Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

CYFARFOD MAWR OR DYNION YN…

News
Cite
Share

CYFARFOD MAWR OR DYNION YN METHESDA. Derbyn Telerau Cytundeb. Cynhaliwyd cyfarfod mawr o'r chwarelwyr yn Xeuadd y Farchnad, Bethesda, nos Sadwm di- weddaf, tan lywyddiaeth Mr William Evans, Bont Uchaf, i'r dyben o ystyried telerau er setlo yr anghydfod. Yr oedd y telerau hyny wedi eu hargraphu yn Saesneg a Chymraeg, a chawsant eu dosbarthu yn y eyfarfod. Yn y papyr dang- osid fod y telerau a gynwysid ynddo wedi cael cytuno arnynt ar y 18fed cyfisol, a'u harwyddo gan Mr E. A. Young, ar ran Arglwydd Penrhyn; a ehan Meistri W. H. Williams, Robert Davies, a Henry Jones ar ran v dvnion er derbyn eu cadarn- had. Y Cadeirydd, wrth agor y gweithrediadau, a ddywedodd eu bod wedi cydgyfarfod unwaith yn rhagor, ar ol bod yn yr ymdrechfa am un mis ar ddeg ond gobeithient eu bod, o'r diwedd, wedi evrhaedd at delerau cadoediad. Yr oeddynt wedi ymgasglu i gymeryd i ystyriaeth delerau cytun- deb, y rhai a ddarllenid allan gan yr ysgrifenydd ac a eglurid gan Mr W. H. Williams. Efe a gyfeiriodd at bresenoldeb Mr H. Lloyd Carter yn y eyfarfod (bloeddiadau eymeradwyol). Diamheu y gwyddent fod y boneddwr hwnw yn aelod o ffirm o gvfreithwyr i Arglwydd Penrhyn, eu cyn- feistr. Yr oedd Mr Carter wedi gwneud gwasan- aeth gwerthfawr i ddwyblaid yr anghydfod trwy geisio eu dwyn at eu gilydd—(cymeradwyaeth)— ac felly, yn ei farn ef (y siaradydd) yr oedd ganddynt achos i fod yn ddiolchgar iawn i Mr Carter. Yna Mr Griffith Edwards (yr ysgrifenydd Ileol), ar gais v cadeirydd, a ddarllenodd allan delerau y cytundeb, y rhai oeddynt fel y canlyn: I I-—(a) Bydd i gwynion unrhyw weithiwr, criw, neu ddosbarth gael eu cyflwyno ganddo ef, neu hwy yn gyntaf i'r Goruchwyliwr Lleol. Os yn an- foddlawn ar ddyfarniad y Goruchwyliwr Lleol yna bydd i'r cyfryw gwynion gael eu cyflwyno i'r Prif Oruchwyliwr un ai yn bersonol neu trwy ddir- prwyaeth wedi ei phenodi yn y fath fodd ag y bydd y gweithwyr yn vstyried yn briodol, ond i gynwys dim mwy na phump o weithwyr wedi eu dethol o'r un dosbarth a'r person neu bersonau gwynant, y rhai fyddant yn gvnwysedig yn y ddir- prwyaeth. (b) Cwynion yn mha rai y bydd y gweithwyr yn gyffredinol yn meddu budd, neu fyddont wedi eu mabwysiadu ar ran gweithiwr, criw, neu ddos- barth a gyflwynasant eu cwynion o dan yr adran flaenorol, ac yn anfoddlawn ar y dyfarniad a ellir drachefn eu gosod gerbron y Prif Oruchwyliwr gan ddirprwyaeth yn cynwys dim mwy na chwech o weithwyr wedi eu penodi yn y fath fodd ag y barna y gweithwyr yn briodol. (e) Mewn c-ffelyb ddull yn derfynol, yn mhob achosion pwysig gellir apelio at Arglwydd Penrhyn yn erbyn dyfarniad y Prif Oruchwyliwr naill a i gan berson unigol neu gan ddirprwyaeth. Yn mhob achos rhaid cyflwyno i'w Arglwyddiaeth mewn ysgrifen y seiliau ar ba rai y gwneir y cyf- mv apel. II.—Rlioddir Bargeinion Misol i Rybelwyr cymhwys heb oediad, mor fuan ag y cenfydd yr Oruchwyliaeth hyny yn ymarferol. III.—Gosodiad Contracts i'w adael yn nwylaw yr Oruchwyliaeth, yr hon a gyfloga yr holl ber- sonau weithiant arnynt ac a edrycha fod pob gweithiwr yn derbyn ei gyfartaledd deg o gyflog. IV.—Cyn stopio gweithio yr oedd cyfartaledd cyflog delid i Chwarelwyr yn 5s 6c y dydd, a dos- barthiadau eraill weithiant ar gymeriad mewn cyf;ixtaledd (h.y. i Labrgreigwyr 48 7c y dydd, L&brwyr 3s 7c y dydd). Pan ail-ddechreuir gweithio bydd 1'r un safon (basis) barhau cyhyd ag y caniata masRach. V.