Skip to main content
Hide Articles List

20 articles on this Page

--------------------------_-AT…

Nodjon Amaethyddol. --

[No title]

[No title]

[No title]

Eheilfiyrdd Ysgsifn yn lion-…

[No title]

--------Cynghor Dinesig Llangefni.

Marwclaeth. Y Barnwr Cave.

Cadi HcndoL

RHOSCOL YN.

[No title]

1 Amaetiiyddlaeth Piydain…

Masnach Yd yr Wythnos. j

Cyngaws Amaethyddol o Jon…

Eefyllfa Amasthyddiastii yn…

Y Dirwasgiad Amaethyddol-

News
Cite
Share

Y Dirwasgiad Amaethyddol- (GAN AMAETHWR PROFIADOL.) Pan y ma.e Jyn yn mwynhau iechyd da, ychyd- ig iawn o svlw a win or rheswm paham y mae felly Ond pan y mae ei iechyd wedi ei anmharu cniff yr achos o'i anmhariad ei sylw penaf a phrif bwnc ei chwilfrydedd fydd y feddyginiaeth er ei adferiad. Yn gyffelyb yn union y gellir dywedyd am amaethyddiaeth, a phob masnach arall. Er's oddeutu ugain mlynedd yn ol, pan oedd amaethyddiaeth yn ddirwystr a llwyddian- us, ni theimlid yn angenrheidiol i wneud ym- chwiliad paham yr oedd felly. Ond erbyn hyn, y mae yn amlwg i bawb ag sydd wedi sylwi ond ychydig fod amaethyddiaeth wedi cyraedd cyfnod pwysig yn ei hanes,ac mae lie i ofni mai rhy brin y mao rhanau ereillo'r boblogaeth wedi sylwedd- oli difrifwch' y sefyllfa y mae y dosbarth amaeth- yddol wedi eu dwyn iddo y blynyddau hyn. Llu- osog ac amrywiol ydyw yr hyn sydd wed iei ysgrifenu a'i draethu ar sefyllfa amaethydd- iaeth y dyddiau hyn, sef yr achosion o'r dirwasgiad, yn nghyda'r feddyginiaeth rhagddo. Y peth cyntaf fydd gan y meddyg pan yn ymweled a'r claf yw ceisio deall arwyddion (symptoms) y clefyd, wedi hyny yr achosion (causes); ac ar ol deall natur ac achosion o'r clef- yd, i wneud ymdrech i ddod o hyd i'r moddion (remedies) cymwys, ynghyd a'r cynllun neillduol o ddefnyddio y cyfryw foddion i gael gwared o'r cyfryw afiechyd. Amser a gofod a balla i mi ar hyn o bryd fyned i mewn i'r gwa- hanol achosion tybiedig o'r dirwasgiad presenol, yn nghyda'r gwahanol foddion ymwared a gyn- ygir i sylw y byd amaethyddol y dyddiau hyu. Barn lla.wer o ddynion call ydyw fod dirwasgiad aa adfywiad masnachol ar gylch yn dilyn eu gil- ydd yn rheolaidd, a'r naill achos o'r llall. Byddai son am Ddeddfwriaeth i reoleiddio y cylchoedd neu y cyfnodau hyn mor afresymol ag a fyddai cael Deddfwriaeth i gadw y mor yn llonydd a thawel ar yr ystorm yn ei wely, neu ynte i reol- eiddio y tymhorau a. thywyniad yr haul. Y mae y saith mlynedd liewyn yn dilyn y saith mlynedd llawnder drwy holl oesau y byd, a'r saith o war- theg culion a drwg yr olwg yn dyfod i fyny o'r afon ar ol y saith o wartheg tewion, ac yn eu llyncu, ond wedi y cwbl heb fod yn well yr olwg arnynt. Beth bynag, gwelwn mai dyma ydyw hanes masnach yn barhaus—y cyfnod aflwydd- ianus yn dilyn y llwyddianus, ac yn ei lyncu, ac er ei gael i'w grombil, heb fod fawr gwell yr olwg arno. Mae llawer o gynhyrfiadau wedi cymeryd lie yn ystod y ganrif bresenol, ond yn sicr, credwn nad oes yr un gyfres wedi troi mor andwyol i'r amaethwr a Masnach Rvdd. Dadleuodd John Bright lawer iawn a diffyndollwyr y deyrnas hon, ond dywedodd cyn ei farwolaeth na feddyliodd erioed i'r gwenith dd'od yn is na dwy bunt y chwarter. Yr oedd ganddo ef amcan da mewn golwg, yn ddiamheu, a Cobden ac eraill gydagef, pan yn anterth ieuenctyd di-brofiad yn gorchfygu pawb a phobpeth pan yn agor dorau y deyrnas i genlli y gwledydd tramor redeg i mewn. Llwydd- odd masnach yr adeg hwnw, ac aeth masnachwyr a HongfarsiandwyT yn gyfoethog iawn. Caed ewrs llwyddianus iawn hefyd ar amaethyddiaeth, ac ni bu tirfeddianwyr yn ol ehwaith, a'r degym- wyr gyda Invy, o dderbyn bendithion bron gwyrthiol Masnach Rydd. Ond, ysywaeth, rhyw "tidal wave" oedd hi. Erbyn hyn, y mae y don ers deunaw mlynedd beHach neu ragor yn rhedeg yn ol, ac nid ydym heb ofni weithiau ei bod heb gyrhaedd y marw-ddwr eto! Dal i fyned yn ol y m&e hi ar brydiau, a 'does yr un dyn yn fyw yn gwybod ,'pa. Ie yr erys hi, ac i sefyll o'i blaen hi, ac i ddweyd mai "hyd yma yr ai, a dim yn mhell- ach." Ond davgenym ddeall ar yr un