Skip to main content
Hide Articles List

17 articles on this Page

Advertising

HELYNT CHINA. i:%1

RHYFEL Y TRANSVAAL.j

[No title]

SIR GAERNARFON. (

News
Cite
Share

SIR GAERNARFON. ( Cynnaiiwyd y brawdlys yma ddydd Mercher, ( Mr J. E. Greaves yn liywyddu. Wrth anerch yr uchel reithwyr d^munodd y Cadeirydd iddynt tiwyudyn newydd dda, a chyfeiriodd at y gwell- iantau arnlwg a phwysig oeddvnt wedi cymeryd lie yn ystod y ganrif. Cymerodd cyfnewidiad amlwg iawn Ie yn y dull y trinid carcharorion ac yn y cospedigaethau a dderbynient, a chredai ef fod hyriv wedi bod yn foddion i leiljau troseddau. Xid oedd ond tri achos i'w drin y diwrnod hwnw ac nid üeddynt yn rhai pwysig. YMWELWYR A'R CARCHAR. Ail-benodwyd Mri Greaves, D. P. Williams, Allanson-IJjcton, Mil. Lloyd Evans yn ym- welwyr carchar Caernarfon. Y GYFREITHIAU TRWYDDEDOL. Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn llythyr oddiwrth glerc yr heddwch, sir Lancas- ter. yn cynnwys nifer o benderfyniadau a bas- iwyd gan y frawdlys chwarterol o blaid deisebu y Llywodraeth i ymdrin rhag blaen a'r cyf- reithiau trwyddedol. Yr oedd rhai o'r pender- fyniadau y fath ag a wnelent les dirfawr, ond yn ei fam ef yr oedd rhai ereill na fyddent mor fuddiol i'r sir yma. Awgrymai y priodoldeb o basio penderfyniad yn galw ar y Llywodraeth i ddeddfu ar unwaith a. gadael y manioR i'w pen- derfynu gan bwyllgor bychan. Wedi ychydig siaracl" penderfynwvd cario allaiii yr hfn a gy- meradwvai yr Arglwydd-raglaw. TROI LLWYBRAU — I Ar gais Mr J. Porter, cytunwyd i droi llwybrau neillduol yn mlllwyf Llysfaen er gwnevd ffordd newvdd yno. I GARTREF Y MEDDWYN. Gwnaed cais gan Mr Hugh Rowland yn nglyn ag apol a wnaed gan J. Francis Williams, Ban- gor, yn erbyn dyfarniad ynadon Bangor a'i han- fonasent i garchar am fis am ymosod ar ei wraig. —Dywedodd Mr Rowland fod y dyn ar v pryd dan effeithiau diod a'i fod yn awr wedi myned i Gartref Meddwon am dri mis gyda chaniatad yr ynadon. Can hyny gofynai i'r brarwdlys gyf- newid dyfarniad yr ynadon drwv osod dirwy o bunt ar y dyn, gan ei fod ef wedi cytuno i gael ei gadw yn y He hwnw am dri mis. Ni chodai Mr Thornton Jones, yr hwn a ymddangosai dros y wraig. wrthwynebiad i'r cwrs yma, a cania-ta- wvd y YNADON NEWYDDION. Cvmerwyd y llw gan Mr W. Corbett Yale Jones Parry, Madryn, a Mr Louis William Jelf Petit fel ynadon newyddion, a cliymerasant eu seddau ar v fainc. TROSEDDAU. Am bdrata, arfau saer pevtliynol i Wat-kin I Jones, Bangor, anfonwyd Griffith Roberts i garchar am chwech wythnos. Anfonwyd Hugh Jones, labrwr, i garchar am ddau fis adori i mewn llythyrdy Talybont. ger Bangor, a liadrata oddiyno nifer o archebion post, gwerth 5p 15s 6c. Cyhuddwyd ei frawd, Hugh Jones, o dderbyn archeb bost gwerth 15s ganddo gan wybod ei fod wedi ei lladrata. Gwadai y carcharor y cy- huddiad, a. dywedai ddarfod i'w frawd ei roddi iddo gan ddyweyd mai rhan o'i gyffog oedd. Erlynai Mr S. R. Dew, a rhoddwyd tystiolaetli fod yr archeb wedi ei chuddio mewn twll yn v mur gan y carcharor. Anfonwyd ef i garchar am fis. APEL 0 LEYN. Yn yr achos yma apeliai Cynghor Dosparth Lleyn yn erbyn dyfarniad ynadon Pwllheli, y rhai a. wrthodent ganiat-au iddynt godi cerig o cliwarel Brynffowc, yr hon a berthynai