—Bydd i'r oil o ddiweddar weithwyr Chwarel y Penrhyn a ewyllysiant waith gael dychwelyd yn un corph mor bell ag y bydd hyny yn ymarferol, a'r gweddill mor fuan ag y gellir trefnu gwaith iddynt. Caniateir amser rliesymol i'r rhai eill fod yn awr yn gweithio yn mhell. Ar hyny Mr W. H. Williams, yr hwn a dder- byniwyd -rda llongyfarchiadau uchel, a aeth rhagddo i egluro gwahanol adranau y telerau, at ddifrifol ystyried pa rai, meddai, yr oeddynt wedi dyfod at eu gilydd. Mewn trefn i gaffael pob man- I tais posibl i gyrhaedd at benderfyniad iawn trwy J gael pob goleuni ar v mater, yr oeddynt wedi gofyn i Mr Lloyd Carter ddyfod i'r cyfarfod gyd.'ig aelodau y ddirprwyaeth nid gyda golwg ar iddo gael ei gwestiyno, ond fel ag y iiallo roddi oglur- had ar bwyntiau lie byddai y ddirprwyaeth yn methu gwneud hyny. Yr oeddynt hwy wedi teimlo llawer 0 bryder mown arwam, mor bell ag yr oedd yn ganiataol iddynt arwain, meddyliau y gweithwyr parthed yr hyn oedd iawn ac yn ei le. Hwy a ddymunent i'r dynion fod yn bwyllus iawn a rhoddi datganiad rhydd i'w tdimladau. Na fydded iddynt, modd by nag, gymeryd eu cario ymaith gan unrhyw nwydau, ond yn hytrach bydded iddynt ystyried yn ofalus beth oedd yn oreu i'w wneuthur. Yr oedd efe'n meddwl y cytunent ag ef fod y ddwy blaid, wrth wneud y trefniant, wedi dyfod i gyfarfod eu gilydd, ac nid fod un ochr yn cieisio dwyn gorfodaeth i I)w-% so ar yr ochr arall. Fe fuasent hwv yn leicio cael mwy, eithr mater arall oedd pa un a ddyJasent gael pobpeth a ystyrient oedd yn iawn iddynt: rhaid oedd cyfeirio hyny i berson-ri niwv pwyllog Z, na'r rhai hyny oeddynt yn nghanol y frwydr. Yr i oedd y ddirprwyaeth wedi cymeradwyo telerau v cytundeb ar y dealltwriaeth clir fod i'r dynion eu cadarnhau. Yr oedd y dynion at eu rhyddid i'w gwrthod 03 tybient yn addas ond pwysai arnynt ystyried y mater yn llawn cyn gwneud eu medd- yliau i fyny. Yna aeth Mr Williams yn mlaen i ymwneud a phob adran ar ei phen ei hun, a gwahoddai unrhyw un oedd eisiau goleuni i ofyn cwestiynau ar rhyw bwynt oedd heb fod yn glir. Yr oedd Ilawer iawn o ddadlu a siarad, meddai, wedi bod gyda golwg ar Adran I., a darllenodd yr adran hono allan. Llais: páham nas gallwn ni benodi y neb a fynwn ? Atebodd Mr W. H. Williams eu bod yn gwcled fod ganddynt ddewis o ddau beth-un ai myned at y prif reolwr eu hunain neu ynte ddewis dir- prwyatth. Rhaid i'r prif reolwr gael y mater wedi ei osod o'i flaen cyn iddo gael ei fabwysiadu fel achos y dynion yn gyffredinol; yr oedd y prif re- olwr i gael y cyflcusdra yn gyntaf, i setlo y mater. Os byddai y dyn yn gwneud y gwyn yn anfodd- lawn wedi i'r prif reolwr ystyried ei achos, ac yn dymuno i'r gweithwyr yn gyffredinol gymeryd ei achos i fyny, yna yr oedd darpariaeth ar gyfer hyny yn is-adran B o adran I., o dan ba un y gallai'r gweithwyr anfon dirprwyaeth cyfansodd- edig o ddim mwy na chwech allan o unrhyw ddos- barth neu ddosbarthiadau a dybient yn ddoeth. Llais: Yr wyf fi yn amheu a ydyw yr adran -n golygu hvny. Mr W. H. Williams a ddywedodd fod yr is- adran gyntaf o'r adran hon yn dweyd, os byddai gan weithiwr gwyn, ei fod yn gyntaf i'w ddwyn o iiaen y rheolwr lleol; ac os yn anfoddlawn ar ei benderfyniad ef, yna gall ei gymeryd o flaen y prif reolwr. Os, wedi hyny, y bydd yn anfodd- lawn ar benderfyniad y prif reolwr, yna, o dan is- adran B o'r un adran, gellir gwneud y gwyn yn achos y gweithwyr yn gyffredinol; a phan wedi I dyfod i hyny, yr oedd dirprwyaeth i gael ei dewis allan o unrhyw ddosbarth neu o'r holl ddosbarth- iadau fel y barno y gweithwyr yn ddoeth (cymerad- wyaeth). Heb ymffrostio dim, yr oedd efe yn meddwl y cydnabyddent oil fod hwn yn gyfuniad (combination) gwirioneddol (clywch, clywch). Llais: A raid i'r ddirprwyaeth fod yn gweithio yn yr un dosbarth a'r un fyddo yn gwneud y gwyn? Mr W. H. Williams a ddywedodd, pan fyddai gan ddyn gwyn i'w gwneud, ei fod i'w gosod yn gyntaf o flaen y rheolwr lleol; os yn anfoddlawn, yna yr oedd yr achwynwr neu ei ddosbarth i osod y gwyn o flaen y prif reolwr. Tybier fod dyn yn j dweyd nas gallai fyned ei hunan o flaen y prif re- olwr ac eisiau i ddirprwyaeth gymeryd ei achos i fyny i crvchwyn cyn ei wneuthur yn achos yr holl weithwyr, y pryd hyny byddai'n bosibl i'r cyfryw ddyn gael dirprwyaeth, ond rhaid i'r ddirprwyaeth I gael ei chymeryd o'r dosbarth He gweithia yr ach- wynwr. Eto nid oedd angen am i'r dyn hwnw gael dirprwyaeth o gwbl, eanys yr oedd at ei rydd- id i osod ei achos i lawr ei hunan neu ynte gallai wneud ei achos yn achos pawb, ac yna