Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

Cynhadledd Glowyr Deheudir…

[No title]

Afghanistan a'i Thrigolion.

News
Cite
Share

Afghanistan a'i Thrigolion. Gan fod yr helynt Indiaidd yn tynu cymaint o sylw y dyddiau hyn, credwn mai nid anfuddiol gan ein darllenwyr fydd ychydig o hanes Atfghan- istan, y wlad sydd yn ffinio ar ac yn dal cysylltiad imor agos a'r helynt presenol. (jorwedd Affghanistan rhwag India a Phersia. Ymestyna o'r gogledd i'r deheu oddeutu 450 o fill- diroedd, ac y mae yn fwy na hyny o'r dwyrain i'r gorllewin; yn cynwys arwynebedd o fwy na 250,000 o filldiroedd ysgwar, fel y mae felly ychydig yn eangach na Ffrainc. I'r gogledd iddi y mae Turkestan i'r dwyrain, y Punjab i'r de- heu, Beloochistan ac i'r gorllewin iddi y mae Persia. Perthyn i Affghanistan y mae Beloochis- tan yn briodol, ond ei bod yn bresenol wedi ei gwahaniaethu yn wleidyddol oddiwrthi. Y mae y wlad ar y cyfan yn wastad iawn, serch fod ynddi fynyddoedd yn codi oddeutu 18,000 a 20,000 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y mor. Golchir y glanau dwyreiniol i'r wlad gan yr afon Indus, a rhed i gyfeiriad de-orllewinol, rhwng dwy gadwen o fynyddau uchel, pa rai sydd yn ymestyn hyd at fynyddau byd-enwog yr Himalaya. Gwahenir yr alon hon odd:wrth y mynydd-dir gan randir cull o dir isel. Ar gribau y mynyddau hyn ymestyna y bwrdd-dir i'r gorllewin hyd at linell-derfyn Per- sia. Y mae llawer o fynyddau eraill y gallem eu henwi, ond rhaid prysuro yn mlaen. Gorwedd dyffryn yr afon Cabul ar hyd gwaelod deheuol rhanau dwyreiniol rhai o'r broydd mynyddig hyn. Y mae yr afon Cabul yn rhedeg o'r gorllewin i'r dwyrain i'r Indus, gan ddisgyn ago i 10,000 o droedfeddi mewn pellder o 200 o filldiroedd. Rhed yr afon hon yn ffrwd ddinod drwy dref Cabul. Dylifa trwy Jellalabad a Peshawur tuag at yr Indus, gan dderbyn lluaws o fan afonydd yn ei chwrs; ae o Jellalabad i lawr mordwyir hi gan gludfadau (rafts) gwneuthuredig o grwyn. Y mae yno amryw ddyffrynoedd mawrion a gwastad- diroedd eang. Rhwng gwastad-dir Jellalabad a Peshawur y mae cadwyn-fynyddoedd Khyber, lie y mae Bwlch Khyber, trwy ba un y teithiodd y fyddin Brydeinig yn rhyfel-dymor 1841-2; y mae y bwleh hwn agos yn 20 milldir o hyd. Yn y dyffrynoedd gerllaw y mae llawer o bentrefi a thai, lie y mae digon o rawn a ffrwythau. Yn nwyrein- barth y wlad y mae rhai o'r dyffrynoedd hyn yn rhoddi cynyrch da mewn amrywiol bethau," a cherir yn mlaen waith eang mewn cotwm. Ond y prif stoc ydyw anifeiliaid, gwenith, haidd, pys, mes, reis, a grawn eraill. Y mae yno fwnau gwerthfawr o aur, arian, a cliopr mewn gwahanol, barthau a bernir fod y mwn haiarn yn agos i Peshawur yn gymaint ag un Sweden. Eu hanifail mwyaf dof ydyw y ddafad. Y mae geifr mor ami a defaid ac y mae ceffylau a mulod yn ddirifedi. Y mae cathod Cabul yn hynod am eu blew hir a! sidanaidd, ac yn myned dan yr enw cathod Per- sia, er mai ychydig oliDrynt sydd yno. Y mae y boblogaeth, a chyfrif Beloochistan, yn bum' miliwn—tua 480,000 yn unig sydd yn per- thyn i Beloochistan. Y mac yr Affghanistaniaid, y rhai ydynt y genedl lywodraethol, wedi chwalu ar hyd a lied y