Skip to main content
Hide Articles List

20 articles on this Page

--------------------------_-AT…

Nodjon Amaethyddol. --

[No title]

[No title]

[No title]

Eheilfiyrdd Ysgsifn yn lion-…

[No title]

--------Cynghor Dinesig Llangefni.

News
Cite
Share

Cynghor Dinesig Llangefni. Cyalialiwyd cyfarfod niisol y Cynghor Inrn nos Lun, o dan lywyddiaeth Mr W. Hughes Jones, Y.H. Yr oedd hefyd yn bresenolMr Richard Williams (is- gadeirydd). Dr. J. Elias Owen, Mri E. H. Jones, Thomas Jones, Robert Jones, 0. T. Williams, W. Barnett, John Williams, J. E. Jones, Owen Jones, G. U. Williams (clerc), a. John Owen (arolygydd). TRET MRS BEAMSTON SMITH I BLAT YR YSGOL GENEDLAETHOL. Darllemvyd llythyr oddiwrth Mr T. Nicholls Jones, Ptnrhos, yn dweyd fod y cadeirydd (at yr hwn yr ysgrifenai) yn ddiau yn gwybod fod Mrs Bramston Smith wedi rhoddi te i blant yr Ysgol Ganolradd ychydig amser yn ol, a chaniatawyd v X euadd Drefol lddynt i gynhalyr unrhyw, yn ol y tal o 1p. Teimlai Mis Bramston Smith, ac yr oedd liawer o r plwyfolion a threthdalw^T yn teimlo yr un fath, ei fod yn ym- ddangos braidd yn galed fod tal yn cael ei godi yn nglyn ag amcan o'r natur yma, yr hwn a dybid roddai bieser i nifer fawr o bobl yn byw yn y plwyf, a chymerid y neuadd, fe deimlai ef, er lies i'r ardal, ac hyd yn nod pan oedd yn nwylaw Syr Richard nid oedd tal ond 10s. Credai ef y byddai yn dda i'r Cynghor gefnogi unrhyw beth o'r natur yma trwy ganiatau defnydd o'r neuadd yn ddidal oddigerth, wrth gwrs, dal am ei glanhau. Gwyddai y byddai i'r Cynghor j dderbyn y Jlythvr yn yr un ysbryd ag yr ysgrifenid ef —3-11 hollol gyfeillgar. Sylwodd y cadeirydd fod y pwyllgor wedi argymhell gostyngiad yn y swm. —Dywedodd ys Is-gadeirydd ei bod yn hawdd iawn i Syr Richard ganiatau y neuadd yn rhatach na hwy.— Cynygiodd Mr Barnett fod adroddiad y pwyllgor yn cael ei fabwysiadu, ac eiliwyd gan Mr Richard, Wil- liams. Dywedodd Mr Barnett eu bod yn codi gini ar y capelydd.—Mr Thomas Jones Ac y mae'r capel- ydd yn derbyn budd oddiwrth gyfarfodydd cyffelyb, tra na dderbynia Mrs Bramston Smith ddim. — Atebodd Mr Richard Williams pe buasai plant Ysgol y Bwrdd wedi cael eu gwahodd ni chwynai ef. Nid oedd y wledd eitlir i blant yr Ysgol Genedlaethol.— Dywedodd Mr Barnett fod y telerau yn wybyddus cyn i'r neuadd gael ei chymeryd.—Cadarnhawyd gwaith y pwyllgor. Y PWYLLGOR IECHYDOL. Argymhellai y pwyllgor hwn fod iddynt ofyn i'r cyfeillion Wesleyaidd i symud pentwr o geryg oedd wedi ei adael ar y ffordd yn ymyl eu haddoldy. Hefyd cymhellent fod i'r Cynghor ofyn i fasnachwyr i gadw'r troedlwybrau yn glir oddiwrth focses, etc., yn y nos ac ar y Suliau. Tybiai yr un pwyllgor y costiai o 20p i 30p i wneud y gwelliantau angenrheidiol yn nglyn a ffynon Bacsia.—DjTredodd Mr O. T. Williams y byddai i'r Cynghor Sirol dalu haner y gost.