byddai i'r I oil o'r gweithwyr benodi y ddirprwyaeth. Rhyw un a ofynodd pa sut yr oeddynt i osod cwyn i lawr o flaen y prif reolwr, yr hwn oedd Sais, a hwythau yn ddim ond Cymry uniaith ? j Mr W. H. Williams a atebodd nad oedd efe yn I synu fod y cwestiwn yna yn cael ei ofyn, gan iddynt yn y gorphenol gael cryn lawer o ddadlu yn nghylch y mater o gyfieithydd. Yr oeddynt yn teimlo yn hyderus, modd bynag, na fyddai un anhawsder mewn cael cyfieithydd pan fyddai gweithiwr yn analluog i osod ei achos o flaen y prif reolwr fe wneid darpariaeth er eael rhyw un allai osod yr achos i lawr drosto. Yr ateb i r cwestiwn hwn oedd, na fyddai dim anhawsder gyda golwg ar y pwynt a godwyd. Llais: Yr wyf fi yn meddwl y byddai'n fwy boddhaol pe bai i'r eglurhad a roddwyd yn awr gael ei gorphori yn nhelerau y cytundeb. Yr oedd Mr W. H. Williams o'r farn y gallent hwy ei gymeryd yn ganiataol: yr oedd bron yn sicr na ddryllid hwy yn erbyn y graig hon, craig oedd eisoes wedi bod y fath rwystr iddynt. Modd bynag, fe ddylid pwyntio allan na fu i'r ddirprwy- aeth roddi y cwestiwn o gyfieithu fel un o'u han- awsderau. Fel ag y dywedai Mr Carter (yr hwn oedd newydd gael ymgom a'r siaradydd), ni fydd- ai un anhawsder ar y pen hwn. Llais A oes genym ni bwyllgor i apelio ato ? Un o'r dynion, gan apelio yn bersonol at Mr W. H. Williama, a gynygiodd fod iddynt fyned yn mlaen yn unol a phenderfyniad y ddirprwyaeth (chwerthin). Mr W. H. Williams a ddywedodd y derbynid unrhyw gynygion fyddai gan neb i'w gwneud yn ddiweddarach ar v cyfarfod: ar hyn o bryd hwy a aent yn mlaen gydag unrhyw eglurhadau a dybid yn angenrheidioL Mewn atebiad i gwes- tiwn o berthynas i bwyllgor, efe a ddywedodd mai pwnc oedd hwnw i'r gweithwyr i'w bender- fynu nid oedd gan y meistr ddim byd i'w wneud ag ef. Os dewisai y dynion ethol pwyllgor, yr oeddynt at eu rhyddid i wneud hyny. Yr oedd Arglwydd Penrhyn wedi dweyd fod iddynt groes- aw i ddewis un, a dywedodd Mr Young hefyd nad oedd yr un rheol yn erbyn i bwyllgor gynghori dirprwyaeth. Gan mai rhagorfraint y dynion ydoedd hyny, a bod Arglwydd Penrhyn a Mr Young wedi dweyd nad oeddynt hwy yn myned i ymyryd a'r hawlfraint hono, yr oedd efe yn meddwl mai y dynion eu hunain oedd i edrych allan pa fodd i fyned yn mlaen gyda golwg ar bwyllgor, ac nid oedd yn bwynt ddarfu godi pan benderfvnwyd ar delerau v cytundeb. Rhaid eedd iddynt ymgynghori a'u gilydd ar faterion o'r fath hyny: y cwestiwn yr hwyr hwnw oedd- beth oeddynt delerau y cytundeb ? Yr oedd yn hollol glir er Mawrth diweddaf nad ymyrid gyda hwy yn eu hawl o apwyntio pwyllgor. Yn nesaf gofynwyd cwestiwn pa un, os na byddai i unrhyw berson neu bersonau yn gwneud cwyn fethu cael, yn mhlith eu dosbarth neillduol hwy, ddyn cyfaddas i gymeryd eu cwyn i fyny, eu bod at eu rhyddid i fyned at bwyllgor (os byddai un mewn bodolaeth) i ddewis dirprwyaeth i gy- meryd yr achos i fyny. Mr W. H. Williams a ddywedodd, os na fyddai person yn gyfaddas i osod ei achos ei hun i lawr o dan is-adran lor adran gyntaf, yr oedd ganddo hawl i ddewis dirprwyaeth. Oni allai efe ei hun ddewis dirprwyaeth, yna, o dan yr ail is-adran, gallai y ddirprwyaeth gael ei hethol gan y gweith- wyr yn y cyfryw ddull ag a dybient hwy yn ddoeth. Llais A oes trefniadau wedi eu gwneud er atal i unrhyw ddial gael ei wneud yn erbyn unrhyw berson neu bersonau a allant ddwyn yn mlaen gwyn? Mr W. H. Williams a feddyliai nad oedd hyny yn fater i'w drefnu and ar achlysur fel y presen- ol, wedi bod ohonynt yn ymladd brwydr hirfaith, nid oedd yn annaturiol i'r cyfryw gwestiwn gael ei Yr oedd yn meddwl y byddai i Mr Carter ddywedyd gair neu ddau wrthynt ar y pwnc hwn, a gofynai iddynt roddi gwrandawiad i'r boneddwr hwnw. Mr Carter (yn siarad yn Saesneg) a ddywedodd ei fod yn dymuno, cyn ateb dim cwestiynau, iddi fod yn bertfaith ddeaiiedig iddo ef ddyfod i'r cy- farfod ar ei gyfrifoldeb ei hun fel cynrychiolydd heddweh, ac ar gais eu harweinwyr, i gefnogi y papyr a osodai allan delerau y cytundeb (clywch, clywch). Y cwestiwn a ofynid oedd, a fyddai yno unrhyw "restr du ai peidio? (chwerthin). 