bwrdd-dir ond y mae y mynydd- oedd yn benaf yn meddiant llwythau eraill. Dy- wedir fod yr Affghanistaniaid yn tarddu o'r Iudd- ewon, y rhai a gaethgludwyd gan y Babiloniaid rhwng Herat a Cabul. Yn mhlith y dosbarth uchaf arferion ac iaith y Persiaid sydd yn ffynu. Y mae eu merched yn landeg a hardd iawn. Ys- tyrir y merched fel arian treigl, pwrcesir gwrag- edd, ac mewn achosion o drosedd y mae y g ^sb yn cael ei thalu yn y rhyw deg. Er engraifft, rhoddir 12 o ferched ieuainc am lofruddiaeth. Tori llaw, tynu dant, dinystrio llygad, a throsedd- au cyffelyb, a gosbir gan ddirwy o chwech o ferched ieuanc. Priodir yn gyffredin pan y mae y dvnion yn 20 a r merched yn 16 mlwydd oed ond pan y me pris y cytunwyd arno ar ymddangos, gellir priodi yn gynt. Modd bynag, os bydd arian yn brm, yna nid a y dynion i'r ystad briodasol nes y byddant yn 40 a'r merched yn 25 mlwydd oed. Gallant briodi pedair gwraig os bydd ganddynt ddigon ° foddion. Y mae y dynion pan gartref vn liadd yr amser trwy ysmygu, a chymerir trwyn- lwch fel math o foeth. Eu prif ddifyrwch ydyw hela a rhedegfeydd ceffylau, yr hyn sydd yn ffynu ar raddfa eang yn eu plith. 1 Y mae yno chwech o drefydd lied bwysi^. Y bnf-ddinas ydyw Cabul, yr hon sydd yn gorwedd ar Ian aton or un enw, mewn gwastad-dir yn cael ei ddyfrhau yn dda, ac yn orlawn o bentrefi. Am- gylchynir y dref gan fryniau isel ar dair ochr ar ben un-y gogleddol—y mae palas y brenin. Nid yw y dref hon yn fawr, ond yn brydferth a chryno, ac adeiledir y tai gan mwyaf o goed er osgoi can- Jymadau y daeargrynfaau dinystriol a gymerant le. Y -ae gerddi blodeuog a swynol oddiamgylch iddi Y mae yn y dref hon 60,000 o drigolion. Pesh«awur sydd dref oddeutu pum' milldir mewn amgylchedd, ac yn cynwys 56,000 o eneidiau. Priddfeini ydyw defnydd adeiladaetli tai y ddinas hon, y rhai sydd yn gyffredin oddeutu tri uehder llofft; yr heolydd yn gul a llithrig, ond wedi eu palmantu, gyda'r gwter ar y canol. Disgvna y gwlawogydd yn y gwanwyn, gan wneud y He yn angre annedwydd. Ghiznee ydoedd unwaith yn bntddinas ymherodraeth ag oedd yn cyrhaedd o'r ligns 1 r Ganges, ac yn cynwys yr adeiladau mwy- af gorwych yn Asia, ond yn awr nid oes yno ond tua 1500 o anedd-dai tlodaidd. Gellir canfod ol- ion ei harddweh henafol eto yn y gymydocaeth ac yn eu plith, beddrod y Sultan Mahmood, gorch- fygwr India, uwchben pa un y darllenir y Koran yn barhaus gan offeiriaid Mahometanaidd. Ma- hometamaeth ydyw crefydd y trigolion hyn. Can- dahar sydd dref a ddywedir iddi gael ei sylfaenu gan Alexander Fawr. Y mae y ddinas bresenol yn newydd iawn. Y mae y dref eang a phryd- ferth, a thvbir ei bod yn cynwys 100,000 o drigol- ion. Mae y pedair brif heolydd yn 50 llath o Fed, ac y mae afonig fechan yn rhedeg trwy bob heol. Y mae y ddinas hon yn wahanol i ddinasoedd eraill gan y poblogir hi yn benaf gan Affghanistaniaid, y rhai sydd wedi cydvmffurfio yn allanol ag arfer- ^nyPersiaicL Nid yw Quetta yn sefyll yn bell o Fwlch Bolan. Gwneir llawer o drafnidiaeth vn o Fwlch Bolan. Gwneir llawer o drafnidiaeth vn y dref hon, yr hon nid yw yn cynwys 400 o dai bychain,gyda muriau lleidiog oddiamgylch