Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

* Rhys lu,afydd Sy'R D'eyd-

News
Cite
Share

Rhys lu,afydd Sy'R D'eyd- Fod y ddwy ferch ieuanc hyny o L- yn methu yn glir a chael cariadau. Fod un hogyn am gynyg ei hun i un ohonynt pe Use hi yn ei wrthod neu beidio. Fod un ohonynt yn myn'd gartref hefo'r tren chwech bob nos Sadwrn, ond fod y llall yn aros er mwyn enill serch y T. P. Fod llwynog wedi bod am dro drwy fynydd Parys ers amser maith yn ol. Iddo wneud a ganlyn i'r hen felin er nad oedd yn gweithio ar y pryd Gorehestion wna hon yn ddiau, Fe dyn ddwr er Ilenwi pyllau Felly gwelwch fod melin Parys Yn werth ei chael gan feirdd yr ynys. Y ceir ychwaneg y tro nesaf. Fod mwy o bobl i'w gweled yn G- y Sul di- weddaf nag a welwyd yno erioed. Mai nid y ffaith fod unrhyw bregethwr enwog wedi ymweled a'r ardal a'u cododd allan, ond Gin- nett's Circus. Mai da er mwyn glanweithdra fuasai i'r circus ymweled a'r lie yn amlach. Mai profiad un brawd yn yr ysgol y Sul a nod- ;wyd ydoedd Minau a adawvd fy hunan." Mai yr unig un a gadd broffit oddiwrthynt oedd y gof. Y buasai yn dda i'r brawd hwn gofio y pedwer- ydd gorchymyn. Iddo, tra yn clustfeinio yn mrig yr hwyr yr wythnos ddiweddaf, glywed y Ilinellau canlynol yn Jyfod gyda'r awel o gyfeiriad B-n — Mi dreuliais orig felus Yn nghwmni benyw hardd, A byth er hyny rhywbeth Sy*n goglais bron y bardd Ymholi 'rydwyf beunydd, A wnai yr eneth ffri Ei ymlid o fy mynwes Pe deuwn dros y lli ? Pan gefais i ddiweddaf Y fraint o wasgu'i llaw, Mi welwn hedd a chysur Yn brysur ddod o draw j Pan aeth hi oddiwrthyf, Fe droisant hwythau'u cefn, Ac ofni 'rwyf na welaf Mohonynt hwy drachefn. Mae nhw yn dweyd fod ganddi Ryw chappie, shiny swell," 'Run modd mae "nhw'n" dywedvd Am Å-, J-, a Nell: Ond gwell fo'i iddi roddi Ei chalon fwyn i'r dyn Sy'n colli awr bob boreu i I syllu ar ei llun. Boddlonwn yn y dechreu Gael bod" her second man," Ac wedyn byddai gobaith • Cael dod yn "number one;" ■ Rwy'n siwr, pe gallai weled Fy serch, y rhoddai sac I nwydau cyfnewidiol Rhyw "gounter jumper jack." Fy nghalon bur a gawsai A rhwymyn am ei bys, I A myn'd yn mreichiau'n gilydd Heb orfod gwneuthur brys Dymunwn glywed ateb I gais fy rurhanig ffol, I I Heb fod yn clos i'th grogi, Paid dyfod ar fy-bl." Mai fel hyn y rhigymodd Morlan i Tango ar antur: Caariaf, molaf, gefn haf melyn—Tango, A'i frolio'n ddiderfyn Anmhrisiadwy gi sydyn—gwnaf lw, 11 11 Mae'n gi gwerth ei alw, un dig wrth ei elyn. Ci da, dewr, mae cyded o arian—y dyn Am dano'n rhy fychan, Pan elo i'r gro ar graian—dylai fod Oerlech yn gofnod, ar ei lwch'n gafnan. Cefnu ar gi bardd cafnan, Ni all 'run milgi allan, Mae'n gawr o gi, gall guro gwynt, Mae'n troedio'n gynt na'r trydan! "Wele eto englyn i Tango o waith T—G Hoffus gi, hwylus fel heliwr,—buan Llawn bywyd—nid oedwr A chadaxn fel gwarcheidiwr Na wna goes o flaen un gwr. Fod pobl rvfedd iawn vn byw yn y Rhos. Fod rhai o ffarmwrs yr ardal ddiffrwytli hon yn meddwl llawer iawn ohonynt eu hunain. Fod rhyw ferch ieuanc sydd yn myn'd llawer iawn gormod i dai ei chymydogion yn parhau i en- llibio merch ieuanc arall. Mai yr unig reswm dros hyny ydyw fod un yn myned i gael