—Sylwodd y Cadeirydd nad oedd y pwyllgor yn argymhell dim, a byddai yn fwy rheolaidd pe y caent adroddiad priod- 01 gan y pwyllgor. Y diwedd fu penderfynu cynhal cyfarfod arbenig o Bwyllgor y Ffyrdd i ystyried y mater a chyflwyno adroddiad i'r Cynghor. Y DOLUR LLYGAD GER CAPEL COFFADWR- IAETHOL CHRISTMAS EVANS. Galwyd sylw pellach at adroddiad y swyddog iech- tilator" sydd yn sefyll gyferbyn a ffrynt y capel hwn. Cynygiodd eu bod yn gofyn i'r Bedyddwyr am gan- iatad i'w roddi ar ochr y capel, a mabwysiadwyd y cynygiad. Y TAI ANGHYMWYS. Galwyd sylw pellach at adroddiad swyddog iech- ydol parthed tai anghymwys i breswylio ynddynt. Dywedodd y Cadeirydd fod y pwyllgor wedi cyfarfod —ni wyddai ef sawl gwaith, a gofynai y swyddog ar fod rhai o'r tai yn cael eu llorio a "tiles."—Tybiai Mr 0. T. Williams os gofynent i rai o'r bobl symud y "tiles" er mwyn gwneud lloriau o "concrete," nis gwyddai ef sut y gallent hawlio'r cyntaf.—Sylwodd yr Arolygydd fod rhai o'r lloriau "concrete" mewn cyf- lwr da., ond yr oedd pyllau yn y lloriau pridd.—Cyn- ) ygiodd Dr. Owen fod rhybuddion yn cael eu hanfon I allan fel ag y gwnaed o'r blaen. Eiliodd Mr Thomas Jones.—Cynygiodd Mr 0. T. Williams welliant fod adroddiad v pwyllgor yn cael ei wella fel ag i bob ty gyda Ilawr "concrete" beidio cael ei ymyryd. Eiliwyd j gan Mr Richard Williams, ond pasiwyd y cynygiad I' gwreiddiol gyda mwyafrif o dri. ARFBEISIAU CYMRU. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr J. C. Wheatley, clerc trefol Caerdydd, yn cydnabod derbyniad deiseb y Cynghor o blaid cynwys arfbeisiau Cymru yn maneri ac arian Prydain, ac yn datgan diolchgarwch Corph- oraeth Caerdydd am yr unrhyw. | Y KENNELS. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Mr J. Rice Roberts yn cydnabod llythyr y Cynghor parthed y gwyn yn nglyn a'r kennels, ac yn dweyd y byddai iddo ymholi i'r mater. Y GWYN YN ERBYN Y BEUDAI YN BRIDGE- STREET. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr 0. Griffith, Bone, parthed y gwyn yn nghylch "nuisance" y dy- wedid a droid i gae perthynol iddo ef o feudai y Brodyr Roberts, etc. Gofynai i'r Cynghor gymeryd moddion er atal rhediad y cyfryw "sewage" i'w gae ef, oblegid nad oedd y sianel briodol i'r earth. Ystyriai ef ei fod yn afresymol disgwyl i berson fyned i'r draul o atal nuisance nad oedd ganddo ef ran yn yr achos- iad o hono, ac yn mhellach, ar ol gwneud ymchwiliad manwl i'r lie y cwynai o'i blegid, ni chredai yn ei fod- olaeth. Y TROEDLWYBRAU. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr J. P. Williams, Ty'nygongi, yn dweyd y byddai iddo edrych i fater y troedlwybr ger siop y Mri Gray yn nghwrs ychydig ddyddiau. Teimlai y byddai i'r Cynghor gyflenwi yr "ochr geryg" yn barod, fel ag i beidio colli amser. — Sylwodd y Cadeirydd os byddai iddynt roddi y "kerb- ing' mown un lie byddai iddynt dderbyn ceisiadau eytfelyb oddiwrth eraill.Hoffai ef weled gwell troed- lwybrau yn y dref.—Ar gynygiad Mr W. Barnett j cyfeiriwyd y mater i sylw Pwyllgor y Prif-ffyrdd. CAE 10 CERYG 0 CHWARELAU AR ETIFEDD- IAETH BARON HILL. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr J. S. Laurie, gor- uchwyliwr Etifeddiaeth Baron Hill, cyfeiriedig at yr arolygwr yn dweyd ga.n nad oedd cyfrif wedi ei roddi o'r ceryg godwyd gan y Cynghor o chwarelau ar yr Etifeddiaeth, gofynai am gyfrif o'r cyfryw geryg godwyd yn ystod 1896 a 1897. Wedi i'r cyfrif gael eo roddi byddai iddo ofyn i'r Cynghor dalu swm rhes- ymol am geryg y gellid cytuno arno. A parthed y dyfu do 1 rhaid oedd iddo ddeisyf ar y Cynghor wneud trefniadau a dyfod i delerau cyn cori unrhyw geryg ar unrhyw ran o eiddo Syr Richard Bulkeley.