iddynt. Daw llawer o fasnachwyr i'r dref hon i bwrcasu nwyddau er eu hail-werthu pan y mae y caravans yn dyfod i mewn. Herat sydd dref gaerog a chadarn. Cynwysa yn awr oddeutu 20,000 o dri- golion, yn mhlith pa rai y mae Hindwaid a rhai teuluoedd o Iuddewon. Ystyrir y dref hon yn agored i Affghanistan o'r gorllewin, a chan fod Affghanistan ei hun yn cynwys yr unig dramwyfa trwy ba un y gall byddin fyned yn mlaen ar y tir tuagat India, mae buddugoliaeth Herat gan yPers- iaid, y rhai a allent adael y Rwsiaid fyned trwodd, wedi cael ei rwystro bob amser gan y Llywodraeth Brydeinig, a bu yn achlysur o ryfei yn 1856. Er fod Affghanistan o dan awdurdod brenhinol, y mae y genedl wedi ei rhanu yn llwythau, pob un o dan ei lywodraeth ei hun, heb unrhyw ymyriad oddiwrth y gallu brenhinol. Mewn llywodraeth mor ansefydlog a hon, y mae y rhaniadau gwleid- yddol yn amrywio hefyd o angenrheidrwydd. Pan oedd y Llysgenad Prydeinig yn Peshawur, yn 1809, yr oedd y deyrnas wedi ei rhanu yn 27 o daleithiau a llywodraethau. Gair am y trigolion. Yr oeddynt yn yr oesoedd aethant heibio yn hynod o letygar wrth ddyeithr- iaid, y rhai a dderbynient fel gwestywyr cyhoedd- us, fel y gallai yr ymdeithydd dramwy ar hyd a lied y wlad heb unrhyw anhawsdra i gael bwyd neu lety. Yn yr hen amser byddai gelyn chwerw- af un o'r Affghanistiaid yn ddiogel dan gronglwyd ei wrthwynebydd ond nid yw hyny yn bodoli yn eu mysg yn awr. Yn 1842, pan oedd y fyddin Brydeinig yn encilio o Cabul, cyrhaeddodd chwech o swyddogion Prydeinig o fewn ychydig filldir- oedd i J ellalabad, yn mha le yr arosasant i dori eu hangen, a phan yn cyfranogi o luniaeth a ddy- gwyd iddynt, torwyd hwy yn ddarnau yn y modd mwyaf annynol gan y giwaid hyny, yr hyn a brawf nas gellir dibynu dim ar eu hanrhydedd. Y maent yn hollol dwyllodrus, barbaraidd, gelyniaethus, eiddigeddus, trachwantus, treisiol, a gwrthnysig yn annhosturiol, gwaedlyd, a bywiog, bob amser am ryfela, ond eto yn hynod o ddiffygiol mewn calonogrwydd a phwyll, ac yn hollol analluog i wrthsefyll rhuthr sefydlog gelynion penderfynol. Y Tajiks ydyw y mwyaf mileinig a gwaedlyd, a chwerylant yn barhaus gyda'u gilydd. Y mae yr Affghanistiaid i gyd o'r bron yn swyddogion, mil- wyT, ac offeiriaid; a dirmygant y drychfeddwl o fod yn fasnachwyr neu siopwyr. Anfonodd Dost Mohammed, y mwyaf galluog o'r arweinwyr, lythyr at Arglwydd Auckland yn Mai, 1835, yr hwn oedd yn ragflaenydd ymyriad f Prydeinig yn y lie hwnw; yr oedd y swyddog yn awyddus am gyfeillgarwch Prydain, tra yr oedd ei arglwyddiaeth yn ameu amcanion Rwsia a Phersia ar ein hymherodraeth yn India. Anfon- wyd Syr A. Burnes fel cenad i Cabul yn 1837, yr hyn fu yn achos i Arglwydd Auckland benderfynu gwrthwynebu Dost Mohammed. Yna dechreu- odd y parotoadau rhyfelgar mwyaf brysiog. Yn Hydref, 1838, cyhoeddwyd rhyfel yn ei erbyn. Cychwynodd byddin o 25,000 o filwyr, dan ofal Syr Henry Fane; a pharotodd Syr Willoughby i groesi diffaethweh eang yn Chwefror, 1839, gyda 10,000 o filwyr rheolaidd, a 80,000 o filwyr afreol- aidd. Cyrhaeddasant Candahar yn Ebrill, ar ol dioddef llawer oddiwrth eu hymgyrch o 1000 o fill- diroedd. Ymunodd