Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

24 articles on this Page

-Amlwch. ;

'Bangor.

News
Cite
Share

Bangor. Iechyd yr Esgob.—Drwg genym ddweyd fod iechyd Esgob Bangor, yr hwn sydd eto yn aros yn Llanarth, Sir Aberteifi, yn dal yn anfoddhaol, ac y mae ei gyng- horwyr ineo-dygol wedi argymhell fod iddo gymeryd mis o leiaf o orphwysdra pellach. Cyhuddiad Hyll.-O flaen ynadon Bangor, ddydd Gwener, cafodd bachgen o'r enw John Jones, 16 Inlwydd oed, o Glanadda, ei gyhuddo o wneuthur ymosodiad ar eneth bach unarddeg oed. Dywedwyd fod y cyhuddedig wedi stwffio ei gap i geg y plentyn i atal ei hysgrechfeydd. Yr oedd tystiolaeth y medd- yg yn andwyol. Remandiwyd Jones o dan feichniaeth drom hyd ddydd Mawrth (heddyw). Tret BiynyddoI.-Dydd Mercher bu i Mr W. 0. Williams, Manchester House, roddi ei tret blynyddol i wasa.naethyddion ei fasnachdy yn nghyda'i ddos- barth yn yr Ysgol Sul—oil yn rliifo tua 33. Llan- dudno d dew is wyd eleni i fyned iddo. Darparodd Mr Williams bryd danteithioi i'r parti yn y Sumner's Restaurant. Ymwelwyd a gwahanol leoedd o ddydd- ordeb, ac yn yr hwyr cymerwyd hwynt i'r Pier Pavi- lion concert. Cyn dychwelyd adref drachefn rhodd- wyd refreshment ysgafn iddynt i gyd. Yr oedd y ty- wydd yn ddymunol iawn, a bu i'r oil fwynhau eu hun- ain yn drwyadl. Cyn ymwahanu pasiwyd plcidiais o ddiolchgarwch i Mr Williams am ei haelioni. Dalieir Sylw.—Ceisir genym hysbysu na fedrodd Arglwydd Esgob Bangor fod yn bresenol yn nghvseg- riad eglwys newydd Brithdir, Dolgellau. Yr Esgob a ddirprywodd Arglwydd Esgob Aberdeen ac Orkney i gario allan y dyledswyddau esgobol. Y Tra Pharch- edig Ddeon Bangor a bregethodd ar yr achlysur. Adeiladwyd yr eglwys, yr hon sydd wedi ei chyfiwyno i St. Maro, gan Mrs Tooth, Ceryglhvydion, Dinbych, er coffadwriaeth am ei gwr. Mae yr un foneddiges wedi ei gwaddoli hefyd- Y mae'r fywoliaeth wedi ei chynyg i'r Parch Thomas Llewelyn Williams, Caer- narfon, ac yntau wedi ei derbyn. Bydd i'r boneddwr parchedig gael ei sefydlu ddydd Mercher (yr wytimcs hon), gan Arglwydd Esgob Bangor, yn y gynhadledd yn Nolgellau. Noddydd y fywoliaeth yw Mrs Tooth. Priodas.—Yn Nghapel y Bedyddwyr Seisnig,ddydd It, Mercher, priodwyd Miss Mina Baird, nith Mr Robert Seck, Penrallt Villa, Bangor Uchaf, gyda Mr Wil- liam E. Lewin, Kettering. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parch W. Iw Saunderson, y gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch J. Raymond, Llandudno. Yr oedd niter fawr o gyfeillion yn bresenol yn yr addoldy. Khoddwyd y briocutrch ymaith gan ei hewythr,Mr R. Beck, ac yr oedd wedi ymwisgo mewn dove-coloured cloth, trimmed with white satin and pearl beads cariai htrfyd bwnsiad haxdd o floda. Y forwyn briodas oedd Miss M. E. Beck, cyfnitlier y briodferch, tra y gweithredai Mr James Beck fel gwas. Wedi i'r brecwast priodas yn Pen rallt fyned drosodd, ymadawodd y par ieuanc gyda'r tren am Ddeheudir Lloegr. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a gwerth- fawr.. Anrhegu Clerigwr.—Yn yr Ysgol GenedLieflioi, nos Fercher diweddaf, jTngyfarfu nifer fawr o gyfeillion ac edmygwyr y Parch Benjamin Thomas, B.D., curad poblogaidd Eglwys St. Mair, Bangor. i gyflwyno an- rheg iddo cyn ei ymadawiad o'r ddinas hon am Lun- dain,lle mae wedi derbyn caplaniaeth Eglwys Gymreig Paddington,a waghaw^'d yn ddiweddar trwy benodiad y Parch J. C. Ellis i Eglwys Gymreig St. Bener, Llundain. Llanwyd y gadair lywyddol gan Mr John Pritchard, Bodhyfryd. Cymerodd yr anrheg y ffurf o anerchiad goreuredig a phwrs o aur, y rhai a gyflwyn- wyd iddo, ar ran y lluaws tanysgrifwyr, gan Mrs John Pritchard, Bodhyfryd. Mrs Benjamin Thomas hefyd, yr hon fu'n aelod flyddlon a dcfnyddiol o gor yr eg- lwys, cafodd hithau ei hanrhegu a silver-mounted umbrella hardd gan Miss Kathleen Langford Jones, ar ran y tanysgrifwyr. Cydnabyddodd y boneddwr parchedig yn gynes drosto'i