Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

----+----------- -AT Ells…

Y CO 1)1 AD YN MIJRlS Y GWENITH

[No title]

---------------Ifarwolaeth…

- ---------------------Nodion…

Llys Ynadol a Thrwyddedol…

News
Cite
Share

Llys Ynadol a Thrwyddedol Llanerchymedd, Cynhaliwyd y llys hwn ddydd Llun, gerbron Mr Hugh Roberts (yn y gadair), Dr. Evans, a'r Mri Samuel Hughes a William Jones. TRWYDDEDOL. Oyflwynodd yr Arolygydd John Jones ei ad- roddiad blynyddol o'r tafarndai yn nosbarth trwyddedol Llanerchymedd. Yr oedd 16eg o dai yn meddu trwyddedau llawn. Erlynwyd dau dafarnwr yn ystod y flwyddyn, sef trwyddedwr yr Eagles Inn, Llynfaes, ar y cyhuddiad o gania- tau meddwdod hefyd trwyddedwr y Druid Inn, Llanerchymedd, am werthu diod i ddyn meddw, a dirwywyd ef i 5s a'r costau. Gyda'r eithriad o'r uchod yr oedd y tai wedi cael eu cario yn mlaen yn weddol. Nid oedd unrhyw drwyddedau grocers yn y dosbarth.—Dywedodd Mr David Owen ei fod yn ymddangos dros yr heddgeidwaid yn nglyn a'r trwyddedau. Bu y mater o ddrysau y cefn dan sylw ynadon y wlad, yn enwedig yn Sir Gaernarfon, ac yr oeddynt wedi argymhell fod y drysau hyn, os cerid masnach yn mlaen drwydd- ynt, gael eu cau. Dymunai wneud yr awgrymiad fod yr un peth yn cael ei wneud yno, ac oherwydd y cynydd mewn meddwdod hyderai y byddai i'r ynadon orchymyn fod y fasnach i gael ei chario yn mlaen drwy ddrysau y ffIJrnt. Dywedodd y CJadeirydd fod hyn yn cael ei orchymyn, ond ar waethaf pobpeth yr oedd meddwdod yn cynyddu a chredai Mr S. Hughes y dylai y drysau fod y fath ag y gallai yr heddgeidwaid gadw arolygiaeth arnynt.—Adnewyddwyd 14 o drwyddedau. CYHUDDIAD 0 LADRATTA GLO. Cyhuddwyd William Rowlands, amaethwr, Plas Main, Rhosybol, gyda lladratta 28ain pwys o lo, eiddo Cwmni Rheilffordd y London and North- Western, ar nos Sadwrn, y 24ain o Orphenaf.— Erlynid ar ran y Cwmni gan y Cudd-swyddog Hairy Birch, ac amddiffynid y cyhuddedig gan Mr W. Fanning (Amlwch).—Dywedodd Hugh Williams, masnachydd glo, Khosgocli, lod ganddo swm o lo yn iard Gorsaf Rhosgoch. Ar y 24ain o Orphenaf gwelodd y diffynydd mewn cae cyfagos i sied yr anifeiliaid, rhwng deg ac unarddeg o'r gloch y nos. Cerddodd o amgylch yr iard a chym- erodd lo o bentwr. Wedi iddo lenwi cwd (a ddangosid yn y llys) aeth y tyst ato, a gofynodd iddo paham y lladrattai ei lo. Dywedodd yntau ei fod yn rhy dlawd i brynu glo. Yna dygodd y tyst ef i'r orsaf, yn raha le y dywedodd wrth Hugh Jones, y porter, ei fod wedi cael ei ddal. Cymer- odd y tyst y cwd, a rhoddodd ef yn y "portsrs' room," lie y'i clowyd i fyny. Aeth y cyhuddedig i'w dy ef (y tyst) foreu Llun, oddeutu pump o'r glooh, a chynygiodd dalu am y glo a gymerasai, ond gwrthododd y tyst y cynyg. Dywedodd y cyhuddedig ei fod wedi bod yn chwilio am dniio bedair neu bump o weithiau i roddi archeb iddo am haner tunell o lo; ac y talai am yr oil foreu Llun. Yr oedd yn yr orsaf yr amser hono o'r nos (nos Sadwrn) oherwydd ei fod wedi colli glo yn flaenorol. Ymguddiai o dan waleen.