Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

26 articles on this Page

Advertising

AT mN GOSBBWrn ----

Nodlon Amaetbyddol.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Cynghor Sirol Mon.1 ---

A oes C-lo yn Mon? j

Bangor.

Podsdern (Mo..).

Beaumaris.

News
Cite
Share

Beaumaris. Marwolaath y Parch John Evans (Eglwysbach).— Derbyniwyd y newydd prudd am farwolaeth sydyn y pregethwr uchod gyda theimladau dwys gan Wesley- aid y dref hon. Nos Sid cafwyd pregetli angladdol gan y Parch A. Lloyd Hughes, yr hwn a gyfeiriodd at ei fywyd pur a sanctaidd, yn neillduol yr awydd angherddol oedd ynddo i gael pechaduriaid at Grist. Chwith yw meddwl nad yw mrwyacK, ac nad ellir ei wrando mwy yn tanio cynulleidfaoedd ein gwlad. iNf axwolaetb.-Anaml y mae yn syrthio ar fy rhan i hysbysu am farwolaeth o'r dref uchod, ond mae genyf y gorchwyi pruddaidd yr wytlmos hoa i gofnodi am farwolaeth Mr Evan Stanley, "pier porter," yr hrn a gymerodd le dan amgylchiadau hynod o ddifrifoltra. yn. myned dan "operation" yn y Royal Infirmary, Manchester, yn 48 mlwydd oed. Cyrhaeddodd y corpb boreu dydd Iau diweddaf, ac am un o'r gloch dydd Gwener daeth tyrfa parchus a lluosog i'w heb- rwng 1 dy ei hir gartref. Yr oedd yr ymadawedig yn un o griw y "lifeboat, yn aelod o'r "fira brigade, ac yn orachwyliwr i gwmpeini "St. Tudno" a'r "Chris- ttam." Cludwyd yr arch, yr hwn oedd wedi ei or- chuddio a phlethdorchau (wreaths), ar beiriant y "brigade," a'r aelodau yn gwasanaethu fel "bearers." Dyma yr angladd cyntaf yn y dref hon a'r "brigade' yn Dresenoi, a naecuiant y clod mwya: am y dull parchus tuagat yr ymadawedig. Mae cydymdeimlad yr ardal a'r teulu yma yn eu galar. Trist oedd gwel'd .yr hen bererin, ei dad, yr hwn sydd yn agos i 80ain mlwydd oed, yn wylo fel plentyn uwchben bedd ei fab. Bydded i'r Noddwr mawr fod yn agos at y weddw a'r plant sydd wedi eu gadael ar 01. Y Bel Droed: Beaumaris v. Bangor Villa.—Cyf- arfyddodd yr uchod mewn "match" cyfeillgar dydd Sadwrn, ac enillodd y cartrefwyr gyda'r rhwyddineb mwyaf. Diwedd yr ymdrecMa oedd deg goal yn er- byn un, buddugoliaeth bendant ddigon. Ymddang- osodd Beaumaris yn eu "full colours" am y tro cyntaf, a,c nis gallwn beidio a meddwl f-od y ffaith hon yn achos rhyw gymaint am yr arddangosiad ardderchog a wnaethant. "Sentiment" yw bona, ond wedi'r cwbl rhaid cyfaddef fod bechgyn y dref wedi chwareu yn gampus. Bydd enill hon. yn gymhelliad iddynt i fyned rhagddynt i gyfeiriad "top y league," sefyllf a yn ddiameu a, liaeddant ar eu "merits." Bydded iddynt barotoi erbyn yr ymdrechfa. fawr Sadwrn nesaf yn erbyn Caergybi, ac ond iddynt wneud hyny a dangos y "form" y maent ynddi yn bresenol, nid oes amheu- aetli am y canlyniad. Mae clwb y dref hon wedi bod yn hynod o itodus yn dewis Mr William Owen (junr.), Harp Iim, yn gadben, ac y mae yn amlwg ei fod yn cymeryd y dyddordeb mwyaf trwy ofalu am gael trefn 'r chwareuwyr goreu. Byddwell yn ffyddlon iddo, "boys." Etholiad y Cynghor Trefol.—Cymerwyrd dyddordeb neillduol yn yr etholiad uchod eleni, a hysbysodd y Maer ganlyniad y pol fel y canlyn: H. Thomas, 247; W. T. Williams, 207; Adam Thompson, 192; W. R. Jones, 186 Coulthart, 179. —Ireiwr.

Caernarfon.

Cagrsybi-

C-aarwen.

Jerusalem (MynvM ;\h('\(''''.;

LlanfigaelI

Llanfachraeth

Ilarerchyned^- !

Llangefni.

ant.

[No title]

i:" .1 VvT ü..