaeledig ar y Swyddfa, Byrddau Ysgol, y Byrddau Llywodraethol, hyd at ysgrifenwyr unigol; a'r oil yn meddwl y gwyddant fwy am addysg na'r Swyddfa. Fel erbjrn hyn yr oedd ef wedi dod i'r casgliad y deuai i wybod ychydig am addysg erbyn dydd ei farwolaeth. Yr oedd erthyglau condemniol ar y Swyddfa mewn new- yddiaduron, ac yr oedfl pobi yn credu pobpeth I ddywedai gohebydd papyr newydd, a'r Bwyddfa j heb allu i ateb yr ymosodiadau. Deuai y wlad felly i'r casgliad fod Bwrdd Addysg yn swp o wallgofiaid (chwerthin mawr). Yr oedd y Bwrdd yn barod i dderbyn awgrymiadau, ac yr oedd- ynt yn llai rwym wrth reolau oaethion nag y buont. Hawlient ymddiriedaeth y wlad, a gobeitbiai na siglid yr ymddiriedaeth hono (cym- eradwyaeth). Cynnygiodd yr Anrhydeddus C. H. Wynne y llwne-destyn "Addysg." Dywedodd fod hwn yn destyn eang, ac yn golygu y cynnydd mawr wnaed yn y cyfeiriad hwn yn ddiweddar yn y cyfeiriad hwn. Llawenhai weled cynifer o fon- eddigesau yn bresennol, ac yr oeddynt i gymeryd rhan amlwg yn y gwaith. Yr cedd addysg ganolraddol wedi dod i'r amlwg yn Nghymru, a Meirion wedi dod allan yn deilwng yn y mater. Wrth symud yn mlaen gyda hyn yr oeddynt wedi myned o dan gyfrifoldeb mawr. Yr oedd ysgolion ereill yn y sir, ond Blaenau Ffestiniog gymerodd y blaen ac a ddangosodd y ffordd i'r sir yn y mater. Yr ysgol yn un boblogaidd yn yr ystyr eangaf am fod y werin ei hunain wedi dod allan yn gryf yn yr achos. Yr oedd gan y ( werin well addysg na'r boneddigion, am fod I ysgol profiad a gwaith yn tra rhagori ar addysg golegawl. Yr oedd yn bwysig i newid i ffordd a phob teimlad anghysurus rhwng athrawon yr Ysgolion Elfenol a'r Ysgolion Uchaf. Ni ddylid myned i'r ysgolion uchaf yn rhy fuan. Yr oedd gwaith mawr o gadw yr ysgolion hyn yn fyw, ac hyderai y cyflenwid hwynt gan y rieni ofalent am addysg oreu i'w plant. Wrth ateb galwodd Mr À. C. Humphreys- Owen, A.S., sylw at bwysigrwydd addysg; cy- merai i fyny un ran o dair o oes dyn, a dylan- wadai ar ei fywyd ar ei hyd. Addysg elfenol, addysg ganolraddol, ac addysg golegol; yna addysg profiad yn y bywyd ymarferol. Yr ad- ranau hyn mewn addysg yn cael eu darparu yn Nghymru, ae Ysgolion Elfenol yn mhob rhan o'r wlad. Cenedl yn byw mewn aneddau, yna I ei haddysg yn yr ysgolion. Yr oedd 50 o ddys- gyblion yn yr Ysgolion Elfenol am bob un oedd yn yr ysgolion ereill, a cbyfrifid am y gwahan- iaeth hwn gan y ffaith fod y plant yn gadael yr ysgolion pan yn 14 oed i fyned i enill eu bywiol- iaeth; hyn yn dangos y pwys o gael cydym- deimlad rhwng athrawon y naill ysgol a'r llall. Yr oedd y Dirprwywyr Elusenol wedi dangoa cefnogaeth arbenig i addysg Cymru, ac eto yr oeddid yn teimlo fod angen am fwy o gyn- northwy arianol i gadw yr ysgolion yn ymyl y plant. Ffaith galonogol ydoedd fod 1362 o blant yr ysgolion wedi enill ysgoloriaethau, hyny yw un rhan o bump o'r boil blant oedd yn yr ysgol- ion. Gwnaeth Colegau Cymru hefyd eu rhan yn anrhydeddus. Dymunai gynnydd a llwydd- iant parhaol