Skip to main content
Hide Articles List

20 articles on this Page

--------------------------_-AT…

Nodjon Amaethyddol. --

[No title]

[No title]

[No title]

Eheilfiyrdd Ysgsifn yn lion-…

[No title]

--------Cynghor Dinesig Llangefni.

Marwclaeth. Y Barnwr Cave.

Cadi HcndoL

RHOSCOL YN.

[No title]

1 Amaetiiyddlaeth Piydain…

Masnach Yd yr Wythnos. j

Cyngaws Amaethyddol o Jon…

Eefyllfa Amasthyddiastii yn…

Y Dirwasgiad Amaethyddol-

! AfLschydon Cyffredin-

NODIUN O'R. DEHEUDIR.

News
Cite
Share

NODIUN O'R. DEHEUDIR. Boddodd Joseph King, Priory Hill, Aberdau- gleddyf, yr wythnos ddiweddaf. Y mae Mr Stephen George, o Goleg Trefecca, wedi derbyn galwad gan eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Llandrindod. Ganwyd y Parch Daniel T. Philips, consul yr Unol Dalaethau i Gaerdydd, yn Nhredegar, Mynwy, rhwng 40ain a 50ain mlynedd yn ot Bwriada y cor dirwestol o dan arweiniad Mr J. Hicks, gystadlu ar yr ail ddarn yn Eistedd- fod Genedlaethol Ffestiniog yr haf nesaf. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol Cymdeithas Ddarbodol Barhaol y Mwnwyr yn Nghaerdydd, dydd Iau, pryd y Hywyddwyd gan Mr Louis Tay- lor. Bu yr arlunydd Cymreig, Mr J. Milo Griffith, farw ddydd Iau yn ei breswylfod yn Chelsea. Yr oedd yn enedigol o Narberth, yn Sir Benfro. Cynhaliwyd trengholiad ar gorph dyn anadna byddus, tuo 60ain mlwydd oed, yn MualIt, yr wythnos ddiweddaf. Caed ef wedi boddi yn yr afon Gwy. Yn Nghaerdydd, yr wythnos ddiweddaf,dan- fonwyd James Marshall i garchar am lis, am esgeuluso ei wraicr a'i blant, a'u gadael ar bwys Undeb Caerdydd. Yn Abertawe, ddydd Mawi'th, cyhuddwyKJ George Atwell o ymosod yn anweddus ar wraig ibrod o'r enw Mary Owens, yn Carmarthen-road, tua haner nos. Gohiriwyd yr achos. Y mae Mr David Jenkins, Mus. Bac., wedicy- fansoddi cerddoriaeth ar benillion Mr Keri Evans, "Duw gadwo'r bobl" a chyflwynir y cydgan i chwarelwyr Bethesda. Yn Bath, y dydd o'r blaen, traddodwyd gwe ieuangc, o'r enw William Edwards, Pont-y-pridd, i sefyll ei brawf yn y brawdlys chwarterol dan y cyhuddiad o gysegr-ysbeiliad. Yn Mountain Ash, ddydd Mawrth, rhoed dir- wy o £2 a'r costau ar John Henry Jenkins am danio ergyd yn mhwll glo'r Bwllfa, ac yntau heb fod ag awdurdod ganddo i danio ergydion. Talodd aelodau o Sefydliad yr Arwerthwyr ym- weliad a Chaerdydd a'r gymydogaeth ddydd Gwener. Buont yn ngweithfeydd Dowlais a Doc- iau Barry. Dydd Gwener cynlialiwyd cyfarfod o Bwyllgor Iechydol Sir Forganwg yn Nghaerdydd, pryd yr oedd Mr Henry Lewis yn y gadair. Cafwyd ym- drafodaeth ar amryw faterion o bwys. Mao Archddiaconiaeth Llandaf a aeth yn wag trwy farwolaeth y diweddar Archddiacon Griffiths i gael ei llenwi gan y Parch Frederic WiHiam Bd- mondes, M.A., rheithor Coity, Penybont-ar-Og- wy. Crwydrodd ci perthynol i Mr George Rosser hyd Ffordd Haiarn Castellnedd ac Aberhonddu, yn agos i Aberdulais, ac aeth y tren drosto ac a'i Haddodd. Yr oedd y ci yn werth £50 yn marn ei berchenog. Yn Nghaerdydd, ddydd Mawrth, cyhuddwyi Arnold Alexander o ladrata £5 15s oddiar longwr, enw Arthur Banfield. Ymddangosai ycarch- ajc" yn y Uys yn Hewis ei grys. Danfonwyd ef i garchar am dri mis. Yn Nghaerdydd, yr wythnos