i Mr T. E. Roberts, Plasynrhiw. Ymddangosai Mr Ellis Jones Griffith* A.S. (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr A. Ivor Parry), dros y cynghor, a. Mr Samuel Moss, A.S. (yn cael ri gyfarwyddo gan Mr A. Owen), dros berchenog v chwarel. Cod- odd Mr Moss nifer o wrthwynebiadau ar y cychwyn yn erbyn afreoleidd-dra yr apel, ond wedi gwrando ar v ddau fargyfreithiwr yn dad- leu am ddwv awr, dyfarnodd j Fainc yn ei erbyn. Yna eglurodd Mr Ellis Jones Griffith yr achos, a. dvwedodd fod v mater yn bwysig iawn i'r cy- hoedd yn Lleyn." 0 clåa Ddeddf Prif-ffyrdd, 1835. yr oedd gan y cynghor hawl i gymeryd cerig at drwsio'r ffordd fawr o ba Ie bynag y mynent, os nad oedd cerig priodol at hyny i'w t cael ar dir wast. Yn yr achos yma gwrthododd ynadon Pwllheli ganiatau i'r cynghor gymeryd y cerig. Yr oedd eu hangen er cadw ffordd Pen- fforddneigwl, milldir a hanner o hyd, mewn trefn. Nid oedd. wedi ei gwella ar's dwy flynedd oherwydd nas gallent gael y cerig o chwarel Brynffowc. Ei waith ef yn awr oedd prori i'r llys fod y cerig a geid yn y chwarel yma y goreu ellid gael at y gwaith. Byddai iddo alw nifer o dystion i brofi hyn, ac hefyd i brofi I net sgellid cael cerig cyffelyb ar dir wast yn yr a.rdal. Yr oedd tri lie arall yn y gymydogaeth lie gellid cael cerig. a'r cyntaf ohonynt oedd 1 chwarel Mynytho, ond yr oedd hon mewn plwyf arall, a. gallent gael pedwar llwyth o chwarel Brynffowc tra y dygid un o chwarel Mynytho. Awgrymid hefy'd y gellid cael cerig yn Nhreheili, ond°yr oedd y rhai hyny yn rhy wydn, a byddent yn gostus iawn i'w paratoi ar gyfer eu gosod ar V ffordd. Tra na chostiai y gwaith o baratoi v ffrdd, Tra na chostiai y gwaith o baratoi cerig- Brynffowc ond 2s y llath byddai i gerig Treheili.o herwydd eu gwydnwch, gostio lis 6c, a chan eu bod wedi defnyddio cerig Brynffowc am 50 mlynedd ni welai efe paham y dylid cyf- newid yn awr.—Galwyd nifer o dystion. y rhai a ategasant yr hyn a ddywedodd Mr Ellis Jones Griffith. Daliai Mr Moss nad oedd achos wedi ei ddangos iddo i'w ateb. Tystiodd tystion yr apel- wyr fod digon o gerig i'w cael gerllaw—yn Nhreheili,—ond gwahaniaethent hwy ag ef yn nghylch v draul o'u paratoi ar gyfer y ffordd. Yr oedd miloedd ar filoedd o dunelli o gerig gerllaw a gallai y cynghor eu cael am ddim. Nid oedd yr achos yma, ond erledigaeth ar y dyn a ddaliai y fferm, a'r unig amcan a welai efe dros yr erledigaeth oedd i gymeryd ei rydd-ddaliad oddiarno. Mr Ellis Griffith Nage. nage. Yna. galwyd Mr Evan Evans, yr arolygydd sirol, yr hwn a ddywedodd nad oedd cerig Bryn- ffowc yn add as o gwbl i osod ffyrdd mewn trefn. Yr oedd yn llawer rhy feddal a byddai yn well i'r cynghor pe defnyddient gerig tebyg i rai Tre- heili neu'r Imbill, y rllai os costient dair gwaith gymaint a. fyddent yn rhatach yn y diwedd oher- wydd y parhaent dair gwaith yn hwy. Ni chredai efe y byddai y draul o'u paratoi yn fwy na 5s 6c y llath.—Galwyd tystion ereill, a dvwedasant rywbeth tebyg, a thaflwyd yr apel allan gyda chostau.

! SIR DREFALDWYN.

| SIR DDINBYCH.

SIR FON.

SIR FFLINT.

MEIRIOjN.

DRYLLIAD "PRIMROSE HILL."

Y GVMBAEG YN YR YSGQLiON,

OLD FALSE TEETH BOUGHT.

[No title]

Y PRIF FARCHNADOEDD. -

MARGHNADOEDD CYMREIG.

Advertising