Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Riys Dafydtl Sy'n D'ejC—

News
Cite
Share

Riys Dafydtl Sy'n D'ejC— Iddo dalu ymweliad ag rrdal y B- y dydd o'r blaen, a'r peth a welodd er ei syndod oedd gweled photo o wragedd y G-. Iddo edrych drosto yn fanwl a char if od dim ond un bai a.mo, sef fod y llythvr-gludydd wedi myn'd i'w canol. Ei fod wedi talu ymweliad a Lon G-y noson o'r blaen w wedi canfod dau lane ieuanc yr olwg gyda dwy glompen o "lefrod" braf. Fod yr Hwntw. yn nghyd a lluaws eraill wedi myned i gysgadrwydd y noson o'r biaen, a thra yn in Ily eu cysgadxwydd, eu bod wedi bwyta canwyllau. Piti garw Y buasai dipyn o faewn yn well ei flas. Ei fod ef (Rhys) am edrych ar ol heolydd A- o hyn allan. Mai nid noson i garu ydyw nos Sul, ond i fyfyrio am bethau tuhwnt i hyn. Mai gwlychu yr.1 arw ar y T a P-s wnaeth y ddwy fenyw hyny o LI y dydd o'r blaen. Eu bod yn ofni dweyd dim am eu profedigaeth "rhag ofn i'r hen Rhys fusneslyd yna glywed." Mai gwell fyddai iddynt o hyn allan ddilyn ei esiampl a chario ymbarel. Mai dal yn bur lwydaidd mae y canu yn Nghapel y Fod yr arweiryda wedi colli ei dyialier y Sul o'r biaen, ac wedi troi i ddwrdio y gynulleidfa yn gy- hoeddus. Fod llawer yn synu at ei hyfdra, yn enwedig pan gofir na wyr efe ei hun ddim mwy am gerddoriaeth na'r dyn a'r baich drain ai- gorn y lloer. Mai y cyfarfod canu ydyw y Ue priodol i ddysgu pobl ganu, ac nid yn y gwasanaeth cyhoeddus. Mai peth hyll iawrl ydyw gweled gwr a gwraig yn ymladd a'u gilydd. Mai peth erchyll o hyll ydyw gweled dau newydd briodi yn gwneud hyny. Mai peth melltigedig o hyll ydyw gweled yr ym- laddfa yn cymeryd lie yn nghanol rhesi tatws. Pe byddai pobl yn meindio eu busnes eu hun- ain, ac yn aros gyda eu gwaith, a chymdeithasu llaij a Syr John, y byddai mwy o dawelwch a chym- dogaeth dda mewn llawer ardal yn ein) gwlad. Fod rhai o wragedd B- yn carlo rhywbeth ,eryfach na dwr adref yn eu basgedi o farchnad Caergybi bob Sadwrn. Fod tipyn o helynt o hyd yn y Rhos oherwydd j drwg deimlad a achosir gan dafodau athrodgar. Fod y llanc hwnw wedi ei weled yn hel yr hwch wedyn, ond nid ar y Sabboth y waith hon. Mai yr urn llanc oedd efo y ferch ifanc hono yn y te parti. Fod y tywydd eleni wedi troi yn anffafriol iawn i'r "kissing rings." Mai edrych jn ddu iawn ar eu gilydd yr oedd dwy wraig neillduol yn te parti Llaingoch. Mai peth annuwiol yw myned i'r capel hyd yn Sibd i yfed te mewn ysbryd anfaddeuol. Mai pum' fwaith y bu y ladel gasglu o dan divrn-su gwrandawyr ac aeiodau un o gapeli y Bedyddwyr yn Nghaergybi y Sul diweddaf. Fod. "mashers" Caergybi yn parhau i dori y Sabboth gyda eu holwynfeirch. Y rhaid rhoddi eu henwau i lawr os na byddant wedi diwygio yn fu Fod gohebydd wedi bod yn ymweled a Chaer- gybi am y waith gyntaf, a:i fod wedi ei foddhau y tu hwnt i ddim a freuddwydiodd erioed. Mai yn nghapel Bethel (B.) y bu yn mwynhau odfa y nos Sabboth. Ei bod yn mhlith oedfaon