addysg yn Ffestiniog. =■ gan Mr R. M. Greaves. Wrth son am fasnach y lie, golygid yr unig un oedd ganddynt, sef y fasnach 'lechi. Nid oadd hon wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ystod y flwyddyn, oblegid fod arian yn ddrud a'r gystadleuaeth yn un lem. Yr oedd ganddynt y nwydd goreu yn y byd, a chaent y pris uchaf yn y farchnad. Er byny, yr oedd y gystadleuaeth mor lem fel yr oedd yn rhaid cadw i lawr y costau a chynnyddu y swm o lechi. Gellid cael hyn gyda'r peiriannau goreu, a'r ddeaUdwriaeth uchaf, yna yr angenrheid- rwydd am gynnorthwy yr ysgolion i baratoi dyn at eu galwedigaeth (cymeradwyaeth). ■ "^Diolchodd*Mr GrH. Ellis gyda chyfeiriad hapua at y cynnydd mawr mewn adeiladau, &c., yn yr ardal yn ystod y blynyddoedd di- weddaf. Mr W. Owen, cadeirydd y cynghor dinesig, a ategodd Mr Ellis. Cyflwynodd Mr Haydn Jones Llywydd ac Is-lywydd" y cynnulliad, gan ddatgan dyledyr I ardal a'r sir iddynt am eu cefnogaeth i addysg yn eu plith. I Yna atebodd y ddau foneddwr, ac ymwahan- wyd. !tIr YSGOL Y MERCHMD. Aed o'r Queen's Hotel am Ysgol Ganolraddol y Genethod. Oddiallan cyflwynodd y llywydd, Syr George Kekewich, i'r dorf, a deisyfodd arno agor dor yr ysgol gydag allwedd arian. Wedi ychydig sylwadau cymbwys i'r amgylchiad, agorwyd y drwa, ac aed i mewn. Oddifewn, sylwodd y llywydd fod yr ysgol newydd wedi costio 4000p. Yr oedd ynddi heblaw ystafelloedd at addysgu rhestrau, ystafelloedd coginio a golchi. Cyfaddasai yr addysg y rhai a'i derbyniai at gylchoedd pwysig bywyd. Dywedodd Syr G. Kekewich y byddai ganddo adgofion hyfryd am ei ymweliad a Blaenau Ffestiniog, ac y buasai allwedd arian yn gwneyd llawn cystal iddo a'r un a gafodd, gan y dy- wedid y gwnai allwedd arian agor pob peth." Llawenychai wrth weled eu darpariaethau at addysg merched at holl ddyledswyddau bywyd. Yr oedd gwraig dda yn beth gwerthfawrocaf yn mywyd dyn, a'i lie amlwg oedd mewn dedwydd- oli dyn yn ei gartref. Os oedd glendid yn nesaf at grefydd," yna yr oedd gwraig lan y ddynes fwyaf crefyddol. Dymunai lwyddiant aefydlog yr ysgol. Yr oedd Prifysgol Cymru yn awr yn agored i'r merched. Er fod lie mercb yn ei chartref, etc ni ddylid ei hattal i fyned i lenwi cylchoedd lie gallai cystal a dyn. Yr oedd gobaith y wlad hon yn y merched fagid yn yr ysgolion a'u cyfaddasu at ddyled- swyddau. Sylwodd yr Arolygydd T. Darlington, fod eu cyfundrefn addysg yn y lie ar y blaen, ac yr oedd yr adeiladau hefyd yn gwella. Yr oedd angen am gydweithrediad rhwng yr ysgolion jtfu gilydd. Cyfnndrefn addysg Germani yn hawlio naw mlynedd o gwrs addysg, tra yma nid oedd ond blwyddyn a. hanner, a dylid, gan hyny, ofalu cael cydweithrediad fel na byddai I y cwrs yn cael ei dori na'i newid. Nid oedd yn rhesymol gadael i'r chwarter miliwn plant oeddynt yn yr Ysgolion Elfenol, gan eu hes- geuluso er mwyn yr wyth mil oedd yn yr ysgolion ereill; dylai yr addysg gydredeg fel ag i fod yn un parhaol. Byddai cael cyn- nadledd rhwng yr athrawon yn dra