Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

----+----------- -AT Ells…

Y CO 1)1 AD YN MIJRlS Y GWENITH

[No title]

---------------Ifarwolaeth…

- ---------------------Nodion…

Llys Ynadol a Thrwyddedol…

[ATid ydym yn gyfrif ol am…

GORSAF Y RHEILFFORDD, LLANGEFNI.

GWYLEIDD-DRA : A'R DIFFYG…

ESIAMPLAU LLANERCHYMEDD..

Gwrthgzliwr at Wrth-. gilwyr.

News
Cite
Share

Gwrthgzliwr at Wrth- gilwyr. (Par had.) Fy Nghydwrthgilwyr,—"Ust Ust pwy yw y dyn acw, gyfaill, ac i ba le y mae yn myned, tybed?" I'r goedwig yna sydd yn ymyl yr afon, ^.yliwn i." "0, ie, yr wyf yn gwybod yn awr yn dda pwy ydyw un o drueiniaid y tir a reibiwyd. Mae yn ddigon hawdd ei adnabod wrth ei gerddediad. Mae ei gam- rau yn sicrhau ei fod mewn trallod a holbul, a'i ddagrau lluosog yn dystion o fawr ofid calon. Mae fel Adda gynt yn ceisio ffoi i rywle o'r golwg i ym- guddio ac fel Job hefyd, 'Ei wyneb sydd fudr gan wylo, a chysgod angau sydd ar ei amrantau.' Ym- bwyllwn, byddwn ddystaw, peidiwn a'i aflonyddu, os gallwn, na chwaith ddangos ein hunain iddo er dim, os msdrwn., Dichon y deuwn o hyd i rywbeth oddiwrtho cyn bo liir, ac y mae braidd yn anmhosibl dyfod o hyd iddo yr un ffordd arall. Tybia nad oes nEb ar y ddacar ddichon gydymdeimlo ag ef. Ac heblaw hyny, inaa rhyw bethau yn perthyn i'r bobl hyn ag y byddai yn dda iawn, er eu lies hwy, pa byddai eraill yn eu gwybod gyTstal a hwythau." Ond ni fynegant eu maddyliau i neb. Y mae gwendid meddwl a slafeidd-dra wedi cau eu geneuau yn hollol, ac atal eu tafodau yn gyfangwbl. Edrych, edrych, mae yn myned i eistedd ar y gareg yna uwch ben yr afon "Syndod I bsth? Ai tybed ei fod yn medd- wl myned i ?" "Erchyll! Gad i ni ei ddilyn, fodd byna.g, rhag ofn drwg. Llechwn y tu ol i'r llwyn tew-frig yma i ymguddio, gwylio, a gwrando. Ie,maelleni'r nos yn fanteisiol i hyn hefyd. Gwrando, mae yn siarad ag ef ei hun Nage, wylo y mae. Nage, pob un o'r ddau-siarad gan wylo. Clyw, clyw."— "0 !—na bawn i—fel yn y dyddiau o'r blaen-fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi-pan wnai efe i'w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr llwn y rhodiwn trwy dywyllwch-pan oeddwn yn nydd iau fy ierenctyd-a, dirgelwch Duw ar fy mhaball. 0! ddyddiau dedwydd fy ieuenctyd! 'pan gadwai Duw tl.' Pa fodd yr anghofiaf hwynt ? Ond y maent wedi myned ymaith oll, a'u claddu gyda blyn- ydoedd yr oesau. Ond ai tybed, yn ddifrifol, fod rhyw dymhor dedwydd a hapus fel yna wedi bod -arnaf rywbryd, ynts breuddwyd gwag, ofer, a di- sylwedd yw yr oil am danynt ? Dim yn bosibl. Ac onide, breuddwyd gwag, ofer, a disylwedd yw bod- 0 I aeth yn gyfangwbl. Nid breuddwydio yroeddwn pan yn rhoddi fy hun i ofal yr Arglwydd bob dydd ie, a llawer gwa^ yn y dydd hefyd, mewn gweddi hyd nes y teimlL Jy ysbryd megys yn llosgi o gariad at lesu Grip* Nid breuddwydio yr oeddwn pan yn cael fy ap.n gan fy meistr ar negeseuon yn awr ac eilwaitb ac ofn arfy nghalon ddyfod i gyffyrddiad a neb a" T ffordd, rhag y byddai i mi wneud neu ddweyd *'hywbeth a barai i'r Arglwydd guddio ei wyneb grasol oddiwrthyf. Nid breuddwydio yr oeddwn^11 ddysgwn adnod ar fy nhafod bob nos cyn mr"" i er 1 g^l rhywbeth sylweddol i fed,l.vl am dano cyn y byddwn yn huno. Do, dysgw-t penodau