Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

Cynhadledd Glowyr Deheudir…

News
Cite
Share

Cynhadledd Glowyr Deheudir Cymru. Yn Nghaerdydd, ddydd Llun diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr W. Abraham (Mabon), A. S., cynhaliwyd cynhadledd o gynrychiolwyr ar ran deng-mil-a^phedwar-ugain (90,000) o lowyr De- heudir Cymru a Sir Fynwy, i ystyried. yr hyn y dylid ei wneud yn nglyn a chynllun y meistrad- oedd i gyfyngu swm y glo a gyfodir. Pender- fynodd y gynadledd anog y glowyr i beidio gweith- io yr wythnos hon. Penderfynwyd, hefyd, i ofyn i'r oil lowyr yn Neheudir Cymru a sir Fyn- wy roddi eu llais yn mhob glofa ar y cwestiwn a ddylid neu ni ddylid rhoddi, ar y dydd laf o Hyd- ref, chwe mis o rybudd i derfynu cytundeb y Llithr-raddfa, Dilynodd trafodaeth fywiog ar y cwestiwn a ddylai y gweithwyr nad ydynt yn cy- franu at drysorfa y Llithr-raddfa gael llais yn y mater ai peidio. Pan ymranwyd, cafwyd fod un- ar-ddeg a deugain o'r cynrychiolwyr dros bleid- leisio agored, ac wyth-a-deugain dros gyfyngu y bleidlais i'r rhai hyny a dalodd y ddwy dreth ddi- weddaf at y drysorfa. Arddangoswyd cryn deim- lad o ganlyniad i'r ymraniad hwn. Yna gohir- iwyd y gynhadledd hyd boreu ddydd Mawrth, pryd y pleidleisiwyd yn ol nifer y gweithwyr a gynrychiolid, ac nid yn ol nifer y cynrychiolwyr oedd yn bresenol yno. Galwyd yr enwau, a dyma y canlyniad —Yi). erbyn caniatau i rai heb fod yn cyfranu at y Llithr-raddfa gymeryd ran yn y bleidlais, 41,044 o blaid caniatau iddynt, 21,420. Dywedodd Mr W. Abraham ei fod ef yn credu fod y mwyafrif o blaid y ffordd o reoli yn hytrach na chyfyngu y cynyrch. Penderfynwyd fod pob glofa i ymofyn a ydoedd eu meistrad- oedd hwy yn ffafriol i'r cynllun ai peidio.— Beirniadwyd ymddygiad Mr D. A. Thomas, A.S., a phenderfynwyd, cynal cynhadledd gyffredinol mor fuan ag y gellid.

[No title]

Afghanistan a'i Thrigolion.

[No title]

[No title]

T Gymdeithas Genhadol 11 Eglwysig.…

Sylwadau y Wesg.

IFREE LABOUR.

[No title]

Rh,Ys Dafydd Syn D'eyO,.