manteis- iol, ac yn Ffestiniog llwyddodd i gael hyny, a dymunol oedd gweled y ffrwyth da oedd yn can- lyn hyny. Ar gynnygiad y Parch J. Rhydwen Parry, a chefnogiad y Parch R. J. Williams, cyflwynwyd diolchgarwch y cyfarfod i Syr G. Kekewich am agor yr ysgol. Wrth gydnabod y diolch, sylwodd yntllou ei fod, wrth weled y sel Cymreig dros addysg, yn gofidio na buasai yn Gymro, ond yr oedd ei wraig yn Gymraes o Gaerdydd, a deuai yntau i dreulio rhan o bob blwyddyn i sir Fynwy. YR YSGOL GANOLRADD. Yna aed yn mlaen at yr Ysgol Ganolradd, lie I hefyd yr agorodd Syr George Kekewich y drws gydag allwedd aur a gyflwynwyd iddo gan Mr I E. P. Jones. Gorlanwyd yr ysgol gynted agor- wyd y drws. Yn ei araeth agoriadol cyfeiriodd Mr Osmond Williams at gvmiydd mawr yr ysgolorion o 1895 hyd yn bresennol. Agorwyd yr ysgol gyda 37 o ddysgyblion, ond rhifent 110 yn bresennol. Gwnaed yn dda yn yr adeiladau oedd ganddynt, ond gydag adeiladau gwell a chyfaddasach, gwnaent waith gwell. Cafwyd cefnogaeth neill- duol gyda'r adeiladau. Cafwyd lllOp oddiwrth danysgrifiadau gan bersonau unigol, a chafwyd mil o bunnau o'r cynghor dinesig, gyda phum' cant drachefn at addysg gelfyddydol, a chasgl- odd chwarelwyr yr ardal y swm anrhydeddus o 650p o'u henillion yn y chwareli. Cydnabyddid hefyd yn ddiolchgar y mil punnau dderbyniwyd I oddiwrth Mr W. Rathbone a'r diweddar Syr Henry Tate. Er y rhoddion hael uchod, yr oedd 1646p yn aros eto yn eisieu er cwblhau y lie fel y bwrieilid. Diau y deuai y cwmniau allan yn anrhydeddus i glirio y ddyled, a chyda hwynt foneddigion yn yr ardal. Yr oedd dyled Cymru a'r deyrnas yn fawr am ei haddysg, ac yn neillduol Meirion. Angen mawr yr oes oedd addysg dda a mamau teilwng. Dylid gofalu am addysg grefftol yn yr ardal weithfaol hon. Cyfeiriodd Mr Dodd, y prifathraw, at waith dyfodol yr ysgol a'r darpariaethau ar ei gyfer. Dywedodd Syr G. Kekewich ei fod yn edmygu yn fawr y prifathraw oedd ganddynt, ac hyderai y parbai yn hir yn eu plith. Cymerodd Cymru y flaenoriaeth mewn addysg, ac yr oedd yn fantais' annhraethol cael Bwrdd Addysg Canolog. Tarewid ef yn fawr gan yr adroddiad am y casgliad rhagorol a wnaed gan y chwarel- wyr dangosai hyny eu dyddordeb yn yr ysgol. Dylid cyfaddasu cynllun yr addysg at angen yr ardal. Dylai yr ysgolion fod yn iach, atdyn- iadol, a chylfeua i'r amcan o ddysgu y dysgybl- ion. Symudiad oedd addysg at ddadblygu I [ cymeriad moesol yr oes. Gwneyd dynion a [ merched yn ddineswyr de. a gwasanaethgar. Sylwodd y Prifathraw Roberts mai yr ysgol ganolraddol oedd i gadw dyddordeb mewn addysg yn y lie. Yr oedd yn rhaid i'r athraw fod fel y bardd yn meddu calon i deimlo anian, llygaid i weled anian, a glewder i feiddio gyd- [ fyned ag anian—calon i weied banes ac angen gwlad; yr arfau oedd yn yr ysgol yn llygaid i weled anian—anian. cartref meddwl; a'r gelf- yddyd yn gosod glewder yn y meddwl i gyd- fyned a gorchfygu anian, yn lie myned yn gar- charorion iddi. Teimlai Mr A. C. Humphreys-Owen "na ddylid gadael amgylchedd yr ysgol fel yr oedd. Dylid ei harddu ac argraphu ar feddyliau y dysgyblion y syniad o eangder. Dylai amaeth- yddiaeth, cerfio, ac archadeiladaeth ddyfod i mewn i gwrs addysg; yr oeddynt fel Cymry ar I ol yn y ddwy ganghen olaf a nododd. Cynnygiodd y Parch D. Richards, M.A., bleidlais o ddiolchgarwch i'r areithwyr yn ei ¡! ddull hapus arferol; a chefnogwyd gan y Parch T. J. Wheldoh, B.A., yr hwn a adgofiodd yr aberth mawr a wnaed yn y blynyddoedd di- weddaf er mwyn addysg yn yr ardal. Talwyd diolchgarwcn i'r cadeirydd ar gynnyg- iad Mr J. Parry Jones. Cydnabu Syr G. Kekewich a'r Cadeirydd y diolch roed iddynt. CYFARFOD CYHOEDDUS. Yn y Neuadd Drefol, am s&ith o'r gloch, oasglodd torf lonaid y lie hyd i'w eithaf, a chaf- odd y siaradwyr oil dderbyniad croesawus pan ddaethant i mewn. Ar yr esgynlawr eisteddai aelodau y bwrdd llywodraethol a'r bwrdd ysgol, yn nghydag aelodan y cynghor dinesig Llan- wyd y gadair yn deilwng gan gadeirydd y ddau fwrdd addysg lleol (Mr E. P. Jones). Dywed- odd fod yr ysgol wedi costio tua 6000p, ac mewn cylch mor fychan yr oedd y baich yn drwm iawn. Ond iddynt fod yn unol, ni byddai ond bychan. Nid oedd yn ddoeth casglu vr arian ar unwaith, ond cymeryd dwy neu dair blynedd ati i wneyd. Ni fuasai yn deilwng ohonom gwneyd ¡ ysgol sal, a chanddynt ysgolion elfenol mor dda. Buasai un 2000p neu 3000p yn annbeilwng ohonynt. Fe roes y cynghor dinesig lOOOp at adeiladu yr ysgoJ. Hefyd fe roisant 500p tuagat addysg gelfyddydol er dysgu gwaith y gymydog- I aeth. Hefyd buont mor garedig a rhoddi 500p arali tuagat ddwyn gwaith yr ysgolion nos yn mlaen. Ni fyddai yn deilwng cyn y gorphenir hi, heb fod tua I0,000p. Yr oedd tna. 1600p yn aros eto o ddyled ar yr ysgol, ac ni fuasai yn deilwng o'r ardal fenthyca yr arian yma a gadael i'r oes nesaf dalu. Dywedodd Syr G. Kekewich fod yn dda gan- ddo fod yno gyda dau aelod Seneddol, dau brif- athraw golegawl, ac un arolygydd dan y Fren- j hines. Bu ymdrech y diweddsr Tom Ellis yn fawr dros addysg y lie. Llawen ganddo agor I dwy ysgol yr un dydd, yr hyn ddangosai gyn- ydd dirfawr addysg yn y lie. Nid oedd dosparth trwy holl Gymru na'r un rhan arall o'r deyrnas yn gwneyd eu dyledswydd yn well na Ffestiniog: Ysgolion da ac athrawon da, ac un o'r He (Mr Idwal Griffith) yn ysgolor o'r athrofa flaenaf yn y deyrnas. Yr oedd cariad at addysg, a chyd- gord a' gilydd ganddynt. Yr athrawon yn ym- roddol i'w gvaith, ac addysg y plant yn agos at I eu calonau. Gwariodd y bwrdd ysgol lawer, ond ni wastraffodd ddim. Yr oedd gair uchel i'r ysgol noa yn y Llan. Yr oedd yspryd addysgol yn y bobl, a dibyna llwyddiant addysg ar gefn- ogaeth y bobl, a hoffai weled hyny yn mhob man fel yr oedd yn Ffestiniog. Y lIe yn gartref a chanolbwynt y newyn addysgol hwnw oedd mor nodweddiadol o'r meddwl Cymreig. Yr I oedd casgliad y chwarelwyr o saith gant o bun- nau yn un ardderchog, a'r ysgol drwy hyny yn ysgol berthynol iddynt hwy eu hunain (cymer- adwyaeth). Derbyniodd Mr A. Osmond Williams gymer- adwyaeth fyddarol pan gododd i siarad. Wedi cyfeirio at yr ysgolion, dywedodd y dylent fod yn falch o'u hiaith cenedl (clywch, clywch). gyddai yn golled i Brydain pe marwai'r Gym- raeg. Dylent wneyd eu goreu er ychwanegn cryfder yr iaith Gymraeg, & bod yn selog er ei dadblygu. Gan fod y fath hanes yn perthyn i'r iaith, yr oedd yn feddiant na ddylai y bobl ei gadael i farw ar chwareu bach (clywch, clywch). Yr oedd y Gernywaeg wedi trengu, ac yr oedd y Wyddelig a'r Gaelaeg yn tagu at angau, ond yr oedd y Gymraeg mor fyw ag erioed. Dywedai Ruskin fod "ais cenedl yn ddangosiad o fywyd y genedl (cymeradwyaeth). Dywedodd y Prif- genedl (cymeradwyaeth). Dywedodd y Prif- athraw Roberts ei fod wedi gweled pennod gyn- taf o dyfiant addysg yn yr ardal, a'r hyn oedd angenrheidiol bellach oedd cael amser iddynt ddwyn ffrwyth. Yr oedd y Saeson hyd heddyw heb benderfynu faint ddylid gyfyngu ar addysg elfenol. Ond yn Nghymru credai pawb y dylai pob plentyn gael addysg elfenol ag uwchraddol. Dylai pob plentyn a anfoner i Ysgol Ganolraddol I barhau ynddi am bedair blynedd, ar ol iddynt fyned trwy y 6ed safon. Nid oedd yn rhoddi yn rheol i bawb, ond yr oedd eithriadau lie yr oedd rhieni yn rhy dlawd. Yn y rhai hyny anfoner y plant am flwyddyn. Yr oedd rhesym- au dros hyn. Os na cheid addysg i'r 7ed aafon yn yr elfenol, ac wedi hyny bedair blynedd yn y ganolraddol, ni bydd yna sylfaen briodol. Y mae addysg yn diwyllio ar gyfer ein galwedig- aethau mewn bywyd, a dylai gael sylfaen briodol i gyrhaedd ati. Dylid cael addysg grefftol, a rhaid iddynt wneyd yn y wlad yma mewn ychydig yr hyn y mae gwledydd ereill yn ei wneyd er's tua 50 mlynedd yn ol, set vJermani a Switzerland. Dylent berffeithio addysg bar- haol yn Nghymru yn sylfaenol ac yn grefftol o fewn y gened'aeth hon. Yr oedd gan y meistr- iaid lawer i wneyd yn nglyn a hyn. Dywedai I rhai ei fod yn galed iawn fyned i'r ysgol am ddwy neu dair awr ar ol gweithio yn galed trwy y dydd, ond fe ddytai fod yn bleser er mwyn perffeitbio eu hunain yn eu galwedigaethau. Yr oedd lie amlwg i Gymru dyfu yn y celfa cain. Yr oedd ganddynt allu a dychymyg, ond nid I oedd ein mawredd a'n nerth yn y cyfeiriad yma. Dylid cael y manteision uwchaf i rai fwriadent fyned yn weinidogion yr Efengyl ac yn athrawon i berffeithio. Dylid rhoddi yn nghyr- haedd pob galwedigaeth yr hyn a all gwyddon- iaeth ei roddi. Y Prifathraw Reichel a anerchodd yn mhell. ach ar ddylanwad addysg ar gwrs cyffredin bywyd. Y Parch T. J. Wheldon a ddilynodd gydag anerchiad yn cynnwys apel taer am i'r ardal ddal gafael yn yr ysgolion, ac ysgubo ymaith y ddyled oedd yn aros ar yr yagol newydd. Siaradodd Mr C. H: Owen a Major Skinner (un o aelodau Bwrdd Ysgol Llundain) hefyd. Ar gynnygiad Mr Owen Jones, Pantyrhedydd, yn cael ei eilio gan Mr R. O. Jones, pasiwyd y diolchiadau arferol, a hysbyswvd fod 25p wedi eu derbyn y diwrnod hwnw tuagat ddileu y ddyled (clywch, clywch).
