Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

' "DIWYGWYR CYMRU" AC ANNIBYN-IAETH…

MR W. O. JONES, B.A., A METHODIST-1AID…

RHEOLAU A DYSGYBLAETH CHWAREL…

News
Cite
Share

RHEOLAU A DYSGYBLAETH CHWAREL Y PENRHYN. Syr,-Diau fod genych chwithau yn eich swyddfa reolan, a dysgyblaeth. Rhaid cael hyny yn mhob man. Y mae gan bob gwaith ei amser i ddechreu pob swyddfa amser i agor; gan y Senedd amser i eistedd nis gellir cario unrhyw waith yn mlaen heb reolau. Ac felly y mae gan Chwarel y Penrhyn i ddechreu gweithio saith yn y bore. Amser cymedrol iawn; dylai pawb am- canu bod yn brydlawn i'r amser, cadw yr amser, a gwneyd diwrnod gonest o waith, cyn y gellir yn gydwybodol ofyn cyflog. Ond y mae amgylchiadau yw cyfarfod a'r goraf weithiau sydd yn ei luddias. Gwn am wr parchus crefyddol, gweithiwr dan gamp (ond erbyn hyn wedi marw). Bu plentyn iddo farw, ac felly bu ar ol ychydig yn myned at ei waith. Daeth y goruchwyliwr gweithredol (buan y darfyddo ei goffadwriaeth o'r tir) i'w gyfarfod mewn tymher nwydwyllt, gan attal y creadur druan am wythnos yn ei brofedigaeth Hawdd fyddai i mi nodi am hen wr da, gonest, wnaeth wasanaeth canmoladwy fel gweithiwr yn y chwarel. Yr oedd ar derfynau y gwaith ar ganiad y gloch, ond fod ganddo waith chwarter awr i fyned at ei le ei hunan. Yr oedd yr hen wr wedi bod adref yn glaf am ysbaid. Ar dydd Llun cyntaf y dechreuai weithio, wele y goruch- wyliwr ynfyd i'w gyfarfod, gan ei alw yn "robber," a throi yr hen wr yn ei ol, gyda rheg- feydd arswydus, ac yr oedd yn y fynwent cyn nemawr o ddyddiau. Onid dynladdiad oedd hyny ? Pe buasai dyn yn curo dyn arall cawsai ym- ddangus yn y llys i dderbyn y ddedfryd. Pe buasai gwenwyno dyn cawsai ei gospi. Ond dyma ddyntaddiad a bod yn rhydd. Ac yr ydym yn dcli^on ynfyd i gredu fod y goruchwyl- iwr hwnw wedi myned i ogoniint! Hen wr arall pedwar ugain oed agos, yn myned at ei waith, ychydig ar ol; ac yn gorfod eistedd oherwydd diffyg anadl. Daeth steward i'w gyfarfod; a'r gofyniad cyntaf oedd: "Pa faint yw dy oedti?" "Pedwar ugain bron." « Os mai fel hyn y byddi yn dod at dy waith, gelli fyned yn bedwar ugain arall." A oes synwyr mewn peth o'r fath ? Ond goddefer i mi alw sylw at reolau dysgybl- aeth newydd a gynnygir i ni. Cymerwn yn oaniataol fod tair mil yn perthyn i'r gwaith ac fod yn ol yr ystadegau o ddeg a'r hugam, y rhif uchaf, i bump a'r hugain, y rhif isaf, yn digwydd bod ar ol yn y mis, felly un o bob cant, a mwy na chant, sydd yn digwydd bod ar ol mewn mis, ac vn y mis bedwar diwrnod ar hugain, fel mai un'mewn pedwar diwrnod ar hugain fydd ar ol o bob cant. Pe meddviiem am oruchwyliwr a thri chant yn gweithio oddi dano, wel, tri trosedd dibwys fyddai i'r report mewn mis. Ie, dichon y byddai rheswm digonol i'w ollwng yn rhydd. Pe buasai pum' cant yn gweithio dan arolygiaetb. un arall, wel, ni fyddai ond pump o droseddiadau. Byddant yn ychydig i wneyd sylw ohonvnt. Ond dirwy am fod ar ol am chwarter awr, banner diwrnod o'i gyflog. Beth pe na byddai ganddo gyflog yn dod er gweithio ? Y mae rhai fellv. Ie> pa faint a ddelir o'r bill i rhai a g'ant rhyw gyflog- Os dyvredir fod talu pump a chwech ar gyfartaledd i'r chwarelwyr, yna dan a naw oH gyflog, a dichon na fydd ei gyflog yn ddau swllt y dydd. Pe byddai dyn yw gweled nas gallasai gyr- ddau swllt y dydd. Pe byddai dyn yw gweled naa gallasai gvr- aedd i'r adeg, ie deimlai mai doethach fyddai iddo arcs adref am hanner diwrnod na gweithio diwrnod am ddiJn. Pe byddai bachgen ar ol chwarter awr, y mile hwnw yn sicr o roi yni, ie, aco weithio am hanner dydd er dod i fyny a i dasg. Osnaddu Ueohau y bydd, ac os y bydd llawer o ddefnyddian yn d1Sgwyl wrtho, ni chymer ond prin amser Rhaid rheoleiddio gws,lth mawr gydsg eg- wvddor ac nid gyda Uythyren. Clywais odyn yn dyweyd mai un walth y bu A boI i.™ Tn ystod o dair blynedd, ac mai colli y tren a wnaeth. "Wel, a fuasaidyrohaeth mewn myned a hanner diwrnod o gyflog dyn am iddo ddi- gwydd bod ar ol un waith mewn tair blynedd o '"pfbuaasm yn y gwaith mwyrf nmjI yn Lloegr, ac yn metliu cyrhaedd l r drws yn agored am naw wed'yn—-coliea y o chwarter diwrnod er ei weithio A y byddai y swyddogion yn fatch o ddal dyn ar 01 yn y boreu. Ie, dichon mai y swyddog hwnw oedd y gwaethaf pan yn gweithio o bawb yn fod ar ol neu am ddianc adref. Pa ryfedd foa teiml&d gwrthwynebol yn cael ei ddangos ? Diau mai gwyl lafur olygir, sel y LInn cyntaf yn Mai wrth wyl ychwanegol." Gallasai yr oruohwyliaeth ateb heddyw, yr un modd ac yn Mawrth, ceir neu na cheir, I Hefyd, cofreetru y clwb claf. Onid ellir dy- weyd mai y gweithwyr bia y clwb ? Gellir; eu taliadau hwy, sef swllt a chwech hwy sydd yn ei gyfansoddi. Y FRONLLWYD.

MORFA BYCHAN A'R TRAMWAY.I

DYSGU HANES CYMRU.'

CRTSTTONOGA'ETH A'R RHYFEL.I

A FYDD PWLPUD YN Y GANRIF…

DIWYGWYR CYMRU : LLYFR MR…

[No title]

Advertising