Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

----+----------- -AT Ells…

Y CO 1)1 AD YN MIJRlS Y GWENITH

[No title]

---------------Ifarwolaeth…

- ---------------------Nodion…

Llys Ynadol a Thrwyddedol…

[ATid ydym yn gyfrif ol am…

GORSAF Y RHEILFFORDD, LLANGEFNI.

GWYLEIDD-DRA : A'R DIFFYG…

News
Cite
Share

GWYLEIDD-DRA A'R DIFFYG 0 HONO Syr,—Moddai rhyw goeg-ddyn unwaith Y mae dwy ochr i bob dadl" -fy ochr i a'r ochr gyfeiliorn- us. A welsoch chwi erioed, Mr Gol., fel y mae hyn yn cael ei wirio, nid yn unig mewn dadl, ond pob peth arall? 1 Y mae yn ymddangos nad ydym ni yn Nghymru yma. wedi cyrhaedd safon mor ucllel mewn gwyleidd- dra a'n cymydogion y Saeson, neu ynte yr ydym wedi cyrhaedd safon mor uchel fel nad ydym yn c&on- fod unrhyw .niwed m-wn caniatau i ddynion a merch- ed gyd-ymclrochi-canys y mae hyn i'w weled mewn ymdroch-leoedd ar lanau mor g^dad y Brython. Y mae awdurdodau Broadstairs yn gomedd can- iatau hyn, gan haeru ei fod yn beth anfocsol, ac y mae llawer iawn o ysgrifenu wedi bod yn ,v papyrau Seis- nig ar y mater. Nid yw hyn, fel pob path arall, ond m^ter o arferiad—ac y mae llawer iawn o wyleidd- dra go,u ("false modesty") yn gysylltiedig ag ef. lchydig iawn o bersonau sydd yn ystyried nad yw gwyleidd-dra. ond mater o arferiad, a bod yr arferiad hwnw yn cyfnewid yn unol a hinsawdd neu grcfydd y bobl. Er engraifft, y mao merched Morocco yn gorchuddio en hvtnc-bati-y mae ,vn rhan o'u crefydd i wneud hyny. Y maent yn ofni edrychiad dynion, ac am hyny, y mae nebau y mcrched yma yn cael eu gorchuddio a "veil" drwehns bob amser, ac eto nid ydynt ,yn meddwl dim o ddynoethi eu coesau. GeUir gweled yr aeloda.u hyny pan y byddont yn cyfeirio eu camrau i'r fynwent ar ddydd Gwener (eu Sabboth hwy) i alaru wrth feddau eu hynafiaid. Beth fuasai y merched yma yn ddweyd pe buasent yn myned i mewn i'r "ball room" yn ein gwlao. ni; ac yn gweled gwyneb a'r gwddf, cefn a breichiau, ein boneddigesau ,wedi eu dynoetlii yn ddigywilydd? Y maent yn anghofio yn hollol linell o eiddo Hero- dotus. Remember that by her clothes woman puts off her modesty." Y mae llawer o genhedloedd Ewrop yn edrych gyda syndod ar yr hyn sydd yn cynyg ei hun i'n ) sylw mewn cymdeithas yma, ond yr ydym ni, oher- wydd arferiad, yn eu ystyried yn eithaf gwylaidd a pharchus. Nid ydym yn meddwl dim o'r "decollate bodice," nid ydym yn edrych ar ferch ar ei goreu yn yr hwyr os na fydd yn. "partly undressed." Yn Japan y mae dynion a merched yn cyd-ym- I drochi. Yna, pan yu myned i mewn L r ty, y mae'r dynion a'r merched yn tynu am danynt at T "waist." Y mae arferiad yr hynafiaid wedi symud ymaith bob gwyleidd-dra gau o fynwes T" Japaniaid pan gartref, er eu bod fel cenedl yn dilladu eu hunain pan allan. Y mae yn rhaid i'r Esquimaux wisgo dillad cynes oherwydd yr oerfel, ond unwaith yn y ty, y macnt yn tynu ou holl ddillad ymaith, ac y mae dynion a merched yn eistedd ochr yn ochr mewn cyflwr o "nudity." Nid oes arnynt gywilydd o hyn-dyma eu harferiad. Yn Iceland y mae yr holl deulu yn cysgu yn yr un ystafell, oherwydd yr oerni, er mwyn cynyrchu gwres. Y mae y Finlanders yn bobl hynod ddiwylliedig a phur-feddwl, a mwy na hyny, gallant ymffrostio eu bod yn un o'r cenhedloedd mwyaf moesol yn Ewrop. Eto mae eu harferia.d hwy a ninnau yn dra gwahanol. Y mae yn mhob bwthyn yno-tlawd neu gyfoethog- "real bath." Bob dydd Sadwrn drwy y flwyddyn y mae pob teulu yno yn ymdrochi—pawb gvda'u gilydd —tad, gwraig, brodyr, chwiorydd, gweithwyr a chyfeillion, y naill yn cynorthwyo y llall. Dyma. ar- feriad y wlad, ac nid oes neb ,yn meddwl dim o gael ei weled gan ei gyfeillion yn ei gyflwr naturiol. Am o 2c i Is y mae merched yn myned oddiamgvlch yn y trefi i drochi y teulu. Nid oes neb yn meddwl am ymdrochi ei hunan. Y mae dynion o bob oed yn cael eu golchi gan y merched yma. I ni y mae yn ymddangos yn arferiad hynod, ond iddynt livry y mae yn ddigwyddiad beunyddiol. Nid yw yr uchod ond ychydig ffeithiau gwasgar- 9w edig ond ant yn bell i brofi nad yw gwyleidd-dra ond perthynasol (relative). Yn ei wir ystyr y mae rhin- wedd y peth mwyaf anhebgoroL Ond rhaid ,i ni beidio beio arferion eraill am nad ydynt yn digwydd bod yn hollol fel yr eiddom ni: "i'r pur pobpeth sydd bur, ond i'r amhur nid ,pur dim." Y mae y meddwl drwg yn canfod drwg yn mhob peth. Rhaid i ni ffurfio ein safon ein hunain o rinwedd, ac yvi- ddwyn i fyny at hyny. Nid oes neb yn gwneud mwy o niwed i achos rhinwedd, gwyleidd-dra, a moesoldeb, i acho¡q rhinwedd, gwyleidd-dra, a moesoldeb, na "pride" gyda'i "false modesty.—Ydwyf, etc., R.

ESIAMPLAU LLANERCHYMEDD..

Gwrthgzliwr at Wrth-. gilwyr.

Sasiwn Pwllheli-

- NOdion Gwasgaredfg.