Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

* Rhys lu,afydd Sy'R D'eyd-

TEIiSRAU Y CYTUNDEB, A CHYNYG…

MR A. B. PARTRIDGE A'R "DAILY…

LLAFUR A'l DDYRYSBYNCIAU.

News
Cite
Share

LLAFUR A'l DDYRYSBYNCIAU. (Gan James Sexton.) ANGHYDFOD CHWAREL Y PENRHYN. Mae y geiriau pobpeth a ddaw i'r hwn sydd yn aros" yn hoelio anghydfod chwarel y Penrhyn wrth y llawr yn lan. Gyda golwg ar pa un a oedd yn werth aros am dano, neu a oedd yn werth codi y fath dwndwr yn ei gylch a gafodd y dynion ryw- beth am aros, neu ynte a gafodd ei arglwyddiaeth ei "dynu i lawr"-y dyfodol yn unig raid benderfynu. Am y presenol ymddengys fod cvmaint o niwl yn nghylch gwir natur telerau y cytundeb ag sydd o frys ar du y dynion i ruthro yn ol i gyfoethogi ochr y mynydd er budd Arglwydd Penrhyn. Cydnabydd- ir yn llawn fod y frwydr hon yn un o'r rhai mwyaf penderfynol o hirfaith a ddigwyddodd yn ystod yr haner canrif yn mha un y bodolai yr hawl gyfreithlon o gyfuniad. A phaham? ydyw y cwestiwn a gyfyd 1 yn naturiol yn meddwl yr efrydydd eyffredino drc-fn- idedd wleidyddol-paham, os yw y gyfraith yn can- iatau i'r chwarelwyr yr hawl i ymuno, y dylai ei roddi mewn grym achosi cymaint o galedi a chymeryd amser mor faith ? Bu i lawer iawn o sentiment gael ei ddwyn i mewn i'r ymrafael hwn a ffolineb fyddai ceisio anwybyddu pris hyny mewn unrhyw anghyd- fod llafurawl. Dygwyd swm mawr o siarad gwag a disynwyr hefyd i mewn i'r eweryl yn Surf o faeddu Arglwydd Penrhyn a gwneuthur ymosod- iadau anwarantedig arno, ac y mae hyn yn cael ei fawr ddirymu gan y ffaith fod ganArglwydd Penrhyn hawl gyfreitlilon i wneud yr hyn a fyno a.'i eiddo ei hun. Y mae pob tipyn o deimlad, neu wrthddadl, neu gwyn (yn gyffelyb i'r tunelli o graig a orwedd yn oclir mynydd ei arglwyddiaeth) yn cael ei lwyr falu gan yr ergyd fachhon o dynameit cyfreitiiiol. Mae hyn wedi gwneud ei arglwyddiaeth yn ddiogel yn ngwyneb yr holl daranau a anelir at ei ben, gan ei alluogi, heb air o wrthdystiad nac atebiad, i fyned rhagddo mewn urddas na& gall hyd yn nod ei elynion ddim peidio ei edinygii., Hyd yn nod yn awr, yn yr awr o ymostyngiad ymddangosiadol ar ei ran, nid yw yr urddas hwn yn ei adael, oherwydd gwelir hyny yn y ffaith fod ei arglwyddiaeth, tra mae ei ddyn- ion yn aiddgar brysuro yn ol i arwyddo eu henwau yn llyfr y cyflogau, yn tawel deithio'n ol o bleserdaith yn Norway mewn trefn i gyfranogi o ddifyrwch y tymhor yn ei gaban saethu yn Glan Conwy. Yno y gall unrhyw chwarelwr ei ganfod yn lion a siriol, yn ymarfer ei hawl gyfreitlilon o wneud fel y myno gyda'i eiddo ei hun-mewn urddas tangnefeddus a gwir fwyn- had. Pe buasai i mi byth feddu uchelgais buasai hynyyny cyfeiriado dan-astudio Arglwydd Penrhyn. Yn awr, gan fod chwaivlwyr hefyd yn dychwelyd i'w cabanau saethu, lie y gwnant hwy i greigiau, nid plu, ehedeg i fyny, byddai yn eithaf peth iddynt, tra ¡ y llawn gydnabyddir y gwrtlisafiaa dewr a wnaethant a'r dull -canmoladwy yr jmddygasant (ar wahan i fusnes y prysuro'n ol), syiweddoli yn llawn nad yw ei arglwyddiaeth ond yn syml wedi cydsynio i adael iddynt weithio uuwaith yn rhagor. Y mae efe eto yn cad", ei hawl gyir ithiol i gau y cliv. irel i fyny a gwneuthur a fyno a'i eiddo ei hun. Gwnai cyd- nabod y ffaith hon yn onest arbed llawer iawn o wag-siarad a chamd^etilltwriueth yn y dyfodol.

CYFARFOD MAWR YN METHESDA.

[No title]

f Ard&argosfa Amaethyddol…

- Afiecliydon Cyffredin.

[No title]