-CroGs- holwyd: Bu yn gwerthu glo i Plas Main, ond nid llawer. Nid oedd y cyhuddedig wedi dweyd I wrtho ei fod wedi bod yn chwilio am dano bedair neu bump o weithiau.—Dywedodd Hugh Jones, porter yn yr orsaf, fod Hugh Williams wedi clyfcll ato y noson grybwylledig gan ddweyd: "Yr wyf wedi dal y dyn sydd yn dwyn glo." Dywedodd y cyhuddedig, "Wei, inae hi ar ben arnaf." Xi ddeuaf byth yn agos i'r lie eto." Cadarnhaodd I dystiolaeth y tyst blaenorol.—Dadleuai Mr l'an- ning ei fod wedi ei brofi mai eiddo Hugh Wil- liams ydoedd y glo, ac nid eiddo Cwmxii y lheil- ffordd. Pe buasai y diffynydd wedi el ladratta tra mewn gwagen buasai y wys yn iawn, ond Hugh Williams ddylasai fod wedi gwneud y oyhuddiad, oherwydd fod y glo wedi ei ddadhrytho.-At.b- odd Mr Birch mai yn ngofal y cwmni yr oedd y glo hyd nes y'i symudid o'r iard.—Wedi ymgyng- horiad byr taflodd y Fainc yr achos allan, a rhydd- hawyd Rowlands. Y DDIODEN. Cyhuddwyd Richard Owen ("Jack Xel"). GwaJchmai, gyda bod yn feddw ac afreolus yn Llanerchymedd ar y 5ed o Awst.Dywedai yi Heddgeidwad William Owen (13) fod y diffynydd wedi cael ei ddirwyo yn Llys Llangefni am fod yr feddw yn y dref hono yr un diwrnod.—Dywedodd y diffynydd mai'r un "meddwad" ydoedd y Idai, gan na cliafodcj, ddiod ar ol gadael Lla.ngefn' Dirwywyd ef i 5s yn cynwys y costau, onf1 San nad oedd ganddo ddigon i dalu aeth i Caernarfon. CYHUDDIAD 0 LADRATTA ,,CTOI." Cyhuddwyd Evan Williams 'laneilian-road, Porth Amlwch, gyda lladratt" spectol gweith 2s 6c, eiddo Mr Hugh Rob"tt8' oriadurwr, etc., Llanerchymedd, ar y 13ef0_, ws.^ Amddi^ynid y carcharor gan Mr. Eanning. Dpvedodd Hugh Roberts ei fod -4!deutu o r 7 n0^ y dyddiad uchod. ,n ei «10P; Dafh y carcharor i mewn a gofy^'dd am fenthyg olwyiwr 1 fyned i Amlwch. Tjwedodd y tyst wrtho na roddai un iddo yr ar1^ h°no 0'r y byddai y tren yn rhatacb ^aeth ei wraig yno, a dywedodd fod amser i'r cyhuddedig fyned ymaith. Trcdd + rit ei gefn i wneud rhywbeth i oriadur, ac aeth cyhuddedig allan gan ddweyd "Nos dawcit." Yr oedd William Jones, bachgen yn ei wasanaeth, wedi bod yn edrych drwy ddrws gwydr, a gwelodd y cyhuddedig yn cymeryd rhywbeth. Mewn (lau funud daeth bachgen bach i chwilio am yspectol a adygasai yno i'w drwsio. Yr oedd wedi ei rhoddi ar y case gwydr, a chanfyddodd ei bod wedi di- flanu. Aeth ar ol y cyhuddedig i'r Queen's Plead, a dywedodd wrtho ei fod wedi colli spectol, a'i fed wedi clywed ei fod ef (y cyhuddedig) wedi rhoddi rhywbeth yn ei log ell wrth adael y siop. Gofyn- odd a oedd ganddo wrthwvnebiad i gael ei chwilic, a chydsyniodd yntau. Chwiliodd y tyst un logell, ond pan aeth at logell arall gomeddodd iddo ei chwilio yn mhellach. Dywedodd Mr Owen, y Queen's Head, y ceisiai ei gadw yno tra yr aefhai v tyst i chwilio am heddgeidwad. Gwelodd y cyhuddedig dnchefn mewn yehvdie funudau crvf- erbyn a siop Mr John Edwards, cigydd. Aeth y tyst ato, a daeth yr Heddgeidwad Hughes i fyny yr un pryd. Aethpwyd ag ef i orsaf yr heddgeid- waid, end pan chwiliwyd ef yno ni chaed dim arno. —Ategwyd y dystiolaeth hon gan y bachgen W il- liam Jones, a John Edwards, cigydd.Dywedodd yr Heddgeidwad Hughes ei fod wedi cymeiyd y cyhuddedig i'r ddalfa, ac er iddo ei chwilio yn yr orsaf, ni chafodd ddim arno Yna eyhuddodd ef yn ffurfiol gyda lladratta yr yspectol, pryd yr ateb- ly v odd y carcharor na wyddai ddim am dani. Ni ddangosodd unrhyw annhueddrwydd i gael ci chwilio.