Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

CYFARFOD MAWR OR DYNION YN…

Sylwadau y Wasg. yI

News
Cite
Share

Sylwadau y Wasg. y Y "Times*' a ddywed —Y mae anghydfod Chwarel yPcuu'hyn o'r diwedd wedi ci setlo ary teleran awrth- odwyd gan y dynion yn Mai diweddaf, y rhai yn ym.- arferol ydynt yr un a'r rhai y safasant allan yn eu herbyn yn mis Medi diweddaf. Gan nad yw gwaith i gael ei ddechreu hyd ddiwedd y mis presenol, hydd I y dynion wedi colli cyflog llawn wyth a deugain o wythnosau heb effeithio dim byd oddigerth dwyn y fasnach lechi i annhrefn, yr hyn sy'n debyg o gael effaith niweidiol ar eu buddianau am beth amser i I ddyfod. Yr ydym heddyw yn cyhoeddi telerau gweithredol y cytundeb, yn nghyda'r telerau gynyg- iwyd ac a wrthodwyd yn Mai, ac hefyd y gofynion anghaniataol wnaed gan y dynion y pryd hyny, fel ag y gallo pob darllenydd fo'n hidio am wneud hyny benderfynu drosto'i hun pa faint ydyw "net result" yr ornest annoeth hon. Yr adran gyntaf yw yr un sy'n delio a'r cwestiwn pwysicaf yn yr holl ddadl, sef y cwestiwn pa un a ydyw chwarel Arglwydd Penrhyn i gael ei llywodraethu ganddo ef ei hun, ynte gan bwyllgor o r chwa.rel wedi ei gyfansoddi o'i weithwyr ef ei hun. Er yn berffaith ddealledig gap y ddwy- blaid fel eu gilydd, ni ddygir y cwestiwn hwn allan mewn geiriau sy'n ei wneud yn glir i'r rhai oddiallan i'r chwarel. Ond yr hyn y gall pob un oddiallan ei weled .'drcsto'i hun ydyw mai yr un peth yw yr adran yn y ddau bapyr, er wedi ei eirio ychydig yn fwy pen- dant yn ffafr y meistr yn y drefn dderbyniwyd gan y dynion. 0 ganlyniad, os yw y cytundeb hwn yn caniatau yr hawl o gyfuniad, fel ag y cyhoeddir yn ddiddadl gan bersonau awyddus i daflu cysgod dros fethiant hollol y streic, yr oedd y caniatad yna yr un modd at alwad y dynion yn Mai neu Fedi y flwyddyn ddiweddaf. Ni fu yr hawl i gyfuno, mewn gwirion- edd, erioed yn y cwestiwn. Mae rheolau y llywodr- aethiad a gorphorir yn y cytundeb presenol yn union yr un, os nad yn hollol lythyrenol, a'r rhai dvnwyd I allan gan Arglwydd Penrhyn ddeuddeng mlynedd yn ol, a'r rhai y gweithredwyd arnynt byth er hyny. Mae y rheolau hyn yn caniatau yr hawl o sryfuniad yn y dull liawnaf rhaid i bob darllenydd diragfarn addef eu bod yn darpar yn y modd helaethaf gogyfer a gwrandaw ac ail wrandaw pob cwyn allai y dynion, un .ai yn unigol neu gyda'u gilydd, ddymuno dwyn o un.pa yn unigol neu gyda'u gilydd, ddymuno dwyn o flaen y rheolaeth neu y perchenog ei hunan. Ond fe sylwu fod gofal yn cael ei gymeryd i sicrhau fod cwyn- ion yn cael eu gwneud, os yn unigol, gan y personau neu'r criwiau fyddo'n achwyn; ac, os gyda'u gilydd, yna gan ddirprwyaeth yn cynwys dynion o'r un dos- barth a'r a^hwyny^xon ac yn cynwys yr achwynydd- ion eu hunain. Nad yw y cyfyngiadau hyn mewn ffordd yn y byd yn cael eu hanelu yn erbyn yr hawl o gyfuniad sydd ddigon eglur ar wyneb yr adran, eithr gwneir ef yn gliriach fyth gan lythyr Mr Young I am