DIWYGIAD TRWYDDEDOL,
DIWYGIAD TRWYDDEDOL, Derbyniai Mr Ritchie, yr Ysgrifenydd Car- trefol, ddirprwyaeth ar gwestiwn diwygiad trwyddedol ddydd Mercher. Siaradodd Ar- glwyddi Windsor a Heneage, Esgob Winchester, Iarll Grey, ac ereill yn ffafr lleihad nifer y trwyddedau, gyda iawn gan y fasnach," ac 0 blaid deddfwriaeth yn nghlyn a chlybiau, ac ad- drefniad yr awdurdod trwyddedol a'r llys apel. Ofnai Mr Ritchie y byddai i fesur ar y Uinellau a grybwyllwyd gan y ddirprwyaeth gael ei wrth- wynebu gan Gyngrair Dirwestol y Deyrnas Gyfunol. Yn ei farn ef yr oedd cwestiwn y cartrefi o fwy o bwjfe olawer na lleihad nifer y tafarnau. Gwnaeth yr addewid arferol, sef y caffai'r peth ystyriaeth ofalus."
SAETHU El CHARIAD.
SAETHU El CHARIAD. Aeth merch ieuanc, o'r enw Maud Billington, 22 mlwydd oed, i ystordy olew yn Fleet-road, Hampstead, prydnawn dydd LInn, ac wedi iddi gael rhyw ychydig o yinddyddan a'r goruchwyl- iwr, John Bellis, 25 mlwydd oed, yr hwn, hyd o fewn rhyw ddiwrnod neu ddau yn flaenorol fuasai yn ei charu, taniodd lawddryll arno, ac yna, y mae'n amlwg iddi droi yr erfyn ami ei hun. Daethpwyd o hyd i'r ddau yn gorwedd ar lawr—Bellis mewn llyn 0 waed, gydag archoll peryglus yn ei ben, ond nid oedd y ferch, er mewn sefyllfa gyffrous, wedi derbyn unrhyw niwed. Clywyd hi yn dyweyd, "Paham na ddaethai ataf fi ddoe? Beth wyf wedi ei wneyd?" Cludwyd Bellis i'r yspytty mewn cyflwr peryglus, a chymerwyd y ferch i fyoy. Brodor o Goedllai, ger Wyddgrug, ydyw y John Bellis hwn, a bu yn byw yno nes yr oedd yn 13 mlwydd oed. Yr oedd yn dra adna- byddus yn y rhan hono o'r wlad fel dyn tawel, a bu yn NghoedUai yn mwynhau ei wyiiau Nadolig. Bu'r dyn ieuanc farw o ganlyniad i'r archoll- ion. Yn y trengboliad, bwriodd y rheithwyr eu bod vn canfod fod y ferch ieuanc wedi bwriadu lladd i hun yn mhresennoldeb ei chariad, ond ei fod wedi ceisio ei rhwystro, ac yn yr ymdrech iddo gael ei saethu yn ddamweiniol. Ychwaneg asant adran yn gaJw sylw yr Ysgrifenydd Car- trefol at y ffaith fod llaWddrylliau yn cael eu J gwerthu i bersonau heb ddim gofal, a'r rhai hyny heb drwydded i gario arfau.