hun a'i briod, a chyfeir- iodd at y teimlad da fu'n bodoli yn ystod ei arhosiad 11 ef yn y ddinas. Yr oedd program difyr hefyd wedi ei barotoi ar gyfer y noson, ac aethpwyd drwyddo fel y canlyn :—(Jan, "Queen of the Earth," Master D. F. Davies; can, "Y gwcw ar y fedwen," Miss Louisa Jones unawd ar y clarionet, "Andante polacca," Mr Hampshire can, "The Vicar's song" (allan o "The Sorcerer"), Mr Plul. Jones can, "Llancesau Eryri," Miss Price; deuawd ar y erwth. "A summer idyll," Misses Nesta Rowlands a Dora Hartley; can, "Tat- iers,"Master W. H. 0. Davies deuawd, "Excelsior," Meistri William Jones a Phil Jones can, "The Lost Chord."Master R. H. Davies can,"For all eternity," Mrs M. Lloyd Parry unawd ar y clarionet, "Concer- tine," Mr H. Hampshire can, "I am a Friar of orders grey," Mr J. G. Cooke; deuawd ar y crwth, "Nor- ma. Misses Nesta Rowlands a D. Hartley. Ysgrifcn- yddion y mudiad oeddynt Mr Joseph Davies,Havanna House, a Mr William Purry. Ironmonger; bu iddynt weithio yn egniol iawn, a choronwyd eu hjTndrechion a llwyddiant. Marwolaetli Mrs Emma Roberts.—Gyda gofid dwfn yr yaym yn cofnodi marwolaetli Mrs Emma Roberts, grocer, 242, High-street, Bangor, yr hyn a gymerodd le nos Fawrth diweddaf, ar ol cvstudd cydmarol {yr. Gweddw ydoedd hi i'r diweddar Mr William Roberts, groceLa chariodd fusnes yn mlaen yn 242,High-street, am 31 o llynyddoedd yn ddidor, yr hyn, mae'n debyg, ssy n record yn lianes masnach vn Mangor. Cjincr- wyd Mrs Roberts yn wael yn sydyn ddydd Sadwrn cyn y diweddaf ac, er gwaethaf pob sylw a medr ar l an ei meddyg, Dr. Richard .Jones, yn nghyda gweinydd- iad ymroddedig a gofalus ei meibion a chyfeillion eraill arni, suddo yn gyllym a wnaeth,a hunodd yn dangnef- eddus ddydd ]\Iiiwrth (fel y crybwyllwyd), yn ei 68ain inlwydd oed. Rhaid dweyd am Mrs Roberts eibodyn ddynes wir Gristionogol ac yn meddu'r gradd uwchif o foneddigeiddrwydd ac er fod ei nerth wedi graddol ballu ers rhai blynyddau, eto glynodd Tvrth ei dyled- swyddau yn ffyddlawn hyd Y diwedd, nes o'r braidd y gellir dweyd am dani iddi farw "yn yr harnis." E:' nad yn wraig gyhoeddus mewn unrhyw ystyr, er nyny adwaenid Mrs Roberts gan gvich eang iawn ac yr oedd yn cael ei ma.,n barchu. Yr oedd yn aelod Ifyddlawn o eglwys Gynulleidfaol Gymreig Pendref, ac yn un o aelodau hynaf y cyfundeb hwnw Yn Man. gor. he yn gadael ar ei hoi ddau fab i alaru ea colled fawr,sef MrW. A. Roberts (is-olyg'Ycl( y"North Wales Chronicle) a, Mr B. R. Roberts (caslner gydar Meistri Lewis, Penrhyn Mills), y rhai y mae ganddynt y cysur i feddwl, yn eu trallod dwfn, na adawodd eu mam yr un gelyn ar ei hoi, eithr yn hytrach lu mawr o gyfeillion diffuant a chydymdeimladol.-Cymerodd yr angladd. yr hwn oedd o nodwedd breifat, le foreu Gwener yn ngliladdia v teulu yn mynwent Glanadda. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. S. R- -'enkins a'r Proft'eswr J. M. Davies.—Yr oedd trefn- XYll11 5* e'artdedigaetli yn nwylaw Meistri R. a J. 1 iiains, Upper Bangor ac yr oedd ar vr arch, yr lion oedd o dderw caboledig gyda. brass mountings tryimon, yr arysgrif ganlynol "Emma Roberts, ga.n- V ,™ld laf' 1829; bu farw Medi 14, 1897." Gorcjiuddid yr arch gan nifer o blethdorchau pryd ferth o nooau, y rhai a, anfonwyd, yn mysg eraill, gan Mr a Mrs W. Arthur Roberts (mab a merch-jn-nghy- fraith) Mr Ben. R. Roberts (mab) Mrs a Miss Edwards, Fflint; Mr a. Mrs Ardern, eto Mr a Mrs J. Humphreys. Gambier-terrace, Bangor; Miss Sara.h Thomas, Miss Grace Thomas, Mr Thomas Thomas, ieu., Caellepa Mr a Mrs Morley, eto, etc.

Caernarfon-!

I NebO (PefS»m).

Llangsfr.:-

ILlonfachraetli.

Pont Menai. !

|Ieue yn Anghydmarus.

NODION O'H DEHlUDUL

! 1 rl-VToddar Oitem wooa…

Ni wna Cyflyriau y tro.

Family Notices

.--...-- - - -J Anglesey Fairs…

Shipping.

: YD.

ANIFEILIAID.

MCCH TEWION.

CIG.

CAWS"

YMENYN.

TATWI.

GWAIR A GWELLT.

Marchn&dcedd Cymrsig

SEPTEMBER.