0 dan adran 5 fe fyddai iddynt sylwi yn glir nad oedd yr un restr du i fod (cymeradwyaeth). Yna Air D. R. Daniel a gyfieithodd sylwadau y siaradydd. Mr Carter (yn myned yn mlaen) a ddywedodd, gyda golwg ar i unrhyw bersonau ddwyn yn mlaen gwynion, fod iddynt groesaw i-wneud hyny, mor belled ag yr oedd efe yn deall, ac yr oedd yn sicr na fuasai neb byth yn dioddef o'r herwydd (clywch, clywch). Mr D. R. Daniel a gyfieithodd y sylwadau hyn eto. Air W. H. Williams wedi hyn a ddeliodd ag Adran II., yr hon a ddarllenodd. Llais: Pwy sydd i benderfynu a fydd rybelwr yn "gymhwys" i g-ael bargcn ai peidio? Mr W. H. Williams a ddywedodd mai yr arfer- iad oedd, cyn belled ag y gallai ef gofio, pan gaffai dyn fargen, ei fod i gaffael cymeradwyaeth y prif reolwr; yr oedd hyny yn y telerau wnaed rhyw 23 mlynedd yn ol. Dylai v prif reolwr yn sicr gael yr hawl o benderfynu pa un a oedil dyn yn gymhwys ai peidio i weithio mewn unrhyw ran o'r chwarel. Pan gyntaf y dygodd y ddirprwy- aeth hawliau y rybelwyr yn mlaen, efe a adgof- iodd v cyfarfod iddynt wneud yr hawliau ar rata dynion cymhwys, ac yr oedd y ffordd y gosododd y ddirprwyaeth yr hawliau hyn gerbron yn ei gwneud yn fwy priodol hwvrach i'r dynion ofyn beth a olygai'r ddirprwyaeth wrth ddynion "cym- hwys." Yna efe a aeth yn mlaen at Adran III., yn ymwneud a gosod bargeinion. Dywedodd fod hwn yn bwnc yn mha un yr oeddynt wedi cy- merya llawer o ddyddordeb yn ystod parhad yr anghydfod. Mor bell ag yr oedd efe yn cofio cais y ddirprwyaeth ar y pen hwn, yr oedd arnynt eisiau cael sicrhad y byddai i bob dyn yn y chwarel gael gwaith yno gan y rheolaeth ac nid gan yr un o'r gweithwyr. Gofynent hefyd fod i bob dyn gael chwareu teg gyda golwg ar gyflog pa un bynag ai ar fargeinion mawr ynte bach y byddcnt yn gweithio. I gyfarfod a'r gofynion wnaed gan y ddirprwyaeth ar ran v dynion* hwy a ganfydd- ent fod Adran III. yn dweyd y byddai i'r rheol- aeth gyflogi pob personau, ac edryck fod pob un yn derbyn ei ran gyfiawn o gyflog. Llais: Os bydd bargeinion mawr yn cael eu pa obaith sydd 0 gael bargeinion i rybel- wyr o gwbl ? Mr W. H. Williams a feddyliai y cydnabyddid fod hwnw yn fater yn perthyn yn uniongvrchol i'r rheolaeth. Os byddai i'r diweddaf addaw bar- pinion i rybelwyr, nid y dynion oedd i bender- xynu v mater os oedd y rheolaeth yn addaw, yr oeddynt hwy yn ei dderbyn. Llais Yr wyf fi yn meddwl, os gosodir bar- geinion mawr, y gwnelai hyny hi yn anymarferol i osod rhai i rybelwyr. Nid oedd Mr W. H. Williams yn meddwl fod ganddynt unrhyw achos i gwyno am anghvsondeb yn yr addewid hon roddwyd gan y rheolaeth. Os oedd y rheolaeth eu hunain yn myned i roddi gwaith i'r holl ddynion ar fargen, ac yn myned i weled fod pob gweithiwr yn derbyn ei ran gyf- iawn o'r cyflog; os oedd y ddau beth yna yn cael eu liaddaw, nid oedd ef yn meddwl ei fod yn ddim o fusnes y dynion i holi sut yr oedd y rheolaeth yn medru rhoddi'r pethau hvn. Llais Yr wyf yn cymeryd fod yr adran yn cyn- wys yr egwyddor o is-osod. Dywedodd Mr W. H. Williams fod gosod y bar- geinion i fod yn nwylaw y rheolaeth nid oedd yr un crybwylliad am ail-osod. Ni wyddai efe am ddim oedd ar ffordd ail-osod, ond yr oeddynt yn gwybod y byddai i bob un yn gweithio ar fargein- ion oriel ei tradw i weithio eran v rheolaeth. v rhai oeddynt am weled fod pob un yn derbyn ei ran gyfiawn e gyflog. A allent hwy ofyn mwy, gan nad pa faint o ail-osod gymerai le ? Dywedodd un o'r dorf ei fod yn ystyried ei bod yn bosibl, dan yr adran hon, i osod bargeinion yn y fath fodd fel a.g y gadw allan y dynion ieuainc, yr hyn, yn ei farn ef, a fyddai yn bur anghefnogol i'r rhai hyny. Y pwynt mawr oedd, vn mha ysbryd y caffai yr adran hon ei chario allan (cymeradwyaeth). Mr W. H. Williams a ddywedodd fod y cwestiwn hwn wedi derbyn mwy o ystyriaeth na'r un pwnc arall ar wahan. Yr oeddynt yn bur awy- us i wneud i ffwrdd a'r hyn a ystyrient yn bodoli mewn perthynas i