gwr yn fuan, a'r llall yn debyg o fod ar y silif ar hyd ei hoes. Mai da iawn i ainbell ferch fyddai cael dant i atal tafod. Nad esgeuluso eu cyd-gynulliad ydyw pechod mawr ieuenctyd y R-. Y buasai llawer yn caru cael gwybod o ba le yr oedd y llanc ifanc hwnw yn hel yr hwch y Sul o'r blaen. Mai y ffordd a gymer eraill o bobl ifanc y fro i dori y Sabboth ydyw myned mewn cerbydau i Fangor a lleoedd eraill. Na raid i neb betruso dim yn nghylch y te parti. Mai yr un llanc fydd yn dra sicr o fod gyda'r ferch ifanc hono o'r R I Fod cangen o Fyddin yr Iachawdwriaeth am I gael ei sefydlu yn y V I Mai dyma y pentref bychan mwyaf annuwiol yn ein gwlad. Fod llid, cenfigen, malais, ac athrod yn bechod- au uchel eu penau yn yr ardal. Mai gwell fuasai i rai o'r merched ifane i ddysgu cogino yn hytrach na marchogaeth y bicycle byth a hefyd. Mai y plan goreu i'r ddynes hono welodd ei gwyn ar y gath bach ddu P- ac a'i cipiodd oddi- ar y ffordd gyferbyn a'r ty, fyddai iddi ei dych- -welyd gynted y gall yn ddistaw bach felly, hcb ddim lol, onide bydd iddo ei henwi yn y golofn lion. Nad ydyw am ddweyd llaweram y bwganod a ymddangosodd yn Mhen'rallt nos Wener diwedd- •af. Fod Robat wedi meddwl ei bod yn ddiwedd byd arno, a'i fod yn gwaeddi, Dyma nhw wedi dod i fy nol." Fod y cyfaill Robat wedi gwaeddi am geryg, ac yn y fan dyna'r bwganod yn troi yn ddwy ferch ieuanc adnabyddus o'r 11.. Piti na fuasent yn cael gwell gwaith na maeddu blancedi gwlan. Ei fod wedi talu ymweliad ag ardal y Rhos bryd- nawn Sadwrn diweddaf. Mai y peth mwyaf a sylwodd arno oedd gweled Bob yn sefyll ar ben llwyth o yd. Mai nid yn hir y bu yn aros hyd nes syrthiodd y llwyth, a Bob yn gwichian odditano fel mochyn. Mai nid diachoa yw y duchangerdd a ganlyn — el O! Gymru ddigymar fe gludwyd dy glod Ar edyn enwogrwydd trwy'r gwledydd, Gwareiddiad dy f-yecl ga &ylw a nod-, 1 Edmygir dy fawl di-hefelydd Teyrnasa tananefetid Efengyl y Groes Mewn hedd yn nghalonau dy ddeiliaid, Ag enfyn dyngarwch a fagodd dy foes Ryw ernes o'i falm i baganiaid. Mon anwyl, iuan enwog, gwnest tithau dy ran, Gwroniaid fu'th feib i'r gwirionedd Rhyw luoedd aneirif g'add weled y lan, Trwy guro yn norau trugaredd Ond, ah wele gwmwl yn awyr dy foes, Dy urddas ysgydwir i'w seiliau, Rhai fagodd dy fronau yn fradwyr a droes Hyf fathrant dy ddwyfol Sabbothau. Llangefni, lie gafodd anrhydedd gan ras, A plirophwyd i Gymru gyfododd A Duw fu yn amlwg yn mywyd ei was Elias, a'i wlad a oleuodd Beth barodd dy foesau ymddangos mor dlawd, Pa fodd cadd y gelyn dy gonglau ? Yn lloches i bechu ac arllwys eu gwawd Ar rai a fyn barchu'r Sabbothau. Ow! ddeillion sefyllwyr, Philistiaid yr oes, O'u herwydd y gwrida gwareiddiad Duwiolion a welir yn wylo mewn loes Wrth weled anvyddion dirywiad Arswydwch, wyr Sodom, am danoch mae son, Ffowch allan o'ch ffauau feib Amon, A chofiwch fod yr uchcd, Elias o Fon, Yn uno a'r cwmwl o dystion. Fod y duchan-gerdd i gael ei chwblhau oni bydd diwygiad ar y conglau.

TEIiSRAU Y CYTUNDEB, A CHYNYG…

MR A. B. PARTRIDGE A'R "DAILY…

LLAFUR A'l DDYRYSBYNCIAU.

CYFARFOD MAWR YN METHESDA.

[No title]

f Ard&argosfa Amaethyddol…

- Afiecliydon Cyffredin.

[No title]