ddiweddaf, rhoed dirwr o- a'r ewtarf ar (Iffynes, o'r enw Cather- ine Neale, neu Commins, am werthu cwrw heb drwydded. Dirwywyd Iuddew, o'r -enw Isaac Cohen, hefyd, i 5s a'r costau, am ddefnyddio clorian anghywir, Yn Nhredegar, ddydd Mawrth, cyhmBdwyd Lizzie Jones, brodor o Abertileri, o fod yn feddw ac afreolus prydnawn dydd Sabboth. Danfonwyd hi i garchar am bedwar diwrnod ar ddeg. Cwyn- ai Lizzie yn dost rhag y llygod mawr oedd yn nghell gorsaf yr heddgeidwaid. Cyfarfyddodd cynrychiolwyr y glowyr yn Nghaerdydd, foreu ddydd Gwener, i gyfrif pl&id- leisiau y dynion ar y cwestiwn o stopio y gwahanol lofeydd am wythnos. Yn ol eu dyfarniad ceir fod 34,617 o blaid stopio, a, 44,131 yn erbyn hyny., Felly cafwyd mwyafrif o S514 yn erbyn cau y glo- feydd am wythnos. Drwg genym gofnodi marwolaeth Mr Henry Watkin Lewis, Lhvyn-yr-eos, Abercanaid, ger Merthyr, yr hyn a gymerodcl Ie foreu ddydd Gwener yn Harrogato. Yr oedd yn wael ei iechyd ers amser maith. Yr oedd yn ddyn gallu- og fel neirianydd, a pherchid ef yn fawr gan bawb a'i hadwaenai. Yn ystod un mis, fe fedyddiodd y Parch Dr. Lewis, Abertawe, bedair o foneddigesau, ag yr oedd eu hoed, o'u cydgyfrif, yn gwneyd 315 o flynyddoedd sef, 74ain, 75ain, 82ain, a 84ain. Bu'r hen wraig 84ain yn gweini fel maethes yn ysbytty'r fyddin yn yr India am 30ain mlynedd, a i hellw ydJw Mrs Richards. Yn Aberdar, y dydd o'r blaen, dirwywyd Edward Shepard i 10s a'r costau, am fod yn feddw, a gwrthod myned o'r Castle Inn. Danfonwyd Griffith Williams, i garchar am bedwar diwrnod ar ddeg, am ladrata crys gwlanen Samuel Gold- stone, Aberaman. Dirwywyd Daniel Morgan i 30s am ladrata dau flychaid o sigarau o'r Stag Hotel, Trecynon. Ymddangosodd dynes ieuanc gerbron ynadon Abertawe, yr wythnos ddiweddaf, a dywedodd fod rhywun wedi dwyn ei phlentyn. Plentyn an- ngyfreithlawn oedd y plentyn ac fe'i rhoed allan i'w fagu. Collodd y famaeth y plcdyn, a honid fod mam ei dad wedi ei ddwyn. Dywedwyd wrth y ddynes ieuanc nas gallai yr ynadon mo'i chyn- orthwyo. Bydda: rhaid iddi geisio gwybod He yr oedd y plentyn, ac yna arcFo at farnwr yr Uchel Lys. • Rhai doniol ydyw gwaicheidwaid Abcrystwyth. Yn eu cyfarfcd diweddaf, darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd y Llywodraeth Leol, yn galw. sylw'r bwrdd at adroddiad dirprwywr gwallgof- rwydd, yn yr hwn yr awgrymid darparu rhyw fath o ddifyrwch i'r gwaligehaid oedd yn y ty ar gyfer nosweithiau'r gauaf. Pan tldarllenwyd y llythyr, dyma'r cadeirydd yn gofyn beth fyddai rhoddi bocs o draught* neu dominoes i'r gwall- gofiaid. Ie," meddai y Cadben James, "neU roddi musical box iddynt," a dyna chwerthin mawr wed'yn. Ond 'doedd hyny ddim yn ddigon a dyna Mr Miller yn dweyd, Hwyrach y byddai yn well iddynt gael drwm mawr, neu rhywbeth felly ?" a fu erioed y fath hwyl ag a gafwyd am ben y sylw hwn. Dywedodd Mr Jenkins fod y gwallgofiaid yn myned i'r capel haner eu hamser; a thvbiai Mr. Miller nad oeddynt yn galw hyny yn ddifyrwch. Yn y diwedd penderfynwyd gadael y mater yn llaw y meistr. Gobeithio y gwyr hwnw beth ydyw ystyr y gair "difyrwch," neu fe allai y bydd raid i.'r trueiniaid fyned i'r capel drwy'r dydd. (

Angladd y Diweddar Dr. Roberts,…