fargeinion, ond yn ngwyneb yr amddiffyniad gynyg- id iddynt yn yr adran hon yr oedd yn iawn iddynt fod yn bur ofaJus cyn ei wrthod. Llais Credaf fod yn gywilydd i ni ofyn am unrhyw ragorfraint a, feddwn yn barod fel corph o ddynion. Os oedd rhai o honynt yn meddwl fod yna egwyddor ddrwg mewn bargeinifn. a'u bod yn anfanteisiol i'r dynion ieuainc, credai y dylent hwv eu hunain fod yn ddigon o ddynion fel na fyddai i fargeinion fodoli mewn ffaith. Aeth Mr W. H. Williams yn mlaen i drafod Adran 4, yn ymwneud a chyfartaledd cyflog, ac mewn ateb- iad i gwestiwn, dywedodd nad oeddynt mewn safle i wadu cywirdeb cyfartaledd y cyflog dyddiol oedd i lawr yn yr adran os na chaent yr hawlfraint o fyned drwy lyfrau y chwarel. Gofynodd person o'r dorf pa un a fyddai gosodwr I y bargeinion yn eu gosod ar yr hen safon o 4s, neu ynte 5s 6c pan y denai i ofyn i'r dynion pa faint y [ dunell yr oedd y gweithwyr yn ei ddisgwyl (cymerad- wyaeth). Mr W. H. Williams a ddywedodd fod yr adran hon yn mynegi y cyfartaledd oeddid wedi ei dalu, a byddai y gosod ar yr un safon ag o'r blaen pan yr ail-ddech- reuid gweithio. Os 5s 6c oedd y cyfartaledd a delid, yna yr oedd yn rhaid y byddai y gosod yn ol y safon hono. Nid oedd neb i gael ei dalu am fwy nag a wnai. Llais Credaf os yw pethau i fod fel ag o'r blaen y bydd yn druenus ar lawer. Dywedodd un o'r dorf ei fod yn meddwl os oedd y gosodwr wedi gosod o'r blaen yn ol y safon o 4s y dydd y rhaid ei fod yn bur ddwl i dalu yn ol safon o 5s 6c (cliwertlun). Ni fyddai i'r un bod rhesymol setio fel yna. Rhaid fod y gosodwyr yn rhai rliyfedd iawn i osod am Is 6c yn fwy nag yr oecitl y meistr yn roddi (chwerthin). Dywedo Mr W. H. Williams ei fod yn deall eu bod yn gofyn am safon o 5s 6c, a'r swm isaf yn 4s 6c. Yr oeddynt wedi cael eu cwestiyno parthed beth feddylient wrth "safon." Dyna olygent: y nod oedd gan y gosodwr a'r cymerwr mewn golwg pan yn cy- tuno yn nghylch y pris am weithio bargen. Nid fod pob dyn i gael 5s 6c y dydd, ond fod y gosodiad yn gyfryw ag i'w alluogi i wneud 5s 6c y dydd os oectu yn chwarelwr medrus. Yr ateb ydoedd fod y dynion yn barod yn cael, ar gyfartaledd, 5s 6c v dydd. Gofyn- Mr W. H. Williams ai hwnyna oedd yr eglurhad a rod'dent ar safon cyflog (gwaeddiadau "le"). Gallai rhai gyrhaedd yn uwch na'r safon, tra y byddai eraill islaw iddi. Byddai i hyny ddisrwydd am fod gwahan- iaeth yn ngallu gweithwyr unigol. Yr oedd wedi ei awgrymu nad oedd hyny yn foddhaol. Llais r Nid oedd y gwahaniaeth bob amser yn ngallu y dynion ond yn ansawdd y grnig a weithid. Llais arall: Nis gallnf weled na byddwn yn yr un twll os na fydd rhyw gyfnewidiad. Mr W. H. Williams a. ddywedodd os oedd y gosod i fod fel o'r blaen, ac os yr oeddynt yn gosod o'r blaen ar y safon o 5s 6c y dydd, a fyddai ganddynt gwyn os na enillent 2p y mis. Mewn atebiad i gwestiwn pell- acli o borthynas i iryflog dyddiol. dywedouu mai y pris a roddid yn yr adran lion oedd i fod yn safon y gosodiad. Nid oedd ganddynt hawl i ddweyd mai pris i ddynion wrth y dydd ydoadd. Lla^s Os pris ar y gosod yw i fod, pe byddai i ddyn fethu ei gyrhaedd, a fyddai y rheolaeth yn barod i dalu yn ol y swm o 4s 6c ? Mr W. H. Williams « ddywedodd eu bod wedi dwyn yn mlaen gyfryw gais, ond na fuont yn llwyddianus gydag ef. Llais: A chaniatau na allwn gyrhaedd safon o 5s 6c, a allwn ni ystyried hyny fel cwyn am yr hwn y gallwn anfon dirprwyaeth at y prif oruchwyliwr? Mr W. H. Williams a ddywedodd mai y cwbl allai ef ddweyd ar y pwynt yna oedd, fod y gosod i fod yn gyfryw fel ag i allirogi gweithiwr da i wneud 5s 6c y dydd. Yr oedd anhawsder wedi bod i gael y meistr i gydnabod fod yna unrhyw gyfrifoldeb arno ef i wneud i fyny unrhyw ddiffyg wedi i weithiwr wneud bargen ag ef. Yr oedd yn hawdd iawn i'r dynion feddwl nad oedd ond iawn i ddiffyg o'r fath gael ei wneud i fyny, ond ar y llaw arall yr oedd yn anhawdd cael y meistr i weled fod pethau feUy. *Yr oeddynt wedi bod yn aflwyddianus ar y pwynt yna. Nis gall- ent ddweyd dim yn mhellach na bod