Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

Advertising

Bwrdd Pysgola Dyffryn Conwy,

Bwrdd Undeb Ffestiniog, ^…

Bwrdd Undeb y Valley,

Bwrdd Undeb Bangor.

Cynghor Dinesig Ffestiniog.j

Cynghor Dinesig Porthmadog.…

News
Cite
Share

Cynghor Dinesig Porthmadog. NOS FAWRTH.—Mr D. Morris, is-gadeirydd (yn y gadair). ARIANOL.—^Derbyniwyd y cyfanswm o 230p yn ystod y mis. Cyfanswm yr holl daliadau, 696p. Yn ffafr y cynghor yn yr ariandy, 1114p. NID LLWYBR.—Anfonaaai y cynghor ddy- muniad at Mr J. S. Hughes, Rheolwr Llinell Ffestiniog, yn nghylch sefyllfa y llwybr oedd yn ochr y llinell, o Cornhill i'r orsaf. Yn ateb, sylwai Mr Hughes ei fod wedi hysbysu y cynghor yn flaenorol mai nid llwybr oedd y lie y cyfeirid ato, ond rhan o eiddo y cwmni, ond ei fod, modd bynag wedi adda.w trwsio y lie. Yr oedd y lie y cyfeirid ato at gyfleusdra pobl y wharfs, ond ni chydnabyddid rhwymau ca hawl neb arall namyn Cwmni Llinell Ffestiniog.—Sylwai y Cadeirydd fod yr hyn a gyfeiriai Mr Hughes ato wedi ei dechreu eisoes. CAEL TAI NEWYDDION.—Yr oedd y cynghor diweddaf wedi pasio i Mr Jonathan Davies a Mr R. P- Lewis fyn'd i weled Mr Casson, fel goruchwyliwr etifedaiaeth Madog, ar hyn. Cafodd Mr Davies y cyfryw gyfle, a. rhoddodd i sylw Mr Casson ys hyn ddywedodd yn y cynghor diweddaf. Lla.wn gydsyniai Mr Casson, ac addawodd roddi sylw i'r cwestiwn. Yr oedd hefyd yn cyfeirio at ranau o'r dref y meddyliai y gellid gwneyd hyny.—Yn ateb i Mr Davies, dywedai y Clerc nad oedd un cynllun wedi dod i law oddiwrth Mr Casson eto. CYNNALIAETH HIGH-STREET.—Yr oedd y Clerc, yn unol a phenderfyniad y cynghor, wedi anfon manylion treuliau gwaith a chadwr- aeth High-street, swm y treuliau a'r derbyniada.u oedd yn ddyledus hyd 31 Mawrth, 1900, yn nghydag amcangyfrif yr arolygydd o'r swm oedd yn eisieu er ei chadwraeth dyfodol.—Yn ateb, anfonai Mr Casson yn ei lythyr, er ei alluogi ef i ddelio a'r mater y cyfeirid ato y dylid rhoddi yr hyn wariwyd am stwff at drwsio'r ffordd, cario, llafur, glanhau y llwybrau, &a. I gyfarfod a. hyn, cymhellid i'r Mri Jonathan DaTies a R. M. Greaves fyned i weled Mr Casson er egluro ido yr anhawsder o gael yr holl fanylion. Eg- lurodd Mr Davies fod hyn hefyd wedi ei wneyd, ac yn yr ymddyddan, cawsa.nt ar ddeall beth a feddyliai Mr Casson wrth gael mwy o fanylion. Golygai yn arbenig wybod y treuliau yn y lie uchod yn ei berthynas ag yn gyioharol a ritonau ereill yn y dref. Golygai yn mhellach weled y clerc ar hyn. Aeth Mr Davies yn mlaen, a dy- wedai y gofynasant am gynnyg Mr Casson ei hun ar y swm a faraai ef oedd yn deg ar hyn. Sylwai y golygid yn y cyt«nd«fe a wnaed ddeng mlynedd yn ol a'r etifeddiaeth i'r ffordd yn unol a. dymuniadau y rhan oedd ym byw yn Higk- street od yn deilwng o ffordd drefol, ac y golygid iddi fod eto mewn gwell sefyllfa na ffordd gwlad. Hysbyswyd mai 75p y filldir ofynid, tra. mai 60p delid dan yr hen gytundeb. Yr oedd 395p wedi eu treulio ami.