anwylaf ei fywyd, nid am fod y weinidogaeth ym eithriadol, ond oher- wydd ysbryd gwresog yr hen bererinion oedd yn y set fawr, dan eu coronau gwynion, yn dyhidlo eu mwynhad yn awenau gwlithog nes nawseiddio y t!1 gynulleidfa. Iddo, oherwydd fod ei amser yn brin yn y lie fauteisio ar bob cyfle i weled cymaint allai o'r dref. Iddo, wrth ddyfod o le neillduol, glywed ym- Som a'i gyrodd i betrusder pa un ai nos Sabboth ynte noswaith arall ydoedd. Mai hen wraig a dyn canol oed oedd yn ym- gomio, ao ynanffodus wedi anghofio mai diwrnod i feddwl am y "ty nid o waith llaw" ydoedd. Yr oedd y dyn mewn dwtrdwr yn nghylch beudy new- ydd oedd yn cael ei adeiladu iddo. Ei fod am osod y gwaith coed i hwn-a-hwn, a phaham nas gallai ei wneud ? a chyturpdd y ddau fod y cyfryw un yn sicr o fod yn ddigon celfydd a galluog i wneud beudy campus. Am i'r cyfryw ymgomwyr gofio "y nos hon" yn hanes y goludog hwnw. I'r hen wraig gyffroi yn anghyffredin pan ganfu fod rhywun ar y llwybr yn gwrandaw y sgwrs. Iddi, o eiddigedd dros gysegredigrwyda y dydd, ddatod bolltau ei henllib, a'i ollwng yn genllif anhad ar y crcaduriaid gonest a diniwaid. Y buasai yn drymach arnynt, mae'n debyg, pe gwybuasai eu bod yn gwneud sylw o'u hymdra- fodaeth* Mai rhyfedd iawn fod ffydd yn ei thraed yn parhau mor giyf yn yr hen greadures. Mai digrif iaWLI oedd clywed yr hen chwaer yn wtadleu y priodoldeb o gicio y fath halogwyr o fod- Y bydd iddi gael ei hapelio i sylw clwb pel droed Jciverton yn ddiymdroi. Nil ddylid esgeuluso sylwi ar helynt y cyfaill tawel a'r gwasanaethwT cyson i fasnachwyr Llan- efni. Mai dyma gydymdeimlad hen lane ag ef: — Dyma Ben bach dan bwn byd—y carter Mewn cortyn drwy'i fywyd Yn ddi-hwyl ynddo o hyd- Gofalon fo'n gafaelyd. Fod i'r ddeuddyn lon'd calon o ddymuniadau goreu am eu dedwyddwch yri eu gyrfa ddwbl. Fod mynwesau rhai o drigolion R yn rhy lawn o ddymuniadau da. Eu bod yn colli dros yr ymylon nes eu bod yn hawdd eu camgymeryd am ddirmyg. Iddo dderbyn dau fedd-argraph i'r "Oybydd," gan y baxcud:- Wyr cydnaws, yma mae'r cadno—'n y bedd Tangnefedd sy' hebddo; Ni bu waelach, a neb i wylo—o'i ol Wrsaeth ddim dynol, waeth am dano. Mwyn i bawb yw'r man na bo-i boeni Sut bynag mae arno; Yn ei dwll bach bellach bo-y beddrod, Oysgle dinod, casgled yno. Mai tebyg i hyn yw rhai Morlan Dulas Amharchodd Dduw, parchodd aur-y fulan Fe folodd felynaur Hunodd yn P-ghuiol henaur, Obry yn awr heb 'ruri aur. Rhywfodd, ddyn, mae'n rhyfedd i'm-dy fwrw I furiau mor ddiddim I ddu erchwyn y bedd oer chwim, Heb ras Duw, heb bres na dim. Ow! i'r adyn, mae heb ei waredu-y Hyn Yw'r lie mae'n trigianu Sain diderfyn S'TIl darfu—ay yno A byth gwyno heb obaith gwenu. A'i hen natur gwna boen eto—i ar.'wn Ei hunan, rwy'n coelio Eisieu y tan i gyd a Satan o'i go' Yn danod am ei fod yno. I Idai dau englyn i'r "Awrlais" (clock) fydd y nesaf. Mai teimlo ei hun i fod ar y silff byth ac ) n dragywydd yr oedd yr hen