cyfan fel hyn, cyn yn awr, bob yn ad-od- cyn mymed 1 orphwys. Ac 0 mor hyfryd dd deffro yn y boreu, a hithau yn fy nghofieidio. Yn wir, yr oedd rhyw hyfrydwch gyda. phetli-t crcfyddol pryd hyn a wnai fy enaid yn ddedwjdd, hyd yn nod pan fyddwn yn breuddwyd- io am Pi. phethau hi. Nid breuddwydio yr oeddwn yr h011 ugeiniau o nosweithiau dedwydd a hapus a dreaiiwyd drwy gydol y nos mewn darllen, myfyr- dod a gweddi; ac yn gofidio am na fuasai y nos cyhyd a blwyddyn i mi orael bod fel hyny o hyd. Ond rhaid oedd myned at y gwaith boreu dranoeth heb roddi cwsg i'm hamrantau. Dim ods yr oedd crefydd pryd hyn yn wastad yn hyfrydwch, a'u holl lwybrau i gyd yn heddweh. Ac felly- Awn 2d an ar y boreu glas cyn codai'r wawr o'r .-dwyrain draw, On wledda ar ddanteithion bras alanwain llwybr au arbob Ilaw. Trysorau cariad Tri yn Un, benditluon Iachawdwr- iaeth rad, Er achub euog ddamniol ddyn, trwy rinwedd haeddiant Crist a'i waed. Oeddwn, yr oeddwn yn credu y pryd hynv fod rhywbeth yn orgysegredig hyd yn nod yn mhlanc- iau y lloft hono ac yn neillduol yr hen gadair daerw oedd yn ymyl y gwely. Yr oedd \T hen gadair yn. wastad mor laned ag y gallasai glanweithdra ei gwneud; ond fel llawer o hen gelfi cyffelyb, yr oedd yn un-rliwydwaith o fan dyllau pryfaid o benbwy- gilydd. Dim ods am hyn, un anwyl oedd yr hen gadair serch hyny. Uredaf y maddeua yr Argl- "vvydd a'i bobl hefyd yn ddigon rhwydd i mi am fy mhlentyneiddiwch hwn gyda'r hen gadair.i Ond mae yn haws anghofio yr holl bethau hyn yn nghyd nag anghofio ambell i gwrdd gweddi, pregeth, neu seiat. Ie, cyfarfodydd rhyfekkl oedd llawer o'r rhai gynt mewn gwirionedd. Pe bawn i yn gwybod nad oes yma neb yn fy ngwrando ar Ian yr afon yma heno, mi floeddiwn ond waith gen i, gwrando neu boiilio, 'rwy'n credu ya bendcnynol, IJ3 byddai yn bosibl "exportio" llawer o grefyddwyr ffasiynol yr oes hon i rai o'r hen gyfarfodydd gynt, y dywedent ar unwaith na wyddant beth oedd bod mewn cyfarfod wedi ei fedyddio yn gyflawn a'r Ysbryd Glan erioed o'r blaen. I Yn wir, yn wir, nid allaf fi ddim oddiwrtho, erfy mod i ar dir y felldith heaio nid allaf er y cwbl ddim llai na theimlo yn ofidus wrth ddarllen hanes cyfarfodydd misol, chwarterol, a blynyddol hefyd, I pan ddywedir yn dragywydd byth a hefyd fod y gwrandawyr oil wrth eu bodd yn gwrando, a'r llef- arwyr yn eu hwyliau goreu. Piti! piti! hwyliau! pa le maent hwy? Wedi meirw a'u claddu hefyd gyda'r pethau a fu Pe bawn yn gofyn i'r mynydd- oedd-hwyliau pa le maent hwy? mae yr adsain yn ateb yn alarus, "hwyliau, pa le maent hwy? Pe bawn yn gofyn eilw4ith i'r hen dderwen gauad- frig yna sydd yn ymyI y cae lIe bu yr hen-ar hen- a'r hen—(waeth i. mi beidio meddwl am enwi yr "hen gedyrn" hyny gynt yn Israel, dan ddylanwad gweinidogaeth pa ra.i y byddai y miloedd ddydd y gymanfa yn ysgwyd fel coedwig o flaen yr awelon)- hwyliau, pa le maent hwy? Mae yr adsain yn ateb eto yn wylofus, "hwyliau, pa le maent hwy?" Ie, p3 bawn hyd yn nod yn gofyn i'r adsain ei hun hefyd. yr hon fu gynt yn rhwygo jr awyr uwch ben dyffryn- oedd a llechweddau Cymru gan sain can a moliant hen seraphiaid tanllyd yr oes a fu. "Hwyliau, pa le maent hwy?" Byddai hyd yn nod yr wyrbrenau uwch ben yn ocheneiclio yn llwythog, ac