Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

* Rhys lu,afydd Sy'R D'eyd-

TEIiSRAU Y CYTUNDEB, A CHYNYG…

MR A. B. PARTRIDGE A'R "DAILY…

LLAFUR A'l DDYRYSBYNCIAU.

CYFARFOD MAWR YN METHESDA.

News
Cite
Share

CYFARFOD MAWR YN METHESDA. Nos ilun cyfarfod mawr arall o'r chware^yr yn Bethesda: cynhelid ef mewnmaes gerllaw Gorsaf y Ilheilftordd. Mr William Evans, Bont Uchaf, oedd yn llyw- yddu, yr hwn a ddywedodd mai amcan y eyfarfod oedd pasio cyfres o benderfyniadau ag yr ystyr- ient hwy yn angenrheidiol eu pasio cyn myned o honynt yn ol at eu gwaith. Efe a obeithiai byddent yn heddychol ac amyneddgar dan yr am- gylchiadau yr oeddynt ynddynt yr adeg bresenol, a pheidio gweithredu yn frysiog na thaJ" sylw i bo b sibrwd a ledaenid o amgylch. Mr W. H. Williams a gynygiodd y penderfyniad cyntaf, yr hwn a ddatganai ddiolchgarwch i'r "London Daily Chronicle," "Reynold's News- paper," a'r newyddiaduron Ileol am y gefnogaeth a roisant i'r chwarelwyr hefyd i'r gsfeahanol Un- debau Crefftwrol, i chwarelwyr Gogledd Cymru, ac i bersonau unigol a gyfranasant arian i'r gronfa gynorthwyol. Wrth siarad am un o amodau tel- erau y cytundeb, efe a ddywedodd eu bod wedi cael sicrhad y byddai i'r oil o honynt gael myned yn ol i weithio. Pwysai ar iddynt beidio codi un amheuaeth na byddai i'r telerau gael eu cario allan. Pe cymerai unrhyw gamgymeriadau le dan y fath amgylchiadau, na fydded iddynt, heb brawf, ruthro ar unwaith i'r casgliad fod bwriad drwg yn mryd y Rheolaeth. Bydded iddynt gy- meryd amser i edrych i mewn i bethau, ac ar un- waith beidio cyhoeddi nad oedd pobpeth yn cael eu cario allan yn ffyddlawn. Yn siarad ar y pen- derfyniad, efe a ddywedodd fod y wlad wedi cefn- ogi y chwarelwyr i gaffael yr hawlfraint o am- ddiffyn y gwan. Fel corph o weithwyr hwy a broffesent iddynt sefyll allan er mwyn enill yr hawlfraint yna ac os oeddynt yn onest a chvwir yn eu hamcan, byddai iddynt ddangos yn y dy- fodol mai eu hamcan ydoedd amddiffyn y gwan ac nid cyrhaedd manteision personol Efe a hyderai na chlywent unrhyw chwarelwr, mewn blyiydd- oedd dyfodol, yn gofyn pa fantais personol iddo et fyddai yr Undeb, ond yn hytrach yn gofyn pa ddaioni a allai efe wneud i'w gydweithwyr. Yr ,oedd yn dymuno i'r egwyddor yna gael ei cherno ar eu calonau yn y cychwyn. Pwy bynag oedd yn bwriadu dyfod yn Undebwr, bydded iddo ddy- fod yn un mewn trefn i allu gwneud lies i'w frodyr gwanaf, hyd yn nod pe na bai iddo ef ei hun fan- teisio ar hyny. Efe a obeithiai y carient hwy yr egwyddor yna allan, ac wrth wneud felly rhaid oedd iddynt fod yn ffyddlawn i'r Undeb er mwyn y corph cyffredinol o weithwyr. Bydded iddynt brofi i'r wlad eu bod hwy yn haeddianol o'r gefn- ogaeth a estynwyd iddynt. Credai efe (y siarad- ydd) eu bod yn awr ar delerau gwir dda gyda'u meistr: yr oeddynt