pryd fod ym- drech mawr yn cael ei wneud yn y dyddiau hyn i'w gwrthsefylL Llongyfarchwn Bwyllgor Canol- barth Aeron mewn modd ineillduol yn gwneud ymgais i sefyll yn ei hcrbyn yn eu gwaith yn sef- ydlu clybiau dofednod a anoch. Eiddunwn idd- ym bob llwyddiant yn y dyfodol. Yn sicr, ym- ddengys i mi nad ydym fel amaethwyr j'yn haner digon byw i'r amserau—i'r ffaith ein bod yn gor- fod cydymgeisio a'r loll fyd. Y mae ager wedi dwyn America aa Asia, ac yn enwedig Ewrop, i'n hymyl; ac am hyny, dylem wneud ymdrech fleg er cadw yn mlaen gyda'r oes, a gofalu peidio bod yn foddlawn ar ddulliau ein teidiau yn unig, pan y mao sefyHfa pethau wedi newid yn hollol oddiar amser ein teidiau. i a; obeithiwn hefyd y gwelir yn y rlianbarth hon glybiau gwartheg, yn nghyda ffactrioedd ym- enyn yn cael eu sefydlu, a hyny yn gynar yil haf dyfodol. Nid oes yr un amheuaeth nad oes dy- fodol llwyddianus eto yn aros ymenyn Cymru pe mabwysiedid yn gyffredinol y gyfundrefn hono a adnabyddir wrth yr enw Cyfundrefn y Ffaetris. Y mae y tyddynwr neu y fferinwr bychan yn llaf- urio dan lawer o anfanteision wrth geisio gwneud ymenyn-yn un peth cost y coin, peth arall ei anwybodaeth cymharol ef ei hun am \»7rddoniaeth y fasnach, yr hyn a esgor ar gynyrchiad nwyddau gwael ac iselraddol ac anghyfartal. 0 ran an- sawdd, yr Jym yn credu aa yn gwbl argyhoedd- edig y gallesid cynyrchu cvstal ymenyn yn Nghymru ag un wlad dan haul, pe y cymerid v gofai priodol yn y dull o'i wneud. Y rhagoroldeb penaf sydd yn perthyn i'r ffactrioedd hyn ydyw ei unffurfiaeth (uniformity), a'r diffyg ag y mae yr amaethwr yn llafurio o dano ydyw nas gall ymddibynu ar fod ei ymenyn yn unffurf. Medd- yiier, er engraifft, am fasnachwr o Forganwg yn d'od i farchnad Caerfyrddin, neu i ryw dref arall, ag arno eisiau deg casgen o ymenyn odid fawr y cawsai gan yr un amaethwr gasgen neu dwb o'r un ansawdd ond pe b'ai iddo fyned i'r ffactri, cawsai yr oil o'r un ansawdd. Peth arall, arbedai hyny lawer iawn o lafur caled i wraig, merched, neu forwynion yr amaethwr, ac nid hyny yn unig nac yn benaf, ond achosai a pharai fod llawer iawn gwell ymenyn yn cael ei wneuthur yn ein gwlad, am hyny fwy o bris, gan y byddid yn ei wneuthur pan y byddai y llaeth yn ffres, cyn iddo suro neu dewychu, fel y gwneir yn ami yn ol yr hen ddull. Y mae bron yr oil o'r cynyrchion tramor a anfonir i'r wlad hon wedi > llwyddo i wneud hyny, a hwnw i gyd yn d'od drwy offer- ynoliaeth y ffactrioedd. Cymerwn, er engraifft, yr ymenyn Danaidd (Danish butter), yr hwn 3ydd wedi gwneud ei hun mor gadam yn ein gwlad oblegid ei ansawdd da, ond yn benaf oblegid ei unffurfiaeth a'i reoleidd-dra, ac y mae yn cael ei wneud i gyd o'r bron mewn llaeth-ffactrioedd cydweithredol o dan gyfundrefn briodol. Ond i ddyfod yn nes na hynyna, edrychwn ar ein chwaer ynys, yr Iwerddon, wedi dangos beth ellir wneud mewn perthynas i hyn. Yn eu hadroddiad di- weddaf gan y Recess Committee, cawn eu bod, o dan arweiniad egniol Mr Plunkett, wedi sefydlu oddeutu 70 o hufendai cydweithredol, gwerth pa rai a roddwyd allan y flwyddyn ddiweddaf a gyrhaeddai y swm o 300,000p; o ganlyniad, y mae ymenyn y wlad hono yri meddu safle llawer gwell nag o'r blaen. Paham, ynte, nas gellir 1 11 daidleu yr egwyddorion a brofwyd yn llwyddianus yn eu hachos hwy gael eu cymhwyso gyda'r un llwyddiant yn Nghymru 1 Mae yn ddiamheu fod llawer wedi ei wneud yn y cyfeiriad hwn yn barod, er na feddwn wybodaeth drylwyr am ei eangder; ond dywedwn hyn, fod eisiau mwy o'r ffactrioedd hyn dros y wlad yn gyffredinol, ac yn eu plith Dyffryn Aeron. Yr un modd y gellir dweyd am bob diwydiant arall, a chredwn yn gad- am mai yn y cyfeiriad yna y mae diogelwch ae iachawdwriaeth i ni fel amaethwyr yn ymddibynu iraddau helaeth y dyddiau hyn. Ofer i ni bellach ddibynu ar yr lien ddull o fasnachu. Rhaid gwyn-; ebu y cyfnewidiadau, a gweithredu yn ol hyny, a' myned gyda'r oes mewn masnach fel gyda phob celfyddyd arall.

! AfLschydon Cyffredin-

NODIUN O'R. DEHEUDIR.

Angladd y Diweddar Dr. Roberts,…