Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

----+----------- -AT Ells…

Y CO 1)1 AD YN MIJRlS Y GWENITH

[No title]

---------------Ifarwolaeth…

- ---------------------Nodion…

News
Cite
Share

Nodion o Gaergybi. Yffiwelodd dros bymtheg cant, d. "grounds Plas LLuifawr, prèswyJiod Miss Adeù, brydnawn ddydd Mawrth i'r fete oedd yn cael ei chynal er buda yr ysbytty. Yr ftedd yno gyflawnder o fwydydd ac o ddifn-rweli. Yma ac acw hyd y lawnt yr oedd byrdd- au wedi eu gosod, ac yn werthadwy arnynt amryw- iaeth mawr o flodau a man bethau eraill. Cydrhwng pobpeth, cliriwyd dros 60p. Rhagorol iawn onite ? Yr oedd prydnawn ddydd Mawrth yn enwog am gyrddau te yr Ysgolion Sabbotliol. Bu Ysgol y Tabernacl (A.) a Gwynfa (W.) yn Treseifion, pres- wylfod y marsiandwr adnabyddus Mr Thomas Ro- berts. Aeth Ysgol Armenia (M. C.) i Soldier's Point, drwy garedigrwydd Mr Williams, Tan-yr-Efail. Er fod y tywydd dipyn yn ddycinog, aeallwn fod y plant wedi mwynhau y gwleddoedd yn fawr. Yr un diwrnod aeth Ysgol Sul Mount Pleasant (A.) a.'r Tabernacl Newydd (A.) am dro i Landudno, a chymerodd amryw eraill fantais ar y cyfleusdra i fyned gyda hwynt.' Dychwelodd pawb adref yn ddi- antfawd; ar ol cael taith gysurus. Brydnawn dydd Iau cafodd Ysgolion Sul Eglwysig Sant Seiriol a Sant Cybi, yn nghyd a'r canghenau o wahanol ranau y dreif, eu tret blynyddol. Mae llafur mawr yn cael ei arddangos yn nglyn a'r ysgol- ion hyn, ac yr oedd vr orymdaith fawreddog, pan yn myned drwy y dref, yn brawf fod Canon Thomas, yn nghyd a'r ddau gurad gweithgar, y Parchn. R. Price, B.A., a James Jones, yn gwneud eu goreu i addysgu yr oes sydd yn codi. Mae amryw eraill o foneddigesau a. boneddigion yn nodedig o ffyddlawn gyda'r plant yn yr ysgolion hyn. Cafwyd tret ar- dderchog yn mhob ystyr eto eleni. Fel hyn y mae beddargraph y Parch Daniel Owen gan y Parcn E. Nicholson Jones, o'r dref hon. Budd- ugol yn Eisteddfod Casnewydd Isod mae tywell hunell ein llenydd; Awdwr, nofelwr na fu ei eilydd Daniel Owen, offeiriad llawenydd, Un a'i ddigrifwch nad oedd ddigrefydd Gloew'i fawl tra Gwalia fydd,—a deigr hon Perliwyd ei goron, ein pur wladgarydd. Mae y tywydd yr wythnos hon wedi bod yn nod- edig o ansefydlog. Mae y lluaws ymwelwyr sydd yn y dref, a'r wlad oddiamgylch, yn cwyno, ac yn methu mwynhau eu hunain, oblegid nad oes yma bavilion na band i'w difyru ar dvwydd gwlawog. Y cwbl a geir yma ydyw golygfeydd rhamantus a chyf- lawnder o awyr mor bur a'r goleuni-ac, o ran hyny, dyma sydd ar drigolion y trefi mawrion ei eisiau ond cael tywydd teg i'w fwynhau. Mae) y masnachdai ysblenydd, aeth ar dan yn ddi- weddar yn Market-place, bron wedi eu cwblhau. Mae yr ystafelloedd uwchaf, lie mae y LlyfrgeU Rydd, wedi