—Tybiai y Cadeirydd y byddai yn well pwyntio allan i Mr Laurie eu bod wedi cael ceryg yn 1897 yn ddidel.—Mr John Williams Dylem droi clust fyddiai" i'r cais (chwcrth- in).—Sylwodd Mr Thomas Jones eu bod yn cael y ceryg er cyn cof. Cynygiodd eu bod yn gofyn i Mr Laurie am ganiatad, ac iddynt hwythau dalu 5s am y trespas i'r tenant i fyned i'r Bone. Dylent gael ceryg oblegid yr oeddynt wedi talu 315p tuagat wneud cloddiau. Cynygiodd Dr. Owen fod llythyr i'r per- wyI yna yn cael ei anfon i Mr Laurie.—-D^wedai Mr Rober.t Jones os oedd y rhai hyn yn nghofnodion y plwyf, credai ef nad oedd gan Syr Richard hawl i godi tal. Pasiwyd cynygiad Dr. Owen. — Llythyr arall oddiwrth yrun boneddwr a dywedai ei fod wedi sylwi fod 82 o latheni o geryg wedi caeleu cario o cliwarel y Plas i fyny i'radeg bresenol yn ystod 1897. — Ar gynygiad Mr J. E. Jones, yn caelei edio gan Mr 0. T. Williams, cyfeiriwyd y llythyr i bwyllgor. YR ALLOTMENTS. Ysgrifenodd Mr J. S. Laurie, mewn atobiad i lythyr oddiwrth y Cynghor parthed yr "allotments," yr oedd yn barod i glywed oddiwrthynt parthed cymeryd Cae'rllech, rhan o fferm Lleclwigan, gan y Cynghor. Dymunai wybod pa ofyn oedd am "aJlotments"o fewn cylch y Cynghor. a pha, gyfran o dir oedd yn angen- rheidiol. Yr oedd y maes dan sylw, uwchben ac is- law y rheilffordd, yn cynwys oddeutu 17 o erwau. Nid oedd unrhyw debvgrwydd y ceid tir yn agos i Rhosymeirch. perthjTiol i'r Etifeddiaeth, at ei osod ar hyn o bryd.—Ar gynygiad Mr J. E. Jones, yn cael ei eilio gan Mr 0. T. Williams, cyfeiriwyd y mater i'r pwyllgor. Y CYFLENWAD DWFR. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Llywodraeth Leol. yn nglyn a dwfr a'r carthffosydd gariwyd allan gan y Cynghor, yn gofyn am hysbys- rwydd manylach yn nglyn a'r draul ychwanegol o 750p cysylltiedig a'r gwaith dwfr. Dylid hysbysu y Bwrdd parthed area" y tir ychwanegol a bwrcas- wyd a pharthed costweithredol y cyfryw dir a'r angenrheidrwydd dros ei sicrhau a dylent gael eglur- bad manwl am natur y ddamwain i gob y "reservoir," 1 yn nghyda mynegiad parthed y gweithiau ychwanegol a gariwyd allan au cost. Os byddai i'r Bwrdd gania- tau echwyn i dalu y gost ychwanegol dan sylw, ni fyddent barod eithr i ganiatau cyfnod mor faith a 50 mlynedd mewn perthynas i gymaint o'r echwyn ag a gynrychiolai gost y tir ychwanegol. Gyd.a golwg j ar gynygiad y Cynghor fod i'r tarmau ganiatawycl tuagat ad-daliad yr echwyniadau ganiatawyd ar y laf o Fawrth, 1893, gael ei tstyn i 40 neu 50 mh*nedd, nid oedd y Bwrdd yn gweled unrhyw reswm dros gyf- newid y dyfarniad a anfonwyd i i''wrdd Lleol y pryd hwnw. Byddai i'r Bwrdd, fod bynag, ganiatau cyfnod estynedig o 50 mlynedd mown perthynas i gymaint a 6300p o'r echwyn, ag sydd yn awr allan ar gyfrif y tir a bwrcaswyd ond gan fod y caniatad wedi gweithredu arno byddai yn angenrheidiol caniatau ail echwyn fel yr eglurwyd yn eu llythyr