lane hwrjw o F er pan yn danfocx yr "young ladies" hyny o'r Ll-. Ei fod mor war galed a gofyn am "sws good- bye," ond i'r "ladies" ei nacau mewn dull gwarth- us. Fod yr hen lane wedi dychwelyd gyda "good night, nghalon aur i." Mai golwg ddoniol oedd ar Mary ar ol bod ar ymweliad a'r ddinas esgoboL Ei bod wedi prynu anrhegion i'w chyfeillesau. Fod y morthwyl sine a'r corn, er nad yn an- rhegion costfaivr, yn ddangoseg lied dda 9'i medd- j ylgarwch a'i charedigrwydd. Fod hyn yn profi fod Mary yn hoff iawn o swn ofierynau cerdd. Mai gwell fyddai i'r bardd-borthmon o I-, barhau i ddreiiio moch yn hytrach na cherbydau. Nad dymunol oedd yr olwg arno y dydd o'r biaen;, yn agos i Menai Bridge, pan aeth i wrth- (Iarawiad a cherbyd y dyspaddwr. Fod y baa-dd a'r fefcyw a ddreifiai yn edrych yn ysmala ar lawr. Iddynt gael eu taflu drwy i echel eu cerbyd dori, ac i un o'r olwynion fyned ar hynt ar wahan i'r rhelyw o'r cerbyd. Mai yr hyn a wnaeth y bardd ydoedd gadael y cerbyd ar lawr a rhedeg i ymorol y "groom" i'w ddwyn gartref. Ei fod, efallai, yn teimlo yn saifaeh ar ei droed nag mewn cerbyd. Fod yna bethau gwerth eu cofnodi ar lawer cyf- rif yn cymeryd lie yn ami yn mysg y dynion hyny sydd yn enill eu bara beunyddiol trwy weithio ar yr adeiladau yn G-road, Ll-. Er cryfed yw ysgubell amser, nas gall ddileu yr adgof am y prizefight" hono gymerodd le yn y capel wythnosau yr.: ol. Mai y rheswm am hyny yw fod yr hoelen sydd y yn dal pictiwr o'r olygfa wedi ei churo yn rhy ddwfn i barwydydd meddyliau yr edrychwyr. Mai cywilvdclio wnelai pob gweithiwr uwehben yr olygfa hono. Fod yna bethau i chwerthin am eu penau hefyd yn cymeryd lie yno. Mai un o'r cyfryw yw i ddyn nas gwyr wahan- iaeth rhwng rhifyddiaeth a chwt mochyr. gael ei benodi i ofalu am y time-book yn adran y plas- trwrs. Y dylai ar bob cyfrif gael rhyw chwarter yn Ysgol Ganolraddol y dref ar gost y Llywodraeth am fentro cymeryd gofal o waith mor bwysig heb yn gyntaf ymgynghori a'i alluoedd fel ysgolhaig. Druan o hono. Fod y "boys" yn cael hwyl uwchben yr olygfa hon. "Laugh on, lads." Fod yn hawdd iawn gwybod am ddynesiad trip Manchester yn Llangefni. Y gellir gweled arnrai o'r ladies yn troi o gwm- paa y counter-jumpers" gan ddisgwyl cae) 7 gwahoddiad hwnw, Ddowch chwi yno, mi dalwn ni drosoch." Am i'r siopwrs fod yn gall y tro hwn a gadael iddynt yn yr oerni, oblegid dyna'r ffordd oreu i wneud a hwynt. Mai nid ychydig o wyneb-galedwch ynddyntyw disgwyl cael myrled gyda'r bechgyn i Manchester am y dydd, a "go where you like after, as we won't come with you, because we consider our- selves yards above stragglers at home." Byddwch ddoeth, lanciau. Y dymunai gael gwybod a fwriedir cael cym- deithas lenyddol eleni.

Y Diwyrtiant Peirianyddol…

Damwain Ddifrifol mewn Angladd-

[No title]

Ffeithiau ynNghylch ChinaI

NODiON o'lt biiiiEUDlH,

-_.._._--_._----__-----------Undeb…

[No title]

Cymdeithas Wnio Mon.

[No title]