eu hagoryd, a lluaws yn ymweled a'r lie fel yn y dyddiau gynt. Yr oedd yr Hen Dabernacl y Sul diweddaf yn llawn, foreu a hwyr, yn gwrandaw Hwfa Mon yn pregethu. Mae y prif-fardd yn gymeradwy iawn yn y dref, ac yn sicr o gynulle,-a, fawr i'w wrandaw, pa un bynag ai pregethu ai ynte yn dar- lithio y bydd. Da oedd gan bawb ei weled yn edrych mor dda. Yn wir, barnai rhai ei fod yn myned i edrych yn well fel y mae yn heneiddio. Mae ei lais mor glir, a'i floedd mor daranllyd ag erio3d, ac yr oedd ei bregethau, o ran materion a thraddod- iad, yn afaelgar ac argyhoeddiadol. Credwn nad anghofir yn fuan ei sylwadau ar Dduw fel arweinydd yn ei bregeth feistrolgar nos Sul. Yr oedd y fantell archdderwyddol yn disgyn yn naturiol ar ysgwyddau Hwfa Mon ar ol marw Clwyd- fardd. Pwy yn mysg beirdd Cymru fuasai yn gallu llenwi y swydd fel efe? Mae y fath urddasolrwydd yn perthyn i'w bersonoliaeth a'r fath awdurdod yn ei drem. Mae mawredd yn nhon ei lais, ac aruchel- edd yn ei leferydd. Mae un olwg arno ar y Maen Llog yn Eisteddfod ynddi ei hun. O! frenin bydd fyw bytb- Mae cariad Hwfa Mon at wlad ei enedigaeth yn angherddol: Mewn pob pregeth a darlith rhaid fydd iddo gael cyfeirio at Fon curion dir. Clywsom ef oddiar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweyd fel y carai y grag a'r brwyn oedd yn tyfu ar Rostre- hwfa, ac un to r darluniau aznlycaf yn ei barlwr ydyw darlun o'r bwthyn dinod y'i ganwyd. ac y'i magwyd yn y Rhos. Mae cariad Hwfa at Fon o'r un natur yn union ag eiddo Goronwy Owen, yn ehelaeth ac yn bur. Yn y rhifyn cyn y diweddaf mae y gohebydd gron- ielodd hanes y tret Jiwbili a gafodd plant Ysgol Llangadwaladr yn Bodorgan wedi gwneud camgy- meriad wrth ddwelyd fod Seindorf Arian Caergybi, yn cael eu harwain gan Mr W. S. Owen, arweinydd yr Anglesey Harmonic Society, a enillodd enw mor dda i Fon yn Nghasnewydd, ydyw Mr Owen arwein- ydd y seindorf ydyw Mr Owen Thomas, un o "gor- net players" rhagoraf ein gwlad,a brawd i'rdatganwr jienilfion adnabyddus o Langefni, Mr William Thomas, yr hwn hefyd ydyw arweinydd Seindorf Bres Llangefni. Mae y ddau yn enedigol oLanerchy- medd, Athen Cymru. Yr oedd eu tad yn gerddor madrus, yn arweinydd y cor yp eglwys y Llan, ac hefyd yn arweinydd seindorf y dref. Pan yn hogyn yn Llanerchymedd meddyliem mai seindorf y Llan, o dan arweiniad William Thomas, oedd y seindorf goreu yn y byd, a chredwn fod mwyafrif o drigolion y dreflan ddedwydd yn meddwl vr un peth. Byddai seindorf y Llan. yn troi allan bob amser ar adegau arbenig mewn llodrau gwynion, ac yn edrych yn lan- wedd iawn. Mae yr hen arweinydd diddan yn huno yn dawel yn mynwent y Llan ers llawer dydd, ond mae ei feibion yn cario yn mlaen gyda medrusrwydd y gwaith oedd yn nodedig o hoff gan ei galon. Hedd- ) wch i'w lwch.