dyddiedig y 14eg o Fawrth, 1896. YR ELUSENAU. Yn unol a rhybudd a roddasai yn y cyfarfod blaen- orol, cynygiodd Mr Robert Jones, gan fod y gauaf yn dynesu, fod iddynt ofyn am ganiatad i werthu y Spite Inn a'r Pwrws. Ar ol y cyfarfod diweddaf derbyniodd lythyr oddiwrth y teulu, y rhai oeddynt wedi gweled crybwylliad gynygiad yn y "Clorian- ydd." Teimlai ef y dylent ddyfod i rhyw gynllun yn nglyn a'r path. Yr oedd y tenant yn awyddus, 08 oedd y lie i gael ei werthu, i gael cyfleusdra i brynu. Yr oedd yr arian geid oddiwrth y lleoedd hyn yn y I gorphenol wedi cael eu rhanu rhwng tlodion oeddynt heb fod ar ofyn y plwyf. Tybiai ef y gellid rhoddi yr arian tuagat addysg plant tlodion.—Sylwodd Mr J. E. Jones fod Mr Morris, y bar-gyfreithiwr, yn eu I cymhelli dynu allan gynllun, yr hwn wedi ei basio, ) oedd-i gael ei anfon i Ddirprwywyr yr Elusenau am gadarnhad.—Gofynodd y Cadeirydd ai nid doethach fyddai gweled y Rheithor a'r Wardeniaid EglwjTsig, ] a gofyn a fyddai iddynt ollwng eu hawl ar y Spite Inn. Byddai hyny yn ddigon i addysgu dau fachgen tlawd.—Tybiai Mr J. E. Jones mai doethach fyddai penodi pwyllgor cryf, a gofyn i'r Rheithor a'r Wardeniaid ymuno a'r pwyllgor.—Dywedodd Mr Ro- bert Jones fod y Rheithor yn barod i gydweithio.— Sylwodd Mr Barnett fod pwyllgor wedi ei benodi pan yr oedd Mr Morris yno, ond nid oedd Canon Williams yn barod i ymuno a'r pwyllgor hyd nes y derbynid adroddiad Mr Morris.—Dywedodd y Cadeirydd fod tri chwarter yr eiddo wedi ei "vestio" yn y Cynghor. Gofynodd Mr 0. T. Williams a ydoedd yn anheb- gorol angenrheidiol i gael y Rheithor a'r Wardeniaid ar y pwyllgor. Galiasent atal y Cynghor rhag gwertliu.—Y Cadeirydd Dirprwywyr yr Elusenau sydd i benderfynu hyny.—Gofynodd Mr Barnett ai nid ymddiriedaeth yr Eglwys ac oyerseers Llangefni ydoedd.—Yn ddilynol pasiwyd fod pwyllgor o naw o aelodau—chwech o'r Cynghor a thri o'r Eglwys—yn cael ei benodi, ac etholwyd y Mri Robert Jones, Thomas Jones, J. E. Jones, W. Barnett, Richard Williams, ac E. H. Jones (ar ran y Cynghor), a'r Parch Ganon Williams a'r ddau Warden (ar ran yr Eglwys). CWPBWRDD NEWYDD. Anfonwyd tri o "tenders" am gwpbwrdd newydd i gadw llyfrau a phapyrau y Cynghor, a derbyniwyd eiddo Mr H. Tyrer, 21, High-street,, Llangefni. PLEIDLAIS 0 GYDYMDEIMLAD. Cynygiodd Mr Thomas Jones: Fod y Cynghor I hwn yn dymnno cyflwyno eu cydymdeimlad dyfnaf a'r Parch Thomas Frimston yn ei brofedigaeth chwerw trwy farwolaeth ei anwyl dad, gan ddymuno I nawdd y Nefoedd dros y teulu oil."—Eiliwyd gan Mr Richard Williams, a phasiwyd yn unfrydol. TY PERYGLUS. Galwodd Mr J. E. Jones sylw at dalcen ty yn Field-street, a safai mewn perygl o syrthio.—Ar gynygiad Mr O. T. Williams, penderfynwyd cj*feirio'r mater i sylw Pwyllgor y Prif-ffyrdd, ac iddynt hwy- thau gyflwyno adroddiad arno i'r Cynghor, a phas- iwyd.

Marwclaeth. Y Barnwr Cave.

Cadi HcndoL

RHOSCOL YN.

[No title]

1 Amaetiiyddlaeth Piydain…

Masnach Yd yr Wythnos. j

Cyngaws Amaethyddol o Jon…

Eefyllfa Amasthyddiastii yn…

Y Dirwasgiad Amaethyddol-

! AfLschydon Cyffredin-

NODIUN O'R. DEHEUDIR.

Angladd y Diweddar Dr. Roberts,…