y gosod i fod yn gyfryw fel ag i alluogi "weithiwr da i enill 5s 6c y dydd, a dosbarthiadau eraill mewn cyfartaledd. Mewn atebiad i gwestiynau pellach, pwyntiodd Mr W. H. Williams allan fod Mr Carter wedi dweyd yn barod na fyddai unrhyw berygl i neb ddod a chwyn yn mlaen, ac na fyddai i ddim dial gymeiyd lie. i Llais Yr wyf fi yn deall nad ydym wedi cael dim codiad yn ein cyflogau. Mr W. H. Williams Os oeddych yn cael 5s 6c y dydd, a oedd arnoch eisieu codiad? Yr oedd y teler- au yn mynegi y byddai y gosod ar y safon o 5s 6c y dydd. Yr oedd y gosod i fod yn gyfryw fel ag i allu- ogi gweithiwr da i gyrhaedd safon o 5s 6c y dydd. Yn mhellach, dywedai eu bod wedi bod yn aflwydd- ianus o berthynas i'r dynion wrth y dydd, i'r rhai y gofynent am ddeg y cant o godiad. Llais: Pan ddaw y gosodwr ataf, ac y dywed ei fod yn gosod bargen i mi yn ol v safon o 5s 6c, a minau yn gwybod nad yw ei gosod am y pris hwnw, beth wyf i wneud ? Mr W. H. Williams a ddywedodd fod digwyddiad o'r fath yn cael ei ragdybied. Os y teimlent yn I hyderus y gallai achos o'r fath ddal yn ngwyneb ym- chwiliad, paham nas gallent deimlo fod ganddynt gwyn? Os y byddai achos felly yn dal ymchwiliad, mentrai ddweyd y byddai ganddynt gwyn. Yr oedd y gosod i fod yn ol safon o 5s 6c y dydd. Yn mhob achos He y bernid fod cwyu, dylid dal mewn cof y dylai cwyn o'r fath ddal ymchwiliad. Os na fydd y gosod yn ol y safon osodid i lawr yn yr adran hon, yna yr oedd telerau y cytundeb yn darparu ffordd i r dynion ddwyn yn mlaen eu cwynion. MrW. J. Williams, ysgrifenyddUndeb y Chwarelwyr, I a gynygiodd eglurhad. Dywedodd fod telerau y cy- tundeb yn mynegi mai cyfartaledd y cyflog a delid i'r chwarelwyr oedd 5s 6c y dydd cyn iddynt ddyfod allan. Yr oedd yn mynegi yn mhellach mai y cyfar- taledd a' delid i labrgreigwyr oedd 4s 7c, ac lafur- wyr 3s 7c y dydd. Yr oedd y telerau yn mynegi mai hyny oedd i fod yn safon i'r gosod yn y dyfodol beth bynag ydoedd o'r blaen. Os na cherid hyny allan, byddai ganddynt gwyn (clywch, clywch). Llais Sut mae Mr Carter yn deall y mater? Mr Carter a ddywedodd ei fod yn meddwl fod Mr W. J. Williams wedi ateb yn gywir. Mr W. H. Williams, mewn atebiad i gwestiwn, a ddywedodd fod yn rhaid iddynt ddeall mai hwn oedd y pris am osod ac nid fel cyflog diwrnod. Y pris o 5s 6c oedd y nod i'w gyrhaedd gan ddynion yn gweith- io ar fargen. Nid oedd yn penderfynu y cwestiwn o gyflog dyddiol. L!ais: Yna nid wyf yn gweled ei fod yn safon o gwbl. Mr W. H. Williams a ddywedodd ei fod yn sicr nad cyflog dyddiol ydoedd, canys yr oedd Mr Young wedi egluro mai yr hyn feddyliai wrtho oedd y safon i ddyn- i ion yn gweithio ar fargen. Llais Credaf nad oes unrhyw ymgymeriad v bydd i ddyn gael ei dalu yn ol ei werth hvd yn nod pe na byddai y lIe y gweithiai ynddo yn ei alluogi i gyrhaedd y safon. Mr W: H. Williams a ddywedodd fod ganddo aw- durdod Mr Young dros ddweyd y byddai i'r pris gyf- ateb i'r lie y gweithid ynddo. Yna aeth yn mlaen i ymwneud ag Adran 5 o berthynas i'w dycliweliad i'r chwarel. Llais A allwn ni fyned i mewn yn un corph yn He drwy y swyddfa? Mr W, H. Williams a ddywedodd fod yr adran dan ystyriaeth yn mynegi y byddai i bawb gael dychwelyd, ond yr oedd yn anmhosibl i bob un fyned yn ol y diwrnod eyntaf, pryd na fyddai gwaith i'r oil ohonynt, mater iiad oedd eisieu esboniad arno iddynt hwy fel chwarelwyr. Er engraipht, ni fyddai gwaith ar y cychwyn i'r llwythwyr, ond yr oedd yr adran yn myn- egi y byddai i'r "gweddill" gael eu cymeryd i mewn mor fuan ag y gellid trefnu gwaith iddynt. Caniateid amser rhesymol hefyd i r rhai eill fod yn awr yn gweithio yn mhell. Llais A ydym i fyned yn ol drwy y swyddfa ai yn yr un ffordd ag y daethom allan? Mr W. H. Williams a ddywedodd eu bod yn medd- wl am fyned gyda'u gilydd fel yr oeuuvnt yn arfer pan wrth eu gwaith, ond yr oedd ar y rheolaeth eisieu cael rhestr o'r holl enwau a byddai raid i bob un roddi ei enw i mewn. Yr oedd ganddynt wrthwynebiad cryf i'r cwrs ymia, ond yr oedd eu hofnau wedi eu