y 27ain o Fai, yr hwn a adgynyrclrwn gyda thel- erau y cytundeb. Yn y llythyr hwnw efe a gydnebydd yn bendant hawl y gweithwyr i weithredu ar yr eg- wyddor o" "achos un yn achos yr oil," yr hon, nyni ai cymerwn, ydyw egwyddor cyfuniad yn ei agwedd letaf. Fe ellid gofyn am ba beth y bu yr anghydwelediad, os ydyw y dynion, am y deuddeng mlynedd diweddaf o leiaf, wedi mwynhau yr hawl hwn o gyfuno a'u gilydd er unioni camwri? Yr ateb ydyw, fod yr ar- weinwyr undebol, yr amser y cymerodd Arglwydd Penrhyn reolaeth y chwarel, wedi trawsfeddianu gallu oedd dros ben yr hyn sydd newydd ei ddesgrifio, ddarfod i'w trawsfeddianiad gael atalfa gan y rheolau osododd Arglwydd Penrhyn i lawr ac wrth ba rai mae efe yn glynu, ac nad yw yr ymdrechfa sydd new- ydd derfynu wedi bod am yr hawl o gyfuno nac er buddiant y gweithwyr yn gyffredinol, ond er adenill y gallu i ymyryd via rheolaeth yr eiddo oedd yn flaen- orol yn meddiant pwyllgor y chwarel. Yr oedd y pwyllgor hwnw-yn gynwysedig, o'r braidd y rhaid dweyd, o arweinwyr undebol-wedi cymeryd iddynt eu hunain yr hawl i atal pob desgriflad o crwvnion allai'r dynion ddymuno wneud i'w meistr, i ddewis v rhai hyny ohonynt ag a dybient hwy yn addas, ac i ihyrwyddo y cwynion hyny allent eu siwtio hwy eu hunain. Yn union am yr un peth y buont yn ymladd yrwan. Mewn ymarferiad, y canlyniad oedd, ac a fuasai eto, y byddai Arglwydd Penrhyn i raddau mawr yn colli llywodraethiad ei eiddo ei hun a'r corph anghyfrifol hwn, a wthiodd ei hun rhyngddo ef a'i weithwyr, yn cymeryd ei le; tra, gyda golwg ar y gweithwyr eu hunain, nad oedd diim gwareoigaeth sicr yn bodoli i'r rhai liyny na ddewisent uno a'r undeb ac ymgrymu i urchiadau ei bwyllgor gweinydd- iadol. Mae yr adran gyntaf fel y saif yn awr, fel y safai yn Mai diweddaf, fel y safai yn Medi diweddaf, ac fel y gweithiwyd hi am y deuddeng mlynedd di- weddaf, yn rhoddi i bob gweithiwr fynediad at y rheolwr lleol, gyda hawl i apelio at y prif reolwr—ac yn derfynol, mewn achosion o bwysigrwydd, at Arglwydd Penrhyn ei hunan. Dyry yr a.dran yr un srhydd-fynediad i unrhyw ddirprwyaeth o weithwyr cyhyd ag y byddo yn gwir gynrychioli dosbarth aU un ai meddwl fod ganddo ef ei hun gwyn neu It welo yn addas wneud cwyn dyn arall yn eiddo iddo ei hun. Ond y mae yn gwrthod caniatau i bwyllgor sefydlog o arweinwyr undebol osod eu hunain i fyny fel unig gyfrwng cymundeb rhwng Arglwydd Penrhyn a'i weithwyr, ac i ddefnyddio v safle hono i orfodi y gweithwyr ar un Haw a'r meistr ar y llall. Gall y dynion gyfuno fel y gwelont yn oreu, a gal'^r undeb ffti-rfio, o, chwarel bwyStprau ag a ddewiao, Nid oeivgan Arglwydd Penrhyn ddima w ddweyd YD. erbyn y gweithrediadau hyn, ond mae yn benderfynol na c ha iff pwyllgor chwarel reeli ei chwarel ef uwch eL ben, neu, mor belled ag y gall ef ei rwystro, ni chant.. orthrymu ar ddynion nad ydyntiyn dymuno gosod eu hunain dan dra-arglwvddiaeth yr undeb. Hwn fu y cwestiwn pwysicaf 0 lawer, yn