byddin Bombay a hwy yn gynar yn Mai. Yn Gorphenaf aethant i Ghiznee, pellder o 230 o filldiroedd, ac ar ol ystormio y dref hon ymdeithiasant i Cabul, yr hon a gymer- wyd y 7fed o Awst. Diangodd Dost Mohammed o'r wlad ymostyngodd un o'i feibion i Syr A. Burnes; a gorfu i'w fab arall roddi Jellalabad i'r Milwriad Wade. Wedi ail sefydlu y brenin ar yr orsedd, arosodd Syr- W. M'Naghten a Syr A. Burnes yn Cabul fel llysgenhadon; ond aeth corph y fyddin yn ol i India. Yn ystod 1840-1, byddai terfysgoedd yn cymeryd lie rhwng yr Aff- ghanistaniaid a'r Prydeiniaid, ac er i Dost Mo- | hammed ymostwng i'r Prydeinwyr yn Tachwedd, f 1840, gan fyned i fyw yn ddistaw i India, eto yr oedd y wlad mewn cyflwr ansefydlog iawn, ac yn gofyn am bresenoldeb o 10,000 i 16,000 o filryr Prydeinig, lieblaw milwyr Shah Soojah, y brenin. Yn Tachwedd, 1841, y daeth pethau i gyfwng. Amgylchynwyd Cabul gan yr Affghanistaniaid yn raddol, a llofruddiasant Syr A. Burnes a swydd- ogion eraill Tachwedd 2il, a Syr W. M'Naghten! ar y 23ain o Ragfyr. Teimlai y Prydeinwyr mor anaJluog fel y penderfynasant adael Cabul dan amgylchiadau gostyngedig lawn a dychwelyd i India. Cychwynasant ar y 6ed o lonawr, 1842, ac yr oedd eu henciliad yr un mwyaf dinystriol a thruenus a wyddis am dano erioed. Allan o1 26,000 o filwyr, gwragedd, a phlant, llofruddiwyd neu cvmerwyd yn garcharorion bron yr oil ohon- ynt gan y barbariaid hyn. Daliwyd Jellalabad gan y Cadfridog Sale Candahar gan y Cadfndog ott; a Ghiznee y Cadfridog Palmer, yr hon a gymerwyd oddiarno, ac a wnaethpwyd yn garcharorion, efe a'i fyddin. Yn Mawrth yr oedd y cadfridogion hyn yttialluog i wneud cynlluniau, ond oherwydd anmhenderfynolrwydd Llywodr- aeth India a diffyg cy3enwadau,ataliwyd hwy rhag gwneud llawer hyd Awst, pan yr aeth y Cadfridog Nott i Ghiznee, ac yn Medi i Cabul, gan ail gy- meryd y ddwy ddinas. Er Hydref yr oedd pob- peth wedi ei ail drefnu, ac aeth y fyddin i India, lie y cyrhaeddasant erbyn diwedd y flwyddyn. Llofruddiwyd Seah Soofah, y brenin, yn ngwan- wyn yr un flwyddyn, a daeth ei fab yn etifedd i dreftadaeth led amheus. Yn 1846 drachefn gorfu i'r Prydeinwyr ymosod nrnynt oherwydd iddynt ffurfio cyfathrach a'r Sikhs. Torwyd hon i fyny yn eu gorthrechiad yn Gujerat; ac yn ystod y gwrthryfel yn India yn 1867, rhoddodd y brenin —Dost Mohammed Khan—gynorthwy anunion- gyrchol gwerthfawr i'r Saeson trwy atal unrhyw oresgyniad o'u tiriogaeth yn y rhandir hwnw, ac felly ganiatau iddynt greiddio eu nerth yn rhywle arall. Bu y llvwiawdwr galluog hwn farw yn 1863, a dechreuodd ei feibion yn ebrwydd ar ryfel olynol, yr hon a barhaodd gyda chwerwder mawr am amryw flynyddoedd. Cydnabyddodd y Lly- wodraeth Brydeinig Shere Ali fel y llywodraeth- wr cyfreithlawm, ac yn 1868 rhoddwyd eynorthwy uniongyrchol iddo mewn arian ac arfau er ei allu- ogi i sefydlu heddwch a threfn yn y wlad. Y canlyniad o hyn fu, nid yn unig i diriogaethau y brenin gael eu heddychu,. ond gosodwyd y terfyn- au rhwng Rwsia yn Asia ac India i lawr yn eglur. Yn yr Edinburgh Review am Gorphenaf, 1873, ceir a ganlyn: —" Y prif beryglon a fygythiant y wlad yn awr ydynt iddi