—Wedi siarad pellach, pasiwyd yn unol fod y Davies a Greaves i fyned" i weled Mr Casson er ceisio cytuno, a dwyn adroddiad i gynghor dyfodol i'w gadarnha.u. Ni olygid iddynt gytuno yn derfynol. SYMUD Y TOLLBYRTH —Yn gysylltiol a.'r mater blaenorol, gwnaeth Mr Newell ddatganiad newydd o'r hen gwyn honedig am y niwaid a wna codi y doll am groesi morglawdd Madog i'r dref ac o'r dref i ac o gyfeiriad Meirionydd, a'r doll arall ar bont Birwet, rhwng y Penrhyn a. Thalsarnau. Ffafriai yn gryf" ddeis#bu y Cynghorau Sirol ar hyn.—Hollol unol oedd yr aelodau am y gwyn a'r haeriad wneid i'r dref, ond sylwai Mr Jonathan Davies fod rhai pethau qadd yn galw am iddynt ar hyn o bryd i bwyllgor i'w trafod..—Cydsy*ifryd a hyn, a golygid iddo, yn gystal a swm cvnnaliaeth High- street, gael ystyriaeth pwyllgor gwaith. Y NEUADD GYHOEDDUS.—Yr oedd ad- roddiad i'w roddi am y Neuadd Gvhoeddus a'r symud er adeila.du, wedi ei dynu allan, ond pas- iwyd i hyn hefyd i gael ei drafod mewn pwyll- gor. Y DRAMFFORDD 0 CHWAREL MOELY- GEST.—Darllenodd Mr Newell adroddiad o bwyllgor neillduol o argymhellion a'r ammodau a gynnygient i Gwmni Chwarel Borthygest er cael ei llinell drwy y dref i'r Borthfa, yn gystal a'r adeg y byddis yn gwneyd y cyfryw.—Wedi peth siarad mabwysiadwyd yr argymhellion. PARHAU YR UN FEDDWL.—Anfonai Cwmni Chwarelau Setts vr Iaxbill, Pwllheli a Minffordd eu bod yn parhau yr un syniad. ac nas gallent roddi 100 tun ell o geryg am y swm o Is ) y dunell, a gnnygid gan y cynghor. Y REILFFORDD I BEDDGELERT, &c.— Ffafriol oeddis eto i'r cydsynind cyfreithiol a ofynid er mwyn myn'd yn mlaen, ond golygid y ceir sylw mwy ar hyn mewn pwyllgor a drefn- wyd. yn srvstal ag ar faterion ereill. GWAHANIAETH BARN.—Yr oedd yn sefyll yn enw Mr Newell gynnygiad y "Private Street Works Act, 1892." i'w mab- wvsiadu, ac i ddod i weithrediad yn Ynyscyn- haiarn y laf o Ebrill, 1901. a chynnygiai hyny yn ffurfiol.—Mr Morgan Jones a ofynai beth a enillid trwy hyn, ac a oedd yn fanteisiol i'r dref ei mabwysiadu. Ni honai ef ei fod yn gwybod. —.Deallai y Cadeirydd y golygai Mr Newell a'r arolygydd mai mantais ydoedd i bawb.—Medd- yliai Mr Morgan Jones, os oedd yn fantais i'r cyhoedd, ei fod yn anfantais neillduol i'r unigol. Ffafriai ef beidio ei mabwysiadu.—Manylodd Mr R. Newell ar y manteision.—Dywedodd Mr Jonathan Davies y cefnogai ef Mr Newell er mwvn i'r ddadl fod mewn trefH. Mantais a feddyliai oedd ei mabwysiadu, yn iechydol, yn gystal ac er mwyn trefn.—Mr Newell a sylwai mai pell oedd ef o gymeryd baich yr etifeddiaeth a'i roddi ar y cyhoedd.—Sylwai Mr Jonathan Davies y buasai ef yn ffafriol i gael mwy o oleuni ar a olygid, ond deallai fod y ddeddf wedi ei mabwysiadu yn Ffestiniog, Pwllheli, a Chric- cieth, ond da fuasai cael manylion.—Y Cadeir- ydd A ydych yn gofyn am hyny heno ?—Mr I Newell: Gan fod rhvbudd wedi ei roddi dylasai yr aelodau fod wedi darllen yr Act..—Barnai Mr R. P. Lewis mai mantais a fuasai gwyntyllio y cwestiwn cyn ei benderfynu, a chynnygiai ef ohirio i hyn.—Mr W. Williams a gefnogai hyn. —Mr Morgan Jones: Hollol focfflkvwn wyf i'r cynnygiad hwn.—Cydsyniodd y Mri Newell a Jonathan Davies. Felly daw y mater yn mlaen eto.

I Cynghor Dosparth Deudraeth.

Cynghor DosparthUleyn,!

- Cynghor Gwledig Aberystwyth.…

| Cynghor Gwledig Gwrecsam.

j Cynghor Gwledig y Valley.

Cynghor Trefol Bartgcr.

Cynghor Trefol Pwllheli.

Pwyllgor Heddlu Sir Ddinbych,

Advertising

[No title]