yn barod i wylo .'ifonydd o ddagrau wrth wrando ar yr adsain yn ateb yn ol yn dorcalonus, "hwyliau, pa le maent hwy?" Wn i ddim, wn i ddim. Ond gobeithio, ar dru- garedd y Nef, nad wyf i aros yn y fan druenus hon yn dragywydd. O yr wyf yn dychryn y Duw graslawn, tosturia wrthyf! Ond am anghofio rhai o'r hen gyfarfodydd gynt—dim yn bosibl. Pwy yn ei fyw all anghofio yr hen "Rolant y Coblar" yn molianu yr Arglwydd yn y cwrdd gweddi- ¡ "Odyrn,Arglwydd,i ni'n dy 'nabod ti ys deiga'n mlyn- edd, ond 'rwyt ti yn well yn awrnag yrio'd. Ta'n gweddia ni mor gamcod a chryn hyrddod, ti gnai di f nhw yn gymws." A'r hen Fari Williams danllyd hono eilwaith yn bloeddio allan ei Hosana, haleluia, i'r O'n fu ar Galfaria," a'r hen Susan hwyliog wrth ei bodd ym Diolch iddo, byth am gofio llwch y llawr," a'r hen Thomas Williams a'r hen Edward Shams yn gwaeddi allan "Gogoniant" hyd nes byddai y lie yn diaspedain gan eu swn a'r hen Bilo Bili, a'r hen Shon ,r Pandy, wedi bod mewn rhyw frwydr a'r gelyn rliywle, ac wedi enill buddugoliaeth ogoneddus arno ti-wy Grist a'i Groes, ac wrth ddych- welyd o faes yr ymdrechfa, yn fwy na choncwerwyr ar y gelyn, yn rhwyaro'r awyr gan eu mawl i'w Gwaredwr, yn ngeiriau yr hem emynwr Cymreig (heb ofalu ond ychydig am gywirdeb i-aitti)- "Mae dafan fach o'i wa'd yn drymach yn y nef, Na'r pec hod mwya' gad a'i holl euogrwydd ef." A'r hen Ddei y Coblar, a'r hen Sami Simon, eilwaith yn chwyddo r beroriaetli o draw-'Ia, dal'wch ati dipin bach— 'Ni chollwyd gwa'd y Groes erioed am ddim i'r llawr,' 'Bendigedig bendigedig! Ma' fo wedi myn'd i bytoi lie i ni, ni fyddwn gyta fo heb fod yn hir.' Yn y fan arall yr oedd yr hen 'hnto o Graig y Gibath' yn llucliio ei amenau tanllyd hyd nes bydd- ent yn lllacliio fel mellt o amgylch y lie. Ac fel y dywedai yr hen 'Hannah o'r Plas' am dano, 'eu bod yn treiglo dros ei wefusau fel tasa fo yn i arllws o wilbaro.' Yn wir, un hynod oedd yr heat 'Ianto' hefyd, ac un rhyfead arall oedd yr hen 'Domas Amos,' (hedd- wcli i'w llwch). Pan yn eistedd yn gornel yn ymyl y tan nos y 'seiat,' ac yn yr hwyl fawr, .,l moliant yn bwrlymu o eigion ei galon fel afon yn llifo dros ei cheulanau, a. chythreuliaid yn ffoi rhag ei swn, pan yn dyblu a threblu yr hen eniyn nefolaidd hwnw- 'Rwy'n tynu tuag ymyl y dwr, bron gadael yr anjal yn lan Mi glywais am goncwest y Cwr a rydiodd yr afon o'm bla'n. o'm bla'n. A'r pocer yn ei law yn 'dvrnu' careg yr aelwyd bob yn ail nodyn Peth rhyfead i mi na fuasai yr hen gareg yn fil o ddarnau cyn hyn, gan gymaint a ddyrn- odd yr hen Amos ami erioed. Yn y fan arall eto y byddai yr hen 'Shon o'r Cwrt' yn cydfwynhau y liawenydd a'r gorfoledd, ac yn bloeddio allan nerth ci geg- "Ni thrig ewin iddo n ol, ma'n resolvo, I Dwyn ei eiddo yn ei gol: moliant, moliant iddo." Dim ods am y mesur na dim arall. Tra nad oedd I yn bosibl atal yr hen 'Wat y Llifiwr,' a.'r hen 'Wlat- us Ruffus,' rhag molianu a neidio hefyd fel Dafydd i gynt o flaen arch Duw Israel, a'u gwadnau yn ffar- I welio a'r ddaear yn ddiorphwys wrth ganfod y tir pell a'r Brenin yn ei degweh, ac yn 'golchi' ar yr hen J air bythgofiadwy hwnw—"Bydd melus 'lanio' draw, 'nol bod o don i don." (I'w barhau.)

Sasiwn Pwllheli-

- NOdion Gwasgaredfg.