wedi cael sicrwydd y caffai pobpeth anhyfryd ei anghofio. Diddadl fod mas- nach wedi dioddef trwy yr anghydfod hwn, ond byddai raid iddynt fod ysgwydd wrth ysgwydd, y meistr a'i weithwyr, i ddwyn pethau yn ol i'w lie. Yr oedd yn gobeithio y byddent ar delerau da gyda'u meistr, ac y derbyniai pob un yr hyn oedd iawn iddo gael. Er mwyn rhoddi sicrhacf2>ellach, dywedodd nad oedd dim dial (retaliation) i fod. ac adgofiodd hwy na. ddylent ymarfer y rhyddid a enillasant yn y fath fodd ag i herio disgyblaeth. Yr oedd disgyblaeth dda, o'r tu arall, yn amddi- ffyniad i'r gweithwyr eu hunain, a hyderai y gwnaent barchurhoolau a disgyblaeth. Na fydd- ed iddynt, ychwaith, redeg i ffwrdd gyda'r drych- feddwl fod pob rheol ellid ei rhoddi mewn grym yn dyfod oddiwrth y Rheolaeth, oblegid yr oedd cyfraith y wlad hefyd yn effeithio ar y gweithwyr. Efe a hyderai na cliamddefnyddient hwy y "com- bination oeddynt newydd ei sicrhau. Ar gynygiad Mr Robert Davies, yn cael ei eilio gan Mr William Williams, Gerlan, pasiwyd pleid- lais o ddiolchgarwch i bwyllgor y gronfa gynorth- wyol. Cydnabyddwyd ar ran y diweddaf gan Mr W. H. Williams, yr hwn a ddywedodd eu bod yn gbbeithio y byddai yr adroddiad o'r cyfrifon wedi ei harchwilio yn briodol yn cael ei gyhoeddi yn fuan. Mr Thomas Roberts, Fron, a gynygiodd, yn cael ei eilio gan Mr Robert Thomas, a phasiwyd yn unfrydol, bleidlais o ddiolchgarwch i Mr J. R. Jones am fenthyg y maes i gynal y cyfarfodydd mawr; i Mr E. J. Roberts, am fenthyg y Farch- nad i'r un pwrpas ac hefyd i Mr David Williams, am roddi bentliyg ei gerbydau i'r pwyllgor ac eraill yn ddidal. Pasiwyd penderfyniad hefyd, ar gynygiad Mr John Williams, 'Rynys, eiliedig gan Mr Robert Griffith, Braich, yn diolch i Dr. Lunn, Mr Holmes (Leicester), ac eraill am y cynorthwy a roddasant mewn eysylltiad a chor y chwarelwyr. Mr Griffith Edwards a gynygiodd yr hyn y dy- wedai oedd mewn arferiad. yny chwarel, sef fod i gynrychiolwyr y dynion barhau yn eu swydd hyd ddiwedd y flwyddyn, ac ar ol hyny eu bod yn cael eu dewis neu eu hail ethol bob chwe' mis. Eiliwyd hyn gan Mr John Roberts, a chariwyd ef. Yna galwodd Mr Henry Jones sylw at symud- iad roddwyd ar droed beth amser eyn dechreu y streic er sefydlu ysgoloriaeth yn Ysgol Sirol Beth- esda yn enw y diweddar Mr Robert Parry, yr hwn oedd arweinydd y dynion am lawer o flynyddoedd. Dywedodd fod swm o 114p yn awr yn y bane tuag at y gronfa hon. Pasiwyd penderfyniad fod i'r holl chwarelwyr, yn mhen deufis neu dri o amser, danysgrifio y swm o chwecheiniog yr un tuag at chwyddo y gronfa. Cyn i'r cyfarfod derfynu fe basiwyd penderfyn- iad arall yn ffafr cefnogi a chynorthwyo gwasan- aethyddion siopau BethPBda i gario allan y mudiad o gau'n gynar.

[No title]

f Ard&argosfa Amaethyddol…

- Afiecliydon Cyffredin.

[No title]