-Penri. ) I Yn eglwys henafol St. Cybi, y Sul diweddaf, cyn- haliwyd gwasanaeth arbenig i'r amcan o gysegru ffenestr liwiedig ysblenydd er cof am y diweddar Mr William Watson. Yr o3dd vr ymadawedig yn !on- eddwr adnabyddus a pharchus iawn yn y dref. Efe J-doedd cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y City of Dublin Steam Packet Company. Gwnaeth lawer iawn yn ei ddydd er gwneud y fordaith cydrhwng y wlad hon a'r Iwerddon yn un ddiogel achysurus i'r teithwyr, ac ystyrid ef yn ddyn rhagorol yn mhob ystyr. Gwnaed ymgais flynyddau yn ol i anrhyd- c-ddu ei goffadwriaeth yn y ffordd hon, ond gwrth- wynebwyd hyny, gan fod yn angenrheidiol adeilada darn newydd at yr eglwys. Wedi dyfodiad Canon D. W. Thomas, M.A., yma, dechreuwyd ar y gwaith heb oedi. Mae yr adran newydd wedi ei chwblhau Yl1 y modd mwyaf celfydd, ac yn addurn i'r adeilad henafol. Ganwyd Mr Watson, Ebrill 25ain, 1804 Ba farw Ebrill lOfed, 1893. Dilynwyd ef yn y swyd.l o arolygydd a chadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr gan ei fab, yr hwn hefyd sydd yn foneddwr a berchic yn fawr gan swyddogion a gweithwyr y cwmni. Dech- reuwyd y gwasanaeth am un-ar-ddeg y boreu drwy weinyddiad o ordinhad y Cymun Sanctaidd. Dar- llenwyd y rhanau cyntaf o'r gwasanaeth gan y ficer llenwyd y rhanau cyntaf o'r gwasanaeth gan y ficer y Piirch Canon Thomas, a'r Parch G1 Harty"! Jones, M.A., rheithor Nutfield, Suri'ey. YiV\V orchuddiwyd y ffenestr gan y Tra Pharclied' u Bangor. Ar ol darllen gwasanaeth arbe"S>pi gylcliiad, cymerodd v Deon ei destj-n yr^ a'r adnod gyntaf. Traddododd bre>h nodedig » effeitliiol a phwrpasol, a gwrand;' <tJ, gj^ulleid.a fawr arno yn astud iawn. Yn -^clnawn Preg^n odd yParchHartwell Jones yv,"46811^; .^yn^hwjT yn Gymraeg. Yr oedd yr ^nuUeHua ynan?v- ferol o luosog, a'r preget.^ r^us ^gyhoead- iadol. Yn ystod y gwna.eth >cor ei ran odidog. Yr oedd ar anthemau yn cael eu caSu a'r ysb; t adler>'TcnLl clod ar lafur p •vddlondeb y rhai sydd yn gofaluam ganiadaeth C3rsegr Jn eghtTs henafol hon. Yr --ad y Hys ynadol ddydd MercUer yn un lluosog ia_- Cyhuddid nifer fawr o fod yn fsddw ac afr?- a chafodd rhai o'r pechaduriaid eu dirwyo yn ilrwm. Dygwyd dau neu dri o gyhuddiadau yn erbyn yr heddgeidwaid am greulondeb at bersonau wed; j-fed tipyn gormad. Mentrodd rhai masnachwyr cyfrifol i'r bocs i roddi tystiolaeth yn eu hc-rbyn, ac mewn un achos siaradodd Dr. Roland Williams yn gryf yn erbyn y ffordd giaidd y mae yr heddweision yn cyflawni eu dyledswyddan. Taflwyd dau achos yn erbyn yr heddweision allan, a gohiriwyd un araU hyi nes y bydd yn gyfleus i'r holl dystion fod yn brj- srnol. Bu llawer o ddifyrwch yn y Ilys