—Dywedodd Mr Fanning fod y dvsfciol- IWth yn hynod egwan. Cynygiodd y carcharor fyned i'r orsaf o'i fodd ei hun, a gwahoddodd yr heddgeidwad i'w chwilio, end ni chaed dim arno. Ni wnai rheithwyr mewn unrhyw lys bara gon- 9w '.V" demnio y carcharor ar y dystiolaeth a ddygwyd I yn ei erbyn.-Wecii ymgynghoriad byr dywedodd y Cadeirydd fod y dystiolaeth braidd yn sigledig, a thaflasant yr achos allan. TRWYDDED Y DRUID ARMS, LLANERCH- YMEDD. Gwnaeth Mr Lloyd Carter, Caernarfon, gais am adnewyddiad trwyclded y ty uchod.- -Gwrthwyn- ebwyd gan Mr David Owen ar y tir fod y ty wedi cael ei gamreoli nad oedd angenrhaid am dano, a'i fod yn anhawdd i'w arolygu gan yr heddgeid- waid.—Dywedodd Mr Owen fod y drwydded wedi ei throsglwyddo i Robert Hughes yn Ngorphcnaf, 1896, ac i fyny o'r adeg hono ni fu achos cwvn gan yr heddgeidwaid parthed y ty. Ar y 2lain o Fai diweddaf, fodd bynag, cafodd Hughes ei ddirwyo diweddaf, fodd bynag, cafodd Hughes ei ddirwyo i 5s a'r costau am roddi diod i ddyn meddw, Wil- liam Burgess, hawker pur adnabyddus yn Llan- erchymedd. Yr oedd ar hyn o bryd lleg o dai trwyddedol yn Llanerchymedd, ac yr oedd y bobl- ogaeth, mor belled ag y gallai ef gael allan, yn 1000 —ty trwyddedol i lai na phob cant o'r boblogaeth. Yr oedd yr heddgeidwaid wedi derbyn cwynicn yn erbyn y trwyddedwr ei fod wedi rhoddi diod i ddyn oedd yn feddw yn barod, er fod yr ynadon wedi rhoddi rhybudd i'r tafarnwyr i beidio rhoddi diod i berson neilWuol, tad yr hwn fu yn y llys yn rhoddi tystiolaeth yn ei erbyn. Ar yr achlysur y cwynid o'i blegid gwelodd yr heddgeidwaid y dyn hwn yn eistedd i lawr ac yn yfed. Anturai ef ddweyd nad oedd y ty yn cael ei reoli yn y fath fodd ag i gylfiawnhau y Fainc i ganiatau adnew- yddiad y drwydded.—Yr Heddgeidwad Thomas Hughes a ddywedodd fod trwydded y Druid Inn wedi cael ei throsglwyddo i Robert Hughes ar y 27ain o Orphenaf, 1896. Er y pryd hwnw nid oedd y ty wedi cael ei reoli i'w foddlonrwydd ef. Ar y 24ain o Fai dirwywyd y trwyddedwr am roddi diod i ddyn meddw (William Burgess). Yr oedd Burgess yn ddyn adnabyddus iawn yn I.lan- erchymedd. Ar y 30ain o Awst, 1896, eafodd Robert Hughes .—Mr Carter: Yr oedd hyn yn flaenorol i'r adnewyddiad diweddaf.—Dywed- odd Mr David Owen nad oedd y trwyddedwr yn gymhwys i ddal trwydded.—Mr Carter a sybvodd fod yn rhaid iddo ofyn i'w gyfaill gyfyngu ei hun i reoliad y ty er pan adnewyddwyd y drwyddad. Nis gallai fyned bedair neu bum' mlynedd yn ol. Yr Heddgeidwad Hughes a ychwanegodd fod dau ddrws i'r ty-un yn y ffrynt yn High-street, a'r Hall yn gwynebu Water-street. Gwneid mas- nach trwy ddrws y cefn. Nis gallai swyddog a fyddai'n sefyll wrth y ffrynt weled beth wneid yn y cefn. Dirwywyd dyn o'r enw Richard Wil- liams, Clorach Bach, yn y llys hwn am feddwdod. Gwelodd y