yr ymdrechfa ddiwedd- ar, canlyniad pa. un yw, fod Arglwydd Penrhyn vn parhau i lywodraethu eichwarel yn union yr un modd ag y gwnai cyn dechreu y streic. Wrth gwrs bu vm- giprys, uwchben cwestiynau eraill yn ogystal, y rhai y gallwn edrych arnynt fel y deuant yn eu trefn. Yr.' ail adran a ddywed y bydd i rybelwyr cymhwvs gael bargeinion misol "yn ddioedi mor fuan ag v ca v" rheolaeth hi yn ymarferol." Dynion ieuainc yn benaf ydyw y rybelwyr sydd wedi myned trwy brentisiaeth, ac yn aros eu tro am. "fargeinion" misol, y rhai ydynt fath o "gang-contract" a -ariant yn mlaen y gwaith o )N-neud llechi. Mae y gaic "dioedi" wedi ei osod i mewn yn nhelerau Mai, ond ni fydd un effaith vmar- ferol.ar weithiad yr adran. Yn.v drydedd adran yr ydym yn cad pwnc pwysig arall. Y llldrechodä y dynion rWj-mo y rheolaeth i lawr i edrych fod v dvn- iorjf yn yr holl fargeinion yn cael eu gosod ar" sai'on. berffaith gyfartal a'u gilydd, ac na chaffo nifer y gweithwyr a gedwid fod uwchlaw y cyfartaledd. Mae- yr adran yn cadw gosodiad bargeinion yn gwbl vn nwylaw y rheolaeth ac hefyd yn dctrpar mai'hwy sydd 1 gyflogi yr holl ddynion a weithiant ar y cyfryw, heblaw edrych fod pob un yn derbyn ei ran gyfiawn. 0 gyflog..Eithr mae yn gosod o r neilldu y gofynion a bwysid yn mlaen gan y dynion yn Mai. Y moo Adian IV. yn union yr un peth ag a wrthwvnebid gan y dynion yn Mai, o,ldieitlir ei bod dnrm vn fwy- manwl mewn enwi swm y cyBog i wahanol ddosbarth- iadau. Bu ymgais y dynion i benodi "minimum rates" yn fethiant holiol. V mae gwaith i gael ei ail gy- chwyn yn ol y cyflogau a reolent yn Modi diweddaf,. eithr nid yw y rhai hyn i gael eu parhau ond "cvhyi ag y caniata masnach. Gan hyny nid yw'r. dynion wedi enill dim yn swm eu cyflogau, tra y maent wedi niweioio cymaint ar fasnach fel y gallant yn fuan gael eu bod wedi colli cryn lawer. Yn yr adran olaf mae y geiriau "apelio am" wedi eu dodi vn lie ygair "dymuno," ond yr un yw yr effaith. Yr hyn y bu r dynion yn dadlu drosto dan y pen hwn ydoedd ymgymeriad fod iddynt gael eu derbyn yn ol, yn un corph—"pob dyn i fyned i'w hen le ei hun." Nidyw- yr hawl hwn i le neillduol yn y chwarel yn cael ei. addef; ac er y bydd i bo, vmdrech gael ei wneud i ffeindio gwaith i r holl hen ddwylaw a ddymunant. liyny, ni a dybiwn na fydd iddynt gael eu goliwng i mewn heb wneuthur apel personol. at y rheolwr. Yn wir, nis gallant gael, wrth weled yn ol pob tebygol- rwydd na fydd gwaith i bawb ar y declireu. Fe welir, gan hyny, fod y dynion yn myned yn ol yn union ar yr un telerau ag y gwrthryfelasant yn eu herbyn agos. i flwyddyn yn ol, a pha rai, trwy cael eu camarwain gan gynghor drwg, a wrthodasant hwy yn Mai. Yr unig concession" maent yn gael, fe roddwyd hwnw iddynt gan Arglwydd Penrhyn cyn dechreuad y streic. Dyna yw hwnw, addewid i roddi atalfa ar- is-osod bargeinion neillduol, yr hyn mewn gwirionedd a olyga aaaddiffyn y dynioa rhag eu dosbarth hwy eu. hunain, Y "Liverpool