wrtli wrari- iii-v- achos dwy wraig sydd yn gysaydogesau, ond a fu yn ffraeo ac yn ymladd o achos morthwyl. Vr oedd y naill wedi gwysio y Hall, a.'r ddwy ochr wedi sicrhau gwasanaeth cyfreithiwr. Y diwedd fu taflu yr achos allan, pob ochr i da-lu y costau. Bydded y ffrwgwd yn wers i eraill. Cynhaliwyd .llys ynadol arbenig ddydd Mawrth i'r aftican o adnewyddu trwyddedau y tafarndai. Ni wnaeth yr heddgeidwaid wrthwynebu ond un drwydd- ed yn unig, a gohiriwyd y ddedfryd am fis, ct i'r ynadon gael amser i wneud ymchwiliad pellach i'r achos. Tystiai y Superintendent John Jones fod meddwdod wedi lleihau ychydig yn ystod y flwydd- yn. Dygwyd dwy ddeiseb gerbron yr ynadon yn ym- bil arnynt roddi atalfa ar werthu diod i blant. Siar- adodd cadeirydd yr ynadon yn groew ar y cwestiwn wrth y tafarawyr oedd yn bresenol, a rhybuddiodd hwynt y byddai i'r Fainc arfer mesurau cryfion tuagat roddi yr arferiad gwrthun i lawr, a phwy bynag a geid yn euog o werthu diod i blant o dan oed, yr ys- tyriai yr ynadon yn ddifrifol pa gwra i'w gymsryd i gosbi y troseddwyr. Wel, wir, Mr Gol., wn i ddim beth i feddwl o'r 1 tywydd ydym ni wedi gael yn ystod y mis hwn. Mae o wedi bod yn fis oer a gwlyb o'i ddechreu i'w ddiw- edd. Clywais rai Vl1 awgrymu mai y Nansen hwnVl yn nghyd ag eraill sydd wedi bod yn aflonyddu ar v rhew tua'r pegwn gogleddol yna. Wn i ddim beth yw yr helynt sydd ar bobl am gael sangu gororau yr ia tragwyddol. Ond o ran hyny, mae awydd dynion mor fawr am enwogriv-ydd fel nad gormod ganddynt beryglu eu bywydau wrth geisio ei enill. Rhaid i'r bobl sydd yn dyfod i'n gwlad ar eu gwyliau newid eu mis, os am dywydd teg. Mae mis Awst ers rhai blynyddau bellach wedi colli ei enwogrwydd amhin 'hafaidd. Yr oedd y Sul diweddaf yn debycach i ddiwrnod yn nghanol y gauaf nag i ddiwrnod o liaf. Yr oedd hi yn ystorm fawr o wynt a gwlaw yma diwy y dydd. Y porthladd yn orlawn o longau wedi troi i mewn am gysgod, ac er yn nghesail y mor- fur yr oedd rhai o honynt mewn perygl drwy y dydd, oherwydd fod yr angorion J'll gollwng eu gafael. Oddeutu pedwar o'r gloch y prydnawn, derbyniwyd hysbysrwydd yn y dref fod agerddlong fawr mewn lielbul yn agos i South Stack. Aeth y bywydfad a llusgfad tuag yno ar unwaith, a chafwyd fod peir- ianau un o'r agerddlongau sydd yn rhedeg cydrhwng Cork a Lerpwl wedi tori, a'i bod yn prysur nofio am y creigiau. Yr oedd y llong yn llwythog o nwyddau, ac yr oedd hefyd nifer fawr o deithwyr ar ei bwrdd. Llwyrddwyrd i'w dwyn yn ddiogel i'r porthladd.

Llys Ynadol a Thrwyddedol…

[ATid ydym yn gyfrif ol am…

GORSAF Y RHEILFFORDD, LLANGEFNI.

GWYLEIDD-DRA : A'R DIFFYG…

ESIAMPLAU LLANERCHYMEDD..

Gwrthgzliwr at Wrth-. gilwyr.

Sasiwn Pwllheli-

- NOdion Gwasgaredfg.