Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

Advertising

HELYNT CHINA. i:%1

RHYFEL Y TRANSVAAL.j

[No title]

SIR GAERNARFON. (

! SIR DREFALDWYN.

| SIR DDINBYCH.

SIR FON.

SIR FFLINT.

MEIRIOjN.

DRYLLIAD "PRIMROSE HILL."

Y GVMBAEG YN YR YSGQLiON,

News
Cite
Share

Y GVMBAEG YN YR YSGQLiON, DADL YN NGHAERDYDD. Bu dadl faith ar ddysgu'r Gymraeg yn Ysgol- ion y Byrddau yn nghyfarfod Bwrdd Ysgol Caerdydd. nos Iau, pan roed ystyriaeth i ddeiseb oddiwrth y prif athrawon yn awgiymu gadael y mater neu roi amser digonol, sef tair awr yr wvthnos at y gwaith.—Cynnygiodd y Parch J. Morgan Fod y Gymraeg i'w dysgu yn eu hysgolion elfenol i'r plant hyny y dewisa. eu rhieni iddynt ei dysgu, ac fod mesura-R i'w mabwysiadu i wneyd y dysgu yn fwy effeithiol; (2) er cael sicrwydd fod y dy- muniad yn bod, ac os ydyw, i ba fesur eu bod yn dymuno i'r rhieni bleidleisio eto ar y mater, ac fod iddynt ddeall fod dysgu y Gymraeg yn golygu rhoi rhyw bwnc arall heibio, rhag rlioi gormod o waith i'r plant; (3) fod papyrau pleid- leisio i'w dosparthu a'u casglu, a.'u cyfrif gan swyddogion y bwrdd; (4) fod y Gymraeg, yn mhob ysgol y gwelir hynv yn angenrheidiol, i'w dysgu, os yn bosibl, gan aelodau o'r staff, neu ynte gan athrawon arbenig." Apeliai Mr Jones ar ran trigiannwyr Cymreig yn Nghaerdydd. Yr oeddynt. yn eu gwla.d eu hunain, ac yr oedd ganddynt hawl i roddi pob ystyriaeth i gadw eu hiaith—iaith eu cyndadau. Wrth gwrs, croes- awent bob cenedl arall—y Sacson, yr Ysgotiaid, a'r Gwyddelod, ac hyd yn nod y tramorwr. Yr oedd dysgu Cymraeg yn gystal diwylliant a dysgu Ffrancaeg. Dymunai Caerdydd foci y brif dref swyddogol Cymru. Er mwyn hyny yr oedd yn rhaid iddi ddangos ei bod yn parchu'r teimlad Cymreig. I Cefnogodd Dr Treharue y cynnygiad. Nid oedd y bwrdd yn myn'd i gyfyngu eu gwaith yn ol syniadau'r athrawon, a haerllug o beth oedd i'r athrawon gyfyngu'r addysg yn ol eu cyr- haeddiadau bychain eu hunain. Cynnygiodd y Parch F. J. Beck welliant i'r pe.fv,ryl fod dysgu Cymraeg fel pwnc gorfodol yn Nosparthau 1, 2, a 3, i'w at-tai. Dywedodd yr Henadur David Jones ei fod o'r farn fod gormodedd o bvneiau yn cael eu dysgu yn yr ysgolion, gyda'r caidyniad nad oedd' y dysgyblicm yn cael gafael iawn ar unrhyw beth a dalai at ymadd. brwydr bywyd. Ychydig an- i hawsder gaffai rhieni Cymreig yn Nghaerdydd i dafiu un pwnc heibio er mwyn y Gymraeg. Dywedodd y Parch J. Morgan Jones fod y papvr pleidleisio i nodi fod un peth i'w adael, os dewisid y Gymraeg. Os nad oedd rhieni yn foddlawn i aberthu, rhoddai ef y goreu i'r peth. Yr Henadur D. Jones: Nid wyf am gymeryd fy nylanwadu gan yr ysgolfeistr yn y mater hwn. Yr wyf yn elCh, slcrhau o hyny. Dywedodd Mr Herbert Thompson mai yr an- hawsder oedd cael gwir ddymuniad y rhieni. Mr Lester Jones Efallai fod y rhieni yn gymvsg—un o waed Cymreig a'r llall o waed Seisnig (chwerthin). Dywedodd y Parch Dad Gibbon nas gellid dysgu Cymraeg yn iawn heb ollwng rhywbeth arall.* Dr Wallace: Fu Cymraeg yn bwnc gorfodol yn mhob un o'n hysgolion y llynedd ? 0 Y Clerc (Mr J. J. Jackson Yn ol ein rheolau, y mae yn orfodol ar y tir safon isaf. Cefnogodd Dr Edwards y cynnygiad. Os ceid yr atebiad yn ffafr dysgu yr iaith yn wan, ail- ystyrid y mater, a phenderfynid a. ddysgid y Gymraeg yn mhob ysgol. Tynodd y Parch F. J. Beck ei welliant yn ol, a chariwyd y penderfyniad yn unfryd.

OLD FALSE TEETH BOUGHT.

[No title]

Y PRIF FARCHNADOEDD. -

MARGHNADOEDD CYMREIG.

Advertising