gael ei haflonyddu gan Rwsia, yn mha achos y gall^Lloegr yn bosibl gael ei maglu ac hefyd yr olyniaeth, gan yr ymdden- gY8 Shere Ali fod yn well ganddo y mab ieuengaf, Abdullah, yn hytrach na'r liynaf a mwy oralluofr Yakoob." J ° YCHYDIG FFEITHIAU AM AFFGHAN- ISTAN. Y mae arwynebedd Affghanistan oddeutu cy- maint ddwywaith a Phrydain Fawr a'r Iwerddon. Mae yr Affghaniaid yn falch o'u henafiaid, a honant eu bod yn disgyn 0 neb liai na'r Brenin Saul. Y mae pawb yn Cabul yn wr o urddas. 0 leiaf, y mae pob person o dipyn o bwys yn galw ei hun yn Khan," yr hyn ydyw ystyr Affghan- aidd y gair. Dylai y broffeswriaeth feddygol ffynu yn Aff- ghanistan, oblegid y mae heintiau yn bethau cyff- redin yno, ac y mae y bobl hefyd yn ddarostyng- edig i anhwyldeb hynod yn y llygaid. Y mae y camel yn angenrhaid i'r Affghaniaid, ac y mae bron yr oil o farsiandiaeth y wlad yn ca.el ei gludo ar gefn y creaduriaid defnyddiol hyn. Yn Ghanzi, yn Affghanistan, yr hwn sydd dros 7000 troedfedd uwchlaw arwyneb y mor, mae yr oerni yn y gauaf yn eithafol, ac nid peth anghyjff- redin i'r trigolion ydyw cael eu dot gan eira yn eu tai am fisoedd benbwygilydd. Nid yw yr Affghaniaid yn hoff iawn o sebon a dwfr, er eu bod yn golchi eu dwylaw cyn ac ar ol bwyta. Gwell ganddynt arfer eu bysedd yn He cyllill a ffyrc, a newidiant eu dillad oddeutu un- waith yn y mis. Cenedl dalgryf ydyw yr Affghaniaid, ond y mae eu moesau yn bwdr iawn. Y mae Lloegr wedi gwaredu Herat ddwywaith rhag y Persiaid drwy rym arfau, ac adfer y He i'r Affghaniaid yn' ol traul o amryw filiynau o bunau a rhai miloedd o fywydau. Bu arian Lloegr hefyd yn foddion i esmwythau anhawsderau ar- ianol yr Ameer ar fwy nag un achlysur, a chafodd hefyd y budd oddiwrth arfau a hyfforddwyr mil- wrol Lloegr. Pa beth bynag ellir ddweyd am Abdullah Khan, rhaid addef ei fod yn wr o ddewrder ac yni difesur. Yn ystod ei afiechvd diweddaf, lledaen- wyd adroddiad am ci farwolaeth, ond, fel Alex- ander gynt, aeth ar gefn ei geffyl, a marchogodd drwy yr heolydd i ddangos ei fod yn fyw. Fodd bynag, yr oedd hon yn ormod ymdrech iddo, a bu farw yn fuan ar ol hyn. Y mae Kandahar yn anwahanadwv oddiwrth enw Arglwydd Roberts. Pan dorodd'rhyfel Aff- ghanistanaidd 1873 allan, dewiswyd ef fei llywydd adran Kurram o'r fyddin. Am ei wasanaeth py- byr gwobrwywyd ef a'r teitl o K.C.B. Ar ol llofruddiaeth greulon Syr Louis Cavaganari a gos- gorddlu y Genhadaeth Brydeinig, penodwyd ef drachefn yn llywydd y galluoedd dialeddol. Ar y 9fed o Awst cychwynodd "Bobs" allan gyda 10,000 o filwyr, 8000 o ganlynwyr brodorol, a thros 11,000 o anifeiliaid clud ar ei ymdaith fyth- gofiadwy drwy ganol Affghanistan i gynorthwyo Kandahar, lie y cyrhaeddodd yn mhen tair wyth- nos ar ol hyny. Yn fuan dilynodd brwydr ag Ayub Khan, yn yr hon y bu milwyr Prydain vn fuddugoliaethus, gan lwyr chwalu y gelyn gyda cholledion trymion. Yr oedd barwniaeth yn aros y cadfridog dewr ar ei laniad yn Lloegr, ac ar ol hyny penodwyd ef yn ben-llywydd y fyddin yn yr India.

[No title]

[No title]

T Gymdeithas Genhadol 11 Eglwysig.…

Sylwadau y Wesg.

IFREE LABOUR.

[No title]

Rh,Ys Dafydd Syn D'eyO,.