Daily Post" a ddywed Gyda bodd- had mawr yr ydym boreu heddyw yn cyhoeddi telerau y cytuadeb ar ba rai y mae anghydfod Chwarel y Penrhyn o'r diwedd wedi ei setlo. Ie, vn wir, o'r diwedd; braidd nad yw yr achos yn gofyn am vma- drodd cynefin swydd Lancaster, "at long last. Ni ddylai ataliad hapus rhwystr a dyryswch masnach, gyda'i holl ddilynyddion anffodus o waed drwg a chym tenInaidd, ddim cael ei gymylu hyd yn nod gan feirn- iauiieth; ond mae yn anmhosibl peidio teimlo pa mor drychinebus fu parhad diangenrhaid anghydwel- ediadau y Penrhyn. Mae yn awr wedi ei gad yn i bosibl i Arglwydd Penrhyn a'i ddyn o fusnes yn nghyda chyr.rychiolwyr y dynion ddyfod i delerau a'u gilydd. Yroddengys fod y cytundeb yn gaddaw i Arglwydd Penrhyn yr ymarferiad cyfleus a chysnrus 0 i awdurdod naturiol, tra mae yn gaddaw i'r dynion yr holl fantais all ddeillio iddynt oddiwrth hawlfreint- iau cydnabyddedig cyfuniad tvefnus. Mor bell o fod em dymuniad i feirniadu y digwyddiad boddhaol hwn mewn ysbryd dadleuol, ein dymuniad pendant yn gystal a'n rhwymedigaeth ydyw gadael y cytundeb i wneud ei effaith ei hun ac i ddwyn o amgylch. hot). ymyriad aUanol yyiaill ffordd na'r llall, y bendithion. ddylai ei ganlyn. Y rnae Chwarel y Penrhyn yn cynrychioli elfen gref iawn yn niwydiant a chyfoeth Cymru. Y mae gan y ddiwydfa a'r cyfoeth yna eu proffit i'r Huaws yn gystal ag i berchenog yr eiddo. Nid .oes un rheswm (lu-,tllus-braidd nad allem ddweyd nad oes un rheswm dealladwy—paham na ddylai'r chwarel ildio manteision digymysg; ac* fe fydd i'r holl wlad,wrth groesawu newyddion boreu heddyw, } goledd gobaith difrifol a diolchgar mai hyn fyddo rhediad eu hanes dyfodol. j Bu i Arglwydd Penrhyn (ehai'r "Morning Post") j actio mewn ysbryd gildio haelfrydig, ac nid oes gan t y dynion yn sicr ddim rheswm i achwyn am y dull yr ymwneir a'u owyinou yn y uyfodv>I. Yr cedd"y CWCSt- iwn gwirioneddol muwn dadi yn ystod yr angliyd- welediad, modd bynag, yn un llawer mwy difrifol na'r cwestiwn pa un a gaffai'r gweithwyr yn gyffredinol e;u cydnabocl fel corph cyfansawdd. Dyna ydoedd, mown ffaith-pwy oedd i drefnu manylion y .USB.eS, y perchenog a'i cruchwylwyr ynte y dynion? Ar y pwynt hwn y mae Arglwydd Penrhyn wedi dal yn gadarn, ae yn awr mae wedi ei benderfynu'n derfynol fod gosod bargeinion. i gad ei adael yn nwylaw y rheolaeth. Yr oedd o'r pwys nnryaI fod i hyn gael ei ddweyd mewn geiriau plaen, a'i dderbyn yn ben- dant gan y dynion. Heb hvny fe fuasai y gofynion lled-drahaus a wÙid gan Undeb y Chwarel wyr yn ail godi i fyny yn barhaus. Fel ag y mae, y mae safle berthynasol meistr a gweithiwr yn awr wedi ei ddefiinio yn glir, ac felly mae yn 1forddo sicrwydd am weithiad esmwyth Chwardau y Penrhyn yn y dyfodol, yr hya fuasai yn anmhosibl oni bai i fodolaeth y streic fawr arwain i lawnodiad y cytundeb presenol.

-------Afleshydon Cyffredin.I

Rhys Dafydd Sy'n Ð'eyd-

[No title]

! RHYBUDD.

Diwedd y Streic.

[No title]