Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

39 articles on this Page

Ynadlys Porthaethwy. j

News
Cite
Share

Ynadlys Porthaethwy. j DYDD LLUN.—Gerbron H. Bulkeley Price, Ysw., ac ynadon ereill. TRWYDDEDOL.-Al' gais Mr Huw Row- land, trosglwyddwyd trwydded y Garth Inn i Mrs Griffith, a thrwydded y Market Vaults, Llangefni, i William Thorpe. YMOSODIAD HONEDIG.—Cyhuddodd Wm. Jones, Hafodty Cottage, Llansadwrn, Hugh Jones Roberts, Tyddyn Rhos. o ymosodod arno. Dywedodd yr erlynydd ddarfod i Roberts ddyfod i'w dy ar uoson y 15fed o Ragfyr, gan ei gyhuddo o ladd helwriaeth. Yna dechreuodd regi, a tharawodd y diffynydd yn ei wyneb. Tarawodd yr erlynydd ef yn ol, a rhuthrodd y diffynydd arno a chnodd ei fys. Amddiffynid gan Mr Huw Rowland, a thystiodd y diffynydd mai yr erlynydd a ddechreuodd yr ymrafael.— Taflwyd yr achos allan. HERWHELA HONEDIG. Cvhuddwyd Wm. Owen, Penybont; Owen Jones, Hugh Ro- berts, Chapel-street; John Owen, Talgwyn- terrace; Richard Williams, 'Refail, Pentraeth; a Richard Roberts, Llandegfan, gan Robert .Thomas, Plasgwyn, o dresmasu ar dir perthynol i'r Anrhydedclus Claude Vivian. Tystiwyd fod 1 y diffynyddion gyda phump o gwn ar y tir. Ceisiodd y cipar ganddynt fyned gartref, ond dywedodd Roberts eu bod wedi cael caniatad gan y tenant i hela.—Tystiodd Robert Prit- -chard, tenant, ddarfod iddo rod,di caniatad i'r llanciau i fyned i'r cae i chwilio am wningod, ond ni chredai fod yno rai.—Taflwyd yr achos allan. Cyhuddwyd John Hughes, Porth- aethwy, o dresmasu ar ystad Cadnant. Erlyn- wyd gan Mr H. C. Vincent, ar ran y Milwriad Bulkeley Price, a thystiodd y ceidwad helwr- iaeth ddarfod iddo weled y diffynydd yn saethu pheasant, ac yna rhedodd ymaith. Gwadodd y diffynydd ei fod ar y tir, a galwodd: ddau dyst i brofi ei fod yn Mhorthaethwy ar yr adeg yr honid ei fod yn y coed.—Taflwyd yr achos allan. ¡ WHISCI A DWR.—Cyhuddwyd Mary Ev- 1 ans, Victoria, Vaults, Portha.ethwy, o werthu whisci yn yr hwn yr oedd gormod o ddwr.— Dywedodd v ddiffynyddes mai gwneyd camsyn- .ied a wnaeth gyda'r gwirod yma, ond fod y gwirodydd ereill a werthai yn bur.—Dirwywyd hi i 2s 6c a'r costau.

iiJBERDYFI

-ABE RGYNOLWYN.

ABERMA W.!

ABE YSTWYTH.

BANGOR.

I BAGILLT.

BEACMARIB.J

BE'i HK8DA A'K C f. LCH.

BOJNTIS'EWYDD.

GAERGYBI. ,

CAERNARFON. !

COLWYN BAY. j

COM W Y. |

CORRIS.

CRICCIETH

I DOLWYDDELEN.

DYSERTH.

FFESTINIUG A'R UYLCR.

GWKECSAM.,

HARLECH.

LLANHJfRI A'R UYLCR.

LLANDWROG.

LLANDUDNO.

LLANFAIRFECHAN.;

7 -

LLANGIAN.

LLANGEFNI

LLANGOLLEN.

LLANGYBI.

LLANRUG.

LLANRWST! j

LLITHFAEN.'

LLYSFAEN.

! MAENTWROG

!MINFFORDD.

Family Notices

Advertising

Ynadlys Conwy.