chwalu pan y deallasant yn glir fod pob un i gael dychwelyd. Penodid lleoedd pan y rhoddid i mewn yr enwau. Yr oeddynt yn cael sicrwydd nad oedd neb i gael ei adael allan. Llais: Pa fodd y safai yr enwau ar y rhestr? Gallai ddigwydd i enw person nad oedd wedi bod yn gweithio yn y chwarel ond am ychydig flynyddoedd ddod o 11 y flaen enw person oedd wedi bod yn gweithio yno am lawer iawn o flynyddoedd, ac os y byddai achos i droi rhai i ffwrdd tebygol mai y rhai isaf ar y rhestr a droid ymaith. Mr W. H. Williams, wedi ymgynghori yn fyr a Mr Ca?7cr, a ddywedodd ei fod yn cydsvnio a'r di- weddaf nad oedd hyn ond dibwys. Nid oeddynt yn meddwl y gwnai y rheolaeth y fath beth ag a awgrym- id. Mewn atebiad i gwestiwn arall, dywedodd fod pob dyn i roddi i mewn ei enw, ei gyfeiriad, a natur ei waith, a'i rif yn y chwarel. Onid oeddynt yn meddwl y byddai yn gwyn gan y gweithwyr yn gy- ffredinol os y cymerai v fath beth ag a ddychymygid Ie, sef troi ymaith ddyn oedd wedi bod yn y gwaith am 40ain mlynedd dyweder, a gadael dyn arall nad oedd wedi bod yno ond am ddwy neu dair blvnedd i mewn. -.¡ Mr John Williams, 'Rynys, a ddywedodd os y digwyddai peth o'r fath, yr atebiad a gaent fyddai eu bod wedi gwneud yn ffol iawn wrth gael eu rhestru (chwerthin). Mr Carter a ddywedodd pan y penderfynodd y dyn- ion mewn cyfarfod blaenorol na ddychwelent at eu gwaith drwy y swyddfa fod ganddynt, yn ddiau, res- ymau dros hyny. Daliai ef allan mai cwestiwn i'r rheolaeth oedd y modd i ddychwelyd at eu gwaith. Yr oedd telerau y cytundeb yn rhoddi iddynt sicrwydd y byddai i_bob un o honynt fyned yn ol, ac yn hyny yr oedd ganddynt y sicrwydd goreu allasent ddymuno. Nid oedd unrhyw bwynt yn y modd yr oeuuynt i ddychwelyd. Y rheswm oedd ganddynt dros wrth- wynebu dychwelyd drwy y swyddfa, yn ddiau, ydoedd fod arnynt ofn y byddai i rai ohonynt gael eu gadael allan. Yn awr yr oedd ganddynt sicrwydd na fyddai i'r un o honynt gael e iadftel allan, a gofynai iddynt gyfarfod y rheolaeth ar y pwynt yma. Llais: Yn mhen pa faint o amser wedi dechreu gweitbio y daw y gweddill o'r dynion i Btewtt? Dywedodd Mr Carter y byddai i'r rheolaeth gymer- yd pawb i mewn mor fuan ag oedd yn bosibl; talai i'r rheolaeth eu cymeryd i mewn mor fuan ag fydd posibl (chwerthin a chymeradwyaeth). Gofynodd Mr Carter i Mr W. H. Williams a oedd wedi cael ymdrafodaeth gyda Mr Young o berthynas I Ù pwynt yma. Mr W. H. Williams a ddywedodd ei fod, ond yr oedd atebiad Mr Young iddo wedi ei roddi yn breifat. Mr Carter Yna gofynaf i chwi a oeddych yn fodd- lawn i'w atebiad, os oedd yn cael ei roddi yn breifat. Dywedodd Mr Williams ei fod yn berffaith foddlon. Mr Carter: Wel, yna tybiaf y dylai pawb fod yn foddlon. Gofynwyd cwestiwn a wnai y tro i un dyn roddi i mewn enwau criw yn y swyddfa. Mr Carter a ddywedodd mai cwestiwn i'r rheolaeth oedd hwnw, a mynegodd ei farn na thybiai ei bod yn ddoeth codi y man bwyntiau hyn. Wrth ateb cwestiynau pellach dywedodd Mr W. H. Williams eu bod wedi pwyso ar Mr Young i egluro beth feddyliai wrth "amser rhesymol" i'r rhan eill fod yn gweithio yn mhell ddychwelyd at eu gwaith. Eg- lurodd Mr Young os oedd 'dyn yn analluog i ddych- welyd ar unwaith ei fod i anfon ei resymau dros beidio dyfod Ni wrtliwynebai Mr Young i ddyn gael dau neu dri mis o amser os byddai ganddo reswm digonol drosjiros i ffwrdd am y cyfnod hwnw. Dylai dyn yn y eychwyn roddi ei reswm i'r rheolaeth am ei anallu i ddychwelyd at ei waith ar unwaith, ac nid parotoi i wneud. ei feddwl i fyny pa un a ddychwelai ai peidio ar ol i ddau neu dri mis basio. Os y cadarnheid teler- au y cytundeb gan y dynion, y bwrlad oedd, fe gredai. I cael y chwarel mewn sefylifa, i'w gweithio erbyn y dydd cyntaf o Fedi, neu yn gynt os yn bosibl. Llais Os cadarnhawn ni y telerau hyn, eiddo pwy fydd yr awr giniaw-pa un ai nyni ynte Arglwydd Penrhyn? Mr W. H. Williams Yr wyf yn meddwl mai ni pia yr awr giniaw. Llais Yna a oes genym hawl i gymeryd llyfr drwy y chwarel? Mr Carter A oes yna. Teol yn eich gwahardd