Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Masnach Yd yr Wythnos.

Methiant y Cnwd Pytatw yn…

News
Cite
Share

Methiant y Cnwd Pytatw yn yr Iwerddon. Yn ol yr adroddiadau swyddogol yn nghylch y •cnwd pytatw yn yr Iwerddon, y mae y clwyf wedi taraw y cnydau mewn llawer o fanau gyda'r traeth ac yn nghanolbarth yr ynys. Y mae rhai lleoedd •o gwmpas y trefydd wedi dianc hyd yn hyn ond mewn lleoedd eraill, y mae y cnydau wedi eu llwyr ddyfetha. Yn ol yr hanesion o orllewin yr Iwer- ddon, y mae y rhagolwg yno yn dra anobeithiol. Y mae felly yn arbenig yn Belmullet, a'r ardal- oedtt gor-boblog. Derbyniodd un o swyddogion Bwrdd yr Ardal- oedd Gor-boblog yn Nublin lythyr oddiwrth y Tad Hegarty, otfeiriad plwyf yn Mayo a dywed yr offeiriad — "Fel y mae pethau yn edrych yn awr, un ai fe fydd cynorthwy cyffredinol, neu angen cyffredinol, yn Brris cyn yr aiff y flwyddyn heibio. Y mae rhai pytatw yn hynod o fychain, llawer o honynt yn dduon, a rhai yn bwdr." Yn Inniskea, lie y torodd y clefyd allan, y mae Dr. Jordan, yr hwn a ddanfonwyd i gynorthwyo yr awdurdodau lleol, wedi cael y clefyd, a chymer- wy.d ei Ie gan Dr. Ensor, yr hwn a ddanfonwyd o Ddublixj nos Sadwrn. Hyd y traeth dwyreiniol y mae y pytatw wedi iroi allan yn dda.; ac felly y maent, hefvd, yn y rhan fwyaf o siroedd y canolbartli. Nid ydyw yr adroddiadau o Limerick a Clare yn foddhaol; fe ddywedir y bydd y cnydau yno yn salach nag y fcuonfc ers blynyddoedd lawer. Y mae yr liin yn parhau yn llaith a phoeth, fel y mae pethau yn lidllol yn erbyn cnwd da o brif ymborth nifer fawr lidllol yn erbyn cnwd da o brif ymborth nifer fawr iawn o fan dyddynwyr yr Iwerddon. Pe cyfncw- idiai yr liin yn awr fe fyddai peth gobaith ysiroi cryn lawer o ddioddef yn ystod y gauaf yn mysg trigolion gorllewin yr Iwerddon.

Cynyrcfcion y Llaethdy.

Cymdeithas Amaethyddol Dyffryn…

Arddangosfa a Chystadlsnaethau…

Dadforion o Gynyrohien Amaethyddol

.I Imsefydlwyr Cymreig yn…

j CYFARTALEDD YD AM YR WYTHNOS…

.Arddangosfa Amaetkyddol,…

AXIFEILIAID.

ifarcknadoedd Cyzcreig

[No title]

MOCH TEWION.

ITcrtb. Wales Pairs. -

[No title]