Advertising
U&ECHAM'B PILLS JL$For Bibous and Nervous KawiglT EECHAM'S PILLS JL3 For Indigestion in all iVs lerttk^. ■S BEECHAM'S PILLS For Wind and Pains in the. Slonnril j[ EECHAM'S PILLS £ D For Sick Headache. 1 BEECHAM'S PILLS J ID Have saved the Lives of Thousands. J EECHAM'S PILLS 1-3 For Giddiness. y BEECHAM'S PILLS U For Fulness and Swelling after Meals. BEECHAM'S PILLS 0 Are Adapted for Old and Young. j EECHAM'S PILLS I For Dizziness and Drousiness. TIEECHAM'S PILLS 0 For Odd Chills, Flushings of Heat. > EECHAM'S PILLS .sli Will Restore the Rosebud of Health to Every One who Uses Them. CjEECHAM'S PILLS For Blotches on the Skin. s [5EECHAM PILLS 1 > For Disturbed Sleep and Frightful Dreama« |3' EECHAM'S PILLS fi For Costiveness and Scurvey. r D Are the Best Medicine for Female Com. plaints. PILLS g j Are a wonderful Medicine for Females of all Ages. -i'LLHAM'S PILLS The first Dose Gives Relief :n 20 Minutes. yjEECITAM7S PILLS j; j> Are Recommended by Medical Men.. SECHAM'S PILLS Have the Largest Sale of any Patent liedicine in the World. | > EECHAM'S TOOTH PASTE sTj" Will Recommend Itself. t EECHAM'S TOOTH PASTE t) Is efficacious and economical. EECHAM'S TOOTH PASTE U Cleanses the Teeth and Perfumes the Breath. "j~VESCHAM'S TOOTH PASTE ? > In Collapsible tubes, Is each. PILLS 13 asd ir" EECHAM'S TOOTH PASTS Sold everywhere. x repared" only by the Proprietor, THOKAS Rkkcium, St. Helens, Lancashire. Sold by a!) and Pasent Medicine Dealers every- BETH Y Feddygiuiaeth anmlirisi: dwy hon a esmwytha, yn uruongyrchoi, y mathan gwaethat 0 Beswch, Crygui, AuwyJ, Anbaws- der i An&dlu, Gwaed Boeredd, Dolur Gvrddi, Bronchitis, Influenza, Poenau Adwythig yn y Frest, ao at hen Ddiffyg Anadl nid oes ei yyffelyb; cynnyrcharyddboeriad drwy doddi o fflem wydn, ac felly ryddhau yr ysgyfaint oddiwrth bob sylwedd ecynawl; yn ganlyno] y'r hyn y dilyna trwmgwsg adfywiadol. LUNG TONIC. SUDD CARN YR EBOL. LUNG TONIC. Trwy symud arwyddion a gauxgyaaarii y ami am Ddarfodedigaeth, y mae Sudd Cam yr Ebol Griffith Owen wedi dwyn ilawenydd I lawer teulu, trwy roddi terfyn ar y Peswoh sydd yn rhy fynych yn dadblygu i'r afiechyd marwol hwnw. Fe geidw eto fUoodd rhag beddaa anamserol. SUDD CARN YR EBOL GRIFFITH OWEN. SUDD CARN YR EBOL GRIFFITH OWEN, SUDD CARN YR EBOL GRIFFITH OWEN. YB oedd Dail Carn yr Ebol mewn bll JL mawr gan yr hen bobl oherwydd er heffeithiolrwydd ar gyfer Peswch, Anwyd, a Dolur Gwddf. Darperir y Sudd o'r dail, a chymysgir ef a rhinweddau dail ereill. lIü YN CRYFHAU Y LUNGS AO YN GWSLLA'R PESWCH. Potelau, Is lie a 2s:9o yr un. I'woael yn mhob man, a darperir yn 11 unig gan GRIFFITH OWEN, HIGH STREET, CAERNARFON. y41 lASiNT wm Gun Headache, Neuralgia and Toothache in a £ nr xxiimutea. I XAE BASINE YN SICR 0 WBLLA JOB MIM EM, NIWEALGIA, DDANNODD A PHOB MATH 0 BOSN MfcWN PEN MXWN YOHYDiG FYNYDAU. Decbyniwjd Miloedd 0 Dystiolaethaa I Pwysig. ANFONIR XASINSn DBWY Y POST AM SWLLT, Paratoir yn tmig gan HUGH JONES MANUFAQTUBIN& CHEMIST. DIOü. BALL. BLAJ^CAU FFB8TENIOS y3T7