i gymeryd llyfr drwy y chwarel? Llais Y mae wedi cael ei wa-hardd. Mr Carter a ddywadodd ei fod yn doall na fu i'r gwrthwynebiad i gyiiieryd llyfr drwy y chwarel ond Ily dyfod allan yn ystod cyfarfyddiad (interview). Yr oedd yn meddwl mai gwell ydoedd aros hyd nes byddai i reol ar y mater gael ei thynu allan yn gwa- hardd cymeryd Ilyfrau o gwmpna. Llais: Ond fe fyddwn wedi myned yn ol at ein gwaith y pryd hyny. Dywedodd Mr W. H. Williams ei fod yn gobeithio mai folly y byddai. ond na fvdded iddynt gefnogi tynu rheol o'r fath allan. Un o'r gynulleidfa a gyfsiriodd at y cyfarfyddiad rhwng y ddirprwyaeth a Mr Young, pryd y bu i Mr Young ddweyd nad oedd ganddynt haw 1 i gymeiyd llyfr o amgykh y chwarel.. Gan hyry mater ydoedd hwn a, gododd yn nghwrs1. y drafochuitii yn tinig. Mr W. H. YV iliiairts a ddywedodd ei fod yn meddwl y byddai yn ddigon buan codi y cwestiwn hwn pan y byddai rheol wedi ei gwneud gyda golwg arno. Gofynwyd cwcstiwn pa un a fyddai rhyddid yn y dewisiad o bartneriaid gweithio. Mr W. H. Williams a ddywedodd i hyny fod mewn bodolaeth yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, ar y dealltwriaeth fod y dewisiad i gyfarfod a chymerad- wyaeth y rheolwr Ileol. Cwestiynwr arall a ofynodd, os cadarnheid y telerau hyn, a oedd yn ddealledig fod pob un i gael ei hen le yn ol eto? Mr W. H. Williams Fel mater o ffaith, nid oedd ganddynt hawl i unrhyw le. Nid oedd ganddynt reswm i gredu fod unrhyw fwriad i symud yr un dyn yn mhellach nag fel y bydd cyfnewidiadau yn digwydd bob amser. Hwy a wyddent fod cyfnewidiadau yn digwydd o angenrheidrwydd bob mis. Nid oedd yr un awgrym wedi ei roddi na byddai i bob dyn ddych- welyd i'w hen le ond, fel mater o ffaith, ni feddent un hawl i hyny. Nid oedd y bwriad lleiaf i wneuthur dim i'w dychryn hwy. Pan agorai y chwarel, beth arall a wnaent ond i bob un fyned i'r lie y gweithiai ynddo o'r blaen? Yr oedd hyn yn dihysbyddu'r cwestiynau a chan na ofynwyd dim yn rhagor, Y Cadeirydd a ofynodd a oedd rhywun yn barod i gynyg fod telerau'r cytundeb yn cael eu derbyn. Yna Mr David Hughes, Penybryn, a gynygiodd eu bod yn cael eu derbyn; ac meddai, gan fod- y ddir- prwyaeth wedi gwneud yr oil yn eu gallu dros y dyn- ion, ac yn gweled fod y dynion wedi sefyll wrth gefn y ddirprwyaeth ar hyd yr amser, ac wedi dodi eu henwau wrth y papyr a gynwysai delerau y cytundeb, a ydoedd yn bosibl fod v dynion yn myned i aroi cefn ar y ddirprwyaeth ar derfyn yr anghydfod hwn a dwyn yn mlaen rhyw gynygion eraill? Yr oedd efe yn.cynyg ei benderfyniad, gan fod y telerau wedi der- byn cymeradwyaeth y ddirprwyaeth ar ol gwneuthur ohonynt bob peth yn glir. Eiliwyd hyn gan Mr William Thomas, Tanyffordd ac wedi ei roddi i'r cyfarfod, cyhoeddodd y cadeirydd ef wedi ei gario trwy fwyafrif mawr. Mr John Williams, 'Rynys, a awgrymodd eu bod yn erfyn ar y rheolaeth gario allan y telerau mewn ysbryd o degweh. Grwnaed cynyg fod i delerau y cytundeb gael eu rhoddi i'r cyfarfod o un i un, ond ni ddarfu i neb gefn- I ogi hyn. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr Lloyd Carter, yn nghydag i aelodau y ddirprwyaeth. Mr Carter a gydnabyddodd yn fyr, gan ddweyd, pa beth bynag a wnaethai, iddo geisio cyflawni ei ddy- ledswydd yn onest. Yr oedd yn rhaid iddo ddweyd ei fod ef yn edrych ar yr anghydfod hwn yn ngoleuni ymrafael rhwng gwr a gwraig; ond yn awr efe a obeithiai a'i holl galon fod yr ymra- fael wedi ei setlo. Anghydfod fu hwn yn nghylch egwyddorion, nid materion personol; ac mewn trefn i ddangos eu bod hwy yn dymuno cyfarfod y rheolaeth mewn ysbryd da, efe a ofynai iddynt roddi "three cheers" i Arglwydd Penrhyn aMr Young. Gwnaethpwyd hyny, ond parodd y crybwylliad o enw Mr Young i beth hwtio gymeryd lie. Yna Mr Carter a alwodd am "three cheers" i Mr W. H, Williams ac i Arglwyddes Penrhyn, yr hyn a vnaetihpwyd yn galonog. Ar hyn terfynodd y cyfarfod.

Sylwadau y Wasg. yI

-------Afleshydon Cyffredin.I

Rhys Dafydd Sy'n Ð'eyd-

[No title]

! RHYBUDD.

Diwedd y Streic.

[No title]