tyst ef yn gyntaf yn y Druid Inn oddeutu naw o'r gloch y nos ar yr 20fed o Fawrth diweddaf. Gwelodd ef drachefn yn y lobby adeg cau. Canlynodd ef i fyny High-street, a siarad- jodd ag ef. Yr oedd yn feddw iawn, a chafodd ei ddirwyo i 2s 6c a'r costau. A siarad yn gyffredin- ol, nid oedd yn meddwl fod y ty hwn yn ddrwg iawn hyd y 24ain o Fai, ond ar ol hyn y rheolid ef yn dda. Tybiai ef y byddai yno ddigon o daf- arndai pe yr atelid trwyddedau dau neu dri o dai eraill.—Croes-holwyd Yr oedd yn Llanerchy- medd ers dwy flynedd. Parthed Richard Wil- liams, Clorach, ni fu iddo ef godi gwys yn erbyn y ty. Nid oedd ef yn dweyd"dim mwy yn erb-v, n y ty hwn nag a ddywedai yn erbyn tafarndai eraiil. Oni bai am y ddirwy ar y 24ain o Fai tebygol na fuasai dim wedi cael ei ddweyd yn erbyn y ty Gwnaeth Mr Carter araeth hyawdl ar ran y trwydd- edwr. Parthed amlder tafarndai yn Llanerchy- medd nid oedd mwy o rym yn y ddadl na phe y gwneid lleihad yn nifer twrneiod Caernarfon, y rhai a rifent ddeg ar hugain (chwerthin). Addefai yr heddgeidwaid fod tai eraill yn Llanerchymedd yn anhawddach i'w harolygu na'r ty hwn. -rl..inia- tawyd y drwydded, ac addawodd Mr Carter y byddai i fasnach drwy ddrws y cefn gael ei hatal. ATAL TRWYDDED I'R EAGLES INN, LLYNFAES. Gwnaeth Mr S. R. Dew gais ffurfiol am adnew- yddiad trwydded yr Eagles Inn, Llynfaes, ger Llangefni.—Dywedodd Mr David Owen ei fod yno ar ran yr heddgeidwaid i wrthwynebu yr ad- newyddiad ar y tir nad oedd y ty yn angenrheid- iol, ei fod yn cael ei reoli yn ddrwg, a'i fod yn anhawdd i arolygiaeth heddgeidwadol. Fe fydd- lai iddo alw ger eu bron 22 o dystion a feddent ddyddordeb yn y gymydogaeth. Yr oedd gan- ddo dystiolaeth a foddlonai y Fainc ar y tri gosod- iad a roddai yn erbyn yr adnewyddiad. Yroedd y ty yn sefyll ar yr hen brif-ffordd i Gaergybi. Trigai yr heddgeidwad agosa-f iddo bellder o ddwy filldir a haner o'r lie. Wedi clywed am y meddw- dod a'r afreoleidd-dra a achosid mewn eysylltiad a'r ty, tybiai na ddeuent i unrhyw gasgliad eithr nacau yr adnewyddiad. Aflonyddid y trigolion yn y nos, n chedwid dynion yno ar hyd y dydd. Mewn un achoty gadawodd pump o ddynion eu gwaith ac aroshasant yn y ty drwy'r dydd. Er pan agorwyd Rheilffordd Ganolog Mon yr oedd y dramwyaeth wedi myned i gyfeiriad arall.— Galwyd amryw dystion parchus, y rhai a ategas- ant fynegiadau Mr Owen. Traddododd Mr Dew araeth .fei.'ytrolgax. o blaid yr adnewyddiajdi, a galwodd Ellen Elizabeth Ann Jones, merch y j trwyddedwr, yr hon a wadodd yn bendant fed meddwdod yn cael ei achosi yn y ty. Deuai dyn- ion yno wedi- bdd yn yfed mewn tai yn Llangefni a lleoedd eraill, ac yn ddieithriad gwrthodai hi a'i thad ddiod id,lynt.-Rhoddodd Wm. Prit- chard, Glanllyn, dystiolaeth, yn yr hon yr addef- odd ei fod wedi bod yn feddw yn y ty.—Gwrth- ododd y Fainc ganiatau yr adnewyddiad, ac felf cauir y ty fel tafarn.

[ATid ydym yn gyfrif ol am…

GORSAF Y RHEILFFORDD, LLANGEFNI.

GWYLEIDD-DRA : A'R DIFFYG…

ESIAMPLAU LLANERCHYMEDD..

Gwrthgzliwr at Wrth-. gilwyr.

Sasiwn Pwllheli-

- NOdion Gwasgaredfg.